Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Strategaeth – Michael Harlow
Cyhoeddwyd 8 Mai 2026
Enw llawn yr ymgeisydd: Michael Harlow
Teitl y rôl flaenorol yn y Gwasanaeth Sifil: Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Strategaeth
Dyddiad gadael neu ymddeol o’r Gwasanaeth Sifil: 31/1/2026
Cyflogwr newydd: Cofrestri’r Alban
Penodiad neu gyflogaeth newydd (gan gynnwys pryd y caiff ddechrau): Cyfarwyddwr anweithredol ar fwrdd Cofrestri’r Alban, dyddiad i’w gadarnhau
Penderfyniad yr Adran ar y cais (gan gynnwys manylion unrhyw gyfnod aros neu amodau neu gyfyngiadau eraill):
Mae’r Adran yn fodlon nad yw’r penodiad arfaethedig yn arwain at wrthdaro buddiannau gwirioneddol neu ganfyddedig a gellir ei gymeradwyo o dan y Rheolau Penodiadau Busnes, yn amodol ar yr amod isod:
Am ddwy flynedd o’i ddiwrnod olaf o wasanaeth, ni ddylai Mike gymryd rhan mewn lobïo na gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU, gan gynnwys Gweinidogion neu swyddogion, neu i Gofrestrfa Tir EF, ar ran Cofrestri’r Alban. Ni ddylai ychwaith ddefnyddio, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gwybodaeth freintiedig neu gysylltiadau a gafwyd yn ystod ei gyfnod yng ngwasanaeth y Goron i ddylanwadu ar bolisi’r llywodraeth, penderfyniadau na dyfarnu contractau.