Lladd da byw gartref: Canllawiau ar y gyfraith yng Nghymru ac yn Lloegr – enghreifftiau ymarferol
Cyhoeddwyd 10 Medi 2019
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Gogledd Iwerddon
Ѳ. Ѳ’r rhain yn rhoi gwybodaeth am y gyfraith yn y wlad hon.
Cysylltwch âi gael gwybodaeth am:
Hanes adolygu
| Rhif yr adolygiad | Dyddiad | Diben yr adolygiad | Adolygwyd gan | |
|---|---|---|---|---|
| 5 | Ionawr 2026 | Trosglwyddo i dempled canllawiau newydd yrASB. Tudalen gynnwys wedi’i diweddaru. Diweddariad i gyfeiriadau a dolenni deddfwriaethol. Diweddariad i Statws Cyfreithiol y canllawiau. Symleiddio’r adran ar y Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy. Diweddariad i’r adran ar y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid. Diweddariad i’r adran ar y Rheoliadau Lles Anifeiliaid. Diweddariad i’r adran ar gysylltiadau defnyddiol. Diweddariad i’r rhestrSRMynAtodiad C |
Tîm Polisi Hylendid Cig a Thîm Polisi Hylendid yrASByng Nghymru | |
| 4 | Medi 2020 | Caniatáu defnyddio deiliaid Tystysgrif Cymhwysedd neu drwydded i ladd o dan Reoliad y Cyngor 1099/2009. Ychwanegu arferion gorau. Ychwanegu’r gofynion cofnodi ar gyfer ffermwyr. Mewnosod adran ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Diweddaru’r cyfeiriadau deddfwriaethol. Ychwanegu rhestr o gysylltiadau a dolenni defnyddiol. Newidiadau i’r cynllun a’r fformat. |
Tîm Polisi Hylendid Cig |
1. Crynodeb
Diben
Datblygwyd y canllawiau hyn i roi gwybodaeth am y gyfraith sy’n cwmpasu lladd da byw gartref.
Statws cyfreithiol
Nod y canllawiau hyn yw egluro’n glir y gofynion cyfreithiol sy’n ymwneud â lles anifeiliaid, enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSEs), sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABPs) a hylendid cig. Ѳ’r canllawiau hefyd yn nodi arferion gorau.
Ar gyfer pwy mae’r cyhoeddiad hwn?
Ѳ’r canllawiau hyn ar gyfer:
- perchnogion da byw
- lladdwyr sydd â thrwydded Lles Adeg Lladd (WATOK)
- deiliaid Tystysgrif Cymhwysedd (CoC) i ladd anifeiliaid
- awdurdodau lleol
I ba wledydd yn y DU y mae’r canllawiau hyn yn berthnasol?
- Cymru
- Lloegr
Geiriau allweddol
- cig a da byw
- hylendid a diogelwch bwyd
- cyfraith bwyd, monitro a rheolaethau
2. Cyflwyniad
Ystyr ‘lladd gartref’ yw pan fydd anifail da byw yn cael ei ladd gan ei berchennog ar ei safle i’w fwyta ganddo ef ei hun neu gan aelodau o’r teulu agos sy’n byw yno. Gall y gweithgarwch lladd gael ei gyflawni gan laddwr trwyddedig, a ddiffinnir fel person sy’n meddu ar drwydded Lles Adeg Lladd (WATOK) neu Dystysgrif Cymhwysedd (CoC), ar yr amod ei fod yn cael ei wneud o dan oruchwyliaeth y perchennog. Nid yw lladd gartref yn digwydd mewn lladd-dy cymeradwy. Ni ellir symud carcasau na rhannau o garcasau da byw a gaiff eu lladd gartref i safle arall i’w prosesu, oni bai eu bod yn cael eu gwaredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Mae gwahaniaeth rhwng ‘lladd gartref’ a ‘lladd yn breifat’, sef pan fydd perchennog yr anifail yn ei anfon i ladd-dy cymeradwy i’w ladd ac mae’r carcas wedi’i drin yn cael ei ddychwelyd i’r perchennog. Byddai anifeiliaid sy’n cael eu “lladd yn breifat” yn destun mesurau arolygu ffurfiol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fel y pennir gan y (OCR). Wedi hynny, byddai’r carcas yn cael marc iechyd i nodi ei fod yn addas i’w fwyta gan bobl.
Mae lladd gartref hefyd yn wahanol i “ladd mewn argyfwng”, sef lladd carnolion (‘ungulates’) domestig (er enghraifft, gwartheg, defaid) y tu allan i’r lladd-dy, yn dilyn damwain/anaf, o dan weithdrefnau brys a geir mewn deddfwriaeth. Mae hyn ond yn berthnasol i’r gweithgarwch o ladd anifail sydd fel arall yn iach, lle mae’r ddamwain/anaf wedi golygu nad oes modd ei gludo i’r lladd-dy am resymau lles. O dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r fath anifeiliaid fod yn destun arolygiad ante mortem ac ardystiad gan Filfeddyg Swyddogol (OV). Yna, byddai’r carcas yn destun archwiliad milfeddygol pellach ganOVac yn destun gweithdrefnau arolygu ffurfiol gan yrASBcyn cael marc iechyd, os yw’n addas i’w fwyta gan bobl. Yn wahanol i gig o anifeiliaid a gaiff eu lladd gartref, gall cig o anifeiliaid sy’n cael eu lladd yn unol â’r gweithdrefnau brys gael ei roi ar y farchnad i’w werthu i’w fwyta gan bobl.
Dylid nodi bod lladd gartref yn debygol o beri mwy o risg i iechyd y cyhoedd na lladd sy’n digwydd mewn safle cymeradwy lle cig yn destun gweithdrefnau arolygu ffurfiol i wirio ei fod yn addas i’w fwyta gan bobl. Mae gwefan yrASByn cynnwys sydd wedi’u cymeradwyo i drin, paratoi neu gynhyrchu cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, ac mae hyn yn cynnwys lleoliadau lladd-dai cymeradwy. Gall perchnogion da byw hefyd ddod o hyd i’r manylion ynAtodiad A.
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i bob perchennog da byw gadw cofnodion priodol o ran adnabod a symud eu hanifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod gwartheg, defaid, geifr, moch a cheirw sy’n cael eu lladd gartref yn cael eu cofnodi mewn cofrestrau fferm a bod hysbysiad yn cael ei roi yn y ffordd arferol i’r asiantaeth briodol, fel Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain (BCMS),neu EID Cymru ar gyfer defaid a geifr, a’rmewn perthynas â moch. Gweler rhagor o wybodaeth am gadw cofnodion da byw yngaLloegr. Os canfyddir nad oes cofnodion priodol wedi’u cadw, bydd camau gorfodi yn cael eu cymryd yn ôl yr angen.
Cynulleidfa darged
Perchenogion da byw[troednodyn 1] sy’n ystyried lladd gartref ar eu fferm[troednodyn 2]i’w bwyta ganddynt yn bersonol neu gan aelodau o’r teulu agos sy’n byw yno.
Deiliaid trwyddedWATOKi ladd anifeiliaid, neuCoCa gyhoeddwyd gan yr awdurdod cymwys perthnasol, sy’n lladd gartref o dan gyfrifoldeb a goruchwyliaeth perchennog y da byw ar y fferm at ddefnydd personol y perchennog neu aelodau uniongyrchol o’i deulu sy’n byw yno.
Awdurdodau rheoleiddio a gorfodi sy’n gyfrifol am orfodi lles anifeiliaid, hylendid bwyd, y Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSEs) a’r Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (ABP) ar ffermydd.
Diben y canllawiau
Rhoi cyngor ar yr amodau y mae’n rhaid eu bodloni er mwyn gallu lladd da byw gartref yn gyfreithlon.
Diogelu’r gadwyn fwyd a bwyd anifeiliaid a lleihau unrhyw risgiau posib i iechyd a lles pobl ac anifeiliaid.
Statws cyfreithiol y canllawiau
Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’rUEbellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Gwnaeth deddfwriaeth yrUEa gafodd ei dargadw wrth i’r DU ymadael â’rUEdroi’n gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’rASBsydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr, ac yn gyfraith yrUEsy’n uniongyrchol gymwys lle y bo hynny’n gymwys i Ogledd Iwerddon. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yrUEa Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.
Datblygwyd y nodiadau canllaw hyn i roi:
- Canllawiau arferion gorau
- Canllawiau ar ofynion cyfreithiol
sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd
ar hylendid bwydydd
sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n dod o anifeiliaid (fel y’i diwygiwyd)
(fel y’i diwygiwyd) sy’n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSEs) mewn anifeiliaid
sy’n gosod rheolau iechyd mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir i bobl eu bwyta
sy’n gosod y rheolau ar gyfer cynnal rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill gan yr awdurdodau cymwys
ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd
(fel y’u diwygiwyd)
(fel y’u diwygiwyd)
(fel y’u diwygiwyd)
(fel y’u diwygiwyd)
Ni all y nodiadau canllaw hyn ar y gofynion cyfreithiol drin a thrafod pob sefyllfa, ac efallai y bydd angen i chi ystyried y ddeddfwriaeth berthnasol i weld sut y mae’n berthnasol i’ch amgylchiadau chi. Efallai y bydd ceidwaid da byw neu fusnesau sydd ag ymholiadau penodol yn dymuno ceisio cyngor eu hasiantaeth orfodi leol. Fel arfer, dyma fydd adran Safonau Masnach/Iechyd yr Amgylchedd yr awdurdod lleol lle mae’r fferm. Gweler yr wybodaeth ama. Bydd dilyn y nodiadau canllaw hyn yn eich helpu i gydymffurfio â’r gyfraith.
Nid yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi ddilyn canllawiau arferion gorau, ond fe’ch anogir i gymryd y camau a argymhellir. Nodir yr holl ganllawiau ar arferion gorau mewn blychau wedi’u lliwio, gyda’r pennawd Arferion Gorau:
Arferion gorau
Ѳ’r holl ganllawiau arferion gorau wedi’u nodi’n glir yn y ddogfen hon yn y fformat hwn.
3. Rheoliadau hylendid bwyd
Ѳ (o hyn ymlaen y Rheoliad Hylendid Bwyd) yn nodi, yn y rhan fwyaf o achosion, fod yn rhaid i gig a fwriedir i’w fwyta gan bobl ddod o anifeiliaid a gaiff eu lladd mewn lladd-dy cymeradwy. Ѳ’r fath ddulliau lladd, ymhlith pethau eraill, yn destun arolygiad a dilysiad gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).
Mae cyfreithlondeb lladd y tu allan i safle cymeradwy yn dibynnu a yw’n fwriad i’r carcas neu gig o’r carcas gael ei “roi ar y farchnad”. Ѳ yn diffinio “rhoi ar y farchnad” fel “the holding of food or feed for the purpose of sale, including offering for sale or any other form of transfer, whether free of charge or not, and the sale, distribution and other forms of transfer themselves”. (Sylwer nad yw’r dyfyniad hwn ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth ydyw na chafodd ei gwneud yn Gymraeg.) Er enghraifft, mae cyflenwi carcas yn ôl i’r perchennog gan ladd-dy cymeradwy yn gyfystyr â rhoi cig ar y farchnad o dan y diffiniad hwn oherwydd:
- caiff bwyd ei gyflenwi wrth gynnal y busnes; a
- caiff cig ei gyflenwi gan fod y cynnyrch sy’n cael ei ddychwelyd ar ôl y lladd (hynny yw, y carcas wedi’i drin neu’r cig) yn hollol wahanol i’r hyn a ddosbarthwyd i’r lladd-dy (yr anifail byw).
Felly, er mwyn sicrhau bod lladd gartref yn gyfreithlon ac wedi’i eithrio rhag y Rheoliad Hylendid Bwyd, rhaid i’r perchennog gyflenwi aelodau o’i deulu agos sy’n rhannu’r un cartref yn unig. Ni ellir symud carcasau na rhannau o garcasau da byw sy’n cael eu lladd gartref i safle arall i’w prosesu, oni bai eu bod yn cael eu gwaredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Mae’n anghyfreithlon o dan,, a i’r perchennog gyflenwi eraill, er enghraifft, ffrindiau neu deulu nad ydynt yn byw yn yr un cartref, neu os yw’r cig yn cael ei werthu trwy siop ar y fferm neu mewn marchnadoedd ffermwyr.
Mae cig o anifeiliaid a gaiff ei ladd gartref a’i roi ar y farchnad yn anghyfreithlon, ac felly gellir ei atafaelu a’i ddinistrio. Gall swyddogion awdurdodau lleol ardystio nad yw cig wedi’i gynhyrchu, ei brosesu na’i ddosbarthu yn unol â’r Rheoliadau hynny a nodwyd uchod. Byddai cig o’r fath yn cael ei drin wedyn fel cig nad yw’n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd o dan. Gellid cael gorchymyn i’w gondemnio gan Lys Ynadon. Wrth gyflawni’r rôl orfodi hon, efallai y bydd angen i awdurdodau lleol gysylltu â’rASByn achlysurol. Mae rhestr o bwyntiau cyswllt yn Atodiad A
4. Rheoliadau enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy
Y gofynion cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer lladd da byw gartref o dan y Rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy.
Ѳ’r rheoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) yn gymwys lle bynnag y caiff anifail sy’n agored iTSEei ladd.Mae hyn yn cynnwys lladd gartref.
Grŵp o glefydau dirywiol angheuol yr ymennydd ywTSEs, sy’n effeithio ar anifeiliaid a phobl fel ei gilydd. Maent yn cael eu hachosi gan brionau, sef ffurfiau annormal o broteinau sy’n gallu sbarduno clefyd. Mewn gwartheg, cyfeirir atTSEfel enseffalopathi sbyngffurf buchol (BSE), neu ‘glwy’r gwartheg cynddeiriog’, ac mewn defaid a geifr, cyfeirir ato fel clefyd y crafu (neu ‘scrapie’ yn Saesneg). Mae Deunydd Risg Penodedig (SRM) yn cyfeirio at y rhannau o wartheg, defaid a geifr sydd fwyaf tebygol o gario heintusrwydd os yw’r anifail wedi’i heintio âTSE. Mae’n hanfodol bodSRMyn cael ei dynnu o gadwyni bwyd pobl ac anifeiliaid a’i ddinistrio i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid.
Ar ôl lladd gwartheg, defaid neu eifr, rhaid tynnu, staenio a chael gwared ar yrSRMyn unol â (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel y RheoliadTSE) a ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel y RheoliadABP).
Mae rhestr lawn oSRM, ynghyd â’r gofynion staenio, ynAtodiad C.
Rhaid cael gwared arSRMmewn ffatri rendro neu losgi categori 1 cymeradwy, a gellir gweld manylion y rhain ar y dudalenFfatrïoedd gweithredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid: safleoedd cymeradwy ac ynAtodiad A.
Yn ogystal â chael gwared arSRM, rhaid i’r gwartheg canlynol brofi’n negyddol amBSEo hyd cyn bwyta’r cig:
- gwartheg iach dros 30 mis oed, a gaiff eu lladd i’w bwyta gan bobl, a aned yn Rwmania, Bwlgaria a phob gwlad y tu allan i’rUE
- gwartheg dros 48 mis oed a gaiff eu lladd mewn argyfwng (hynny yw, anifail sydd fel arall yn iach sydd wedi cael damwain/anaf sy’n ei rwystro rhag cael ei gludo i’r lladd-dy)
- gwartheg dros 24 mis oed a gaiff eu lladd mewn argyfwng a aned yn Rwmania, Bwlgaria a phob gwlad arall y tu allan i’rUE
- gwartheg o bob oed sy’n dangos arwyddion oBSE. Rhaid rhoi gwybod am y gwartheg hyn hefyd gan fodBSEyn glefyd hysbysadwy
Os oes angen prawfBSEar yr anifail sydd i’w ladd, dylech gysylltu â safle sampluBSEcymeradwy i wneud y trefniadau profi. Mae rhagor o wybodaeth sy’n manylu ar yr holl safleoedd sampluBSEcymeradwy ar gael arwefan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Dim ond os yw’r prawfBSEyn negyddol y dylid bwyta cig o’r anifail. Os yw’r prawf yn bositif, rhaid cael gwared ar y carcas a phob rhan o’r corff fel sgil-gynnyrch anifeiliaid categori 1 (SRM). Rhestrir y manylion cyswllt perthnasol er mwyn cael cyngor ar brofionBSEa gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn Atodiad A.
Ѳ’r rheoliadauTSEdomestig yn caniatáu i awdurdodau lleol benodi arolygwyr i orfodi’r ddeddfwriaeth a rhoi pwerau i arolygwyr fynd i mewn i safleoedd, atafaelu unrhyw garcas neu ran o garcas a chael gwared arno yn ôl yr angen.[troednodyn 3] Fel arall, gall arolygwr gyflwyno hysbysiad i’r perchennog sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gael gwared arno.
5. Rheoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid
Y gofynion cyfreithiol a chanllawiau ar gyfer lladd da byw gartref o dan y Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid.
Os ydych chi’n lladd anifeiliaid gartref, ystyrir bod unrhyw rannau o’r carcas nad ydych chi’n eu bwyta yn sgil-gynhyrchion anifeiliaid o dan y, a rhaid eu trin yn unol â hynny er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd ac anifeiliaid.
Mae sgil-gynhyrchion anifeiliaid yn gyrff cyfan, yn rhannau o anifail, yn gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu’n gynhyrchion eraill o anifail nad yw’n fwriad iddynt gael eu bwyta gan bobl.
Mae deunydd yn troi’n sgil-gynnyrch anifeiliaid pan fydd naill ai’n anaddas i’w fwyta gan bobl, neu pan gymerir penderfyniad nad yw’r deunydd wedi’i fwriadu i’w fwyta, hyd yn oed os yw’n addas i’w fwyta. Ar ôl ei ddosbarthu’n sgil-gynnyrch anifeiliaid, ni ellir ei ddefnyddio’n ddiweddarach fel bwyd.
Ѳ’r RheoliadABPyn gosod sgil-gynhyrchion anifeiliaid mewn 3 chategori yn seiliedig ar risg.[troednodyn 4]Bydd gwastraff sy’n cronni yn sgil lladd gartref, gan gynnwys crwyn wedi’u trin a chroen, carnau, plu, gwlân, cyrn a gwallt, yn dod o dan gategori 3 os nad yw’r deunyddiau hynny’n dangos arwyddion o glefyd y gellir ei drosglwyddo drwy’r deunydd hwnnw i bobl neu anifeiliaid.[troednodyn 5] Mae gwastraff arall sy’n cronni yn sgil lladd gartref yn dod o dan gategori 1 er enghraifft, os yw’n cynnwys deunydd risg penodedig (SRM), neu gategori 2. Ѳ’r categorïau hyn yn pennu sut y mae’n rhaid trin a chael gwared ar ddeunydd. Cyfeiriwch at yam ragor o wybodaeth am gael gwared ar sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Rhaid cael gwared ar bob sgil-gynnyrch anifeiliaid yn unol â’r RheoliadABP. Fel arfer, mae hyn yn golygu anfon y deunydd gwastraff i gyfleusterau cymeradwy neu gofrestredig i’w rendro neu ei losgi. Mae rhestr o safleoedd cymeradwy ar gael ar y dudalenFfatrïoedd gweithredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid: safleoedd cymeradwy. Gall yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) neu’ch awdurdod lleol (neu, mewn rhai achosion, adran Iechyd yr Amgylchedd) gynghori ar opsiynau gwaredu.
Yr awdurdod lleol perthnasol ar gyfer yr ardal lle mae’r fferm wedi’i lleoli sy’n gyfrifol am orfodi’r gofynion o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid ar ffermydd. Mae gan swyddogion awdurdodedig bwerau i fynd i mewn i safleoedd a’u harolygu, yn ogystal â chyhoeddi hysbysiadau lle bo angen. Gall y rhain gynnwys, er enghraifft:
- mynnu bod sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliadol yn cael eu gwaredu
- mynnu bod y safle’n cael ei lanhau a’i ddiheintio, gan gynnwys nodi’r dull lle bo’n berthnasol
- gwahardd symud sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion deilliadol i’r safle neu oddi yno
Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar gategoreiddio, trin a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid. Os ydych chi yng Nghymru, ewch i dudalen, ac os ydych chi yn Lloegr, gweler tudalenǸԹ ynghylch categorïau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cymeradwyo safleoedd, hylendid a gwaredu.
6. Rheoliadau lles anifeiliaid
Mae deddfwriaeth ar waith i ddiogelu lles anifeiliaid anwes wrth eu lladd.[troednodyn 6] Rhaid lladd yn unol â gofynion ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd (o hyn ymlaen y RheoliadPATOK),a(y cyfeirir atynt o hyn ymlaen fel y RheoliadauWATOK).
O dan y RheoliadauPATOKaWATOK, pan gaiff anifeiliaid eu lladd, rhaid iddynt gael eu harbed rhag unrhyw boen, trallod neu ddioddefaint y gellir eu hosgoi yn ystod y broses. Dim ond ar ôl eu stynio, yn unol â’r gofynion a nodir yn ac Atodlen 2 i’r RheoliadauWATOK, y caniateir lladd anifeiliaid gartref. Rhaid sicrhau bod y diffyg ymwybyddiaeth a synwyrusrwydd yn para hyd at farwolaeth yr anifail. Dim ond mewn lladd-dai cymeradwy y caniateir lladd anifeiliaid heb eu stynio ymlaen llaw, trwy ddulliau a ragnodir gan ddefodau crefyddol, a hynny’n unol ag Atodlen 3 i’r RheoliadauWATOK.
O dan y RheoliadPATOK, maeyn nodi “killing and related operations shall only be carried out by persons with the appropriate level of competence to do so without causing the animals any avoidable pain, distress or suffering”. (Sylwer nad yw’r dyfyniad hwn ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth ydyw na chafodd ei gwneud yn Gymraeg.)
Ѳ’r Gymdeithas Lladd heb Boen (HSA) yn cyhoeddi canllawiau ac yn darparu hyfforddiant ar gyfer lladd da byw ar y fferm, ac mae hefyd yn darparu gwybodaeth fanwl am ddeddfwriaeth ac arferion gorau i berchnogion da byw ar ladd heb greulondeb. Mae nifer o adnoddau ar gael ar.
Y tu allan i safleoedd cymeradwy (er enghraifft, wrth ladd gartref), mae’r yn cael ei orfodi gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gyda chefnogaeth yr awdurdod lleol. Gall awdurdod lleol benodi arolygwyr at ddiben gorfodi’r RheoliadPATOKa’r RheoliadauWATOKmewn sefydliadau heblaw lladd-dai. Gall arolygydd, ar ôl rhoi rhybudd rhesymol (nid oes angen hyn bob amser), fynd i mewn i unrhyw safle ar awr resymol at ddibenion gweithredu neu orfodi’r Rheoliadau. Yn y cyd-destun hwn, mae “safle” yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, sied, corlan, cynhwysydd neu gerbyd o unrhyw ddisgrifiad.
Gellir ymchwilio i unrhyw dystiolaeth o fethu â chydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol, fel y manylir yn y canllawiau hyn, a chymryd camau gorfodi priodol. Os oes unrhyw amheuaeth na ellir bodloni’r amodau lles gofynnol er mwyn gallu lladd da byw gartref yn gyfreithlon, rhaid lladd yr anifail/anifeiliaid mewn lladd-dy cymeradwy lle gall cig fod yn destun gweithdrefnau arolygu ffurfiol i wirio ei fod yn addas i’w fwyta gan bobl. Mae manylion lleoliadau lladd-dai cymeradwy i’w cael ar y dudalen, ac ynAtodiad A.
7. Enghreifftiau ymarferol
Enghreifftiau ymarferol sy’n dangos dulliau cywir ac anghywir o gymhwyso’r gofynion cyfreithiol ar gyfer lladd gartref.
Ѳ’r enghreifftiau canlynol yn dangos y canlyniadau wrth gymhwyso’r gofynion cyfreithiol yn ymarferol.
Y perchennog yn lladd ei dda byw gartref i’w bwyta ei hun a/neu gan ei deulu agos sy’n byw yn yr un cartref: Cyfreithlon
Gan nad yw perchennog y da byw, yn yr amgylchiadau hyn, yn gweithredu fel gweithredwr busnes bwyd, nid yw’r Rheoliad Hylendid Bwyd yn gymwys. Fodd bynnag, mae lladd gartref yn dod o fewn cwmpas y Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (WATOK), Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE) a Sgil-gynhyrchion anifeiliaid (ABP). Felly, rhaid lladd anifeiliaid heb greulondeb a rhaid i’r deunydd risg penodedig (SRM) gael ei dynnu, ei staenio a’i waredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid categori 1. Rhaid i wartheg sydd angen prawfBSEgael canlyniad negyddol cyn y gellir bwyta’r cig. Ni ellir symud carcasau na rhannau o garcasau da byw sy’n cael eu lladd gartref i safle arall i’w prosesu, oni bai eu bod yn cael eu gwaredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Arferion gorau
Yr arfer orau yw rhoi gwybod ymlaen llaw i’r Tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid yn yr awdurdod lleol lle mae’r fferm wedi’i lleoli am unrhyw ladd sy’n digwydd gartref. Os nad yw hyn yn bosib, y cyngor yw y dylid rhoi gwybod cyn pen 5 diwrnod ar ôl lladd yr anifail. Ѳac ynAtodiad A.
Lladd a pharatoi’r anifail ar y fferm gan laddwr trwyddedig: Cyfreithlon
Os nad ydych chi’n barod i gyflawni’r broses ladd eich hun, gallwch gyflogi lladdwr trwyddedig i ladd a pharatoi’r anifail/anifeiliaid ar y fferm sydd o dan eich cyfrifoldeb a’ch goruchwyliaeth chi. Rhaid i’r lladdwr feddu ar Dystysgrif Cymhwysedd neu drwyddedWATOKar gyfer y gweithgareddau perthnasol sy’n dangos bod ganddo’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n angenrheidiol i gyflawni’r tasgau’n drugarog ac yn effeithlon. Dylai unrhyw laddwr trwyddedig allu cyflwyno tystiolaeth o’i drwydded. Fodd bynnag, os oes angen, gellir gwirio Tystysgrif Cymhwysedd neu drwyddedWATOKlladdwr trwy anfon e-bost atWATOK@food.gov.ukgyda manylion yr unigolyn, gan gynnwys dyddiad geni a chyfeiriad os yw’n bosib. Ni ellir symud carcasau na rhannau o garcasau da byw sy’n cael eu lladd gartref i safle arall i’w prosesu, oni bai eu bod yn cael eu gwaredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Dim ond y perchennog a/neu deulu agos sy’n byw ar yr un aelwyd sy’n gallu bwyta cig o anifail a laddwyd gartref. Ni chaniateir gwerthu na rhoi cig o anifail a laddwyd gartref fel rhodd.
Arferion gorau
Yr arfer orau yw rhoi gwybod ymlaen llaw i’r Tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid yn yr awdurdod lleol lle mae’r fferm wedi’i lleoli am unrhyw ladd sy’n digwydd gartref. Os nad yw hyn yn bosib, y cyngor yw y dylid rhoi gwybod cyn pen 5 diwrnod ar ôl lladd yr anifail. Ѳac ynAtodiad A.
Ѳ’r ASB yn cynghori perchennog y da byw a’r lladdwr sy’n ymgymryd â’r lladd (ar ran y perchennog) i gadw cofnod sy’n dangos pryd y defnyddir gwasanaethau’r lladdwr.
Y ffermwr yn lladd ei dda byw gartref i’w bwyta gan westeion yn ei fusnes gwely a brecwast: Anghyfreithlon
Byddai perchennog y da byw yn cyflenwi’r cig wrth gynnal busnes, hynny yw, yn lladd ei anifail gyda’r bwriad o’i gyflenwi i’r gwesteion sy’n aros ym musnes gwely a brecwast y fferm. Rhaid i gig a roddir i westeion gwely a brecwast ddod o anifeiliaid a laddwyd mewn lladd-dy cymeradwy. Gall perchnogion da byw ddod o hyd i leoliadau lladd-dai cymeradwy ar y dudalen, ac ynAtodiad A.
Lladd da byw ar safle rhywun arall nad yw wedi’i gymeradwyo:Anghyfreithlon
Mae’n anghyfreithlon lladd yr anifail unrhyw le arall i ffwrdd o’ch eiddo ac eithrio mewn lladd-dy cymeradwy, a bydd hyn yn cael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
Lladd da byw yn breifat mewn lladd-dy cymeradwy: Cyfreithlon
Cyfeiriwch at baragraff 2 am ystyr “lladd preifat”. Gall perchnogion da byw ddod o hyd i leoliadau lladd-dai cymeradwy ar y dudalen, ac yn Atodiad A.
Cyfeiriadau
- Mae rhestr o fanylion cyswllt defnyddiol a dolenni cysylltiedig i’w gweld ynAtodiad A.
- Mae crynodeb o gwestiynau ac atebion ynghylch lladd gartref ar gyfer ffermwyr/ceidwaid i’w weld ynAtodiad B.
- Mae diffiniad o ddeunydd risg penodedig (SRM) i’w weld yn Atodiad C.
Adolygiad
Ein nod yw cadw’r holl ganllawiau yn gyfredol a chynnal adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod canllawiau’n parhau i fod yn berthnasol. Y dyddiad adolygu nesaf sydd wedi’i drefnu ar gyfer y canllawiau hyn yw mis Mehefin 2027.
Cysylltu â ni
Rydym yn croesawu eich adborth ar y canllawiau hyn, gan gynnwys adroddiadau am unrhyw ddolenni sydd wedi torri neu gynnwys sydd wedi dyddio. Byddwn yn ystyried yr holl adborth yn yr adolygiad arfaethedig nesaf o’r canllawiau. Anfonwch unrhyw adborth atmeathygiene@food.gov.uk.
8. Atodiadau
8.1 Atodiad A: manylion cyswllt a dolenni defnyddiol
Cysylltiadau
- Food.Policy.Wales@food.gov.uk
- meathygiene@food.gov.uk
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) (Lloegr)
- Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
Dolenni
- , gan gynnwys lladd-dai
- Sut i sylwi ar BSE ac adroddamdano
- Safleoedd cymeradwy ar gyfer gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid,gan gynnwys deunydd risg penodedig (SRM)
- Safleoedd sydd wedi’u cymeradwyo i gynnal profion enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy (TSE)
8.2 Atodiad B: Crynodeb o gwestiynau ac atebion ynghylch lladd gartref ar gyfer ffermwyr/ceidwaid
C1. Does dim pasbort gwartheg gen i ar gyfer fy anifail, ac mae wedi’i gyfyngu i’m daliad. A allaf ei ladd gartref?
Gallwch. Yn ddarostyngedig i’r rheolau arferol ar gyfer lladd gartref, nid yw yn gwahardd perchnogion da byw rhag lladd eu gwartheg ar y fferm i’w bwyta eu hunain, ar eu menter eu hunain, hyd yn oed os ydynt wedi’u cyfyngu oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â rheolau adnabod, cofrestru a symud.
C2. A allaf fwyta unrhyw gig o’m hanifeiliaid fy hun?
Gallwch, ond rhaid i chi sicrhau bod eich anifail yn cael ei ladd a’i baratoi’n gyfreithlon (gweler isod). Rhaid i’r holl ddeunydd risg penodedig (SRM) gael ei dynnu, ei staenio a’i waredu fel sgil-gynnyrch anifeiliaid Categori 1, ac ni ddylid ei fwyta. Gellir gweld diffiniad o Ddeunydd Risg Penodedig yn Atodiad C.
C3. Sut y dylwn ladd fy anifeiliaid fy hun i’w bwyta gen i?
Mae dwy ffordd gyfreithlon o ladd a pharatoi eich anifeiliaid i’w bwyta gennych chi, sef:
(a) mewn lladd-dy cymeradwy; neu(b) ar eich fferm, gennych chi neu laddwr trwyddedig (neu ddeiliad trwydded Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd neu ddeiliad Tystysgrif Cymhwysedd) o dan eich cyfrifoldeb a’ch goruchwyliaeth. Ym mhob achos, byddai’n anghyfreithlon cyflogi unrhyw un heblaw lladdwr trwyddedig i ladd yr anifail ar eich safle. Byddai hefyd yn anghyfreithlon lladd yr anifail unrhyw le arall i ffwrdd o’ch eiddo, ac eithrio mewn lladd-dy cymeradwy.
Ni ellir symud carcasau na rhannau o garcasau da byw sy’n cael eu lladd gartref i safle arall i’w prosesu, oni bai eu bod yn cael eu gwaredu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
Ѳ’rASByn cynghori bod lladd gartref (opsiwn b) yn debygol o beri mwy o risg i iechyd y cyhoedd na lladd sy’n digwydd mewn safle cymeradwy (opsiwn a) lle gall cig fod yn destun gweithdrefnau arolygu ffurfiol i wirio eu bod yn addas i’w bwyta gan bobl. Gall perchnogion da byw ddod o hyd i leoliadau lladd-dai cymeradwy ar y dudalen, ac yn Atodiad A.
Arferion gorau
Yr arfer orau yw rhoi gwybod ymlaen llaw i’r Tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid yn yr awdurdod lleol lle mae’r fferm wedi’i lleoli am unrhyw ladd sy’n digwydd gartref. Os nad yw hyn yn bosib, y cyngor yw y dylid rhoi gwybod cyn pen 5 diwrnod ar ôl lladd yr anifail. Mae manylion cyswllt eich awdurdod lleol i’w cael ar y dudalenac yn Atodiad A.
C4. Beth ddylwn i ei wneud gyda’r deunydd gwastraff?
Os byddwch chi’n lladd anifail gartref, byddai unrhyw ran o’r carcas nad ydych chi’n ei fwyta yn cael ei dosbarthu fel sgil-gynhyrchion anifeiliaid o dan. Byddai’n rhaid cael gwared ar y deunydd gwastraff yn unol â’r Rheoliad, er enghraifft, trwy drefnu i’r deunydd gael ei rendro neu ei losgi mewn cyfleuster cymeradwy a chadw cofnodion priodol o hyn. GallAPHAneu awdurdodau lleol (neu, mewn rhai achosion, adrannau Iechyd yr Amgylchedd) roi cyngor ar yr opsiynau a fyddai ar gael i chi. Rhaid i ddeunydd risg penodedig gael ei dynnu o wartheg, defaid a geifr, ac ni ddylid ei fwyta. Rhaid i ddeunydd risg penodedig gael ei staenio a’i waredu fel sgil-gynnyrch anifeiliaid categori 1. Mae rhagor o wybodaeth, sy’n berthnasol i Gymru a Lloegr, ar gael ar wefanAPHAar y dudalen ynghylchcategorïau sgil-gynhyrchion anifeiliaid, cymeradwyo safleoedd, hylendid a gwaredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid.
C5. A allaf werthu cig fy anifeiliaid fy hun?
Dim ond os cafodd yr anifail ei ladd mewn lladd-dy cymeradwy y byddai’n gyfreithlon i chi roi’r cig ar y farchnad. Er enghraifft, drwy ei werthu yn eich siop fferm neu ei gynnig i westeion eich busnes gwely a brecwast. Gall perchnogion da byw weld lle mae’r lladd-dai cymeradwy ar y dudalen, ac yn Atodiad A.
C6. A yw’r cyfyngiad ar gyflenwi cig a laddwyd gartref yn gymwys i bartneriaethau neu gyd-berchnogion?
Ydy, oni bai bod y partner neu’r cyd-berchnogion yn aelodau o’r teulu sy’n byw fel rhan o’r un aelwyd. Mae’n annhebygol y byddai llys yn penderfynu bod cyflenwi cig a geir yn sgil lladd gartref yn gyfreithlon oherwydd ei fod wedi cael ei gyflenwi o fewn partneriaeth neu i gyd-berchennog.
C7. Beth am reolaethauTSEar gyfer moch, dofednod, anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio neu gwningod sy’n cael eu lladd gartref?
Nid yw’r RheoliadauTSEyn gymwys i foch, dofednod, anifeiliaid hela sy’n cael eu ffermio na chwningod.
C8. Sut y gallaf drefnu bod prawfBSEyn cael ei gynnal ar fy ngwartheg sy’n cael eu lladd gartref?
Dylech gysylltu â safle sampluBSEcymeradwy i wneud y trefniadau ar gyfer profi. Mae rhagor o wybodaeth sy’n manylu ar yr holl safleoedd sampluBSEcymeradwy ar gael arwefan APHA.
C9. A all lladd-dy cymeradwy ladd anifail yn breifat ar fy rhan?
Gall, ar yr amod bod yr anifail yn cael ei ladd mewn lladd-dy cymeradwy. Wrth ladd anifail yn breifat, byddai’n rhaid dilyn yr un rheolau a gweithdrefnau â’r rheiny ar gyfer lladd anifail yn gonfensiynol (masnachol). Gall perchnogion da byw weld lle mae’r lladd-dai cymeradwy ar y dudalen, ac yn Atodiad A.
C10. A allaf drefnu bod anifail yn cael ei ladd yn breifat mewn man heblaw lladd-dy cymeradwy?
Gallwch, ond dim ond ar eich safle chi o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Gennych chi neu, os nad ydych yn barod i gyflawni’r lladd eich hun, laddwr trwyddedigWATOKneu rywun sydd â Thystysgrif Cymhwysedd o dan eich cyfrifoldeb a’ch goruchwyliaeth ar y fferm at eich defnydd personol eich hun (gweler C3 uchod).
- Os bydd anifail yn cael damwain/anaf sy’n ei atal rhag cael ei symud i’r lladd-dy am resymau lles, gellir ei ladd ar y fferm o dan ddarpariaethau lladd mewn argyfwng, gyda’r cig wedyn yn cael ei ddychwelyd atoch chi. Fodd bynnag, o dan yr amgylchiadau hyn, rhaid i’r fath anifeiliaid fod yn destun archwiliad milfeddygol ac ardystiad ar y fferm cyn y gellir eu lladd a’u cludo i ladd-dy cymeradwy lle byddai’r carcas yn destun gweithdrefnau arolygu ffurfiol i wirio ei fod yn addas i’w fwyta gan bobl. Os ystyrir bod y cig yn addas i’w fwyta gan bobl, gellir ei ddefnyddio at eich defnydd eich hun a gellir ei roi ar y farchnad hefyd.
- Fodd bynnag, mae eithriad sy’n caniatáu i chi ladd ar eich daliad niferoedd bach o ddofednod neu lagomorffiaid (cwningod) sydd wedi’u magu yno a rhoi eu cig ar y farchnad i’w bwyta gan bobl, yn dibynnu ar rai amodau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Atodiad B, paragraff B o:.
8.3 Atodiad C: Diffiniad o ddeunydd risg penodedig (SRM)
Gwartheg
- O dan 12 mis oed:dimSRM
- Dros 12 mis oed:y penglog heb gynnwys y mandibl ond yn cynnwys yr ymennydd a’r llygaid, a madruddyn y cefn (‘spinal cord’)
Defaid a geifr
- O dan 12 mis oed:dimSRM
- Dros 12 mis oed (neu flaenddant parhaol gweladwy neu dros 12 mis oed fel yr amcangyfrifir gan ddull a gymeradwywyd gan yrASB):penglog (gan gynnwys yr ymennydd a’r llygaid a madruddyn y cefn, ond heb gynnwys ycyrn), amadruddyn y cefn
Gofynion staenio ar gyferSRM
Mae staenio’n cynnwys trin y deunydd (boed drwy drochi, chwistrellu neu ddull arall) â chyfrwng lliwio gan ddefnyddio toddiant o’r fath gryfder fel bod y staenio i’w weld yn glir.
Rhaid defnyddio’r staen mewn modd sy’n sicrhau bod y lliw yn parhau’n weladwy:
- dros yr holl arwyneb sydd wedi’i dorri a’r rhan fwyaf o’r pen yn achos pen dafad neu afr, neu
- yn achos pob math arall o ddeunydd risg penodedig, dros arwyneb cyfan y deunydd
-
Ni fwriedir i’r canllawiau hyn gwmpasu pob rhywogaeth da byw, ond maent yn cwmpasu’r rhywogaethau hynny yr ydym yn cael y mwyafrif o ymholiadau yn eu cylch. Maent yn arbennig o berthnasol i wartheg, defaid a geifr lle mae rheolaethau TSE yn berthnasol.↩
-
At ddibenion y canllawiau hyn, diffinnir ‘fferm’ fel unrhyw safle lle cedwir da byw.↩
-
/(fel y’u diwygiwyd)↩
-
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i.↩