New Plan for Immigration: legal migration and border control (Welsh accessible)
Updated 25 November 2022
ISBN 978-1-5286-3641-4
E02773812 07/22
Rhagair y Gweinidog gan yr Ysgrifennydd Cartref
Am y tro cyntaf ers degawdau mae gennym ni reolaeth ddemocrataidd lawn oân ffiniau. Mae ffiniau diogel sydd wedi eu rhedeg yn effeithlon yn ganolog iân diogelwch, ein ffyniant ac iân synnwyr o genedligrwydd.
Maeân bleser gen i gyflwynoâr ddogfen hon syân amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer ein system ffiniau a mudoâr dyfodol. Ers iâr Llywodraeth yma ddod â rhyddid symudiad i ben, rydym wedi rhoi system fyd-eang syân seiliedig ar bwyntiau ar waith ac mae wedi mynd o nerth i nerth, gydaâr niferoedd syân ymgeisio am fisa yn uwch na lefelau cyn y pandemig.
Yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddwn yn cyflwyno mwy o welliannau er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i gael system ffiniau a mudo cyfreithlon syân arwain y byd. Maeâr rhain yn amrywio o ystod o newidiadau gweladwy fel gwell fel gwell gwasanaeth cwsmer i newidiadau anweladwy fel gwell targedu a rhestr-wylio ar y ffin.
Bydd ein ffin yn fwy llyfn ac effeithlon, gyda nifer fwy o gwsmeriaid yn defnyddio e- Glwydi. Mae gennym uchelgais eofn am deithio di-gyffwrdd ar gyfer dinasyddion Prydeinig aân partneriaid tramor yr ymddiriedir ynddyn nhw fwyaf.
Bydd ein cynllun caniatâd-i-deithio blaenllaw yn golygu ei fod yn haws iân ffrindiau ddod a chyfrannu iâr DU, ond yn anos iâr sawl nad ydym eisiau i ddod yma. Bydd Awdurdodi Teithio Electronig yn ein galluogi i fynd iâr afael â phroblemau ymhellach i fynyâr gadwyn a byddwn yn gwybod mwy am y sawl sydd yn defnyddioâr system i ddod yma.
Cynrychiolaâr cynlluniau hyn, ochr yn ochr ââr rhai syân mynd iâr afael â mudo anghyfreithlon, fel ein Partneriaeth Mudo a Datblygu Economaidd gyda Rwanda, brawf pellach fod y Llywodraeth hon yn cymryd ein ffiniau o ddifrif.
Bydd y newidiadau rydym yn eu gwneud iâr system yn dod â buddion iân holl gwsmeriaid, o ddeiliaid Prydeinig yn Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, i bartneriaid diwydiant a busnesau, iân sectorau gwyddoniaeth, ymchwil a chreadigol llwyddiannus dros ben a theithwyr cyfreithlon o dramor.
Rwyân hyderus bydd y datblygiadau a amlinellir yn y ddogfen hon yn arwain at Undeb cryfach, mwy diogel a ffyniannus.
Cyd-destun
1. Tanategir ein strategaeth ar gyfer mudo cyfreithlon a rheoli ffiniau gan uchelgais glir i roi system ffiniau mwyaf effeithiol a chryfaâr byd mewn lle: un sydd yn galluogi ac yn cefnogi twf a ffyniant yn y DU; un sydd yn syml iâw ddeall aâi weithredu; ac un sydd yn blaenoriaethu diogeluâr cyhoedd, drwy wneud ein ffiniauân fwy diogel. Bydd ein trawsnewidiad oâr ffin yn cynnig buddion iân holl gwsmeriaid, y cyhoedd, diwydiant ac ymwelwyr.
2. Maeâr strategaeth yn ffurfio rhan oân Cynllun Newydd dros Fewnfudo cynhwysfawr. Wrth galon ein cynllun mae egwyddor syml: tegwch. Rydym wedi cymryd rheolaeth oân system mudo gyfreithiol yn Ă´l drwy ddod â symudiad rhydd i ben a drwy gyflwyno system newydd syân seiliedig ar bwyntiau. Maeâr strategaeth ymaân amlinellu ein safbwynt aân safle i fynd ymhellach, drwy ffocysu ein system ar amgylchiadau unigol iâr sawl syân cyrraedd y DU. Byddwn yn croesawuâr sawl syân dychwelyd iâr DU neuân cyrraedd er mwyn cefnogi ein ffyniant. Byddwn yn cryfhau ein ffiniau yn erbyn y sawl na ddylai fod yn y DU.
3. Maeâr ddogfen hon yn adeiladu ar y Cynllun Newydd ar gyfer Mewnfudo: Strategaeth Mudo Gyfreithlon a Ffiniau[footnote 1] a gyhoeddwyd ym mis Mai 2021 ac yn gosod ein gweledigaeth ar gyfer trawsffurfioâr system mudo gyfreithlon a ffiniau mewn modd radical, a sut y byddwn yn cyflawni hyn. Rydym yn gwella ein system mewnfudo a ffiniau drwy liflinio prosesau, drwy gofleidio technoleg, sydd yn cynnig effeithlonrwydd gwell iân cwsmeriaid, ein heconomi a gweithrediadau ein ffiniau.
4. Cefnogi twf a ffyniant rydym wedi darparu system mewnfudo newydd sydd yn seiliedig ar bwyntiau ac sydd yn cefnogiâr DU i ddenuâr sgiliau aâr dalent sydd ei angen arnom, gan ei gwneud hiân decach ac yn haws i bobl ddod iâr DU a ffynnu yma fel rhan o fesurau Cynllun y Llywodraeth ar gyfer Twf[footnote 2]. Mae ein system yn gweithio er budd y DU cyfan - Lloegr, Yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon - a blaenoriaethuâr sgiliau sydd gan berson i gynnig, nid o ba le mae ei basbort yn dod. Mae Cynllun y Llywodraeth ar gyfer Swyddi[footnote 3] wedi ei ffocysu ar helpu pobl ar draws y wlad i ail-hyfforddi, adeiladu sgiliau newydd a dod ânĂ´l i weithio, gyda pholisi mudo sydd yn cefnogiâr gyriad hwn, nid rhoi rhywbeth arall yn ei le.
5. Mae ein system sydd yn seiliedig ar bwyntiau yn cefnogi pecyn ehangach o ymyraethau sydd yn ffurfio dull hirdymor y Llywodraeth iâr farchnad lafur ac ail- adeiladu ein heconomi drwy gefnogi ein busnesau i dyfu a chael pobl yn Ă´l iâr gwaith. Rhaid i ni weld datrysiadau hirdymor a gyflenwir gan gyflogwyr drwy well hyfforddiant a chyflogi a gwell tâl ac amodau gwaith a rhaid i ni fuddsoddi yn ein gweithlu domestig cyn ymestyn am ein hysgogiadau mudol. Cafodd ein system ei ddylunio i allu ystwytho i ddiwallu anghenion yr economi ac mae wedi gwneud hynnyân llwyddianus dros y flwyddyn ddiwethaf, gan ymateb yn dda i newidiadau yn y farchnad lafur a digwyddiadau byd-eang. Rydym yn parhau i adolygu ein rheolau wrth i economi a marchnad lafur y DU addasu iâr cyfnod yn dilyn y pandemig.
6. Er mwyn sicrhau fod ein system newydd yn syml ac yn hawdd iâw ddeall aâi weithredu, rydym yn rhoiâr cwsmer wrth ei galon, gan sicrhau ei fod yn haws iâw fordwyo ac yn ddiofyn ddigidol. Maeân system fyd-eang sydd yn trine i gwsmeriaid fel unigolion, gan ei wneud yn haws ac yn fwy syml traân parhau i sicrhau nad ywâr cyfleoedd ar gyfer mudo cyfreithlon yn cael eu cam-drin. Rydym yn byw mewn oes ddigidol, lle mae busnesau a cwsmeriaid yn disgwyl profiad chwim a hawdd ei ddefnyddio. Mae nifer oân cwsmeriaid yn elwa o daith ddigidol llawn eisoes, gan gynnwys dros chwe miliwn o geisiadau i Gynllun Preswylioân Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS). Maeâr newidiadau a wnaethonm eisoes wedi ein galluogi ni i addasuân gyflym i ddiwallu anghenion y sawl syân cael eu heffeithio gan digwyddiadau rhyngwladol enfawr fel pandemig Covid-19 ac ymosodiad parhaus Rwsia ar yr WcrĂĄin. Dymunwn fynd ymhellach, gyda chwsmeriaid yn profi rhyngwyneb digidol llyfn perthynol gydaâu rhyngweithiadau dyddiol â busnesau neu wasanaethau.
7. Bydd trawsffurfio ein system mudo gyfreithiol hefyd yn trosglwyddo ein hymrwymiad tuag at system deg a chadarn, drwy gynnig llwybrau diogel a chyfreithlon iâr DU ar gyfer y sawl sydd angen cael eu hamddiffyn. Mae hwn yn adeiladau ar ein hanes hir o helpu pobl yn uniongyrchol sydd yn dod o ardaloedd lle mae gwrthdaro ac ansefydlogrwydd. Ar Ionawr 31 2021, fe gyflwynon ni fisa Gwladolion Prydeinig (Tramor) Hong Kong iâr bobl hynny o Hong Kong. O Orffennaf 11, 2022, rydym wedi croesawu 95,400 o bobl oâr WcrĂĄin iâr DU, gyda nifer cynyddol yn gallu gwneud cais heb fod angen mynychu Canolfan Ymgeisio am Fisa yn gorfforol. Roeddem yn gallu cyflwyno hwn ar garlam, mewn ymateb iâr argyfwng dyngarol, drwy hwyluso prosesau a gyflwynwyd drwy ein hagenda trawsffurfio.
8. Bydd ein system yn blaenoriaethu amddiffyn y cyhoedd, drwy wneud ein ffiniauân fwy diogel a thrawsffurfioâr ffin gyda newidiadau gweledol i fesurau diogelwch, amseroedd aros a phrofiad y teithiwr. Byddwn yn cyflawni hyn drwy ddeall mwy am bobl sydd yn dod iâr DU cyn iddyn nhw deithio, gan ein galluogi ni i reoli llif ac ymyraethau ar y ffin yn seiliedig ar amgylchiadau unigol a llai o giwiau.
9. Byddwn yn uchafuâr defnydd o ymyraethau cyn-teithio er mwyn atal pobl niweidiol rhag cyrraedd ein ffin yn y lle cyntaf. Bydd y rhan fwyaf a fydd yn croesi ffin y DU yn profi system gyrraedd eGlwyd gan ddefnyddio awtomeiddio fel eu hunig bwynt cyswllt ar y ffin. Dymunwn yn y pen draw, iâr profiad ar y ffin i fod yn un digyswllt ar gyfer y mwyafrif o bobl. Bydd hyn yn caniatĂĄu iân Swyddogion Lluâr Ffiniau ganolbwyntio ar y sawl sydd yn cynrychioliâr bygythiad mwyaf neu sydd fwyaf mewn perygl, a chreu arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y gyllideb gyhoeddus.
10. Byddwn yn rhoiâr cwsmer wrth galon ein system newydd a dymaâr peth iawn iâw wneud ac maeân cynnwys amddiffyn y cyhoedd aân diogelwch ar bob cam. Rydym yn parhau i sicrhau cydymffurfiaeth gyda rheolau mewnfudo mwy gwydn mewn perthynas â throseddolrwydd a bydd ein hymagwedd ddigidol newydd yn cryfhau ein gallu i adnabod y sawl syân fygythiad iân diogelwch a ffyniant. Mae cydymffurfiaeth gyda chyfreithiau mewnfudoâr DU yn rhan hanfodol o system mewnfudo sydd yn gweithredu mewn modd teg, cadarn a gydag unplygrwydd. Rydym wedi amlinellu ein disgwyliadauân glir ar gyfer y sawl syân dymuno dod a pharhau i aros yn y DU a chanlyniadau peidio cydymffurfio gydaân rheolau a chyfreithiau. Bydd y sawl syân cydymffurfio âân rheolau yn cael eu croesawu iâr DU gyda phroses ymgeisio haws i allu gadael a chroesi ein ffin. Bydd y sawl nad yw eu presenoldeb yn y DU yn gydnaws ââr lles cyhoeddus yn ei chael hiân anos i gyrraedd ein ffin.
11. Maeâr holl newidiadau mawrion hyn yn y system mudo a ffiniau yn gyfochrog ac yn ategu at y pecyn a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ar Ebrill 14, 2022 i fynd iâr afael â mudo anniogel ac anghyfreithlon.[footnote 4] Mae cyflenwiâr strategaeth hon yn rhan ganolog o Gynllun Cyflenwi Deilliant y Swyddfa Gartref (ODP), syân cynnwys y deilliant i âalluogi symudiad cyfreithlon pobl a nwyddau er mwyn cefnogi ffyniant economaiddâ.[footnote 5] Rydym yn arloesi ac yn defnyddio technoleg newydd er mwyn gwella ein prosesau, cryfhau ein diogelwch ar y ffĂŽn traân denu talent byd-eang. Mae hyn yn golygu y gallwn gyflenwi profiad cwsmer mwy cyfeillgar iâr defnyddiwr.
Rheoli Mudo
12. Gyda lansiad y system newydd syân seiliedig ar bwyntiau ym mis Rhagfyr 2020, mae gennym ni reolaeth ddemocrataidd lawn nawr oâr system mewnfudo. Maeâr Llywodraeth wedi cymryd penderfyniadau ar y cyd ynglšn â chynnig mudoâr DU, gan gydbwysoâr camau sydd eu hangen i gefnogi adferiad economaidd oâr pandemig a datrys heriau cyflenwi byr- dymor, gyfochr â sicrhau bd cyflogwyr yn tynnu ar ac yn uwchsgilio gweithlu domestig y DU. Mae ein system wedi cyfrannu at un oâr adferiadau economaidd cyflymaf o Covid ymhlith yr G7 ac mae wedi ein galluogi i ymateb i ddigwyddiadau yn y byd yn Hong Kong, Afghanistan aâr WcrĂĄin.
13. Rydym wedi dod â symudiad rhydd i ben. Mae yna fwy o weithwyr medr uwch yma yn cyfrannu tuag at economiâr DU, ac mae pobl Prydain oâr diwedd yn rheoli polisi mudo cyfreithlon y DU. Yn ystod y 12 mis hyd at ddiwedd Mis Mawrth 2022, fe roesom ni mwy na 182,000 o fisas i weithwyr medrus, 3,500 fisa talent byd-eang a 466,000 fisa myfyriwr. Mae ein polisi mudo yn caniatauâr hawl i fudo iâr DU, traân osgoi targedau mympwyol ac afrealistig. Rydym wedi cymryd rheolaeth nĂ´l a gallwn benderfynu nawr pwy sydd â hawl i gael mynediad at y system seiliedig ar bwyntiau. Yn dilyn yr ymrwymiad yma yn y maniffesto i leihau niferoedd yn gyffredinol, rydym yn adolyguâr tueddiadau hyn yn barhaus.
14. Byddwn yn mabwysiadu dull llywodraeth gyfannol tuag at gefnogiâr farchnad lafur er mwyn rhwystro llwybrau mewnfudo rhag cael eu gweld fel y datrysiad cyntaf ar gyfer ystod eang o faterion yn ymwneud ââr farchnad lafur. Maeâr datganiad ymaân cynnig y cyfle i weithio ynghyd ag adrannau Llywodraeth eraill ac ail-gadarnhau ein hymrwymiad tuag at system fewnfudo gadarn a theg.
Ein llwyddianau
Y System Seiliedig ar Bwyntiau
15. Mae system y DU syân seiliedig ar bwyntiau yn cynnig ffordd syml, effeithiol a hyblyg i fusnesau a sefydliadau addysgol i gael mynediad at dalent o stod eang o ar draws y byd. Feâi adeiladwyd ar seiliau cadarn a ddatblygwyd yn ein Cynllun Preswylioân Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a fuân hynod o lwyddianus (EUSS).
16. Maeâr system yn sicrhau ein bod yn gyrchfan byd-eang deniadol ar gyfer pobl â medrau uchel sydd yn helpuâr DU i ffynnu. Mae ein system:
- Yn decach oherwydd ein bod yn croesawu pobl yn seiliedig ar y medrau sydd ganddyn nhw iâw cynnig a sut y byddan nhwân cyfrannu iâr DU, yn hytrach naâu cendligrwydd neu basport.
- Yn fwy gwydn oherwydd bod gennym ni reolaeth oân ffiniau ein hunain a gallwn benderfynu pwy syân dod mewn iâr wlad, gan addasuâr rheolau os oes angen i ni dynhau ar fudo.
- Wedi ei arwain gan sgiliau oherwydd y gallwn gael mynediad at y medrau sydd eu hangen ar ein heconomi, gyda phobl yn cael pwyntiau ar gyfer cynnig o swydd ar lefel medr priodol, gan gwrdd ââr trothwy cyflog priodol ac os ydyn nhwân siarad Saesneg i lefel addas.
17. Yr egwyddorion hyn syân sicrhau fod gan ddinasyddion y DU a phobl eraill sydd yn y DU yn gyfreithlon, hyder yn effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ein system. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored a thryloyw wrth ddeall effaith y system seiliedig ar bwyntiau ac wedi cyhoeddi Asesiad Effaith Cydraddoldeb diwygiedig[footnote 6] ym mis Chwefror 2022. Rydym yn oarhau i adolygu effeithiau cydraddoldebau mewn perthynas ââr system newydd. Bydd gwerthusiad gwydn yn parhau i sicrhau bod ein ymagwedd tuag at bolisi a chyflenwi yn cael ei arwain gan y dystiolaeth. Er mwyn amddiffyn y bobl fregus, rydym hefyd yn parhau i ymgysylltu gydaâr sawl syân mynd iâr afael â chaethwasiaeth fodern, gan gynnwys y Comisiynydd Gwrth-Gaethwasiaeth. Does gan gaethwasiaeth fodern na masnachu pobl unrhyw le o fewn ein cymdeithas o gwbl ac rydym wedi ymrwymo tuag at gryfhau ein system mewnfudo yn erbyn y troseddau anfad hyn, traân sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu hamddiffyn a throseddwyr yn cael eu herlid.
18. Maeâr system syân seileidig ar bwyntiau yn oerfformioân dda, er gwaethaf effaith anochel y pandemig. Maeâr trywyddion a lansiwyd wedi cefnogi busnesauâr DU, ein gwyddoniaeth, technoleg a sectorau addysg i fedru adlamu ynĂ´l gydag adferiad economaidd cryf yn dilyn y pandemig, drwy roi mynediad iddyn nhw at dalent o amgylch y byd. Rydym wedi creu system sydd yn gallu addasu a diwallu anghenion marchnad lafur syân newid os oes angen. Yn ystod y deuddeg nis diwethaf rydym wedi Estyn croeso i wyddonwyr, plymwyr, prif-gogyddion, doctoriaid, nyrsys, cyfarwyddwyr ffilm, peirianegwyr, penseiri, cerddorion, cigyddion ac uwch-weithwyr gofal drwy gyfrwng Trywydd y Gweithiwr Medrus. Maeâr nifer o fisas a ddyranwyd ar draws y trywyddion gwaith ac astudio nawr yn fwy na lefelau cyn y pandemig gyda 749,000 yn y flyddyn yn diweddu Mawrth 2022 o gymharu â 598,000 yn y flwyddyn a orffenodd ym mis Mawrth 2020.
19. Rydym wedi dilyn y trywyddion canlynol yn llwyddianus:
- Trywydd y Gweithiwr Medrus â hwn syân caniatau i gyflogwyr recriwtio pobl sydd wedi cael cynnig o swydd mewn galwedigaeth medrus cymwys gan noddwr sydd wedi âi gymeradwyo gan y Swyddfa Gartref, i weithio mewn swydd penodol.
- Trywydd Myfyriwr â mae hwn yn cynnig llwybrau mwy syml a llyfn i fyfyrwyr ac yn sicrhau bod y DU yn parhau i fod yn gystadleuol mewn marchnad addysgu byd-eang syân newid yn barhaus.
- Trywydd Graddedigion â mae hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr aros yn y DU i weithio neu chwilio am waith ar Ă´l iddyn nhw raddio.
- Trywydd Arloeswr â mae hwn yn caniatau iâr sawl syân ceisio sefydlu busnes yn y DG yn seiliedig ar syniad busnes arloesol, hyfyw a all dyfu (a gynhyrchwyd neu a gyfranwyd tuag atiân sylweddol ganddyn nhw).
- Trywydd Talent Byd-Eang â sydd yn caniatau iâr sawl sydd yn 18 oed neu drosodd y maes gwyddoniaeth, peirianneg, dynoliaethau, meddygaeth, tehnoleg digidol neu gelfyddau a diwylliant all ddangos talent neu addewid eithriadol.
- Fisa Iechyd a Gofal â sydd yn caniatau i bobl proffesiynol clinigol i weithio mewn swydd gymwys gyda chyflogwr iechyd neu ofal cymdeithasol.
- Trywydd Symudoledd Busnes Byd-Eang â mae hwn yn gynnig sydd wedi ei gydgrynhoi, symleiddio aâi ehangu ar gyfer busnesau tramor sydd angen anfon cyflogedigion dros dro iâr DU am bwrpas penodol.
- Trywydd Unigol a Chanddo Botensial Uchel â yn cynnig fisa gwaith byr- dymor ar gyfer graddedigion neu Ă´l-raddedigion oâr 50 sefydliad academaidd gorau sydd tu allan iâr DU. Trywydd yw hwn ar gyfer graddedigion rhyngwladol sydd wedi cael cymhwyster cymwys mewn prifysgol tramor sydd yn ymddangos ar y Rhestr Prifysgolion Byd-Eang yn y 5 mlynedd yn union cyn gwneud eu cais.
20. Rydym wedi cael llwyddiant pellach gyda chyflwyniad ceisiadau ar-lein a thystiolaeth digidol o statws mewnfudo (eFisa). Gwnaed dros chwe miliwn a hanner o geisiadau ar gyfer yr EUSS ar-lein ac rydym wedi adeiladu ar y seiliau hyn gyda chyflwyniad trywydd digidol Hong Kong ar gyfer Gwladolion Prydeinig (Tramor). Golygai cyflwyno statws digidol ar gyfer y trywydd hwn y gallai ymgweiswyr wneud cais heb fynychu Canolfan Ymgeisio am Fisa (VAC), gan gyflymuâr broses.
Trywyddion mewnfudo newydd a diwygiedig
21. Mae esblygiad y system sydd yn seiliedig ar bwyntiau yn sicrhau ein bod yn parhau i fod mewn rheolaeth o bwy sydd yn dod mewn iâr DU. Eleni, byddwn yn lansio trywydd newydd arall ac yn parhau i ddiwygio trywyddion eraill, gan gynnwys:
22. Trywydd Tyfu (22/08/2022) â Rhaid fod gan fusnes sydd wrthiân tyfu gael deg neu fwy o gyflogwyr aâi fod yn tyfu mwy na 20% o drosiant bob blwddyn am dair blynedd. Maeâr busnesau hyn yn cyfrannu ÂŁ1 triliwn i economiâr DU bob blwyddyn ac mae yna gystadleuaeth rhyngwladol cryf. Bydd y trywydd newydd yn gwella cynnig fisaâr DU, gyda thrywydd pwrpasol ar gyfer gweithiwr noddedig iâr sawl a gaiff eu recriwtio i swyddi cymwys o fewn cwmniau blaenllawâr DU sydd wrthiân tyfu.
23. Teulu a Phreswylio â Yn ystod gweddill 2022 ac i mewn i 2023, bydwn yn parhau i symleiddio pob trywydd teulu, bywyd preifat a phreswylio. Ceir sawl trywydd teulu a llwybrau tuag at breswylioân barhaol; er mwyn symleiddio hyn ar gyfer cwsmeriaid, byddwn yn cyflwyno proses ymgeisio llyfnach a gofynion tystiolaeth cyson. Maeâr gwaith hwn yn mynd yn ei flaen gyda lansiad y trywyddion preswylio ar gyfer y sawl sydd ar y trywydd Arloeswr a thrywyddionâr teulu deng-mlynedd a bywyd preifat eleni.
Trywyddion Diogel a Chyfreithlon
24. Mae gan y DU hanes balch o helpuâr sawl syd mewn angen. Maeâr system sydd yn seiliedig ar bwyntiau yn fwriadol hyblyg, ac mae rhoiâr trywyddion newydd ar waith wedi rhoiâr seiliau hynny i ni i allu ymateb yn effeithiol a chyflwyno sawl trywydd diogel a chyfreithiol:
25. Trywydd Gwladolion Prydeinig Hong Kong (Tramor): Fe wnaethon ni gyflwyno trywydd pwrpasol ar gyfer Gwladolion Prydeinig Hong Kong (Tramor) aâu teuluoedd gan ddefnyddio proses ymgeisio digidol a galluoedd gwirio hunaniaeth aloesol. Fe wnaeth hyn gydnabod ein hymrwymiad hanesyddol i bobl Hong Kong a bleidleisiodd i gadw cyswllt gydaâr DU. Cafodd dros 92,000 fisa Gwladolyn Prydeinig (Tramor) eu dyfranu rhwng Ionawr 31, 2021 a Mawrth 31, 2022.
26. Cynllun Adsefydlu DInasyddion Affganistan: Y Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, sydd yn cynnig trywydd diogel a chyfreithlon i 20,000 o fenywod a phlant a phobl eraill sydd mewn perygl i breswylio yn y DU. Rydym yn disgwyl i ragori ar ein nod gwreiddiol o adsefydlu 5,000 drwyâr cynllun yn y flwyddyn gyntaf.
27. Cynlluniauâr Wcrain: Mae Cynllun Teulol yr Wcrain a Chynllun Cartrefi ar gyfer yr Wcrain, a lansiwyd ym mis Mawrth 2022, nawr yn gwbl ddigidol ac yn ffurfio un oâr rhaglenni fisa mwyaf ac a weithredwyd gyflymaf yn hanes y DU. Fe lawnsion ni Gynllun Estyniad yr Wcrain ar Fai 3, 2022 gan roi tair mlyned o ganiatad i Wcraniaid oedd eisoes yn y DU i aros a chael mynediad llawn at waith, astudio, ac arian cyhoeddus. Mae 187,800 o bobl wedi cwblhauâr broses gweud cais ar gyfer ein cynlluniauâr Wcrain (52,200 o bob lar gyfer Cynllun Teuluâr Wcrain a dros 135,600 ar gyfer Cynllun Cartrefi iâr Wcrain).
28. Byddwn yn gweithredu ymrwymiadau a wnaed yn ystod taith y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 gan gynnwys ar gyfer lluoedd arfog Hong Kong, ar gyfer Tsiagosiaid (Tiriogaethau Indiaidd Tramor Prydeinig) a diwygiadau i gyfreithiau cenedligrwydd i fynd iâr afael ag anhegwch hanesyddol.
Symleiddiad
29. Er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu mordwyoâr system yn hawdd, cael yr hyn sydd ei angen a deall sut mae cydymffurfio gydaân rheolau, rydym yn symleiddio ein Rheolau Mewnfudo ac yn gweithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith. Bydd hyn yn torri drwy gymhlethdod ac yn gwneud y Rheolauân glir, cyson a hygyrch, er mwyn annog y sawl sydd ââr medrau hynny neuâr talent fydd o fudd iâr DU ac yn mynd i;r afael yn dynn ar fewwnfudo anghyfreithlon a chael gwared ââr sawl sydd yn camdrin ein lletygarwch drwy droseddu.
30. Maeâr ymagwedd ymaân sicrhau bod y seiliau cywir mewn lle ar gyfer system mewnfudo a ffiniau syml, gwydn, a diwygiedig. Maeâr rheolau newydd wedi cael eu strwythuro fel boâr gofynion ar gyfer pob trywydd yn gyffrdinol ar gael mewn un lle, gan eu gwneud nhwân haws i ddod o hyd iddyn nhw. Ysgrifenwyd y rheolau mewn iaith blaen er wmyn eu gwneud yn haws iâw deall ar gyfer y sawl syân defnyddio ein system. Rydym yn gweithio gyda Chomisiwn y Gyfraith ar gyfnerthu deddfwriaeth mewnfudo i wneud y system gyfreithiol yn haws i bob defnyddiwr ei fordwyo aâi ddeall.
Ein Gweledigaeth: System ddigidol wediâi lyfnhau, sydd yn ymateb i anghenion cwsmer ac yn gwella diogelwch y DU
31. Maeâr datagniad strategaeth hwn yn amlinellu ein huchelgais ar gyfe rnewid trawsffurfiol i bawb sydd yn defnyddio ein systemau ac yn croesi fin y DU. Byddwn yn cyflenwi profiad cwsmer digidol llawn oâr dechrau iâr diwedd oâr ffordd mae pobl yn gwneud cais am ganiatad i deithio, sut maen nnhwân profi eu hunaniaeth er mwyn bodloniâr meini prawf perthnasol i gael dod mewn iâr wlad, sut maen nhwân derbyn a phrofi eu statws ar draws y ffin a sut maen nhwân arddangos eu hawliau o fewn y DU.
32. Bydd ein cwsmeriaid yn profi gwell gwasanaeth ac un mwy arloesol, gan adeiladu ar yr ystod o wasanaethau cyhoeddus rydym yn eu cynnig ar-lein eisoes.Byddant yn deall telerau eu fisa ac yn gwybod beth sydd angen iddyn nhw ei wneud er mwyn cydymffurfio. Dymunwn arwain y byd a gosod safonau ar gyfer ffiniau modern. Rydym wedi ymrwymo tuag at wneud y system yn un gwych ar gyfer y sawl sydd yn cydymffurfio, ac yn dosturiol tuag at y sawl sydd ei angen. Ac eto, rhaid ni ni sicrhau fod y system yn ein diogelu rhag y sawl sydd yn cynrychioli perygl neu fygythiad mawr ac yn lleihau ffyrdd lle y gellir manteisio ar hynny. Erbyn 2025 bydd gyda ni ffin a system mewnfudo lle maeâr cwsmer yn ganolog a chanddi wellianau yn cynnwys:
Cynllunio i ddod
- Cyfarwyddyd cwsmer symlach ar gov.uk i helpu pobl fordwyoâr system yn haws a deall sut mae cydymffurfio gydaân rheolau.
- Sianeli cysylltu cwsmeriaid sydd weid eu trawsffurfio, gan gynnwys canolfannau galwa hunan-wasanaeth digidol, helpu pobl i gael yr wybodaeth sydd ei angen arnyn nhw, yr hyn iâw ddisgwyl oâr broses ymgeisio a sut mae sicrhau eu bod yn cydymffurfio gydaân rheolau.
Ymgeisio i ddod
- Prosesau ymgeisio digidol mwy llyfn a di-dor gan gynnwys cipio a gwirio hunaniaeth arloesol, er mwyn gwellaâr profiad iâr cwsmer.
- System noddi wediâi drawsffurfio er mwyn cyflymuâr broses ar gyfer cwsmeriaid a noddwyr.
Teithio iâr DU
- Caniatâd i Deithio, gan gynnwys cyflwyno cynllun Awdurdodi Teithio Electronig, fydd yn galluogi mwy o wiriadau diogelwch ymhellach i fynyâr gadwyn, i atal mwy o bobl niweidiol rhag cyrraedd ffin y DU yn y lle cyntaf.
- Cyflwyno eFisas â statws mewnfudo digidol, gwybodaeth wedi ei gyrchudrwy system sythweledol, hawdd iâw ddefnyddio, ar-lein neu wasanaethau system i system..
Croesiâr Ffin
- Gan ddefyddioâr hyn a wyddom am bobl i roi gwybod am lif ac ymyrraethau ar y ffin, âcyfrif i mewn ac allanâ gwell a mwy gwybodus.
- Technoleg arloesol yn cynyddu awtomeiddio ar gyfer paw sydd yn teithio iâr DU ar draws pob modd o deithio, prawf o gysyniadau mewn lle er mwyn profi opsiynau âteithio di-gyswlltâ yn llawn.
Byw yn y DU
- Gweithredu pellach o gyfrifon, eFisas cwsmeriaid a Gweld & Phrofi gan roi y gallu i ddefnyddwyr arddangos eu hawliau yn y DU drwy gyfrwng gwasanaethau ar-lein syml.
- Lleihauâr angen i bobl brofi eu hawliau wrth iddyn nhw gyrchu gwasanaethau cyhoeddus drwy rannu dataân gynyddol gydag adrannau llywodraethol eraill, ac adeladu ar y sytemau oedd eisoes mewn lle gydaâr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau ei Mawrhydi a GIG Lloegr a GIG Cymru.
Gwellianau ar draws y System
- Cynnydd yn y defnydd a wneir o fiometreg arloesi er mwyn cadarnhau hunaniaeth ein defnyddwyr ac iâw hadnabod fel unigolion ar wahanol bwyntiau o fewn y system.
- Mwy o bartneriaeth arloesol gyda diwydiant, gan gynnwys pob math o gludwr a phyrth, er mwyn gyrruâr profiad gorau i bob cwsmer.
- Proses gwaith achos digidol mwy llyfn ar gfer llif gwaith mwy effeithiol, trefnu apwyntiad a gwneud penderfyniadau er mwyn bodo o fudd i gwsmeriaid a gweithwyr achos.
Cynllunio dod iâr DU
Trosolwg
33. Iâr sawl sydd yn cynllunio dod iâr DU, rydym yn ei gwneud hiân fwy syml a sythweledol i bobl ddeall os ydyn nhwân gwmwys i gael fisa, pa gamau sydd angen iddyn nhw eu cymryd i wneud cais, a os ywân cael ei ganiatau, amodau eu harhosiad yn y DU. Caiff hyn ei gyflawni drwy gyfarwyddyd a chynnwys mwy eglur ar gov.uk, gan gynnwys offer cymorth i gwsmeriaid newydd.
34. Rydym yn trawsffurfio taith y cwsmer oâr dechrau iâr diwedd ac rydym eisoes wedi cyflenwi nifer o wellianau. Rydym wedi gweithreduâr offeryn âGwiriwch os oes angen fisa y DU arnochâ i helpu cwsmeriaid gael gwybod yn hawdd pa fisa maen nhwân gymwys iddo.[footnote 7] Yr offeryn yma ywâr cynnwys fisa syân cael ei gyrchu fwyaf ar wefan gov.uk.
35. Er mwyn cefnogi cwsmeriaid syân gwneud cais drwy drwydded y Gweithiwr Medrus, rydym wedi lansio offeryn sythweledol a rhyngweithiol newydd â Gwiriwr Cymhwysedd y Gweithiwr Medrus.[footnote 8] Maeâr offeryn hwn yn ei wneud hiân haws i weithwyr a chyflogwyr ddeall os yw swydd arbennig yn gymwys drwy ateb cyfres o gwestiynau mewn perthynas ââu swydd ac amgylchiadau, gan ddefnyddio dewislenni wediâu poblogi â setiau data penodol i roi dangosydd cymhwysedd ar unwaith.
Taith Cwsmer yn y Dyfodol
36. Bydd gyda ni daith di-dor, llwyr ddigidol, oâr dechrau iâr diwedd ar gyfer cwsmeriaid sydd yn rhyngweithio gydaâr system mewnfudo erbyn 2025. Bydd yn cynnig cyfarwyddyd symlach ac yn sythweledol o ran dyluniad gyda chynnyrch hawdd iâw defnyddio fydd yn lleihauâr nifer o ymholiadau gan gwsmeriaid. Ar gyfer y cwsmeriaid hynny fydd angen dod i gyswllt â ni o hyd, caiff ymholiadau eu datrys drwy gyfrwng cymorth hunan-wasanaeth digidol fydd yn eu cymryd yn uniongyrchol iâr cynnwys sydd ei angen arnyn nhw. Rydym yn datblygu nodweddion sgwrsfot a llaisfot gydaâr bwriad o lansioâr cymorth digidol hwn o 2023, gan roi i gwsmeriaid y gallu i ddatrys eu hymholiadauân effeithiol, heb fod angen aros i gael sgwrs gydag asiant. Bydd hyn yn adlewyrchuâr gwasanaeth cwsmer effeithlon ac effeithiol maent yn arfer ei dderbyn gan fusnesau.
37. Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar gyfarwyddyd mwy syml ac wedi ei deilwra ar gyfer gov.uk, gyda disgwyl am y set gyntaf o gyfarwyddyd mwy syml ar gyfer fisas gwaith yn hwyrach yn 2022. Ein bwriad yw defnyddio mwy o fideos âSut mae gwneudâŚâ er mwyn dangos gam wrth gam sut maeâr system yn gweithio ac i helpu defnyddwyr gwblhau tasgiauân llwyddianus fel gwneud cais am ETA, profi eu hunaniaeth neu gofrestru fel noddwr. Bydd y datblygiadau hyn o fudd iâr cwsmer ond hefyd yn eu helpu i ddeall ein disgwyliadau pan ddaw hi i gydymffurfio gyda rheolau mewnfudo.
Ymgeisio i ddod iâr DU
Trosolwg
38. Rydym wedi trawsffurfioâr ffordd mae pobl yn ymgeisio am fisas i ddod iâr DU, aâi gwneud hiân haws ac yn symlach iân cwsmeriaid ymgeisio. Maeâr ffurflen gais nawr ar-lein ar gyfer y rhan fwyaf oân cwsmeriaid a gall miliynau o ymgeiswyr lanlwytho eu biometreg wynebol gan ddefnyddio ffĂ´n clyfar. Mae nifer o bobl nawr yn cael eFisa - sef fersiwn digidol oâu statws mewnfudo y gallant ei gyrchu drwy gyfrwng cyfrif ar-lein. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf bydd y broses ymgeisio âdiofyn ddigidolâ yn cael ei gylchredeg i fwy o gwsmeriaid. Rydym yn datblygu ein model cymorth i gwsmeriaid digidol a bydd gan asiantau yn ein canolfan ddatrys, fynediad at olwg sengl oâr system mewnfudo i gefnogi cwsmeriaid, beth bynnag eu hymholiad.
Diofyn Ddigidol
39. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae pobl yn dibynnuân gynyddol ar wasanaethau digidol o apiau bancio yn hytrach na chardiau corfforol, i dalu eu trethi ar-lein a dymunwn iân cwsmeriaid gael mynediad at wasanaethau mewnfudo yn yr un ffordd ac ar gyfer trafodion eraill yn ymwneud ââr Llywodraeth.
40. Dydyâr system mewnfudo ddim yn eithriad gyda cheisiadau am drywyddion eraill yn cael eu cynnal ar-lein, gan gymryd lle cynnyrch corfforol ac ar bapur gyda gwasanaethau digidol ac ar-lein syân hygyrch a hawdd iâw defnyddio. Mae hyn yn cynnwys galluogi nifer o bobl i ddefnyddio ffĂ´n clyfar i roi biometregau wyneb i sefydlu neu wirio eu hunaniaeth a galluogi ailddefnydd biometreg Ă´l-bysedd a gafodd eu rhoi ar gadw yn flaenorol. Ynghyd â chyflwyno eFisas, mae hwn wedi lleihauâr angen i bobl fynd i Ganolfannau Ymgeisio am Fisa i roi biometreg neu gasglu fisa corfforol. Gall ceisiadau gael eu casgluân llwyddiannus o gartref y cwsmer erbyn hyn.
41. Rydym wedi arddangos budd a rhwyddineb system mewnfudo ddigidol ar Ă´l prosesu dros chwe miliwn o geisiadau ar-lein ar gyfer y Cynllun Preswylioân Sefydlog ar gyfer Dinasyddion yr UE. Fe wnaethon ni adeiladu ar y seiliau hyn gyda chyflwyniad y trywydd Gwladolion Prydeinig (Tramor) Hong Kong, sydd yn galluogi ymgeiswyr i wneud cais heb fynychu Canolfan Awdurdodi Fisa er mwyn cofrestru eu biometreg a chael eFisa hygyrch ar unwaith, yn hytrach na gorfod aros am gael llun bach cyn y gallant deithio.
42. Rhan allweddol oân ffin yn y dyfodol yw digideiddioâr modd y byddwn yn rhoi ar gadw, gwirio a sicrhau hunaniaeth cwsmer, gan gynnwys eu gwybodaeth biometrig. Yn 2022 a 2023, bydd hyn yn cynnwys helaethuâr ail-ddefnyddio data biometrig sydd eisoes ar gadw gan y Swyddfa Gartref i fwy o drywyddion, fel na fydd angen i gwsmeriaid roi eu hĂ´l-bysedd eto. Golyga hyn ein bod yn cynnal diogelwch ein systemau, yn ogystal â gwella profiad y cwsmer.
Cyfrifon Cwsmer Digidol
43. Mae gan gwsmeriaid syân ymgeisio drwyâr system seiliedig ar bwyntiau gyfrif cwsmer digidol i gael mynediad at eu eFisa a gwybodaeth berthnasol ynglšn ââu hawliau. Yn ystod 2022 a 2023, fe fydd yna welliannau pellach iâr cyfrif cwsmer digidol, gan gynnwys mwy o integreiddio di-dor a mwy o fordwyo sythweledol rhwng gwasanaethau. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y llywodraeth, gan gynnwys y rhaglen Un Mewngofnodiad i edrych ar gyfleoedd i uno gwasanaethauâr llywodraeth.
44. Byddwn yn cynnig cyfarwyddyd a chymorth i gwsmeriaid â chanddynt statws mewnfudo cyfredol, iâw helpu i gael mynediad at eFisa fydd yn rhoi mynediad iddyn nhw iâr ystod lawn o nodweddion a gwasanaethau ar-lein. Erbyn diwedd 2024 fe fyddan nhwân gallu rhyngweithio â system mewnfudo ddigidol gan gael gwared ââr angen i gael dogfen gorfforol yn ei le.
eFisas
45. Mae gan filiynau oân cwsmeriaid eFisa eisoes - sef tystiolaeth ddigidol oâu statws mewnfudo - ac yn ei ddefnyddio i ddod mewn a byw yn y DU. Gellir gwylio a gwirio eu gwybodaeth statws mewnfudo wediâi ddiweddaru ar-lein, cyn gynted a bydd caniatâd yn cael ei roi. Bydd yr eFisas hyn yn cael gwared ââr angen am gwsmeriaid i fynd i Ganolfan Awdurdodi Fisa i gasglu fisa papur, gan leihauâr cysylltiadau corfforol gydaâr system mewnfudo aâr baich ar unigolion.
46. Canlyniad yr ymagwedd ddigidol hon fydd cael tystiolaeth gorfforol oâch statws mewnfudo, mewn ffurf lluniau bychain a Thrwydded neu Gerdyn Preswylio Biometrig, fydd yn dod i ben yn raddol erbyn mis Rhagfyr 2024. Rydym yn ymwybodol oâr gwersi a ddysgwyd o Windrush ac rydym wedi ymrwymo tuag at sicrhau fod pob cwsmer, gan gynnwys y rhai mwyaf bregus, yn cael eu cefnogiân gywir wrth i ni drawsffurfio ein system mewnfudo. Ddylai neb gael ei adael ar Ă´l o ganlyniad iân trawsffurfiad digidol. Os yw cwsmeriaid yn ei chael hiân anodd cael mynediad at eu eFisa ar-lein neuân cael unrhyw broblemau technegol, bydd ein Canolfan Datrys un-pwrpas ar gael iâw cefnogi nhw. Bydd cwsmeriaid hefyd yn parhau i dderbyn hysbysiad ysgrifenedig oâu statws mewnfudo gyfochr ââu eFisa, a gallant gadw hwnnw ar gyfer eu cofnodion eu hunain.
47. Er mwyn sicrhau y gall cwsmeriaid sydd â thystiolaeth hanesyddol ac ar bapur oâu statws mewnfudo, fanteisio oâr buddion a ddaw gyda statws digidol, byddwn yn cynnig cyfarwyddyd ynglšn â sut mae cofrestru ar gyfer cyfrif digidol a throsglwyddo i eFisa. Rydym yn cynllunio gweithgarwch cyfathrebu pellach wedi ei anelu at y grĹľp yma er mwyn eu cynghori ar yr hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud ac erbyn pryd. Byddwn hefyd yn ceisio cyrraedd pobl fregus sydd yn llai hyderus yn ddigidol drwy gydweithio gyda rhanddeiliaid ac adrannau eraill oâr Llywodraeth.
Cefnogi Cwsmeriaid
48. Er mwyn cefnogi cwsmeriaid yn well, mae gennym ni Ganolfan Ddatrys, sydd ar agor saith dydd yr wythnos ar gyfer ymholiadau ffĂ´n ac e-bost. Maeâr ganolfan nawr yn cynnig cymorth ffĂ´n ac e-bost i gwsmeriaid gydag eFisa neu syân defnyddio gwasanaethau statws mewnfudo ar-lein. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth cwsmer:
- I gael mynediad at neu adfer cyfrif digidol.
- I ddiweddaru manylion personol.
- I rannu statws ar gyfer cwsmeriaid sydd yn methu gwneud hyn eu hunain.
49. Er mwyn bod o gymorth i gwsmeriaid sydd yn cael anawsterau technegol gydaâu eFisa, gall y Ganolfan Ddatrys wirio statws drwy ffyrdd amgen. Er mwyn cefnogi cwsmeriaid sydd heb fynediad at dechnoleg, neuâr medrau digidol naâr hyder i gwblhauâr ffurflen ar-lein, mae gennym ni wasanaeth digidol â chymorth ar draws y DU.
50. Byddwn yn parhau i adeiladu ar allu ein hasiantau o 2023, gyda gwasanaeth cwsmer o safon fyd-eang wediâi ddarparu gan arbenigwyr mewnol sydd â mynediad at olygfa sengl o ryngweithiadauâr cwsmer gydaâr system mewnfudo.
Noddi
51. Er mwyn gwella profiad y cwsmer ar gyfer cyflogwyr sydd yn dymuno noddi rhywun i ddod i weithio yn y DU, rydym wedi gwneud rhai newidiadau sylweddol iân system nawdd cyflogwyr ac wedi gostwng hyd y broses. Rydym wedi:
- Cael gwared ââr âPrawf Marchnad Lafur i Breswyliwrâ, gan leihauâr amser o adnabod angen hyd at gyflogi gweithiwr mudol a chael fisa ar gyfer y gweithiwr hynnw i 4 wythnos.
-
Gohirioâr cap ar Weithwyr Medrus, gan leihauâr amser prosesu i hyd at bedair wythnos.
- Gwneud y cais am drwydded noddwr yn hollol ddi-bapur, wedi ail-ddylunioâr cyfarwyddyd i noddwyr a gwneud y system yn symlach, yn fwy llyfn a hygyrch.
52. Mae cydymffurfiaeth wrth graidd ein system noddi ac mae gofyn i bob noddwr gydymffurfio gyda holl ddeddfwriaeth berthnasol y DU. Gwnawn wiriadau perthnasol ar bob noddwr potensial, gan gynnwys troseddoldeb yn y gorffennol neu droseddau mewnfudo, er mwyn sicrhau diogelwch y sawl sydd yn dod iâr DU am waith ac unwaith y dyfarnir statws noddwr, mae gyda niâr gallu nawr i wirioân awtomatig os yw gweithwyr medrus yn cael eu taluân unol ââr hyn a ymgymerodd y Noddwr i wneud.
53. Mae dros 40,000 o gyflogwyr eisoes wedi dod yn noddwyr trwyddedig llwyddiannus, gyda nifer ohonyn nhwân fusnesau bychain. Penderfynir ar y rhan fwyaf o geisiadau noddwr o fewn llai nac wyth wythnos gydag opsiwn i gael penderfyniad wediâi hwyluso o fewn 10 diwrnod gwaith am dâl. Ar hyn o bryd mae trwyddedau noddwr yn cael eu prosesu o fewn y safonau gwasanaeth a bydd gwelliannau ychwanegol rhwng nawr a 2024 yn lleihauâr amser y bydd hiân cymryd i noddwr gyflogi gweithiwr tramor ymhellach. Rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i adolygu safonauân gwasanaeth ac i gyflenwi gwelliannau iân cwsmeriaid. Mae blaenoriaethu ein gwaith i fedru ymateb i faterion byr dymor fel cyflenwad llafur wedi effeithio ar ein hamserlen a disgwyliwn nawr i gyflenwi ein gwelliannau erbyn Gwanwyn 2023.
54. Ym mis Awst 2021, fe wnaethon ni gyhoeddi ein Trywydd Noddi[footnote 9] a amlinellodd ein pecyn o ddiwygiadau sylweddol iâr system noddi hyd at 2024, gan gynnwys y newidiadau angenrheidiol i gyflenwi system lyfn a modern sydd yn diwallu anghenion cwsmeriaid. Bydd y trawsffurfiad hwn yn golygu system sydd yn gynt ac yn fwy syml, ac yn llai o faich gweinyddol ar y noddwyr. Fodd bynnag, er bod y nod yn y pen draw o gael system noddi wedi ei drawsffurfioân llwyr i gyflogwyr yn aros yr un peth, bydd hyn nawr yn weithredol erbyn 2025, yn amodol ar adborth gan ddefnyddwyr a llwyddiant y prif a amlinellir yn y tabl syân dilyn.
| Pecyn | Dyddiadau cyflenwi a gynlluniwyd ar gyfer cyflwyniad cyfyngedig | Trosglwyddadwy |
|---|---|---|
| Noddi Fisa | Yn Gynnar yn 2023 | Er mwyn llyfnhauâr broses ar gyfer noddwyr ac ymgeiswyr a galluogi gwaith achos mwy effeithiol, bydd gan noddwyr presennol y gallu i wahodd gweithiwr i wneud eu cais am fisa unwaith i fanylion y swydd gael eu cymeradwyo gydaâr wybodaeth swydd wedi ei lenwi eisoes. |
| Rheoli Trwydded | Yn Hwyr yn 2023 | Er mwyn rhoi gwell dealltwriaeth i ni ynglšn â noddwr aâi weithiwr noddedig, ac i ganiatau penderfyniadau cynt, bydd y system rheoli ar-lein ar gyfer pob noddwr i gynnal gweithgareddau Ă´l-drwydded yn cael ei wella e.e. caniatau noddwyr i wneud newidiadau fel ychwanegu defnyddwyr iâw trwydded. |
| Dod yn Noddwr | Yn Gynnar yn 2024 | Er mwyn ei wneud yn haws i noddwyr arfaethedig i wneud cais am drwydded noddwr, bydd gwiriadau data awtomatig yn cael eu cyflwyno. Bydd hyn yn lleihauâr cyfle i gamdrin, lleihau a symleiddio gofynion y dystiolaeth a roddir ar noddwyr arfaethedig, ac yn lleihauâr amser sydd ei angen i brosesu gwaith achos. |
Teithio iâr DU
Trosolwg
55. Er mwyn cryfhau ffin y DU ymhellach, rydym yn cyflwyno cynllun Caniatâd i Deithio. Bydd hyn yn dweud mwy wrthym am y sawl syân dymuno dod yma ac atal y sawl a welwn fel bygythiad eisoes rhag dod yma. Rydym yn gweithioân agos gyda chludwyr ar draws pob modd o deithio mewn iâr DU er mwyn gwneud y broses yn un gynhwysfawr ac o fudd i bawb.
Caniatâd i deithio
56. Er mwyn cryfhau ffin y DU ymhellach rydym yn cyflwyno cynllun Caniatâd i Deithio yn 2023. Bydd angen caniatâd o flaen llaw ar bawb sydd yn dymuno teithio iâr DU. Bydd hyn yn cynyddu ein gwybodaeth ynglšn âr sawl sydd yn ceisio dod iâr DU ac yn atal y sawl a welwn fel bygythiad eisoes rhag dod yma. Yn hytrach na gwrthod pobl wrth iddyn nhw gyrraedd ein ffin, neu eu cadw ar gost fawr iâr trethdalwr, bydd y dull yma yn ein galluogi i atal pobl rhag teithio iâr DU yn y lle cyntaf. Byddwn yn cyflenwi dull wedi ei dargeduân fwy ar gyfer rheolaeth ffiniau ar gyrraedd ac yn rhoi gwybodaeth ar gydymffurfiaeth. Caiff hyn ei arddangos gan:
- Pasbort â ar gyfer dinasyddion Prydeinig a Gwyddelig.
- eFisa â ar gyfer gwladolion fisa ac unrhywun sydd yn byw neuân dod i weithio neu astudio.
- Awdurdodaeth Teithio Electronig (ETA) â ar gyfer ymwelwyr cenedl di-fisa.
57. Cyflwynodd y Ddeddf Cenedligrwydd a Ffiniau 2022 y pĹľer iâw wneud yn orfodol i deithwyr iâr DU gael ETA â sef cymeradwyaeth ddigidol i deithio iâr DU. Mae hyn yn unol ag ymagwedd nifer o bartneriaid rhyngwladol y DU tuag at ddiogelwch ffiniau, gan gynnwys UDA (ESTA), Canada (ETA), Awstralia (eTA) a Seland Newydd (NZeTA). Disgwylir iâr Undeb Ewropeaidd lansio cynllun tebyg yn 2023 (ETIAS).
58. Bydd cwsmeriaid sydd yn ymgeisio am ETA yn rhoi eu manylion biograffig, biometrig a chyswllt, ac yn ateb set byr o gwestiynau priodoldeb. Caiff yr wybodaeth yma ei wirio yn erbyn ein systemau aâi asesu er mwyn penderfynu os oes gan y person ganiatâd i deithio iâr DU. Bydd y mwyafrif o gwsmeriaid yn derbyn eu ETA o fewn cyfnod byr wedi iddyn nhw gyflwyno eu cais. Nid fisa ywâr ETA. Maeân awdurdodi unigolyn i fynd ar gludwr i deithio iâr DU. Ar gyrraedd ffin y DU, bydd angen iâr unigolyn gael caniaâd i ddod mewn o hyd, yn unol ââr broses nawr.
Cyflwyno ETA 2023
Integreiddiad Cludwyr
59. Er mwyn cefnogi cludwyr gydaâr hawl i deithio, rydym yn datblygu ymagwedd integredig, sengl tuag at wiriadau cyn-ymadael ar ddiogelwch, mewnfudo, ac iechyd (os yn gymwys), yn seiliedig ar ein systemau Gwybodaeth Teithiwr Hysbys (GTH). Bydd cludwyr yn cael un neges gan y Swyddfa Gartref yn cadarnhau pâun a oes gan unigolyn ganiatâd i deithio pan fyddan nhwân cyflwyno data GTH. Bydd hyn yn helpu cludwyr i gyflawni eu goblygiadau statudol o dan gynllun âatebolrwydd cludwrâ y DU, er mwyn sicrhau bod gan deithwyr y dogfennau cywir cywir ar gyfer teithio iâr DU heb fod angen gwirio dogfennau mewnfudo ychwanegol. Bydd y cynllun hwn yn cael ei ddiwygio aâi wella er mwyn adlewyrchu cyflwyniad yr ETAâs aâr gofynion sydd yn ymwneud â chaniatâd ehangach i deithio.
60. Tra bydd disgwyl o hyd i gludwyr wirio bod gan unigolyn ddogfen deithio cymwys, bydd y neges caniatâd i deithio yn eu helpu hefyd i benderfynu os oes gan y teithiwr y fisa neuâr ETA priodol. Bydd hyn yn lliniaruâr risg o fynd i gostau o dan gynllun atebolrwydd y cludwyr. Bydd y dull integredig newydd hwn hefyd yn lleihauâr nifer o ddigwyddiadau lle bydd gofyn i gludwyr, o dan ddeddfwriaeth mewnfudo bresennol, ddychwelyd unigolion sydd wedi cael eu gwrthod rhag dod mewn iâr DU ar y ffin, ar draul eu hunain.
61. Rydym wedi bod yn ymgysylltu ââr gymuned gludo ar draws y sectorau trafnidiaeth awyrennau, rheilffyrdd a morol ynglšn âân cynlluniau ers 2021 ac wedi gweithio gyda nifer o gwmnĂŻau hedfan i helpu i lunio ein dull o weithredu aân hymagwedd tuag at integreiddio cludwyr. Buâr âmabwysiadwyr cynnarâ hyn yn hanfodol ar gyfer ennill mewnwelediadau ac adborth ar ein cynlluniau i integreiddio gyda chludwyr dros y blynyddoedd nesaf.
62. Ym mis Ebrill 2022, fe wnaethon ni gyflwyno nodweddion newydd a phrofiân gallu i anfon negeseuon i gludwyr i gadarnhau y gallwn gymharu teithwyr unigol ar deithlwybrau penodol gyda chofnodion caniatâd dilys gan ddefnyddioâr System Wybodaeth Teithiwr o Flaen Llaw rhyngweithiol (iAPI). Rydym yn edrych ar ddatrysiadau amgen ar gyfer cludwyr nad syân defnyddioâr iAPI er mwyn iddyn nhw allu danfon API a chael caniatâd i ymatebion teithio. Bydd ymgysylltiad gydaâr cludwyr hyn yn ein helpu i ddeall sut gall y dechnoleg weithredu mewn teithlwybrau teithwyr ar draws gwahanol foddau o drafnidiaeth. Bydd integreiddiad gyda holl gludwyr wedi digwydd erbyn yn gynnar yn 2024.
Croesiâr Ffin
Trosolwg
63. Rydym yn trawsffurfio croesiâr ffin, gyda gwelliannau i ddiogelwch, profiad y teithiwr ac amseroedd ciwio. Rydym yn cynyddu awtomeiddio er mwyn ein galluogi ni i reoli llif ac ymyrraethauân well ger y ffin. Byddwn yn uchafuâr defnydd a wneir o ymyrraethau cyn-teithio er mwyn cynyddu diogelwch drwy atal pobl niweidiol rhag cyrraedd y ffin yn y lle cyntaf.
Strategaeth Ffin y DU
64. Ar Ragfyr 17, 2020, cyhoeddoedd Llywodraeth Ei Mawrhydi ei âStrategaeth Ffiniauâr DU 2025â[footnote 10], sef ffrwyth ymgysylltiad helaeth gyda diwydiant yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Maeâr strategaeth yn amlinellu cynllun uchelgeisiol i drawsffurfioâr ffin erbyn 2025 a thu hwnt, i greuâr ffin mwyaf effeithiol yn y byd. Gan adeiladu ar yr uchelgais a amlinellwyd yn Strategaeth Ffin y DU 2025, mae ein amcanion i drawsffurfioâr ffin drwy arloesi digidol yn cynnwys:
- Cynyddu diogelwch.
- Gwella profiad y cwsmer.
- Gwella llifedd drwy feysydd awyr a phorthladddoedd.
- Torriâr cyswllt presennol rhwng niferoedd teithwyr ac adnoddau Lluâr Ffiniau.
- Caniatau i swyddogfion Lluâr Ffiniau i roi eu medrau aâu barn broffesiynol ar waith er mwyn gwellla diogelwch a deillianau diogelu.
65. Maeâr hyn a gaiff ei ddarparu mewn porthladdoedd y DU yn anghyson a thrawsffurfiad allweddol oâr hyn sydd angen ei gyflenwi yn Strategaeth Lluâr Ffiniau 2025 yw sefydlu âporthladdoedd y dyfodolâ gwydn. Byddwn yn amlinelluâr safonau a gofynion ar gyfer isadeiledd ffin a chyfleusterau, drwy bartneru gyda phorthladdoedd a diwydiant y ffin, i gefnogi arloesi, dyluniadau modern a rhai sydd wedi eu canolbwyntio ar y defnyddiwr, cyflymu a diogelu taith pobl a nwyddau drwy borthladdoedd. Bydd hyn yn gwellaâr profiad o groesiâr ffin, lleihau gwendidau ac adeiladu galluâr staff.
66. Rydym wedi sefydlu Grwp Gweledigaeth Ffin Ymgynghorol sydd yn rhoiâr cyfle i ni weithioân agos gydag arbenigwyr academaidd ac oâr diwydiant i yrru ymchwil damcaniaethol i ddatrysiadau ffin ar flaen y gad. Bydd y datrysiadau rydym yn eu datblygu o fudd iâr holl gwsmeriaid ar y ffin, yn ogystal â gweithredwyr porthladdoedd a chludwyr.
67. Erbyn 2025, bydd golwg wahanol iawn ar ffin y DU. Unwaith i ni ymgymryd â chysyniadau prawf a rhaglenni peilot ar gyfer gwella awtomeiddio pellach, gan gynnwys cyflwyno ETA a darpariaeth gynyddol a nodweddion eGlwydi, byddwn yn gallu trawsffurfio model gweithreduâr ffin. Er mwyn cefnogi diwydiant i fod yn barod ar gyfer ffin y dyfodol byddwn yn gweithio ar draws llywodraeth i amlinellu Model Gweithredu Targed ar gyfer pa olwg ddylai fod ar y ffin erbyn diwedd 2023. Bydd hyn yn cynnwys defnyddwyr y ffin fel teithwyr, cludwyr a phorthladdoedd. Fe fydd yna neuaddau croeso llai, wedi eu hail-ffurfweddu ac yn fwy twt, yn caniatĂĄu iâr rhan fwyaf o deithwyr ddod mewn iâr DU yn gyflym ac yn ddiogel. Byddwn yn chwilota dyluniad optimaidd rheolaeth y ffin i gefnogi awtomeiddio gyda gweithredwyr porthladdoedd fel y rhagosodiad ar gyfer gwirio. Dim ond teithwyr o ddiddordeb o ganlyniad i ystod o ffactorau, gan gynnwys gwirio hunaniaeth; proffil risg; cudd- wybodaeth benodol; ymyrraeth arall a gyfeiriwyd at yr asiantaeth; neu bryder yn ymwneud a diogelu, a gaiff eu cyfeirio at Swyddog Lluâr Ffiniau i gael eu harchwilio.
Awtomeiddio
68. Ar gyfartaledd ceir 144 miliwn o groesiadau bob blwyddyn ar ffin y DU. Mae nifer oâr rhain wedi eu hawtomeiddio â yn bennaf drwy eGlwydi yn y rhan fwyaf o feysydd awyr a rhai gorsafoedd rheilffordd â gan ganiatau gwell profiad teithiwr ar gyfer pobl (12 oed neuân hšn) sydd yn cynnig risg gymharol isel yn nhermau trosedd, diogelwch genedlaethol neu gamdrin y Rheolau Mewnfudo.
69. Er mwyn gwella llifedd y ffin, rydym wedi ehanguâr defnydd a wneir o eGlwydi i deithwyr o wledydd âB5JSSKâ yn ogystal â chenedligion Prydeinig, Gwyddelig aâr UE.[footnote 11] Cafodd cyflwyniad cenedlaethol o dechnoleg Croesi Ffin (BX) newydd ei gwblhau, ar amser, erbyn mis Mehefin 2021. Mewn ymateb i COVID, cafodd cyflwyniad BX ar draws eGlwydi ei ddwyn ymlaen aâi gwblhau chwe mis yn gynnar erbyn Hydref 2021, i alluogi awtomeiddio gwiriadauâr Ffurflen Lleoli Teithiwr. Cafodd dros 28 miliwn o deithwyr eu prosesuân llwyddianus gan ddenfyddio BX yn y flwyddyn gyntaf oâi weithredu.
Sut olwg a theimlad fydd ar ffin y dyfodol ?
70. Ein gweledigaeth yw i drawsffurfio ffin y DU, gan wneud newidiadau gweladwy i ddiogelwch, llifedd a phrofiad y teithiwr drwy alluogi mynediad iâr DU sydd wedi ei awtomeiddio ar gyfer y rhan fwyaf o deithwyr ar draws y rhan fwyaf o ddulliau teithio ymhob porthladd. Bydd hyn yn caniatau Swyddogion Lluâr Ffiniau i roi eu medrau ar waith yn ogystal ââu brn broffesiynol i dargedu a chynyddu eu gallu ar gyfer deillianau diogelwch a diogelu. Drwy gyfrwng caniatâd i deithio byddwn yn gwybod mwy am y bobl sydd yn dod iâr DU cyn iddyn nhw deithio. Ynghyd â gwellianau gweledol ar gyfer cwsmeriaid, rydym hefyd yn buddsoddi mewn gwell targedu a rhestrau a systemau gwyliadwraeth er mwyn cynnal ein galluoedd diogelwch o safon byd eang. Rydym wedi adnabod y camau fydd angen i ni eu cymryd er mwyn cyrraedd ein gweledigaeth ar gfyer ffin y dyfodol.
Tymor Agos â diwedd 2023
71. Ein blaenoriaeth yw cynydduâr defnydd o awtomeiddio drwy yrruâr defnydd a wneir ohono ymhlith y sawl sydd eisoes yn gymwys i ddefnyddio eGlwydi. Rydym hefyd yn gweithio i gynyddu gwydnwch yr eGlwydi aâr nifer sydd ar gael ar unrhyw adeg er mwyn sicrhau amser oedd ciwio llai. Er mwyn cynyddu mynediad wedi ei awtomeiddio drwy eGlwyd byddwn:
- Yn cynnal treialon profi cysyniad er mwyn gweld os gellir gostwng y terfyn oedran ar gyfer cenhedloedd cymwys cyfredol a all ddefnyddio eGlwydi o 12 i 10 mlwydd oed.
- Gwellla negeseuon aâi gwneud hiân glir a chyson i helpu teithwyr aâu cyfeirio iâr ciw cywira sicrhau bod cwsmeriaid yn gwybod sut mae defnyddioâr eGlwyd yn gywir.
Tymor Canol
72. O 2023 bwriadwn ehangu ein defnyddo awtomeiddio ymhellach (gan gynnwys eGlwydi) i garfannau na all eu defnyddio ar hyn o bryd. Gan ganolbwyntio ar unigolion sydd â chanddynt ganiatâd mewnfudo eisoes e.e, pobl a chanddynt Ganiatâd Penagored i Aros, neu Fisas Myfyrwyr. Er nad ywâr niferoedd yn rhai sylweddol nac arwyddocaol yn nhermauâr nifer syân croesiâr ffin, maeâr amser a gaiff ei dreulio yn eu prosesu yn hirach, felly byddai unrhyw awtomeiddio ar gyfer y carfannau hyn yn gwellla llifedd ar y fin.
HIr Dymor
73. Byddwn yn canolbwyntio ar y newid mewn camau a thrawsnewidiad y defnydd a wneir o awtomeiddio ar gyfer pob teithiwr i wella cynhwysedd llifedd mewn meysydd awyr, gorsafoedd rheilffordd a phorthladdoedd. Drwy gyfrwng y GrĹľp Ymgynghorol a sefydlwyd ym mis Rhagfyr 2020, rydym yn ymgysylltu gydag academyddion, cyflenwyr y diwydiant, rheolwyr porthladdoedd a chludwyr i chilota dyfodol awtomeiddio. Bydd y digwyddiadau âhacathonâ hyn lle bydd nifer fawr o bobl yn cwrdd er mwyn cydweithio, yn oarhau drwy gydol 2022, gan gynnnig catalydd ar gyfer ei dyluniad manwl ar gyfer y dyfodol. Byddwn:
- Yn adnabod datrysiadau technegol dichonadwy ar gyfer awtomeiddioâr dyfodol, fel mynediad di-gyswllt.
- Yn cynnal cysyniadau profi gan gynnwys defnyddio technolegau awtomeiddio newydd cyfredol a newydd ar gyfer meysydd awyr, gorsafoedd rheilfordd a phorthladdoedd, yn cynnwys y sawl sydd yn ymddangos wrth y ffin mewn cerbydau o 2023 a chynlluniau peilot mewn porthladdoedd gweithredol yn 2024.
- Yn treialu model cyn-caniatau yn erbyn model o ffin sydd wedi ei awtomeiddioân helaeth lle bydd gofuynion rheolaeth ffin yn cael eu cyflawni cyn ymadawiad.
Byw yn y DU
Trosolwg
74. Ar gyfer pobl sydd yn byw yn y DU, rydym yn ei gwneud hiân syml i gydymffurfio gydaân rheolau a hawliau mynediad, pâun a yw hynnyân arddangos yr hawl i weithio neu gael mynediad at y GIG. Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy ein datblygiad pellach o wasanaethau cyfrif ac ar-lein i ganiatau defnyddwyr i weld a phrofi eu hawliau.
75. Mae cyflwyniad eFisas yn caniatau unigolion i edrych ar eu statws mewnfudo wedi ei ddiwedaru ar-lein ar unrhyw adeg ac i rannu gwybodaeth berthnasol ynglšn ââu hawliau yn ddigidol ac yn ddiogel gyda thrydydd partion, fel cyflogwyr neu darpawyr gwasanethau cyhoeddus neu breifat. Mae hyn yn lleihau costau ac yn arbed amser ar gyfer y cwsmery Swyddfa Gartref, a sefydliadau Gwirio.
76. Rydym eisoes wedi dechrau ar y daith hon, gyda miliynau o unigolion eisoes yn profi eu hawliau drwy gyfrwng gwasanaethau ar-lein âgwylio a phrofiâ, âHawl i Weithioâ a âHawl i Rentuâ ar gov.uk. Mae gwasanaethau ar-lein i gyflogwyr a landlordiaid eisoes yn eu caniatau i wirio hawl unigolyn i weithio neu rentu drwy wiriad syml digidol.
77. Er mwyn cefnogi cyflogwyr a landlordiaid rydym wedi symleiddioâr broses ar gyfer gwirio hawl person i weithio a rhentu. Ni al cyflogwyr na landlordiaid dderbyn y cerdyn BRP/BRC mwyach. Mae hyn yn gwella diogelwch a chadernid y system gyfan ac maeân rhan o waith y Swyddfa Gartef i foderneiddio a digideiddioâr cynlluniau Hawli Weithio a Hawli Rhentu. Yn ystod y cyfyngiadau Covid-19, fe wnaeth nifer o gwsmeriaid ei chael hiân help mawr i rannu statws ac arddangos eu cymhwysedd o bell. Mae hyn hefyd wedi symleiddioâr broses ar gfyer cyflogwyr a landlordiaid drwy leihauâr nifer o ddogfennau y dibynnir arnyn nnhw i brofi statws ac maeân galluogi gwiriadau i gael eu cynnal yn hawdd ac o bell.
78. Fel rhan oân diwygiad ehangach oâr system mewnfudo, rydym yn gyyddol yn galluogi adrannau eraill oâr Llywodraeth ac awdurdodau cyhoeddus i allu cael mynediad awtomatig at wybodaeth statws mewnfudo. BYdd y gwasanaethau system-i-system yma yn caniatau adrannau eraill oâr Llywodraeth i gael mynediad at yr wybodaeth berthnasol yn awtomatig, wheb fod orfod iâr unigolyn fynd ar-lein i orfod profi ei hawliau.
79. Mae gwiriadau system i system, sydd yn cefnogi miliynau o wiriadau eisoes bob mis, eisoes yn weithredol gydaâr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) a GIG Cymru a GIG Lloegr. CYnllunir gwasanaethau pellach drwy gydol 2022 a 2023 gyda phartneriaid fel y DVLA, Social Security Scotland, y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr a rhai awdurdodau lleol. Maeâr data sydd yn cael ei wneud ar gael yn benodol ar gyfer yr hyn mae pob adran ei angen ac yn cynnwys yr wybodaeth angenrheidiol yn unig er mwyn goleuo eu pendefyniadau. Drwy wneud data ar gael yn y modd yma, rydym yn lleihauâr nifer o achlysuron y bydd angen i gwsmer brofi ei hawliau. Golyga ein gwiriadau cyflog gyda HMRC y gallwn sicrhau fod gweithwyr yn cael eu talu yr hyn mae eu cyflogwyr wedi ymrwymo iâw talu, a thrwy hynny helpu atal ecsploetio gweithwyr.
80. Rydym yn parhau i gael ein harwain gan wybodaeth a chudd-wybodaeth yn ein gweithredoedd cydymffurfio sydd yn targedu noddwyr a all beri risg uwch neu sydd heb unrhyw hanes o gydymffurfiaeth. Gall sancsiynau am fethu a chydymffurfio amrywio o amodau neu gyfynguadau ar recriwtio, cynlluniau gwaith wediâi rheoli neu atal neu ddiddymiad trwydded noddwr.
Cyfathrebiadau ac ymgysylltiad
81. Mae trawsffurfiad parhaus ac arloesi system mewnfudoâr DU yn effeithio ar nifer o gynulleidfaoedd sydd angen deall sut maen nnhwân cael eu heffeithio a pha gamau sydd angen iddyn nhw eu cymryd, oâr sawl sydd yn dod i ymweld neu weithio yn y DU iâr diwydiant teithio. Mae hi hefyd yn hanfodol i barhaus i oleuoâr cyhoedd pellach ynglšn â sut maeâr Llywodraeth yn cyflenwi ei Gynllun Newydd ar fewnfudo. Rydym wedi ymrwymo tuag at gefnogiâr newid hwn drwy gyfathrebu cynhwysfawr ac ymgyrchoedd ymgysylltu.
82. Hyd heddiw, rydym wedi cefnogi Cynllun Preswylioân Barhaol Dinasyddion yr UE yn llwyddiannus, system mewnfudo syân seiliedig ar bwyntiau a thrywyddion diogel a chyfreithlon dyngarol, gydag ymgyrchoedd i yrru ymwybyddiaeth a pharodrwydd ymhlith y sawl sydd yn cael eu heffeithio aâr cyhoedd ehangach, gan ddefnyddio ystod o sianelu gan gynnwys darlledu, fideo ar alw, cyfryngau cymdeithasol, a hysbysebu ar fyrddau arddangos a thrafnidiaeth gyhoeddus. Byddwn yn parhau gydaâr gefnogaeth hyn drwy negeseuon wedi eu targedu ac estyn allan i gynulleidfaoedd newydd a phresennol syân cael eu heffeithio gan newidiadau iâr system.
83. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau newydd sydd yn targediâs sawl sydd yn cynllunio teithio iâr DU, croesiâr ffin a byw a gweithio yn y DU. BYdd ein neges yn gyrru ymwybyddiaeth o gyflwyno ETAs, eFisas, cyfrifon cwsmer a gwasanaethau ar-lein gydaâr nod o alluogi trawsffurfiad mor ddi-dor â phosib ar gyfer ein cwsmeriaid.
84. Rydym yn parhau i ymgysylltu âân Grwpiau Ymgynghorol Arbenigol a rhanddeiliaid allweddol mewn busnes, y byd academaidd aâr trydydd sector ar newidiadau pellach sydd yn cael eu gweithredu yn ystod bywyd y rhaglen. Maeâr Grwpiau Ymgynghorol yn parhau i fod yn gyfrannol wrth roi adborth a mewnwelediad i ni ar drawsffurfiad y system, y byddwn yn ei fwydo ânĂ´l iâr rhaglen. Maeâr grwpiau hefyd yn parhau i roi cyfleoedd ymgysylltu ehangach i ni ar draws yr holl sectorau a effeithir gan y newidiadau rydym yn eu gwneud.
85. Mae ymgysylltiad wyneb yn wyneb gyda rhanddeiliaid yn hanfodol. Mae ein rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu yn parhau, gyda gweithgarwch wedi ei anelu yn enwedig at y newydd ddyfodiad iâr system. Hyd yn hyn mae digwyddiadau wedi cyrraedd dros 40,000 o randdeiliaid, gan gynnwys busnes, landlordiaid, sefydliadau ariannol, sefydliadau addysgol, awdurdodau lleol, gweinyddiaethau a dinasyddion tramor, ac maent wedi bod yn ffordd bwysig o roi eglurder a chael adborth ynglšn ââr newidiadau rydym yn eu rhoi ar waith.
System mewnfudo sydd yn seiliedig ar bwyntiau
Gyda diwedd y Rhyddid i Symud ar Ragfyr 31, 2020 a lansiad y system mewnfudo seiliedig ar bwyntiau, ym mis Medi 2020, lansiodd y Swyddfa Gartref ymgyrch gyfathrebu ar draws y radio, cyfryngau cymdeithasol, fideo ar alw a hysbysfyrdd ar draws y wlad er mwyn hysbysu a pharatoiâr sawl a effeithiwyd.
Fe barhaodd yr ymgyrch 24 iaith cenedlaethol a rhyngwladol o dargedu dinasyddion yr UE a chyflogwyr y DU o ddiwedd 2020 i ganol 2021. Ymhlith y negeseuon cafwyd galwadau clir i ddinasyddion yr UE oedd yn preswylio yn y DU i gymryd camau i sicrhau eu hawl i barhau i aros, gyda chyflogwyr a gwledydd yr UE yn cael eu hysbysuân barhaus ynglšn ââr ffyrdd y gallai unigolion ymweld, gweithio a byw yn y DU drwy ein system seiliedig ar bwyntiau.
Cafodd hyn ei danategu gan gannoedd o ddigwyddiadau ymgysylltu oedd yn agored iâr sawl oedd yn dymuno dysgu am y system mewn manylder, gan dargedu pob sector, rhanbarth a chenedl ar draws ein Teyrnas Unedig yn ogystal ag yn rhyngwladol.
Cafodd darlledu a digwyddiadau pwrpasol ar gyfer busnesau mawr a bach fel rhan oâu fforymau rheolaidd eu cynnwys yn yr ymgysylltiad, gyda sesiynau mewn cyswllt ag adrannau eraill oâr Llywodraeth fel rhan oâu fforymau rheolaidd, a digwyddiadau ymchwyddo ar gyfer statws preswylwyr sefydlog ar gyfer dinasyddion yr UE a phartĂŻon â diddordeb lle y cyrhaeddwyd bron i 4,000 o randdeiliaid yn ystod cyfnod o 10 diwrnod ar ddiwedd Mehefin 2021.
Diolch iân neges glir ac amserol rydym wedi sicrhau bod dinasyddion yr UE sydd yn preswylio yn y DU wedi sicrhau eu hawliau i fyw a gweithio yn y DU, gyda dros 6 miliwn o ddyfarniadau statws o dan y Cynllun Preswylioân Barhaol i Ddinasyddion yr UE. Mae cyflogwyr y DU wedi gallu addasu i recriwtio gweithwyr medrus y DU drwy ein system fyd-eang seiliedig ar bwyntiau tecach, ac maeâr sawl syân gymwys ar gyfer cynlluniau dyngarol wedi gallu sicrhauâr cymorth yr oedden nhw ei angen.
Mae ein rhaglen ymgysylltu helaeth a phellgyrhaeddol, sydd yn targedu cyflogwyr a phartĂŻon eraill sydd â diddordeb yn y Cynllun Preswylio Sefydlog i Ddinasyddion yr UE aâr system mewnfudo newydd, wedi cael eu derbyn yn wresog, gydaâr system mewnfudo aâr prosesau yn cael eu gwneud yn eglur ac o ganlyniad iâr ymgysylltiad hyn, yn gweld cynnydd yn y nifer o geisiadau noddwr, fisa a Phreswylioân Sefydlog gan Ddinasyddion y UE.
Cyfarwyddyd yr WcrĂĄin ar gyfer Landlordiaid a Chyflogwyr
Ym mis Ebrill a Mai 2022, rhedodd y Swyddfa Gartref, mewn cyswllt ââr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau, Yr Adran Gwaith a Phensiynau, Y Rhwydwaith Cyflogaeth i Ffoaduriaid aâr Awdurdod Gangfeistr a Cham-drin Llafur, gyfres o ddigwyddiadau ar gyfer cyflogwyr a landlordiaid. Mewn cyfnod o wythnos mynychodd tua 1000 o randdeiliaid gan gael eglurhad oâr cynlluniau fisa Wcrain, gwybodaeth ar hawliau i weithio a rhentu, a sut gall rhanddeiliaid helpuâr sawl sydd ââr fisas hyn gael mynediad at waith a llety preifat iâw rentu os a phryd fyddan nhwân barod i wneud hynny. Roedd y sawl a fynychodd hefyd yn gallu gofyn cwestiynau i banel o gynrychiolwyr o adrannauâr llywodraeth a sefydliadau ar holl agweddauâr cynlluniau.
E02773812
978-1-5286-3641-4
-
/government/publications/new-plan-for-immigration-legal-migration-and-border-controlĚýâŠ
-
/government/publications/build-back-better-our-plan-for-growth/build-back-better-our-plan- for-growth-htmlĚýâŠ
-
Ěý /government/speeches/pm-speech-on-action-to-tackle-illegal-migration-14-ebrill-2022ĚýâŠ
-
/government/publications/home-office-outcome-delivery-plan/home-office-outcome-delivery- plan-2021-to-2022ĚýâŠ
-
/government/publications/equality-impact-assessment-of-the-points-based-immigration- systemĚýâŠ
-
ĚýâŠ
-
/government/publications/uk-points-based-immigration-system-sponsorship- roadmap/the-uks-points-based-immigration-system-sponsorship-roadmap-accessible-versionĚýâŠ
-
Y gwledydd hyn yw Awstralia, Canada, Japan, Seland Newydd, Singapor, De Corea, ac Unol Daleithiau America.ĚýâŠ