°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Papur polisi

Awdurdodau lleol

Cyhoeddwyd 26 Ionawr 2018

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Rhwydwaith Rhannu’r ASB

Fel rhan o ddatblygu’r ffordd yr ydym yn cyfathrebu ag awdurdodau lleol yn barhaus, ac yn darparu adnoddau iddynt er mwyn cyflawni eu rolau’n effeithiol, rydym wedi creu llwyfan ; llwyfan i alluogi cyfathrebu, cydweithio ac adnoddau sydd wedi’u targedu at swyddogion awdurdodau lleol sy’n gweithio ym meysydd gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid.

Y llwyfan hon fydd y prif borth i awdurdodau lleol ddod o hyd i adnoddau fel ffurflenni, templedi, pecynnau cymorth a chanllawiau.

I ddefnyddio , mae angen i chi greu cyfrif. Dylai swyddogion awdurdodau lleol ddefnyddio eu cyfeiriad e-bost gwaith swyddogol er mwyn cael mynediad ar unwaith lle byddant yn gallu gweld yr holl gynnwys unwaith bod y cyfrif wedi’i gymeradwyo. Gall rhanddeiliaid â diddordeb gofrestru i ddarllen gwybodaeth ‘Swyddogol’.

Gallwch weld yr archif o lythyrau gorfodi rhwng 2008 a 2017 yn yr .

Cefnogi awdurdodau lleol

Rydym yn darparu canllawiau a fframweithiau i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu bod yn gyson wrth orfodi’r cyfreithiau perthnasol ar gyfer bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae’r rhain yn cynnwys Codau Ymarfer, Cytundebau Fframwaith a Chanllawiau Ymarfer.

Y Llawlyfr Safonau Bwyd

Mae’r Llawlyfr Safonau Bwyd yn cyfeirio at ddeddfwriaeth cyfansoddiad bwyd a labelu bwyd. Mae hefyd yn cynnwys dolenni defnyddiol i ddeddfwriaeth a nodiadau canllaw.

Bwriad y llawlyfr hwn yw helpu swyddogion diogelwch bwyd i ddod yn fwy cyfarwydd â deddfwriaeth safonau bwyd a chanllawiau cysylltiedig. Dylai’r llawlyfr roi trosolwg o gamau gweithredu ymarferol mewn perthynas â deddfwriaeth safonau bwyd, yn ogystal â’r camau a gymerir i orfodi’r ddeddfwriaeth, a dylai hefyd alluogi swyddogion i nodi ffynonellau eraill o wybodaeth ddefnyddiol.

Cytundeb Fframwaith

Mae’r Cytundeb Fframwaith ar Reolaethau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Swyddogol gan Awdurdodau Lleol yn rhoi ffordd i ni arfer ein pwerau o dan y Ddeddf Safonau Bwyd er mwyn dylanwadu ar weithgarwch gorfodi awdurdodau lleol a’i oruchwylio.

Mae’r Cytundeb yn nodi manylion am y canlynol:

  • cynlluniau gwasanaethau lleol sydd ar gael yn gyhoeddus er mwyn cynyddu tryloywder gwasanaethau gorfodi lleol
  • safonau gorfodi bwyd a bwyd anifeiliaid y cytunwyd arnynt ar gyfer awdurdodau lleol
  • camau monitro data gwell gyda mwy o ffocws ar ganlyniadau arolygiadau ac sy’n rhoi gwybodaeth fanylach ar berfformiad awdurdodau lleol
  • cynllun archwilio gyda’r nod o sicrhau gwelliannau a rhannu arferion da

Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol

²Ñ²¹±ð’rÌý ac ar gyfer hylendid bwyd ar lefel cynhyrchu cynradd yn cael eu datblygu’n flynyddol mewn ymgynghoriad â’r canlynol:

  • cynrychiolwyr awdurdod lleol 
  • Safonau Masnach Cenedlaethol 
  • arweinwyr bwyd anifeiliaid rhanbarthol 
  • Panel Amaethyddiaeth Cenedlaethol 
  • Aelodau Panel Cenedlaethol Bwyd Anifeiliaid mewn Porthladdoedd 

Mae ymgorffori’r Blaenoriaethau Gorfodi Cenedlaethol i raglen o reolaethau swyddogol yn helpu i gynnal gwelliannau o ran lefelau cydymffurfio gan weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid drwy orfodi ar sail gwybodaeth. Nod hyn yw:

  • cynnal cydraddoldeb ar gyfer busnesau onest a diwyd, sydd er budd y diwydiant bwyd anifeiliaid yn ei gyfanrwydd
  • lleihau beichiau diangen ar fusnesau drwy ganolbwyntio gweithgarwch awdurdodau lleol ar feysydd cytunedig sy’n peri’r bygythiad mwyaf i iechyd pobl a/neu iechyd anifeiliaid
  • creu dull ymyrryd hyblyg ac effeithiol yn seiliedig ar wybodaeth, wrth gynnal lefelau priodol o fonitro cydymffurfiaeth ledled Cymru a Lloegr
  • gwireddu ein nod strategol o ‘Fwyd y Gallwn Ymddiried Ynddo’ 
  • gwella ansawdd a chysondeb rheolaethau swyddogol ledled Cymru a Lloegr
  • diogelu iechyd anifeiliaid a/neu iechyd y cyhoedd

Blaenoriaethau Safonau Bwyd Cenedlaethol

Cafodd yr adroddiad cyntaf ar flaenoriaethau Safonau Bwyd Cenedlaethol ei gyhoeddi a’i rannu ag awdurdodau lleol ym mis Mai 2024. Cafodd y blaenoriaethau eu nodi ar sail gwaith ymchwil a thrwy ddadansoddi nifer o ffynonellau data, gan gynnwys cudd-wybodaeth am faterion bwyd, canlyniadau samplu o amrywiaeth o raglenni, adroddiadau ar gŵynion cwsmeriaid a gwybodaeth gan grwpiau bwyd.

Datblygwyd y blaenoriaethau yn dilyn ceisiadau gan yr awdurdodau lleol hynny a oedd ynghlwm wrth y cynllun peilot o ddatblygu’r model gweithredu safonau bwyd. Er nad ydym yn awgrymu mai dyma’r unig broblemau y gallai tîm bwyd orfod ymdrin â nhw, maent yn adlewyrchu asesiad o swmp yr adroddiadau a gawsom ynghylch y problemau a’r risgiau cysylltiedig mewn perthynas â safonau bwyd.

Mae’r blaenoriaethau’n helpu’r ASB wrth iddi gynnal ei rhaglen samplu i ganfod unrhyw achosion drwgdybiedig o ddiffyg cydymffurfio. Bydd y blaenoriaethau’n cael eu hadolygu’n flynyddol.

Deunyddiau canllaw ategol ar gyfer swyddogion gorfodi

Yn ogystal â’r Cod Ymarfer a’r Canllawiau Ymarfer, rydym yn cyhoeddi dogfennau canllaw annibynnol ar amrywiaeth o bynciau. Yn aml, mae hyn o ganlyniad i reoliadau newydd yn dod i rym, datblygiad mewn polisi neu mewn ymateb i ddigwyddiad.

²Ñ²¹±ð’rÌý (diweddarwyd Ionawr 2018) yn cyfeirio at ddeddfwriaeth labelu bwyd a chyfansoddiad bwyd yng Nghymru. Mae hefyd yn amlinellu sut mae’r cyfrifoldeb am gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid yn y DU wedi’i rannu. Rydym yn diweddaru’r rhestr hon ar hyn o bryd, ond mae’n parhau i fod wedi’i gyhoeddi at ddibenion cyfeirio gan ei fod yn adnodd defnyddiol o hyd.

Hyfforddiant ar gyfer swyddogion gorfodi

Rydym yn darparu hyfforddiant ar gyfer swyddogion gorfodi ar nifer o wahanol bynciau gan gynnwys: 

  • ²õ²¹³¾±è±ô³ÜÌý
  • labelu
  • cudd-wybodaeth
  • Model Gweithredu Safonau Bwyd
  • diogelwch bwyd
  • hylendid a safonau
  • diogelwch bwyd anifeiliaid
  • gallu i olrhain

Mae dolenni i ddeunyddiau hyfforddi a chyrsiau ar-lein ar gyfer swyddogion gorfodi ar gael drwy lwyfan , ein porth adnoddau a chyfathrebu ar gyfer awdurdodau lleol.

Monitro gweithgarwch awdurdodau lleol

Fel rheoleiddiwr, mae gennym ddyletswydd statudol i fonitro gweithgarwch awdurdodau lleol fel bod gennym sylfaen dystiolaeth ynghylch cynnal rheolaethau bwyd swyddogol. Rydym yn defnyddio’r data hwn i asesu perfformiad awdurdodau lleol.

Ers dechrau’r pandemig COVID-19, mae ffurflenni ar-lein pwrpasol wedi’u defnyddio i gasglu data yn lle System Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol (LAEMS). Cyflwynwyd y ffurflen flynyddol gyntaf ym mis Ebrill 2021. Ar hyn o bryd, mae data’n cael ei gasglu ddwywaith y flwyddyn gan ddefnyddio llwyfan ar-lein.

Unwaith y bydd y data wedi’i ddadansoddi a’i werthuso, cyhoeddir data cyfanredol ar lefel gwlad, er enghraifft mewn perthynas ag ymyriadau a gynhaliwyd, adnoddau staff o fewn timau bwyd, a gweithgareddau samplu a gorfodi, mewn adroddiadau i Fwrdd yr ASB. Hyd at 2020, roedd adroddiadau LAEMS, a oedd yn cynnwys data cyfanredol, yn cael eu cyhoeddi ynghyd â data ar lefel awdurdod lleol.

Data Monitro Gwaith Gorfodi Awdurdodau Lleol

Mae’r dogfennau canlynol ar gael yn Saesneg yn unig.

Mis Rhagfyr 2020 i fis Medi 2024

Mis Ebrill 2019 i fis Mawrth 2020

Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

  • Food standards data 2019-2020]

Mis Ebrill 2018 i fis Mawrth 2019

Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mis Ebrill 2017 i fis Mawrth 2018

Ystadegau swyddogol ar gyfer Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon

Mae adroddiadau o flynyddoedd cynharach ar gael ar .