°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Rhoi gwybod am ddigwyddiad diogelwch bwyd fel awdurdod lleol neu fusnes

Diweddarwyd 5 Awst 2026

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd ac mae angen i chi roi gwybod am broblem neu ddigwyddiad bwyd, rhaid i chi wneud hynny drwy eich awdurdod lleol.

Wrth ddweud ‘digwyddiad bwyd’, rydym yn golygu bod pryderon am fygythiadau go iawn, neu amheuon am fygythiadau, i ddiogelwch bwyd neu fwyd anifeiliaid a allai alw am ymyriadau i ddiogelu buddiannau defnyddwyr.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau roi gwybod i’w hawdurdod lleol/awdurdod iechyd porthladd ac i’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) os oes lle i gredu nad yw bwyd neu fwyd anifeiliaid yn cydymffurfio â’r gofynion diogelwch, a dylent dynnu neu alw’r fath gynhyrchion yn ôl ar unwaith.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr

Rydym wedi cael gwared ar y Ffurflen Adrodd am Ddigwyddiadau ac wedi ei disodli â phroses symlach lle gellir adrodd am ddigwyddiadau dros e-bost. O 17 Tachwedd 2025 ymlaen, gofynnir i chi anfon e-bost at y tîm perthnasol sy’n delio â’ch digwyddiad:

a chynnwys yr wybodaeth allweddol hon:

  1. Enw’r busnes dan sylw a’i gyfeiriad post llawn.
  2. Disgrifiad byr o’r ymchwiliad hyd yma, gan ddarparu o leiaf fanylion y cynnyrch, y meintiau yr effeithir arnynt, ac unrhyw beryglon a nodwyd. Os yw’r wybodaeth hon ar gael, dylech gynnwys manylion dosbarthu ac olrheiniadwyedd ac unrhyw ffotograffau perthnasol.
  3. Rhowch grynodeb o’r camau a gymerwyd ac, os yw ar gael, ganlyniad unrhyw waith dadansoddi gwraidd y broblem a gynhaliwyd.
  4. Manylion unrhyw gyngor penodol sydd ei angen arnoch gan yr ASB.
  5. Cadarnhad o’r manylion cyswllt ‘allan o’r swyddfa’ perthnasol.

Os cewch chi e-bost o’n cyfeiriad e-bost newydd, ymatebwch i’r e-bost hwnnw gan y bydd yn cysylltu’n uniongyrchol â’r digwyddiad hwnnw.

Os oes angen mwy o wybodaeth arnoch am yr hyn i’w gynnwys yn eich neges, mae mwy o wybodaeth i’w chael yn y  Canllawiau i awdurdodau lleol a gweithredwyr busnesau bwyd sy’n rhoi gwybod am ddigwyddiad i’r ASB yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr

 (Dogfen Word)

Rhoi gwybod am ddigwyddiad yn yr Alban

Os ydych chi yn yr Alban, neu os yw’r digwyddiad yn ymwneud â busnes yn yr Alban, gofynnir i chi .