°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Galw cynhyrchion yn ôl a rhybuddion

Diweddarwyd 7 Gorffennaf 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Beth yw galw cynhyrchion yn ôl?

Gellir galw bwyd yn ôl am nifer o resymau, er enghraifft halogiad â phathogenau fel listeria neu salmonela a allai roi gwenwyn bwyd i chi, neu oherwydd namau gweithgynhyrchu, fel dod o hyd i blastig neu fetel yn y cynnyrch.  Gall rhoi gwybodaeth anghywir neu hepgor gwybodaeth am alergenau hefyd arwain at alw’r cynnyrch yn ôl.  

Busnesau bwyd sy’n gyfrifol am alw cynhyrchion sy’n anniogel yn ôl. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’r diwydiant bwyd i gyhoeddi rhybuddion i ddefnyddwyr pan fydd cynhyrchion bwyd yn cael eu galw’n ôl.  

Tanysgrifiwch i’n gwasanaeth rhybuddion bwyd a rhybuddion alergeddau.

Galw bwyd yn ôl

Pan fyddwch wedi cofrestru, byddwn yn cysylltu â chi bob tro y byddwn yn cyhoeddi rhybudd galw cynnyrch yn ôl. Gall hyn eich helpu i osgoi bwyta bwydydd y canfuwyd eu bod yn anniogel. 

Mae hysbysiadau galw’n ôl yn cynnwys gwybodaeth am y risg a chyngor am yr hyn y dylech ei wneud os ydych wedi prynu’r cynnyrch sy’n cael ei alw’n ôl.  

.

Rhybuddion alergeddau

Mae tanysgrifio i rybuddion alergeddau yn golygu y byddwch yn cael gwybodaeth am unrhyw rybuddion galw cynnyrch yn ôl sy’n gysylltiedig ag alergeddau. Mae’r rhybuddion hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y risg a chyngor am yr hyn y dylech ei wneud os ydych wedi prynu’r cynnyrch.  

.