Rheoli gwrteithiau fferm o ran diogelwch bwyd
Cyhoeddwyd 12 Rhagfyr 2017
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Gall gwrteithiau fferm, a roddir ar dir amaethyddol i fodloni gofynion maeth cnydau ac i wella ffrwythlondeb, gynnwys micro-organebau pathogenaidd sy’n gyfrifol am achosi salwch a gludir gan fwyd.
Mae’r micro-organebau hyn yn cynnwys
- e. coli O157
Felly, wrth storio a defnyddio gwrteithiau fferm, mae’n rhaid eu rheoli er mwyn lleihau’r perygl o halogi cnydau. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer llysiau a ffrwythau parod i’w bwyta a fydd yn cael eu bwyta’n amrwd.
Nod yÌýÌýhyn yw rhoi cyngor ymarferol i dyfwyr y Deyrnas Unedig ar sut i leihau peryglon halogi cnydau parod i’w bwyta wrth ddefnyddio gwrteithiau fferm i wella ffrwythlondeb pridd.
Yn gryno, dyma brif agweddau’rÌý:Ìý
- y dewis o dir lle caiff cnydau parod i’w bwyta eu tyfu
- rheoli gwrteithiau a biswail (slurries’) cyn eu rhoi ar y tir
- amseru wrth roi’r gwrtaith ar y tir (gan gynnwys gwrtaith ffres o anifeiliaid yn pori) a biswail, wrth gynhyrchu cnydau parod i’w bwyta
- atal cnydau sy’n tyfu rhag cael eu halogi, a lleihau’r peryglon wrth eu cynaeafu
Cynhyrchwyd y canllawiau gan grŵp llywio, a gadeiriwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Roedd yn cynnwys cynrychiolwyr ar ran:
- Ìý
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra)Ìý
- Asiantaeth yr AmgylcheddÌý(sydd bellach yn rhan oÌýyng Nghymru)
Mae’rÌýÌýhyn yn darparu cyngor ar arfer da i helpu tyfwyr yn y Deyrnas Unedig i ddatblygu cynlluniau diogelwch. Mae’n ystyried ymchwil a ariannwyd gan yr ASB ar bresenoldeb pathogenau mewn gwrteithiau fferm yn y Deyrnas Unedig, a’u dirywiad wrth eu storio, wrth roi’r gwrtaith ar y tir ac wrth i anifeiliaid ysgarthu ar y tir. Mae’n cyd-fynd â chanllawiau sefydledig gan adrannau amaethyddol ar Arferion Amaethyddol Da.
Nid yw’rÌýÌýhyn yn pennu gofynion gorfodol penodol, ond gallwch eu dilyn ar sail wirfoddol. Mae’r Asiantaeth yn ymwybodol bod nifer o dyfwyr yn y Deyrnas Unedig eisoes yn rheoli gwrteithiau fferm mewn modd sy’n gyson â’r canllawiau hyn, ac mae rhai yn gweithredu manylebau masnachol sy’n rhagori ar y cyngor a ddarperir.
Pwysig: Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB
Nid yw deddfwriaeth sy’n uniongyrchol gymwys i’r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd arÌý. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd. Ìý
Ìý
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth amÌýFframwaith WindsorÌý(Opens in a new window) ar gael ar °Ç¸ç³Ô¹Ï. Ìý
Ìý
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).