°Ç¸çłÔąĎ

Skip to main content
Canllawiau

Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor: cyflwyniad

Diweddarwyd 24 Gorffennaf 2025

© Hawlfraint y Goron 2025

Mae’r cyhoeddiad hwn wedi’i drwyddedu o dan delerau’r Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 oni nodir yn wahanol. I weld y drwydded hon, ewch i neu ysgrifennwch at y Tîm Polisi Gwybodaeth, Yr Archifau Cenedlaethol, Kew, Llundain TW9 4DU, neu e- bostiwch: psi@nationalarchives.gsi.gov.uk.

Lle rydym wedi nodi unrhyw wybodaeth hawlfraint trydydd parti, bydd angen i chi gael caniatâd gan y deiliaid hawlfraint dan sylw.

Mae’r cyhoeddiad hwn ar gael yn /government/collections/foreign-influence-registration-scheme.

Dylid anfon unrhyw ymholiadau ynghylch y cyhoeddiad hwn atom yn FIRS@homeoffice.gov.uk

Ynglŷn â’r Canllawiau hyn

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi cyflwyniad i’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor. Fe’i bwriedir ar gyfer y rhai sy’n ceisio deall a ydynt yn cael eu heffeithio gan y gofynion.

Mae canllawiau mwy manwl ar gael ar yr haen dylanwad gwleidyddol ˛ąâ€™r haen uwch.

Crynodeb

1. Mae’r Cynllun Cofrestru Dylanwad Tramor (FIRS) yn gynllun dwy haen sy’n galluogi tryloywder dylanwad tramor yng ngwleidyddiaeth y DU ac yn rhoi mwy o sicrwydd ynghylch gweithgareddau’r pwerau tramor sy’n peri’r risg fwyaf i’r DU. Mae wedi’i gynnwys yn Rhan 4 o Ddeddf Diogelwch Cenedlaethol 2023.

2.  Mae’r cynllun yn cynnwys haen dylanwad gwleidyddol a haen uwch. Mae’r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion a sefydliadau gofrestru eu trefniadau gyda phwerau tramor ac endidau penodol a reolir gan bwerau tramor lle cânt eu cyfarwyddo i gynnal gweithgareddau penodol yn y DU. Darperir rhagor o fanylion am ofynion pob haen o’r cynllun isod.

3. Gellir cwblhau cofrestru ar wasanaeth cofrestru ar-lein FIRS.

Gofynion yr haen dylanwad gwleidyddol

4. Mae’r haen dylanwad gwleidyddol yn ei gwneud yn ofynnol i unigolion neu sefydliadau gofrestru lle cânt eu cyfarwyddo gan unrhyw bŵer tramor (ac eithrio Gweriniaeth Iwerddon) i gynnal, neu drefnu i rywun arall gynnal, gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn y DU.

5. Mae pŵer tramor yn cynnwys:

  • pennaeth sofran neu bennaeth arall Gwladwriaeth dramor,
  • llywodraeth dramor, neu ran o lywodraeth dramor (er enghraifft, gweinidogaeth neu adran llywodraeth dramor);
  • asiantaeth neu awdurdod llywodraeth dramor, neu ran o lywodraeth dramor (er enghraifft, heddlu neu fyddin llywodraeth dramor),
  • awdurdod sy’n gyfrifol am weinyddu materion ardal o fewn gwlad neu diriogaeth dramor (er enghraifft, awdurdod llywodraeth leol mewn gwlad dramor);
  • plaid wleidyddol sy’n blaid wleidyddol lywodraethol llywodraeth dramor.

6. Gellir rhoi “cyfarwyddyd” gan bŵer tramor yn ffurfiol (megis drwy gontract) neu’n anffurfiol (megis drwy drefniant quid-pro-quo).

7. Mae gweithgareddau dylanwad gwleidyddol yn cynnwys cyfathrebiadau a wneir i uwch swyddogion cyhoeddus neu wleidyddion (er enghraifft, e-byst neu gyfarfodydd), cyfathrebiadau cyhoeddus (er enghraifft, cyhoeddi erthygl) neu daliadau (er enghraifft, darparu nwyddau neu wasanaethau) sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar un o’r canlynol:

  • Etholiad neu refferendwm yn y DU;
  • Penderfyniad Gweinidog neu adran o’r Llywodraeth (gan gynnwys Gweinidog neu adran o’r Llywodraeth yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon);
  • Trafodion plaid wleidyddol gofrestredig yn y DU (megis eu hymrwymiadau maniffesto);
  • Aelod o Dŷ’r Cyffredin, Tŷ’r Arglwyddi, Cynulliad Gogledd Iwerddon, Senedd yr Alban neu Senedd Cymru.

8. Mae esemptiadau rhag cofrestru o dan yr haen hon yn berthnasol i:

  • Pwerau tramor yn gweithredu’n agored (er enghraifft, diplomyddion yn gweithredu yn rhinwedd eu swydd);
  • Aelodau o deulu diplomyddion yn cefnogi gwaith diplomydd;
  • Cyfreithwyr sy’n cyflawni gweithgareddau cyfreithiol;
  • Cyhoeddwyr newyddion cydnabyddedig;
  • Cronfeydd cyfoeth sofran a chronfeydd pensiwn cyhoeddus sy’n cyflawni gweithgareddau dylanwad gwleidyddol sy’n gysylltiedig â’u buddsoddiadau;
  • Y rhai mewn trefniant y mae’r DU yn rhan ohono.

9. Mae angen cofrestru o fewn 28 diwrnod calendr i’r cyfarwyddyd gael ei roi gan y pŵer tramor.

10. Mae’n drosedd cynnal gweithgareddau yn y DU y tu allan i’r cyfnod 28 diwrnod hwnnw, oni bai bod y trefniant wedi’i gofrestru. Dylai isgontractwyr, cyflogeion ac eraill sydd â’r dasg o gynnal gweithgareddau dylanwad gwleidyddol o dan drefniant cofrestradwy wirio bod y trefniant wedi’i gofrestru.

11. Bydd gwybodaeth benodol a gofrestrir o dan yr haen hon yn cael ei chynnwys ar gofrestr gyhoeddus. Fodd bynnag, bydd eithriadau i gyhoeddi yn berthnasol mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, lle byddai cyhoeddi yn cynnwys datgelu gwybodaeth sensitif yn fasnachol neu’n cyflwyno risg ddifrifol i ddiogelwch unigolyn).

12. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am ofynion yr haen dylanwad gwleidyddol yn y canllawiau ar yr haen dylanwad gwleidyddol a gellir dod o hyd i fanylion y gofrestr gyhoeddus yn y canllawiau ar y wybodaeth sy’n ofynnol wrth gofrestru ˛ąâ€™r gofrestr gyhoeddus.

Enghraifft o drefniant cofrestradwy o dan yr haen dylanwad gwleidyddol

Mae cwmni lobïo yn gwneud trefniant gyda llywodraeth dramor. Mae’r llywodraeth dramor yn cyfarwyddo’r cwmni i lobïo seneddwyr y DU i’w perswadio i bleidleisio o blaid buddiannau’r llywodraeth dramor. Mae’n ofynnol i’r cwmni lobïo gofrestru.

Dylai cyflogeion (ac unrhyw isgontractwyr) y cwmni lobïo sy’n ymwneud â lobïo’r seneddwyr fel rhan o’r trefniant hefyd wirio bod y cwmni wedi cofrestru o fewn y ffenestr gofrestru 28 diwrnod.

Gofynion yr haen uwch

13. Mae’r haen uwch yn ei gwneud yn ofynnol i:

  • a) Unigolion neu sefydliadau i gofrestru lle cânt eu cyfarwyddo gan bŵer tramor penodedig neu endid penodedig a reolir gan bŵer tramor i gyflawni, neu drefnu i rywun arall gyflawni, “gweithgareddau perthnasol” yn y DU;
  • b) Endidau penodedig a reolir gan bŵer tramor i gofrestru unrhyw “gweithgareddau perthnasol” y maent yn eu cyflawni eu hunain yn y DU.

14. Mae manylion y pwerau ˛ąâ€™r endidau tramor sydd wedi’u pennu ar yr haen uwch ar gael yma.

15. Gellir rhoi “cyfarwyddyd” gan bŵer tramor penodedig, neu endid penodedig a reolir gan bŵer tramor yn ffurfiol (megis trwy gontract) neu’n anffurfiol (megis trwy drefniant quid-pro-quo).

16. Mae “gweithgareddau perthnasol” yn ddiofyn yn golygu pob gweithgaredd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithgareddau masnachol, darparu nwyddau a gwasanaethau, gweithgareddau ymchwil a mynychu digwyddiadau.

17. Mae esemptiadau rhag cofrestru o dan hyn yn berthnasol i:

  • Pwerau tramor yn gweithredu’n agored (er enghraifft, diplomyddion yn gweithredu yn eu swyddogaeth swyddogol);
  • Aelodau o deulu diplomyddol sy’n cefnogi gwaith diplomydd;
  • Y rhai sy’n darparu nwyddau a gwasanaethau sy’n angenrheidiol i gefnogi cenhadaeth ddiplomyddol (er enghraifft, gwasanaethau arlwyo neu gynnal a chadw i lysgenhadaeth dramor);
  • Cyfreithwyr sy’n cyflawni gweithgareddau cyfreithiol;
  • Y rhai sy’n cyflawni gweithgareddau sy’n gysylltiedig â threfniadau astudio a ariennir;
  • Gwasanaethau gweinyddol a thechnegol y llywodraeth;
  • Y rhai mewn trefniant y mae corff coron y DU neu gorff cyhoeddus y DU yn rhan ohono.

18. Mae angen cofrestru o fewn 10 diwrnod calendr i’r cyfarwyddyd gael ei roi gan y pŵer tramor penodedig neu’r endid a reolir gan bŵer tramor a chyn i’r “gweithgareddau perthnasol” ddechrau.

19. Mae’n drosedd cynnal “gweithgareddau perthnasol” yn y DU, oni bai bod y trefniant wedi’i gofrestru ymlaen llaw. Dylai isgontractwyr, cyflogeion ac eraill sydd â’r dasg o gynnal gweithgareddau o dan drefniant cofrestradwy wirio bod y trefniant wedi’i gofrestru cyn cynnal gweithgareddau.

20. Pan fo trefniant o fewn cwmpas y ddwy haen (er enghraifft, lle mae unigolyn yn cynnal gweithgaredd dylanwad gwleidyddol ar gyfer pŵer tramor penodedig), dim ond unwaith y mae angen cofrestru hyn gyd˛ąâ€™r haen uwch.

21. Gellir dod o hyd i fanylion pellach am ofynion yr haen uwch yn y canllawiau ar yr haen uwch.

Enghraifft o drefniant cofrestradwy o dan yr haen uwch

Mae cwmni yn y DU sy’n gwerthu technoleg feddygol yn derbyn archeb gan bŵer tramor penodedig o Wlad A i brynu awyryddion ar gyfer ysbytai a redir gan y wladwriaeth yng ngwlad A. Mae’n ofynnol i’r cwmni gofrestru o fewn 10 diwrnod i dderbyn yr archeb, a chyn cludo’r awyryddion.

Dylai cyflogeion (ac unrhyw isgontractwyr) y cwmni sy’n ymwneud â phrosesu’r archeb hefyd wirio bod y cwmni wedi cofrestru cyn cyflawni unrhyw dasgau sy’n gysylltiedig â’r archeb.

Manylion pellach

Gofynion ychwanegol

22. Mae’n ofynnol i gofrestrwyr ddiweddaru eu cofrestriad o fewn 14 diwrnod lle mae newid sylweddol i unrhyw wybodaeth y maent wedi’i darparu. Er enghraifft, os cynhelir math newydd o weithgaredd o dan drefniant cofrestredig, mae’n ofynnol i’r cofrestrydd ddiweddaru’r wybodaeth a ddarparwyd gyda manylion y gweithgaredd newydd.

23. Mae hefyd yn ofynnol i dderbynwyr hysbysiad gwybodaeth ymateb i’r hysbysiad gwybodaeth erbyn y dyddiad a nodir ar yr hysbysiad. Gellir cyhoeddi’r hysbysiadau hyn i unigolion neu sefydliadau sydd wedi cofrestru, neu i’r rhai y credir eu bod mewn trefniadau cofrestru neu’n cynnal gweithgareddau o fewn cwmpas FIRS. Gweler y canllawiau ar hysbysiadau gwybodaeth am ragor o fanylion.

Gweinyddu’r cynllun

24. Tîm Rheoli Achosion FIRS yn y Swyddfa Gartref sy’n gyfrifol am weinyddu’r cynllun. Gweler y canllawiau ar weinyddu’r cynllun am ragor o fanylion.

25. Nid oes ffi i gofrestru gyd˛ąâ€™r cynllun.

Troseddau

26. Mae’r cynllun yn cynnwys nifer o droseddau, gan gynnwys ar gyfer y rhai sy’n methu â chydymffurfio â gofynion cofrestru, neu sy’n methu ag ymateb i hysbysiadau gwybodaeth. Lle nad yw gofynion cofrestru wedi’u bodloni, mae troseddau hefyd ar gyfer y rhai sy’n cyflawni gweithgareddau yn unol â threfniant perthnasol.