°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Gweithio ar draws y pedair gwlad

Cyhoeddwyd 14 Chwefror 2020

Mae gweithio ar draws y pedair gwlad yn ddull cydweithredol, ledled y DU, gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) tuag at lunio polisïau. Mae’n cynnwys gweision sifil o Gymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni canlyniadau a ddymunir ar draws y DU.

Rydym yn gweithio fel hyn oherwydd y rhesymau canlynol:

  • mae cylch gwaith yrÌýASBÌýyn cynnwys tair gwlad. Rydym yn gweithredu yn Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac mae gennym gyfrifoldebau polisi gwahanol yn y gwledydd hyn
  • ³¾²¹±ðÌý, sy’n gorff cyhoeddus annibynnol, yn gyfrifol am bolisi bwyd yn yr Alban
  • mae datganoli wedi arwain at wahanol ofynion polisi, atebolrwydd a blaenoriaethau ar draws y pedair gwladÌý

Mae ymrwymiad i weithio ar draws y pedair gwlad yn sicrhau y gallwn ni ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr yn effeithiol ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Ar lefel ymarferol, mae gweithio ar draws y pedair gwlad yn cynnwys arferion gweithio cydweithredol ar bob lefel o’n sefydliad.

Cyfrifoldebau polisi datganoledig

Mae cyfrifoldebau yn y meysydd polisi canlynol wedi’u datganoli:

  • diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid
  • honiadau, safonau a labelu maeth ac iechyd
  • safonau ynghylch cyfansoddiad a labelu bwyd

Mae hyn yn golygu bod pwerau i ddatblygu polisi ar gyfer Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi’u trosglwyddo o Lywodraeth y DU i’r gwledydd hyn. Mae datganoli hefyd yn golygu bod yrÌýASBÌýyn atebol i weinyddiaeth pob gwlad am ei gweithgareddau yn y gwledydd hynny.Ìý

Mae datganoli pŵer wedi arwain at wahanol fodelau llywodraethu, atebolrwydd a chyflenwi ar gyfer yrÌýASBÌýledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac ar gyfer Safonau Bwyd yr Alban.

Mae’r gwahaniaethau hyn yn cynnwys:

  • creu pwyllgorau cynghori ar fwyd annibynnol ar gyfer materion diogelwch a safonau bwyd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon
  • cyrff cyflenwi eraill ar gyfer rheolaethau swyddogol yng Ngogledd Iwerddon
  • alinio â gwahanol ofynion polisi, fel y rhai sydd wedi’u pennu yn Neddf yr Iaith Gymraeg

Mae cyfrifoldebau polisi ym mhob gwlad hefyd yn wahanol. ²Ñ²¹±ð’rÌýASBÌýyn gyfrifol am wahanol feysydd polisi ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.Ìý

Crynodeb o’r maes polisi a’r adran gyfrifol yn ôl gwlad

Cymru

Dyma sut mae meysydd polisi bwyd penodol wedi’u rhannu yng Nghymru:

  • diogelwch hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid –ÌýASB
  • honiadau iechyd maeth a labelu maeth – Llywodraeth Cymru
  • safonau ynghylch cyfansoddiad a labelu bwyd –ÌýASB

Lloegr

Dyma sut mae meysydd polisi bwyd penodol wedi’u rhannu yn Lloegr:Ìý

  • diogelwch hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid –ÌýASB
  • honiadau iechyd maeth a labelu maeth – Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • safonau ynghylch cyfansoddiad a labelu bwyd – Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)

Gogledd Iwerddon

Dyma sut mae meysydd polisi bwyd penodol wedi’u rhannu yng Ngogledd Iwerddon:Ìý

  • diogelwch hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid –ÌýASB
  • honiadau iechyd maeth a labelu maeth –ÌýASB
  • safonau ynghylch cyfansoddiad a labelu bwyd –ÌýASB

Safonau Bwyd yr Alban

²Ñ²¹±ðÌýÌý(FSS) yn gorff cyhoeddus annibynnol sy’n gweithio i ddefnyddwyr yn yr Alban. Ar 1 Ebrill 2015, fe gymerodd y swyddogaethau yr oeddÌýASBÌýyr Alban yn gyfrifol amdanynt cyn hynny.

³§±ð´Ú²â»å±ô´Ç»å»åÌýÌýSafonau Bwyd yr Alban fel swyddfa anweinidogol. Mae’n rhan o Weinyddiaeth yr Alban, ac mae’n gweithredu ochr yn ochr â Llywodraeth yr Alban, ond yn annibynnol arni. Fe’i hariennir yn bennaf gan Lywodraeth yr Alban, ond mae’n codi ffioedd i adennill costau ar gyfer swyddogaethau rheoleiddio.Ìý

Mae rôl Safonau Bwyd yr Alban yn debyg i rôl yrÌýASB. Mae’n datblygu polisïau, yn darparu canllawiau i ddefnyddwyr a busnesau, yn cynghori rhanddeiliaid, ac yn gorfodi rheoliadau bwyd. ²Ñ²¹±ð’rÌýASBÌýyn gweithio’n agos ochr yn ochr â Safonau Bwyd yr Alban i sicrhau canlyniadau a rennir.

²Ñ²¹±ð’rÌýÌý

Ysgrifennwyd a llofnodwyd y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hwn yn wreiddiol yn 2015, pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb am feysydd polisi’rÌýASBÌýyn yr Alban i Safonau Bwyd yr Alban. Mae wedi cael ei adolygu a’i ddiweddaru ar y cyd gan arbenigwyr yn y ddau sefydliad i sicrhau ei fod yn addas at y diben yn y drefn reoleiddio newydd ar ôl ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE).

²Ñ²¹±ð’rÌýÌýyn nodi’r egwyddorion a fydd yn sail i’r berthynas rhwng y ddau sefydliad. Mae’n grynodeb lefel uchel o’r ymrwymiadau a wnaed gan yrÌýASBÌýa Safonau Bwyd yr Alban ar sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd, ac yn diffinio ein perthynas waith yn fanwl ar draws meysydd gwaith allweddol.

Darllenwch yÌý.