勒貊勛圖

Skip to main content
Canllawiau

Hysbysiad preifatrwydd 勒貊勛圖 One Login

Diweddarwyd 28 Ionawr 2026

1. Am 勒貊勛圖 One Login

Mae 勒貊勛圖 One Login yn darparu un ffordd i fewngofnodi a phrofi eich hunaniaeth wrth gyrchu gwasanaethaur llywodraeth ar-lein.

Mae 勒貊勛圖 One Login yn cael ei ddarparu gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS), rhan or Adran Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT).

Mae s繫n am ni yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn cyfeirio at GDS.

Yr Adran Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg (DSIT), fel rhiant-sefydliad GDS, yw rheolydd datar data personol rydych chin ei ddarparu pan fyddwch chin defnyddio 勒貊勛圖 One Login. Mae hyn yn golygu bod DSIT yn y pen draw yn gyfrifol am y data personol rydym yn ei gasglu ai brosesu ar 勒貊勛圖 One Login. Mae hyn yn cynnwys penderfynu ar bethau fel pa ddata personol y dylid eu casglu, gan bwy, a beth y bydd yn cael ei ddefnyddio ar ei gyfer.

Mae adrannau eraill y llywodraeth yn gyfrifol am unrhyw ddata personol rydych yn ei ddarparu pan fyddwch yn defnyddio eu gwasanaethau ar-lein. Er enghraifft, efallai y byddant yn casglu data gennych naill ai cyn iddynt eich ailgyfeirio at 勒貊勛圖 One Login neu ar 繫l i 勒貊勛圖 One Login eich dychwelyd iw gwasanaeth, ar 繫l i chi gwblhau eich gwiriadau dilysu neu hunaniaeth. Mae hyn yn golygu eu bod yn rheolwyr data ar gyfer y wybodaeth honno a byddant yn penderfynu pa ddata iw gasglu gennych, pam mae angen y data hwnnw arnynt a pha mor hir maent yn cadwr data hwnnw. Bydd manylion am hyn yn eu hysbysiadau preifatrwydd eu hunain.

2. Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu

Pan fyddwch yn cael eich cyfeirio at 勒貊勛圖 One Login gan wasanaeth llywodraeth ar-lein i fewngofnodi neu i brofi eich hunaniaeth byddwn yn gwybod pa wasanaeth rydych wedi dod ohono.

Bydd y wybodaeth rydym wedyn yn ei gasglu gennych yn dibynnu ar:

  • pun a yw gwasanaeth ar-lein y llywodraeth yn defnyddio 勒貊勛圖 One Login yn unig ich mewngofnodi iw system neu i brofi eich hunaniaeth hefyd

  • y dystiolaeth ar dogfennau sydd gennych ar gael i brofi eich hunaniaeth

  • y math o ddyfais rydych yn ei ddefnyddio, er enghraifft gliniadur, tabled neu ff繫n clyfar

Ym mhob achos, byddwn yn creu 勒貊勛圖 One Login gan ddefnyddioch cyfeiriad e-bost. Pan fyddwch yn dewis derbyn codau dilysu gan ddefnyddio neges destun, byddwn hefyd yn casglu eich rhif ff繫n.

Os mai dim ond ich mewngofnodi iw gwasanaeth y mae gwasanaeth ar-lein y llywodraeth yn defnyddio 勒貊勛圖 One Login, ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth bellach gennych chi.

Pan fydd gwasanaethau ar-lein y llywodraeth yn defnyddio 勒貊勛圖 One Login i brofi eich hunaniaeth, mae angen i ni gynnal gwiriadau adnabod ac felly prosesu data personol ychwanegol. Maer broses yn cynnwys gwiriad twyll gydag Experian i sicrhau bod y data fyddwch yn ei roi i ni yn gywir ac i wirio nad oes unrhyw arwyddion bod eich hunaniaeth wedi cael ei dwyn neu ei gamddefnyddio.

Mae 3 prif ffordd o brofi eich hunaniaeth. Maer pethau rydyn nin eu gwirio yn dibynnu ar ba ffordd rydych chin profi eich hunaniaeth.

2.1 Defnyddior ap 勒貊勛圖 ID Check neur ap 勒貊勛圖 One Login i brofi eich hunaniaeth

Maer llwybr hwn yn defnyddior ap 勒貊勛圖 ID Check neur ap 勒貊勛圖 One Login sydd ar gael i ddefnyddwyr ffonau clyfar trwy siopiau ap ac . Maen cynnwys dilyniant o wiriadau syn cael eu cynnal gan ddarparwyr gwasanaethau gwirio hunaniaeth arbenigol ar ein rhan, yn ogystal 璽r gwiriadau twyll a ddisgrifir isod.

Mae angen i ni wirio:

  • bod eich dogfennau yn rhai go iawn
  • rydych yn berson go iawn (a elwir hefyd yn wiriad bywiogrwydd)
  • chi ywr un person ag sydd yn y lluniau dogfen (a elwir hefyd yn wiriad tebygrwydd)

Rydym yn defnyddio darparwr gwasanaeth gwirio hunaniaeth or enw Iproov au his-gontractwyr Veriff ac Inverid i gynnal y gwiriadau hyn. Mae Iproov yn gweithredu fel prosesydd data gyda Veriff ac Inverid fel is-broseswyr, syn golygu y gallant ond prosesu eich data personol at bwrpas cyflawni ein cyfarwyddiadau.

Gwybodaeth y gallwn ei chasglu i wirio bod eich dogfennau yn rhai go iawn

Mae angen i ni wirio nodweddion diogelwch eich dogfennau hunaniaeth i brofi eu bod yn ddogfennau dilys.

Ar gyfer trwyddedau gyrru, bydd angen i chi dynnu llun o flaen a chefn eich trwydded gyda chamera eich ff繫n. Bydd angen caniat璽d ar yr ap i gael mynediad at eich camera ach lluniau ar gyfer hyn.

Ar gyfer e-basbortau, trwyddedau a chardiau preswylio biometrig, a thrwyddedau gweithwyr ffiniau bydd yr ap yn darllen eich gwybodaeth pasbort o sglodyn cyfathrebu agosfaes (NFC).

Efallai y byddwn yn casglur wybodaeth ganlynol:

  • enw
  • dyddiad geni
  • cyfeiriad
  • cod post
  • rhif y ddogfen
  • dyddiad dod i ben
  • gwlad cyhoeddi
  • cenedligrwydd
  • delwedd llun
  • cyfeiriad e-bost

Pan fydd Iproov wedi cwblhaur gwiriad, maent yn anfon canlyniad y gwiriad a gwybodaeth eich dogfen hunaiaeth atom.

Os ydych chin defnyddio trwydded yrru, byddwch yn gallu gwirio bod yr ap wedi casglur manylion yn gywir.

Bydd angen i chi gytuno i ni rannu eich manylion gyda:

  • yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os cyhoeddwyd eich trwydded ym Mhrydain Fawr
  • yr Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA) os cyhoeddwyd eich trwydded yng Ngogledd Iwerddon

Byddant yn gwirio bod y wybodaeth rydych chi wedii darparu yn cyd-fynd 璽r hyn sydd yn eu cofnodion.

Defnyddio fideo hunlun i wirio eich bod yn berson go iawn

Rydym hefyd yn gwneud gwiriad bywiogrwydd i brofi a ydych chin berson go iawn ac nid unrhyw beth a allai ddynwared unigolyn fel mannequin, ffigur cwyr, mwgwd 3D, llun neu ffugiad dwfn.

Bydd angen i chi gymryd fideo hunlun gan ddefnyddio camera eich ff繫n. Bydd angen caniat璽d ar yr ap i gael mynediad ich camera ach fideos ar gyfer hyn. Maer gwiriad hwn yn cael ei gynnal mewn amser real syn golygu nad ydym ni nac Iproov yn cadwr fideo.

Pan fydd Iproov wedi cwblhaur gwiriad, maent yn anfon canlyniad y gwiriad atom.

Sut rydym yn gwirio mai chi ywr person yn eich llun

Rydym yn gwneud gwiriad tebygrwydd i brofi eich bod yr un person ag yn eich llun dogfen hunaniaeth.

Maer gwiriad hwn yn defnyddio delwedd llonydd a gynhyrchir och fideo hunlun ach llun dogfen hunaniaeth i fesur patrymau unigryw eich wyneb. Gelwir hyn yn ddata biometrig wyneb. Maer data biometrig or ddwy ddelwedd yn cael ei gymharu i benderfynu ai chi yw perchennog gwirioneddol y ddogfen hunaniaeth.

Pan fydd Iproov wedi cwblhaur gwiriad, maent yn anfon canlyniad y gwiriad atom.

Nodweddion diogelwch ychwanegol yn yr ap 勒貊勛圖 One Login

Pan fyddwch yn mewngofnodi, maer ap yn gwirio eich bod chin rhoir un manylion mewngofnodi a roddwyd y tro diwethaf ir ap gael ei gyrchu ar y ddyfais rydych yn ei defnyddio.

Mae gan yr ap hefyd ddolen syn mynd 璽 chi i sut i newid eich manylion mewngofnodi mewn porwr gwe.

2.2 Defnyddio eich porwr gwe i brofi eich hunaniaeth

Maer gwiriadau rydym yn eu cynnal yn dibynnu a oes gennych chi ID gyda llun fel pasbort neu drwydded yrru a pha wasanaeth y llywodraeth rydych chin ei ddefnyddio. Rydym hefyd yn cynnal y gwiriad twyll a ddisgrifir isod.

Sut rydym yn gwirioch ID gyda llun

Os oes gennych chi ID gyda llun fel pasbort neu drwydded yrru, byddwn yn gwirio bod y manylion yn ddilys gan ddefnyddior setiau data awdurdodol a ddelir, yn y drefn honno, drwy:

  • Swyddfa Basport EF (HMPO)
  • DVLA neu DVA, yn dibynnu a gafodd eich trwydded yrru ei chyhoeddi ym Mhrydain Fawr neu Ogledd Iwerddon

Bydd angen i chi ddarparu manylion eich trwydded yrru neu basbort y byddwn wedyn yn eu hanfon at HMPO, DVLA neu DVA iw dilysu yn erbyn eu cofnodion.

Pan fydd HMPO, DVLA neu DVA wedi cwblhau eu gwiriadau, maent yn dweud wrthym a ywr datan cyfateb ai peidio ac os na, y rheswm pam na wnaeth gyfateb.

Mae HMPO, DVLA a DVA yn gwneud hynny fel rheolyddion data annibynnol yn unol 璽u hysbysiadau preifatrwydd.

Sut rydym yn gwirio eich manylion banc

Os ydych chin profi eich hunaniaeth heb ID gyda llun, efallai y byddwn yn gofyn i chi ddarparu eich enw a rhif cyfrif a chod didoli cyfrif banc cyfredol yn y DU yn eich enw chi.

Yna byddwn yn gwirio manylion eich cyfrif cyfredol yn y DU yn erbyn y manylion sydd gan fanciau ledled y DU, gan ddefnyddio gwasanaeth gwirio a ddarperir gan Experian.

Pan fydd Experian wedi cwblhaur gwiriad, maent yn dweud wrthym:

  • os ywr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cyfateb ai peidio
  • lle maer enw a ddarparwyd gennych yn cyfateb yn rhannol i gofnodion bancio, yr enw swyddogol ar gofnod

Sut rydym yn gwirio eich cofnod CThEF

Os ydych yn profi eich hunaniaeth heb ID gyda llun, efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi ddarparu eich rhif Yswiriant Gwladol. Rydym yn rhannu eich rhif Yswiriant Gwladol, enw, cod post a dyddiad geni gyda Chyllid a Thollau EF (CThEF), syn gwirio a oes ganddynt gofnod ohonoch a bod y wybodaeth yn cyfateb ir hyn a ddywedoch wrthym.

Pan fydd CThEF wedi cwblhaur gwiriad, maent yn cadarnhau i ni a ywr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cyd-fynd 璽u cofnodion ai peidio.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu pan fyddwch chin ateb cwestiynau diogelwch

Rydym yn gofyn cwestiynau diogelwch i chi y dylai ond chi wybod yr ateb iddynt, a elwir hefyd yn wiriad dilysun seiliedig ar wybodaeth (KBV). Byddwn yn gofyn cwestiynau am naill ai:

  • eich hanes credyd neu ariannol, gan ddefnyddio gwybodaeth gan Experian
  • eich hanes gydar Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)

Rydym yn defnyddio eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad i adfer cwestiynau perthnasol gan Experian neur Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym yn anfon eich atebion at Experian neur DWP i wirio eu bod yn cyd-fynd 璽r wybodaeth sydd ganddynt amdanoch yn barod.

Pan fydd Experian neu DWP wedi cwblhaur gwiriad, maent yn ymateb i ni gyda chanlyniad pasio neu methu.

Nid oes gan GDS fynediad at, yn storio na chadwr cwestiynau diogelwch a ofynnwyd i chi nach atebion, ac nid oes ganddo fynediad at unrhyw wybodaeth bersonol rydych wedii rhannu gydag Experian neur DWP. I ofyn am unrhyw wybodaeth a allai gael ei phrosesu gan Experian neur DWP, mae angen i chi gysylltu ag Experian neur DWP yn uniongyrchol.

Gwiriadau credyd neu hanes ariannol Experian: Maer gwiriadau hyn yn cael eu cynnal gan Experian fel rheolydd data annibynnol. Bydd cofnod amdano yn cael ei ychwanegu at eich cofnod credyd (a elwir yn 繫l troed meddal), ond dim ond i chi y bydd yn weladwy. Ni fydd sefydliadau eraill syn defnyddio Experian i gynnal eu gwiriadau credyd eu hunain yn gallu ei weld. Darllenwch fwy am hyn yn .

Gwiriadaur DWP: Efallai y byddwn yn gofyn cwestiynau diogelwch am eich hanes gydar DWP, yn seiliedig ar wybodaeth sydd ganddynt amdanoch chi, fel eich enw, cyfeiriad, rhif Yswiriant Gwladol, rhif ff繫n a Thaliad Annibyniaeth Personol (PIP), os ydych yn ei gael. Darllenwch fwy am hyn yn hysbysiad preifatrwydd DWP.

2.3 Profi eich hunaniaeth mewn Swyddfar Post

Mae 勒貊勛圖 One Login yn rhoir dewis i chi brofi eich hunaniaeth mewn Swyddfar Post. Maer broses hon yn cynnwys cyfres o wiriadau a gynhelir gan wasanaethau gwirio hunaniaeth arbenigol ar ein rhan, yn ogystal 璽r gwiriad twyll a ddisgrifir isod.

Rydym angen gwirio:

  • bod eich dogfennau hunaniaeth yn rhai gwirioneddol
  • mae chi ywr un person ag yn y lluniau dogfen hunaniaeth (a elwir hefyd yn wiriad tebygrwydd)

Maer gwiriadau hyn yn cael eu cynnal gan Swyddfar Post au his-gontractwr Yoti ar ein rhan. Mae Swyddfar Post yn gweithredu fel prosesydd data gyda Yoti fel is-brosesydd, syn golygu mai dim ond at yr unig bwrpas o gyflawni ein cyfarwyddiadau y gallant brosesuch data personol.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu cyn i chi fynd i Swyddfar Post

Rydym yn gofyn i chi pa ddogfen hunaniaeth yr hoffech ei defnyddio i brofi eich hunaniaeth. Gallwch ddefnyddio unrhyw un or dogfennau adnabod canlynol:

  • pasbort y DU
  • pasbort or tu allan ir DU
  • trwydded yrru cerdyn gyda llun y DU
  • trwydded yrru cerdyn gyda llun yr Undeb Ewropeaidd (UE)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol or UE, Norwy, Gwlad yr I璽 neu Liechtenstein

Rydym yn gofyn i chi:

  • am ddyddiad dod i ben eich dogfen hunaniaeth a gwlad gyhoeddi
  • i gadarnhau bod y cyfeiriad a ddarparwyd gennych yn flaenorol yn cyfateb ir cyfeiriad a ddangosir ar eich dogfen hunaniaeth, ar gyfer dogfennau sydd 璽 chyfeiriad arnynt.
  • dewis pa gangen Swyddfar Post hoffech chi fynychu

Rydym yn anfon y wybodaeth hon ynghyd 璽ch enw, cyfeiriad a dyddiad geni i Swyddfar Post cyn i chi fynd i gangen. Rydym hefyd yn anfon e-bost atoch gyda dolen i lawrlwytho llythyr Dilysu Cwsmer yng nghangen Swyddfar Post. Bydd hyn yn cynnwys cod QR a chyfarwyddiadau ynghylch yr hyn y bydd angen i chi ei wneud nesaf. Bydd angen i chi agor y ddolen, nodich cyfeiriad e-bost, a lawrlwytho ac argraffur llythyr a mynd ag ef gyda chi pan fyddwch yn mynd i Swyddfar Post, neu ei ddangos ar eich dyfais.

Pa wybodaeth rydym yn ei chasglu yn Swyddfar Post

Pan fyddwch yn mynd i Swyddfar Post, bydd aelod o staff yn sganior cod QR ar eich llythyr ac yn gwirior ddogfen hunaniaeth sydd gennych yn erbyn y manylion a ddarparwyd gennych.

Yna bydd Swyddfar Post ac Yoti yn gwirio nodweddion diogelwch eich dogfen hunaniaeth i sicrhau ei bod yn ddogfen ddilys.

  • Ar gyfer pob dogfen hunaniaeth, bydd Swyddfar Post yn tynnu llun o flaen a chefn y ddogfen i wirio nodweddion diogelwch y ddogfen, fel hologramau, ac i ddarllen gwybodaeth y ddogfen.
  • Ar gyfer e-basbortau yn y DU, bydd Swyddfar Post hefyd yn defnyddio tabled i wirio nodweddion diogelwch eich dogfen ac i ddarllen gwybodaeth eich dogfen or sglodyn NFC.

Bydd Swyddfar Post hefyd yn tynnu llun och wyneb, a byddant yn mesur patrymau unigryw eich wyneb ohono. Gelwir hyn yn ddata biometrig y wyneb. Bydd y data biometrig och llun yn cael ei gymharu yn erbyn y data biometrig or llun ar eich dogfen hunaniaeth i wirio ai chi yw perchennog gwirioneddol y ddogfen hunaniaeth.

Beth syn digwydd ar 繫l eich ymweliad 璽 Swyddfar Post

Pan fydd Swyddfar Post a Yoti wedi cwblhaur gwiriadau, maent yn anfon canlyniad y gwiriad ach gwybodaeth am eich dogfen hunaniaeth atom.

Yna rydym yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i ddweud wrthych fod canlyniadau eich gwiriad ar gael. I weld eich canlyniad ai rannu gydar gwasanaeth oedd yn gofyn i chi brofi eich hunaniaeth, bydd angen i chi fewngofnodi i 勒貊勛圖 One Login a chael eich ailgyfeirio at wasanaeth y llywodraeth yr oeddech chin ei ddefnyddio.

2.4 Pa wybodaeth rydym yn ei storio

Maer wybodaeth amdanoch chi rydym yn ei storio wedii chyfyngu i wybodaeth sylfaenol rydych wedii darparu wrth brofi eich hunaniaeth, fel:

  • eich enw
  • eich cyfeiriad
  • eich cyfeiriad e-bost
  • y math o ddogfen adnabod a ddefnyddiwyd gennych
  • statws eich gwiriad hunaniaeth (naill ai pasio neu methu)

Rydym hefyd yn cynnal llwybr archwilio sylfaenol gyda gwybodaeth gyfyngedig, fel y dyddiad y gwnaethoch chi gofrestru gyda 勒貊勛圖 One Login.

Pa wybodaeth nad ydym yn ei storio

Nid yw 勒貊勛圖 One Login yn dal unrhyw ddata personol y tu hwnt ir wybodaeth sylfaenol hon ac ni allwn weld gwybodaeth rydych wedii rhoi i wasanaethau eraill y llywodraeth.

Nid ydym yn storio eich atebion i unrhyw gwestiynau diogelwch am wybodaeth cyllid personol.

Os oes gennych broblem i brofi eich hunaniaeth

Darganfyddwch beth iw wneud os na allwch brofi eich hunaniaeth:

Gallai hyn fod yn berthnasol os:

  • rydych yn meddwl eich bod wedi gwneud camgymeriad wrth ateb y cwestiynau diogelwch
  • rydych yn meddwl y gallai gwybodaeth a gedwir gan Experian fod yn anghywir

Gofyn am wybodaeth bersonol syn cael ei ddal gan eraill

I ofyn am unrhyw wybodaeth bersonol rydych wedii rhoi i wasanaeth y llywodraeth, mae angen i chi gysylltu 璽r gwasanaeth neur adran honno yn uniongyrchol.

I ofyn am gopi och atebion i gwestiynau diogelwch am wybodaeth cyllid personol, mae angen i chi gysylltu ag Experian yn uniongyrchol.

3. Arbed dogfennau ir ap 勒貊勛圖 One Login

Gallwch storio fersiynau digidol o ddogfennaur llywodraeth yn yr ap 勒貊勛圖 One Login ar eich dyfais au hailddefnyddio yn nes ymlaen. I wneud hyn, maen rhaid i chi fod eisoes wedi profi eich hunaniaeth.

Maer ap yn caniat獺u i chi rannu gwybodaeth hunaniaeth a gyhoeddwyd gan adrannaur llywodraeth yn ddiogel gydag adrannau eraill y llywodraeth a sefydliadau cyhoeddus a phreifat.

Maer ap yn arbed dogfennau mewn ffurf digidol a elwir yn manylion adnabod. Mae dogfennaun cael eu storio yn yr ap 勒貊勛圖 One Login ar eich ff繫n ac nid yn y cwmwl, neu yn eich ffeiliau ff繫n neu lawrlwythiadau.

Diffiniadau

Y cyhoeddwr ywr gwasanaeth llywodraeth syn cyhoeddir ddogfen o system, cofnod neu gronfa ddata.

Y deiliad ywr ap 勒貊勛圖 One Login lle rydych chi fel defnyddiwr wedi penderfynu arbed eich dogfennau.

Maer dilysydd yn adran y llywodraeth, neu sefydliad cyhoeddus neu breifat, rydych yn dewis rhannu dogfen gyda hwy.

3.1 Pa wybodaeth syn cael ei phrosesu pan fyddwch yn ychwanegu neu rannu dogfennau

Yn dibynnu ar y ddogfen, gall y wybodaeth syn cael ei phrosesu gynnwys:

  • enw llawn
  • dyddiad geni
  • lleoliad geni
  • cyfeiriad
  • caniat璽d gyrru
  • rhifau penodol i ddogfennau (fel rhif y ddogfen neu rif gwasanaeth)
  • dyddiad cyhoeddi
  • dyddiad dod i ben
  • gwybodaeth am wasanaeth
  • delweddau or defnyddiwr
  • gwybodaeth biometrig

3.2 Sut mae gwybodaeth yn cael ei phrosesu pan fyddwch yn ychwanegu neu rannu dogfennau

Maer cyhoeddwr yn rhannur wybodaeth syn angenrheidiol i GDS greu dogfen ddigidol yn yr ap 勒貊勛圖 One Login.

Cyn i chi allu defnyddior ddogfen ddigidol, rhaid i chi gytuno 璽r telerau ac amodau. Yna gallwch rannur ddogfen gyda dilyswyr ar gyfer archwiliad gweledol.

Maer ddogfen ond yn cael ei storio yn ap 勒貊勛圖 One Login ar eich ff繫n, o dan eich rheolaeth chi. Nid ywn cael ei storio yn eich ffeiliau ff繫n eraill neu lawrlwythiadau.

4. Os ydych yn gadael i rywun fenthyg eich ff繫n i brofi eu hunaniaeth

Bydd gwybodaeth dechnegol am y ddyfais syn cael ei defnyddio yn cael ei chasglu gan 勒貊勛圖 One Login fel y nodir isod.

5. Sut rydym yn trin eich gwybodaeth i wirio yn erbyn twyll

Sut bynnag rydych chin profi eich hunaniaeth, byddwn yn cynnal gwiriad twyll ar-lein gan ddefnyddio darparwr gwasanaeth gwirio hunaniaeth or enw Experian i:

  • chwilio am unrhyw arwyddion bod eich hunaniaeth wedi cael ei ddwyn neu ei gamddefnyddio
  • gwirio a oes cofnod ohonoch yn bodoli dros amser

Maent yn gwneud hyn fel rheolydd data annibynnol yn unol 璽 .

Rydym yn casglu eich enw, dyddiad geni a chyfeiriad ac yn eu hanfon i Experian fel y gallant gynnal y gwiriad.

Pan fydd Experian wedi cwblhaur gwiriad, maent yn anfon sg繫r twyll atom, yn seiliedig ar unrhyw weithgaredd twyllodrus posibl neu gysylltiedig. Os oes gennych bryderon syn ymwneud 璽 thwyll posibl och data adnabod, dylech gysylltu ag Experian yn uniongyrchol, fel rheolydd annibynnol y data chwilio hwn.

Ni fydd y gwiriad twyll hwn yn effeithio ar eich sg繫r credyd, gan ei fod yn chwiliad meddal. Bydd cofnod amdano yn cael ei ychwanegu at eich cofnod credyd, ond dim ond i chi y bydd yn weladwy. Ni fydd sefydliadau eraill syn defnyddio Experian i gynnal eu gwiriadau credyd eu hunain yn gallu ei weld.

6. Gwybodaeth dechnegol

Rydym yn casglu gwybodaeth dechnegol fel rhan annatod o ddarparu 勒貊勛圖 One Login i chi. Mae hyn yn cynnwys:

  • dynodwyr ar-lein, fel eich cyfeiriadau Protocol Rhyngrwyd (IP)
  • gwybodaeth technegol am y dyfais rydych yn ei ddefnyddio, fel model, system gweithredu porwr gwe ac ID unigryw dyfais

Maer data hwn yn cael ei storio mewn logiau archwiliad system a diogelwch at ddibenion monitro system a diogelwch a datrys problemau technegol.

6.1 Pan fyddwch yn ychwanegu a rhannu dogfennau drwy ddefnyddior ap 勒貊勛圖 One Login

Yn y dyfodol, pan fyddwch yn rhannuch dogfen gyda pherson neu sefydliad, byddant yn defnyddio dulliau dilysu diogel fel cryptograffeg allwedd gyhoeddus i wirio a ywr ddogfen yn un gwirioneddol.

Mae hyn yn caniat獺u iddynt:

  • wirio statws y ddogfen
  • canfod dogfennau wediu dirymu neu sydd wedi dod i ben
  • gwirio a oes unrhyw newidiadau wediu gwneud yn dwyllodrus ich hunaniaeth ers i ni ei wirio gyntaf yn yr ap
  • atal twyll

7. Pan fyddwch yn cysylltu 璽 ni am help neun rhoi adborth

Mae nifer o ffyrdd i gysylltu 璽 ni os ydych angen help gyda 勒貊勛圖 One Login. Maent ar y dudalen .

Os ydych yn cysylltu 璽 ni am help, byddwn yn casglu:

  • gwybodaeth amdanoch fel eich enw, rhif ff繫n a chyfeiriad e-bost, a byddwn yn defnyddior wybodaeth hon i gysylltu 璽 chi am eich ymholiad ac i adnabod eich 勒貊勛圖 One Login os oes angen
  • manylion eich cais am help
  • eich dewis iaith (Cymraeg neu Saesneg) fel y gallwn gysylltu 璽 chi yn yr iaith honno

Pan fyddwch yn cysylltu 璽 ni, peidiwch 璽 chynnwys unrhyw wybodaeth sensitif neu ariannol amdanoch chi eich hun. Os byddwch yn dewis rhannu manylion amdanoch chi eich hun i roi cyd-destun ychwanegol ich ymholiad, byddwn yn storior wybodaeth honno yn ein systemau.

Rydym yn storio recordiadau or holl sgyrsiau ff繫n. Rydym yn defnyddior rhain ar gyfer monitro a chanfod twyll, datrys cwynion, monitro safon a hyfforddiant a gwella ein gwasanaeth.

Os byddwch yn cysylltu 璽 ni drwy ein ffurflen we, rydym yn casglu gwybodaeth dechnegol am eich dyfais fel yr amlinellir yn adran Gwybodaeth dechnegol or hysbysiad hwn.

Os ydych yn cytuno i gymryd rhan yn ein harolwg am yr help a gawsoch, rydym yn casglu eich atebion ir cwestiynau. Maer rhain yn cael eu cysylltu 璽r cofnod or adeg y gwnaethoch gysylltu 璽 ni, syn cynnwys gwybodaeth fel eich enw, cyfeiriad e-bost neu rif ff繫n.

8. Os ydych yn cytuno i ddadansoddi gwe neu ap (cwcis)

Rydym yn defnyddio Google Analytics a Dynatrace i gasglu gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio 勒貊勛圖 One Login. Gwneir hyn drwy ddefnyddio cwcis. Mae cwcis yn ffeiliau bach syn cael eu cadw ar eich ff繫n, tabled neu gyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld 璽 gwefan. Mae ein hysbysiad preifatrwydd cwcis an proses gydsynio wedii nodi ym .

Mae rhai cwcis yn gwbl angenrheidiol ar gyfer 勒貊勛圖 One Login i gefnogi dilysu a diogelwch.

Mae cwcis pellach yn cefnogi ein dadansoddiad or platfform ac yn caniat獺u i 勒貊勛圖 One Login wella profiad dinasyddion. Bydd angen eich caniat璽d ar y cwcis hyn.

Rydym yn defnyddio cwcis i adolygu:

  • gwybodaeth am y tudalennau rydych yn eu defnyddio
  • faint o amser rydych yn ei dreulio ar bob tudalen
  • sut gyrhaeddoch chi 勒貊勛圖 One Login
  • beth rydych yn clicio arno trach bod yn defnyddior gwasanaeth
  • arwydd och lleoliad (fel eich dinas ach gwlad) gan ddefnyddioch cyfeiriad IP dienw
  • pa mor gyflym maer tudalennaun llwytho
  • os ydych yn gweld unrhyw negeseuon gwall
  • gwybodaeth dechnegol gan gynnwys cyfeiriadau IP, y math o ddyfais a phorwr gwe rydych yn ei ddefnyddio

Maer wybodaeth a gesglir yn cael ei hystyried yn ddata personol oherwydd bod Google Analytics a Dynatrace yn neilltuo dynodwr unigryw i bob ymwelydd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ein galluogi ni na Google i adnabod eich hunaniaeth yn y byd go iawn. Ni fyddwn hefyd yn cyfuno gwybodaeth dadansoddi 璽r data a ddarperir gennych wrth ddilysu eich 勒貊勛圖 One Login neu brofi eich hunaniaeth neu unrhyw ddata arall y gallwn ei ddal er mwyn adnabod eich hunaniaeth yn y byd go iawn.

Rydym hefyd yn defnyddio Firebase Crashlytics i gasglu gwybodaeth am broblemau y gallech eu profi pan fyddwch yn defnyddior ap 勒貊勛圖 ID Check, fel yr ap yn chwalu.

Ym mhob achos, mae Google, Dynatrace a Firebase Crashlytics yn gweithredu fel ein prosesydd data ac nid ydym yn caniat獺u iddynt ddefnyddio na rhannur data hwn at eu dibenion eu hunain.

8.1 Arbed dogfennau yn yr ap 勒貊勛圖 One Login

Pan fyddwch yn arbed dogfennau ich ap, nid ydym yn defnyddio cwcis ar eich dyfais. Rydych yn arbed eich dogfennau er mwyn eich gwybodaeth eich hun, neu iw rhannu gyda dilysydd.

9. Pam rydym angen eich gwybodaeth

Rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol ar 勒貊勛圖 One Login er mwyn:

  • eich darparu gyda 勒貊勛圖 One Login i gael mynediad i wasanaethau ar-lein y llywodraeth
  • profi eich hunaniaeth
  • rhoi mynediad i chi i unrhyw ddogfennau rydych yn eu harbed yn yr ap 勒貊勛圖 One Login

Rydym hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth i:

  • gadw eich 勒貊勛圖 One Login yn ddiogel (gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost, rhif ff繫n, cyfrinair a logiau system)
  • storioch gwybodaeth hunaniaeth profedig o fewn 勒貊勛圖 One Login ich galluogi iw ailddefnyddio, yn cynnwys unrhyw ddogfennau rydych yn eu harbed yn yr ap 勒貊勛圖 One Login
  • eich galluogi i arbed a rhannu dogfennau och dyfais bersonol
  • darparu dogfen llywodraeth ddigidol i chi y gallwch wedyn ei defnyddio i gael mynediad at wasanaethau eraill y llywodraeth
  • eich galluogi i ddefnyddio dogfennau wediu harbed i brofi eich hunaniaeth
  • monitro, canfod ac ymchwilio i dwyll
  • darparu gwasanaeth(au) y llywodraeth rydych yn cael mynediad iddynt drwy 勒貊勛圖 One Login gyda gwybodaeth am ganlyniad eich gwiriad hunaniaeth
  • eich darparu gyda chofnod o sut mae eich 勒貊勛圖 One Login wedi cael ei ddefnyddio, er enghraifft, pryd gafodd ei fewngofnodi iddo ddiwethaf a pha wasanaethau mae wedi cael ei ddefnyddio gyda
  • cysylltu 璽 chi am unrhyw ymyrraeth arfaethedig, problemau neu newidiadau a allai effeithio ar eich 勒貊勛圖 One Login (gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost)
  • gwellar gwasanaeth drwy ddeall sut rydych yn ei ddefnyddio ac unrhyw broblemau rydych yn eu profi, er enghraifft defnyddio Google Analytics, Firebase Crashlytics, Dynatrace, ac arolwg adborth y ganolfan gyswllt
  • monitro cyfraddau cyflwyno gwiriadau hunaniaeth lwyddiannus ac aflwyddiannus a chynhyrchu adroddiadau dienw am 勒貊勛圖 One Login in helpu i ddeall ble gallwn ni wneud gwelliannau
  • helpu i ddarganfod a thrwsio materion technegol neu ddadfygio
  • cynorthwyo mewn bilio a chysoni ar gyfer y gwasanaethau gwirio hunaniaeth trydydd parti rydym yn eu defnyddio
  • monitror system ar gyfer bygythiadau diogelwch a materion system, er enghraifft toriad ir gwasanaeth.

10. Ein sail gyfreithiol dros brosesu eich gwybodaeth

Diddordeb dilys (Erthygl (6)(1)(f) GDPR DU)

Pan fyddwn yn prosesuch data personol at ddibenion monitro diogelwch, y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arno yw bod y prosesu yn angenrheidiol ar gyfer diddordebau cyfreithlon GDS. Mae diddordebau GDS yn yr achos hwn yn amddiffyn 勒貊勛圖 One Login ai ddefnyddwyr yn erbyn bygythiadau diogelwch.

Cysyniad (Erthygl (6)(1)(a) GDPR DU)

Rydym yn cael eich caniat璽d i brosesu eich data personol ar gyfer y dibenion canlynol:

  • casglu a dadansoddi gwybodaeth am sut rydych yn defnyddioch 勒貊勛圖 One Login gan ddefnyddio cwcis Google Analytics a Dynatrace
  • casglu a phrosesu eich ymatebion in harolwg am yr help a gawsoch

Lle byddwn yn dibynnu ar ganiat璽d byddwn yn esbonio mor glir a chryno 璽 phosibl sut bydd eich datan cael ei brosesu fel eich bod yn deall beth rydych yn cydsynio iddo. Os byddwch yn newid eich meddwl yn ddiweddarach, gallwch dynnu eich caniat璽d yn 繫l ar unrhyw adeg. Bydd sut gallwch wneud hyn yn dibynnu ar beth rdym yn prosesu eich data ar ei gyfer. Er enghraifft, gallwch:

Tasg gyhoeddus (Erthygl (6)(1)(e) GDPR DU)

At bob diben arall gan gynnwys gweinyddu eich 勒貊勛圖 One Login, profi eich hunaniaeth ach galluogi i ailddefnyddior hunaniaeth brofedig honno, a monitro twyll, y sail gyfreithiol yw ei bod yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd neu arfer ein swyddogaethau fel adran or llywodraeth.

At ddibenion ychwanegu a rhannu dogfennau yn yr ap 勒貊勛圖 One Login, y sail gyfreithiol yw arfer ein swyddogaethau fel adran y llywodraeth i brosesu gwybodaeth fel y gallwch gael mynediad at wasanaethau. Gofynnir i chi gytuno i delerau ac amodau cyn i chi ddechrau ychwanegu dogfennau ir ap.

Data categori arbennig

Os ydych yn profi eich hunaniaeth gan ddefnyddior ap 勒貊勛圖 ID Check, byddwch yn gwneud gwiriad tebygrwydd a fydd yn cynnwys prosesu data biometreg eich gwyneb. O dan Gyfraith y DU, mae data biometrig yn cael ei ystyried yn ddata categori arbennig ac maen ofynnol i DSIT gael sail gyfreithiol ychwanegol iw brosesu. Mae DSIT yn prosesu data biometrig ar y sail gyfreithiol bod y prosesu eu hangen am resymau o fudd sylweddol ir cyhoedd. Mae Cyfraith y DU hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i DSIT fodloni cyflwr diddordeb cyhoeddus sylweddol penodol o Ddeddf Diogelu Datar DU 2018. Mae DSIT yn dibynnu ar y 2 amod canlynol:

  • dibenion statudol a llywodraethol ar gyfer gwirio hunaniaeth (paragraff 6, atodlen 1, Deddf Diogelu Data 2018)
  • atal neu ganfod gweithredoedd anghyfreithlon ar gyfer canfod ac atal twyll (paragraff 10, atodlen 1, Deddf Diogelu Data 2018)

Pan rydych yn ychwanegu neun rhannu dogfennau yn yr ap, mae data categori arbennig yn cael ei gadwn ddiogel drwy:

  • ddefnyddio storfa ar y ddyfais yn hytrach nag ar weinydd
  • cael ei amgryptio gydag amgryptio 璽 chefnogaeth caledwedd i gael mynediad ir ddogfen
  • cloi mynediad i 勒貊勛圖 One Login os amheuir twyll, gan gynnwys mynediad at unrhyw ddogfen, ac unrhyw ddata categori arbennig ynddi

Pan fyddwch yn ychwanegu neun rhannu dogfennau yn yr ap, dim ond i fewngofnodi ar eich dyfais y defnyddir biometrig, yn gymesur a lle bo angen, - er enghraifft gan ddefnyddio Face ID neu Touch ID ar iOS a biometreg wyneb, olion bysedd neu iris ar Android. Mae hyn yn caniat獺u i chi gael mynediad ir ap ach ff繫n i:

  • weld dogfennau
  • cymeradwyo dogfen syn cael ei harbed
  • cymeradwyo i ddogfen gael ei rhannu

Gofynnwn i chi beidio 璽 rhannu unrhyw wybodaeth sensitif amdanoch chi eich hun pan fyddwch yn cysylltu 璽 ni am help neu i roi adborth. Os byddwch yn dewis darparu gwybodaeth or fath, rydym yn ei phrosesu ar y sail gyfreithiol bod y prosesun angenrheidiol am resymau sydd o fudd sylweddol ir cyhoedd. Yn ogystal, rydym yn dibynnu ar yr amod dibenion statudol a dibenion y llywodraeth yn Neddf Diogelu Data 2018.

11. Gyda phwy rydym yn rhannu eich gwybodaeth

Rhannu eich gwybodaeth gyda gwasanaethau ar-lein y llywodraeth ar adrannau syn eu cynnal

Pan fyddwch yn mewngofnodi neun profi eich hunaniaeth gyda 勒貊勛圖 One Login, rydym yn anfon y wybodaeth ganlynol i wasanaeth ar-lein y llywodraeth rydych yn ceisio cael mynediad iddo:

  • canlyniad eich gwiriad hunaniaeth

  • rhesymau dros fethu, os yn berthnasol

  • gwybodaeth syn galluogi gwasanaeth arall y llywodraeth ich paru yn erbyn eu cofnodion, sydd fel arfer yn cynnwys eich enw, eich dyddiad geni ach cyfeiriad

Pan fyddwch yn ychwanegu neun rhannu dogfennau yn yr ap 勒貊勛圖 One Login, chi syn dewis gyda phwy i rannu dogfen, yn amodol ar y telerau ac amodau y cytunwyd arnynt y tro cyntaf i chi arbed dogfen.

Mae gwasanaethau eraill y llywodraeth yn prosesur data rydym yn ei rannu gyda nhw fel rheolwyr data annibynnol o dan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) sydd gennym gyda nhw. Bydd gan bob gwasanaeth ar-lein y llywodraeth ei delerau ac amodau ai hysbysiad preifatrwydd ei hun. Dylech ddarllen y rhain yn ogystal 璽 thelerau ac amodau 勒貊勛圖 One Login ar hysbysiad preifatrwydd hwn, fel eich bod yn deall sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rheoli.

Porth y Llywodraeth

Porth y Llywodraeth yw gwasanaeth dilysu a gwirio hunaniaeth CThEF syn galluogi defnyddwyr i gael mynediad at wasanaethau treth a gwasanaethau eraill. Maer ap 勒貊勛圖 ID Check wedii integreiddio i wasanaeth Porth y Llywodraeth, yn ogystal ag i 勒貊勛圖 One Login, ac felly maer prosesu data personol a amlinellir yn adrannau perthnasol yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i ddefnyddwyr Porth y Llywodraeth or ap.

Yn ogystal, mae CThEF yn cynnal eu gwiriadau dogfennau hunaniaeth eu hunain yn erbyn ffynonellau data awdurdodol y llywodraeth. Rydym felly yn rhannu eich gwybodaeth trwydded yrru a phasbort gyda CThEF iw galluogi i gynnal y gwiriadau hyn.

Rydym yn rhannur wybodaeth ganlynol och trwydded yrru gyda Phorth y Llywodraeth:

  • enw cyntaf

  • enw olaf

  • dyddiad geni

  • rhif trwydded yrru

  • cyhoeddwyd gan (awdurdod cyhoeddi)

  • rhif cyhoeddi

  • dyddiad cyhoeddi

  • dyddiad dod i ben

Rydym yn rhannur wybodaeth ganlynol och pasbort gyda Phorth y Llywodraeth:

  • enw cyntaf

  • enw olaf

  • dyddiad geni

  • rhif dogfen

  • dyddiad dod i ben

  • Cod y cyhoeddwr International Civil Aviation Organisation (ICAO)

Mae CThEF yn prosesur data hwn fel rheolwr data annibynnol o dan Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) sydd gennym gyda nhw o dan ac yn unol 璽u polis簿au preifatrwydd eu hunain.

Ar gyfer dogfennau sydd wediu ychwanegu neu eu rhannu gan ddefnyddior app 勒貊勛圖 One Login, mae GDS yn gweithredu fel rheolwr data ar y cyd 璽r cyhoeddwyr. Mae hyn oherwydd bod y cyhoeddwr a GDS yn penderfynu sut a pham mae eich data personol yn cael ei brosesu.

Rhannu eich gwybodaeth i brofi eich hunaniaeth

Rydym yn defnyddio darparwyr gwasanaethau hunaniaeth trydydd parti arbenigol i gynnal gwiriadau hunaniaeth unigol ar ein rhan. Rydym yn rhannu eich gwybodaeth bersonol gydar darparwyr gwasanaeth hyn iw galluogi i gynnal y gwiriadau.

Y darparwyr gwasanaeth hyn yw:

  • Swyddfa Pasbort Ei Fawrhydi (HMPO), fel rheolwr data annibynnol o dan MoU, i gynnal gwiriadau dogfen pasbort gwirioneddol; darllenwch Hysbysiad preifatrwydd HMPO

  • Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), fel rheolwr data annibynnol o dan MoU, i gynnal gwiriadau dogfen trywdded yrru Prydain Fawr gwirioneddol; darllenwch Hybysiad preifatrwydd DVLA

  • Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau Gogledd Iwerddon (DVA NI), fel rheolwr data annibynnol o dan MoU, i gynnal gwiriadau dogfen trywdded yrru Gogledd Iwerddon gwirioneddol; gweler

  • Experian, fel rheolwr data annibynnol yn amodol ar gontract gyda ni, ar gyfer Dilysu Ar Sail Gwybodaeth (KBV) a gwiriadau twyll; darllenwch

  • yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), fel rheolydd data annibynnol o dan MoU, i ofyn a gwirio atebion i gwestiynau diogelwch am wybodaeth a gedwir gan DWP, gan gynnwys Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) - mae hwn yn ddata syn eiddo ir DWP ac yn ei brosesu ganddo, nid yw GDS yn cael mynediad iddo nac yn cyfrannu ato - darllenwch hysbysiad preifatrwydd DWP

  • iProov, fel prosesydd data gyda Veriff ac Inverid fel ei is-broseswyr, yn amodol ar gontract gyda ni, ar gyfer gwiriadau tebygrwydd biometreg, gwiriadau dogfennau gwirioneddol a gwiriadau bywiogrwydd

  • Swyddfar Post, fel prosesydd data gyda Yoti fel ei is-brosesydd, yn amodol ar gontract gyda ni, ar gyfer gwiriadau hunaniaeth bersonol

  • CThEF fel rheolydd data annibynnol o dan Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, ar gyfer gwiriadau cyfrifon banc; darllenwch fwy yn Hysbysiad preifatrwydd CThEF

Ym mhob achos rydym ond yn darparur isafswm o wybodaeth sydd ei angen i gyflawnir gwiriadau.

Rhannu eich gwybodaeth er mwyn diogelu rhag twyll

Er mwyn diogelu rhag trosedd a thwyll, weithiau mae angen i ni rannu gwybodaeth gyda:

  • adrannaur llywodraeth syn rhedeg y gwasanaethau rydych yn cael mynediad iddynt drwy eich 勒貊勛圖 One Login

  • sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus, fel y Swyddfa Gartref

  • asiantaethau gorfodir gyfraith

  • Experian (asiantaeth gwirio credyd)

  • proseswyr data syn darparu gwasanaethau monitro perthnasol

Maer wybodaeth efallai y byddwn yn ei rannau yn cynnwys:

  • rhifau ff繫n

  • cyfeiriadau e-bost

  • cyfeiriadau IP

  • lleoliad, syn deillio or cyfeiriad IP ac wedii fynegi fel gwlad, er enghraifft GB

  • dynodwyr cyfrif unigryw

  • gwybodaeth am y dyfeisiau syn cael eu defnyddio, gan gynnwys ID dyfais

  • manylion dogfen hunaniaeth, gan gynnwys enw a dyddiad geni

  • hanes cyfeiriad

Lle mae gennym bryder am weithgaredd twyllodrus, efallai y byddwn hefyd yn rhannu manylion o:

  • basbortau

  • trwyddedau gyrru

  • trwyddedau preswylio biometrig

  • cardiau adnabod

Efallai y bydd y wybodaeth hon rydym yn ei rhannu wedi cael ei darparu gennych i 勒貊勛圖 One Login yn uniongyrchol. Neu efallai ei fod wedi cael ei rannu 璽 ni gan wasanaethaur llywodraeth syn rhedeg y gwasanaethau rydych chi wediu cyrchu trwy 勒貊勛圖 One Login, neu drydydd part簿on fel asiantaethau cyfeirio credyd fel Experian.

Rhannu eich gwybodaeth gydan cyflenwyr

Rydym yn gweithio gyda chyflenwyr technoleg, er enghraifft rydym yn defnyddio darparwr cynnal allanol a darparwr canolfan gyswllt. Rydym ond yn rhoi mynediad in cyflenwyr ich gwybodaeth os ydynt ei hangen i ddarparu eu gwasanaeth. Mae ein cyflenwyr yn gweithredu fel proseswyr data ac maent yn ddarostyngedig i gontractau gyda ni syn eu cyfyngu i brosesu eich data personol ond at ddiben darparu eu gwasanaethau yn unol 璽n cyfarwyddiadau.

Pan fyddwch yn ychwanegu neun rhannu dogfennau gan ddefnyddior ap 勒貊勛圖 One Login, nid ydym yn rhannuch gwybodaeth gydan cyflenwyr. Nid yw dogfennaun cael eu storio yn y cwmwl ond yn yr ap 勒貊勛圖 One Login rydych chi wedii lawrlwytho ich ff繫n.

12. Am faint o amser rydym yn cadw eich gwybodaeth

Rydym yn storio eich gwybodaeth bersonol am ddim mwy o amser nag syn rhesymol angenrheidiol ac yn gyfreithiol gyfiawn.

Byddwn yn cadw eich 勒貊勛圖 One Login cyhyd ag y dymunwch ei ddefnyddio er y byddwn yn ei ddileu os na fyddwch yn ei ddefnyddio am 5 mlynedd.

Os ydych yn dewis dileu eich 勒貊勛圖 One Login, byddwn yn dileu eich cyfrif ach gwybodaeth adnabod profedig.

Rydym yn dileu eich llun llonydd a gynhyrchir och fideo hunlun, delweddau trwydded yrru a data biometrig y wyneb o systemau Iproov ar 繫l 30 diwrnod.

Maer gwiriad hunaniaeth bersonol yn storio eich data am 11 diwrnod i roi digon o amser i chi fynd i Swyddfar Post i gwblhau eich gwiriad hunaniaeth.

Byddwn yn storior wybodaeth rydym yn ei chasglu pan fyddwch yn cysylltu 璽 ni am help am flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys recordiadau galwadau.

Byddwn yn cadw eich data adborth am 2 flynedd.

Byddwn yn storio gwybodaeth am y camau rydych yn eu cymryd pan fyddwch yn defnyddio eich 勒貊勛圖 One Login mewn logiau system am 1 flwyddyn.

Rydym hefyd yn cynnal llwybr archwilio diogel o holl ddigwyddiadau a gweithgareddau archwilio 勒貊勛圖 One Login ac rydym yn ei gadw am 7 mlynedd at ddibenion monitro twyll.

Nid yw GDS yn storio nac yn cadwr cwestiynau diogelwch rydyn yn eu cyrchu gan Experian neur Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) nach atebion ir cwestiynau hynny. Mae GDS ond yn cadw os ydych chin pasio neun methur cwestiynau; bydd y canlyniad hwn yn cael ei ddileu os caiff eich 勒貊勛圖 One Login ei ddileu. Bydd Experian yn cadw cofnod or chwiliad am y cwestiynau diogelwch am 1 flwyddyn. Bydd DWP ond yn cadw cofnod or chwiliad cwestiynau diogelwch am 2 awr fel rhan or data sesiwn.

Nid yw GDS yn storio nac yn cadwr fideo hunlun rydych yn ei gymryd fel rhan o brofi eich hunaniaeth gan ddefnyddior ap 勒貊勛圖 ID Check.

Os gwnaethoch roi caniat璽d i ddadansoddi, bydd Dynatrace yn storio gwybodaeth am sut y gwnaethoch ddefnyddio 勒貊勛圖 One Login am 35 diwrnod.

12.1 Dogfennau yn yr ap 勒貊勛圖 One Login

Gallwch gael gwared ar unrhyw ddogfennau rydych yn eu hychwanegu at ap 勒貊勛圖 One Login ar unrhyw adeg.

Mae gan bob dogfen ddyddiad dod i ben. Maer dyddiad dod i ben weithiaun cyfateb i ba mor hir y byddwch yn dal hawl amdano, neu gall fod dyddiad dod i ben byrrach (syn golygu bod angen i chi adnewyddur ddogfen o bryd iw gilydd er eich bod yn dal yr hawl o hyd). Pan fydd dogfen yn dod i ben, maen aros yn eich ap ond ni allwch ei defnyddio nai rhannu. Mae hyn er mwyn atal rhywun rhag ceisio defnyddio dogfen sydd wedi dod i ben ar gyfer archwiliad gweledol.

Gall dogfennau gael eu dirymu gan eu cyhoeddwyr. Os nad ywr ddogfen bellach yn ddilys, bydd yn cael ei dirymu ai dileu och ap 勒貊勛圖 One Login.

Os ydych yn adnewyddu dogfen, cyfrifoldeb cyhoeddwr y ddogfen yw diweddarur ddogfen yn yr ap 勒貊勛圖 One Login.

Bydd dogfen yn aros yn yr ap 勒貊勛圖 One Login nes i chi ei dileu 璽 llaw.

Oni bai bod y cyhoeddwr yn dweud na allwch, rydych chin rhydd i arbed un ddogfen yn yr ap 勒貊勛圖 One Login ar fwy nag un ddyfais, er enghraifft ar ff繫n personol a gwaith. Mae gan bob dogfen ddyddiad dod i ben. Y tro cyntaf i chi fewngofnodi ir ap ar 繫l y dyddiad dod i ben, bydd yr ap yn diweddarur ddogfen yn 繫l yr angen.

13. Diogelu preifatrwydd plant

Defnyddir 勒貊勛圖 One Login ar draws holl wasanaethaur llywodraeth. Nid yw wedii dargedu at unrhyw grwpiau defnyddwyr penodol. Fodd bynnag, efallai y bydd gan rai gwasanaethau ddefnyddwyr o dan 18 oed.

勒貊勛圖 One Login:

  • nid yw ar gael i blant o dan 13 oed
  • gall gael ei ddefnyddio gan blant 16 oed a throsodd i brofi eu hunaniaeth ar gyfer gwiriad Cofnodion Troseddol DBS
  • gall gael ei ddefnyddio gan blant 16 oed a throsodd i brofi eu hunaniaeth wrth wneud cais am rif Yswiriant Gwladol
  • gall gael ei ddefnyddio gan blant 15 oed 9 mis a throsodd i brofi eu hunaniaeth wrth wneud cais am drwydded yrru.

14. Lle mae eich gwybodaeth yn cael ei brosesu ai storio

Maer holl ddata personol syn cael ei brosesun uniongyrchol ar gyfer gweinydduch 勒貊勛圖 One Login ac ar gyfer gwirio hunaniaeth yn cael ei storio yn y DU neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Maer AEE wedi cael ei asesu gan Swyddfar Comisiynydd Gwybodaeth fel un sydd ag amddiffyniadau cyfreithiol digonol ar gyfer preifatrwydd data yn unol 璽r rhai yn y DU.

Gellir trosglwyddo data a gesglir gan Google Analytics neu Dynatrace y tu allan ir Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) iw brosesu a gall rhai on cyflenwyr ddarparu cymorth technegol or tu allan ir AEE. Yn y ddau achos, rydym yn sicrhau bod eich gwybodaeth yn cael ei diogelu yr un mor dda, er enghraifft trwy gynnwys cymalau ychwanegol yn ein contractau gyda chyflenwyr. Mae Google hefyd yn cael ei gefnogi gan Fframwaith Preifatrwydd Data yr Unol Daleithiau, syn ymestyn i ddiogelu data a diogelwch prosesu yn y DU.

Pan fo lleoliadau proseswyr neu is-broseswyr y tu allan ir DU, rydym yn dibynnu ar gymalau contract enghreifftiol y cytunwyd arnynt a nodir gan GDPR ar gyfer sicrwydd a diogelu data.

Pan fyddwch yn ychwanegu neun rhannu dogfennau gan ddefnyddior ap 勒貊勛圖 One Login, ni fydd eich data yn cael ei drosglwyddo y tu allan ir DU.

15. Sut rydym yn diogelu eich gwybodaeth bersonol ai gadwn ddiogel

Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Rydym wedi sefydlu systemau a phrosesau i atal mynediad heb awdurdod neu ddatgelu eich gwybodaeth - er enghraifft, rydym yn defnyddio lefelau amrywiol o amgryptio. Rydym hefyd yn gwneud yn siwr bod unrhyw drydydd part簿on rydym yn delio 璽 nhw yn cadwr holl wybodaeth bersonol y maent yn ei brosesu ar ein rhan yn ddiogel.

Fel perchennog och 勒貊勛圖 One Login, mae gennych chi hefyd rywfaint o gyfrifoldeb am ei ddiogelwch. Er enghraifft, dylech:

  • ddewis cyfrinair cryf ar gyfer eich 勒貊勛圖 One Login a sicrhau eich bod yn ei gadwn ddiogel - mae Canolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol y DU (NCSC) yn darparu

16. Gwneud penderfyniadau awtomataidd

Mae proses gwirio hunaniaeth 勒貊勛圖 One Login wedii awtomeiddion llawn. Mae hyn yn golygu bod y mwyafrif o benderfyniadau gwirio hunaniaeth yn seiliedig ar brosesu awtomataidd yn unig, heb unrhyw gyfranogiad dynol.

Nid ywr penderfyniadau awtomataidd a ddefnyddir yn cynhyrchu effeithiau cyfreithiol neu rwymol ar ei ben ei hun ac yn hytrach mae wedii gynllunio i helpu pobl i gael mynediad ir gwasanaeth maent eisiau eu defnyddio.

Mae 勒貊勛圖 One Login yn penderfynu pa wiriadau hunaniaeth sydd angen eu cynnal i brofi eich hunaniaeth drwy gymryd i ystyriaeth y:

  • lefel o hyder mae gwasanaethau ei angen yn eich hunaniaeth
  • tystiolaeth a dogfennau sydd gennych i brofi eich hunaniaeth
  • math o ddyfais rydych yn ei ddefnyddio, er enghraifft gliniadur, tabled neu ff繫n clyfar

Yna mae 勒貊勛圖 One Login yn cyfarwyddo darparwyr gwasanaeth hunaniaeth trydydd parti arbenigol i gynnal y gwiriad hunaniaeth angenrheidiol. Maer rhan fwyaf or gwiriadau hyn wediu awtomeiddion llawn heb unrhyw gysylltiad dynol. Ar gyfer y gwiriad trwydded yrru a gynhaliwyd drwy ddefnyddior ap 勒貊勛圖 ID Check, os na ellir gwneud penderfyniad awtomataidd yn llwyddiannus, yna defnyddir proses gwirio 璽 llaw.

Mae 勒貊勛圖 One Login yn derbyn ymateb gan bob darparwr gwasanaeth hunaniaeth syn cynnwys canlyniadau eu gwiriadau hunaniaeth ac yn penderfynu a yw canlyniadaur gwiriadau yn darparur lefel ofynnol o hyder yn eich hunaniaeth.

Os ywr gwiriad awtomataidd yn aflwyddiannus, naill ai:

  • byddwch yn cael cyfle i brofi eich hunaniaeth mewn ffordd arall, neu
  • gallwch fynd yn 繫l ir gwasanaeth roeddech yn ceisio ei ddefnyddio, i weld a oes ffordd arall y gallwch gael mynediad iddo.

Maer cyfrifoldeb terfynol am roi mynediad i chi at wasanaeth yn gorwedd gydar gwasanaeth ach cyfeiriodd at 勒貊勛圖 One Login.

Gall unigolion neu wasanaethau ofyn i ni brofi bod y penderfyniad awtomataidd wedii wneud yn gywir a byddwn yn gyffredinol yn profi bod 勒貊勛圖 One Login yn gweithio fel y rhagwelir heb gamgymeriad na rhagfarn. Efallai na fyddwn yn gallu darparu gwybodaeth lawn am ymdrechion gwirio hunaniaeth unigol yn enwedig lle byddai darparu gwybodaeth yn amharu ar atal neu ganfod twyll neu droseddau eraill.

17. Eich hawliau

Mae Cyfraith Diogelu Datar DU yn rhoi nifer o hawliau i chi y gallwch eu harfer drwy gysylltu 璽 gds.data.protection@dsit.gov.uk.

Mae gennych yr hawl i:

  • ofyn am gopi och gwybodaeth bersonol rydym yn ei ddal
  • gofyn i ni newid eich gwybodaeth os ywn anghywir
  • gofyn i ni ddileu eich gwybodaeth, er efallai na fyddwn yn gallu dileu eich gwybodaeth os oes rheswm cyfreithiol i ni ei gadw
  • gofyn am gyfyngiad ar ein defnydd och gwybodaeth. Er enghraifft lle maen anghywir a buasech yn hoffi iddo gael ei newid cyn cael ei ddefnyddio eto
  • gwrthwynebu sut rydym yn prosesu eich data personol lle rydym yn ei brosesu o dan y dasg gyhoeddus neu seiliau buddiannau cyfreithlon
  • tynnuch caniat璽d yn 繫l lle rydym yn prosesu eich data personol gydach caniat璽d

18. Cysylltu 璽 ni neu wneud cwyn

Cysylltwch 璽 gds.data.protection@dsit.gov.uk os:

  • oes gennych gwestiwn am unrhyw beth yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn
  • rydych yn credu bod eich gwybodaeth bersonol wedi cael ei chamddefnyddio
  • rydych eisiau gwneud cais mynediad pwnc i gael gwybod mwy am sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu ai defnyddio

Gallwch hefyd gysylltu 璽n Swyddog Diogelu Data (DPO) syn darparu cyngor a monitro annibynnol on defnydd o wybodaeth bersonol:

Swyddog Diogelu Data yn Swyddfa Breifatrwydd GDS
dataprotection@dsit.gov.uk

Gallwch hefyd wneud cwyn ir Comisiynydd Gwybodaeth, syn rheoleiddiwr annibynnol.

Comisiynydd Gwybodaeth
icocasework@ico.org.uk
Ff繫n: 0303 123 1113
Ff繫n testun: 01625 545860
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4.30pm
Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

Swyddfar Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF

Ni fydd gwneud cwyn ir Comisiynydd Gwybodaeth yn effeithio ar eich hawliau.

19. Newidiadau ir hysbysiad hwn

Efallai y byddwn yn newid yr hysbysiad preifatrwydd hwn. Yn yr achos hynny, bydd dyddiad diweddarwyd diwethaf y ddogfen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau ir hysbysiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi ach gwybodaeth ar unwaith.

Os ywr newidiadau hyn yn effeithio ar sut mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu, bydd GDS yn rhoi gwybod i chi.