°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Guidance

Cadw Prydain i Weithio: Cylch gorchwyl [Tynnwyd yn ôl]

Updated 8 May 2025

This guidance was withdrawn on

This Terms of Reference page has been withdrawn as the phase of Keep Britain Working is relates to is now complete. We have published new Terms of Reference to coincide with the Vanguard phase of Keep Britain Working.

Cadw Prydain i Weithio: Adolygiad Annibynnol o Rôl Cyflogwyr o ran Iechyd ac Anabledd

Crynodeb

Mae gwrthdroi’r cynnydd o ran anweithgarwch economaidd sy’n gysylltiedig â salwch ac anabledd yn flaenoriaeth genedlaethol. Mae dros draean o’r holl bobl oedran gweithio (16-64 oed) yn nodi bod ganddynt gyflwr iechyd hirdymor ac mae tua chwarter yn cael eu hystyried yn anabl. Mae pobl anabl bron i deirgwaith yn fwy tebygol na phobl nad ydynt yn anabl o fod yn economaidd anweithgar.

Mae hyn yn arwain at effeithiau niweidiol sylweddol i’r bobl yr effeithir arnynt, i fusnesau, ac i’r economi, gan gynnwys cyllid cyhoeddus.

Mae iechyd gwael yn effeithio ar unigolion, gan gyfyngu ar eu cyfleoedd bywyd ac o ran ffyniant. Mae tystiolaeth yn awgrymu po hiraf y bydd rhywun i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch, yr anoddaf yw iddynt ddychwelyd i’r gwaith. Mae hefyd yn gosod cost fawr ar gyflogwyr, gan gynnwys colledion o ran perfformiad; costau oherwydd absenoldeb; colledion o ran profiad gwerthfawr; a chostau uwch o ran recriwtio. I’r Llywodraeth, mae anweithgarwch economaidd oherwydd iechyd gwael yn cyfyngu ar botensial twf yn yr economi ac mae’n ffactor pwysig sy’n cyfrannu at y cynnydd o ran taliadau lles.

Mae’n annhebygol y bydd y Llywodraeth neu gyflogwyr yn gweithredu ar eu pennau eu hunain yn llwyddo i fynd i’r afael â’r mater hwn yn llwyddiannus. Yn hytrach, mae gan gyflogwyr rôl allweddol i’w chwarae wrth greu gweithleoedd cynhwysol sy’n diogelu iechyd ac yn cefnogi cadwac adsefydlu i weithwyr, gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau a chyflyrau iechyd, ac mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb i annog, hyrwyddo a chefnogi arferion effeithiol.

Mae’r Llywodraeth yn awyddus i archwilio ymhellach pa rôl y gallai cyflogwyr a’r llywodraeth ei chwarae o ran atal mwy o bobl rhag mynd allan o waith ac wrth greu llwybrau newydd yn ôl i’r gwaith.

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes a Masnach wedi comisiynu adolygiad annibynnol anstatudol i rôl cyflogwyr a Llywodraeth y DU wrth fynd i’r afael ag anweithgarwch sy’n gysylltiedig ag iechyd a chreu a chynnal gweithleoedd iach a chynhwysol. Bydd yn canolbwyntio’n benodol ar gydweithio i ddeall yr hyn y gall cyflogwyr a’r Llywodraeth ei wneud i gynyddu recriwtio, cadw a dychwelyd i waith pobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, er mwyn sicrhau bod ganddynt y sgiliau i ffynnu yn y gwaith a darganfod sut mae hynny’n cael ei ddatgloi a’i gefnogi orau.

Mae’r adolygiad hwn yn cyd-fynd â’r camau yr ydym eisoes yn eu cymryd ar draws y Llywodraeth fel rhan o’r Cynllun Gwneud i Waith Dalu a fydd yn helpu mwy o bobl i aros mewn gwaith, gwella diogelwch swyddi a hybu safonau byw.

Mae’r Ysgrifenyddion Gwladol wedi penodi Syr Charlie Mayfield i arwain yr adolygiad.

Diben a Chwmpas

Bydd gan yr adolygiad Cadw Prydain i Weithio ddau gam penodol:

  1. Bydd y cyntaf yn gam darganfod, gyda’r nod o ddeall nodweddion ac ysgogwyr lefelau cynyddol o anweithgarwch ac afiechyd, y croestoriad â lefel sgiliau a chymhwyster, yr hyn y mae cyflogwyr yn ei wneud ar hyn o bryd i helpu cyflogi, hyfforddi a chadw pobl anabl a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd a sut mae cyflogwyr yn profi hyn yn ymarferol. Nod y cam hwn fydd nodi beth sy’n ysgogi anweithgarwch economaidd a lle mae’r potensial mwyaf i gyflogwyr a’r Llywodraeth wneud gwahaniaeth. Bydd canfyddiadau’r cam hwn yn cael eu cyhoeddi, gan gynnwys y cwestiynau a’r meysydd allweddol y disgwylir iddynt fod yn ganolbwynt ar gyfer ail gam yr adolygiad.

  2. Dilynir y cam darganfod drwy archwilio a datblygu argymhellion ar gyfer camau ymarferol, i gyflogwyr ac i’r Llywodraeth, fynd i’r afael â’r broblem gymhleth hon, gan gynnwys yr hyn y gallent ei wneud yn fwy, y cymorth sydd ei angen, gan gynnwys trwy’r ‘Gwasanaeth Swyddi a Gyrfaoedd Cenedlaethol’ (Darpar gyfieithiad am National Jobs and Careers Service y DU) newydd, yn ogystal ag ystyried yr effeithiau busnes. Yn yr ail gam hwn, mae disgwyl i’r adolygiad ystyried recriwtio, cadw, atal, ymyrraeth gynnar, dychwelyd i’r gwaith, a sgiliau – pob mater sydd wedi’i gynnwys ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth Get Britain Working a gyhoeddwyd ar 26 Tachwedd 2024.

Bydd yr adolygiad hwn yn ystyried y ffactorau a’r egwyddorion canlynol i wneud y mwyaf o’i effaith:

  • Bydd yr adolygiad yn anelu at ymgysylltu’n eang, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â rhanddeiliaid perthnasol, gan gynnwys busnesau, grwpiau sy’n cynrychioli anabledd yn ogystal ag unigolion. Bydd Syr Charlie Mayfield, arweinydd yr adolygiad annibynnol, yn cynnull panel bach i gefnogi’r adolygiad, gyda’r potensial i ehangu’r panel a/neu gynnull mewnbwn arbenigol wrth i’r adolygiad fynd yn ei flaen.

  • Bydd yr adolygiad yn ceisio nodi argymhellion byrdymor a thymor hwy. Bydd yr adolygiad yn ystyried pa gamau y gellir eu cymryd ar unwaith i ddechrau mynd i’r afael ag unrhyw faterion a nodwyd, a hefyd yn archwilio a fydd angen unrhyw atebion neu newidiadau strwythurol tymor hwy.

  • Bydd yr adolygiad yn ystyried ac yn gwerthuso cymesuredd o ran unrhyw gamau gweithredu a argymhellir ar gyfer busnesau ochr yn ochr â’u rhwymedigaethau presennol.

  • Mae’r polisi treth y tu hwnt i gwmpas yr adolygiad.

Bydd Syr Charlie a’r panel yn cael cefnogaeth a chydweithrediad llawn gan DWP a DBT wrth gwblhau eu hadolygiad annibynnol, a chaiff Syr Charlie fel Prif Adolygydd fynediad at yr holl wybodaeth briodol, addas ac angenrheidiol gan y llywodraeth i gynnal yr adolygiad.

Amseru

Disgwylir i’r cam darganfod ddod i ben yn y Gwanwyn 2025, gyda’r adolygiad annibynnol i adrodd a gwneud argymhellion yn yr Hydref 2025.

Rhaid cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad i’r Ysgrifenyddion Gwladol dros Waith a Phensiynau a Busnes a Masnach ar ddyddiad i’w benderfynu, y disgwylir iddo fod yn yr Hydref 2025. Cyfrifoldeb yr adolygydd yn unig yw cynnwys yr adroddiad a benodir i gynnal y gwaith, a fydd yn cael y gair olaf ar yr holl allbynnau ac argymhellion allweddol. Caiff amseru a dull cyhoeddi’r adroddiad annibynnol eu pennu gan yr Ysgrifenyddion Gwladol.