ǸԹ

Skip to main content
Canllawiau

Rhaglen i syrfewyr sy’n dychwelyd i’r maes

Diweddarwyd 6 Mai 2026

Mae rhaglen ddychwelydySwyddfa Brisio (VO) wedi’i hanelu at syrfewyr siartredig sydd wedi treulio amser i ffwrdd o’r proffesiwn.

Mae’r Swyddfa Brisio (a elwid gynt yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio)eisoesyn rhan o Gyllid a Thollau EF. Ni yw arbenigwyr ac ymgynghorwyr prisiadau eiddo’r sector cyhoeddus, gyda gweledigaeth o ddod yn ddarparwr prisiadau’r sector cyhoeddus o’r radd flaenaf yn fyd-eang. Mae ein gwaith yn hanfodol i gasglu dros £60 biliwn o refeniw sy’n cael ei ail-fuddsoddi yn ôl i gymunedau, gan effeithio ar bob dinesydd a phob busnes ledled Cymru a Lloegr.

Mae’r rhaglenyn benodiad cyfnod penodol o 9 mis gyda’r nod o ddod â syrfewyr cymwys sydd heb fod yn weithgar yn y proffesiwn (er enghraifft, maen nhw heb wneud gwaith prisio neu maen nhw wedi newid gyrfa neu wedi cael saib o’r gwaith) yn ôl i rolau o fewn y proffesiwntirfesur. Mae’r cyfnod hwn o 9 mis yn gyfle i ddiweddaru eu gwybodaeth broffesiynol aciuwchsgilio.

Fel rhan o’r contract 9 mis, byddwn yn darparu cymorth a hyfforddiant ar gyfer cyfweliadau er mwyn i’r rheiny sy’n dychwelyd i’r maes fagu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i ymgeisio am un o’r swyddi parhaol fel syrfëwr siartredig SO. Fesul dipyn ar ôl cwblhau proses gynefino gynhwysfawr, bydd y rheiny sy’n dychwelyd i’r maes yn dod i adnabod pob agwedd ar y proffesiwn.

Mae’r ystod o waith rydym yn eu gwneud heb ei ail. Bydd y cyfrifoldebau arferol yn cynnwys rheoli llwythi achosion, cynnal prisiadau, darparu cyngor technegol a chynrychioli’r VO yn y Tribiwnlys Prisio. Rydym hefyd yn cynnig cyfle i weithio ar eiddo proffil uchel ac anarferol.

Bydd pawb sy’n ymuno â ni yn cael cymorth pwrpasol gan fentor, a bydd rhai o’r gweithwyr proffesiynol mwyaf profiadol yn eu diwydiant ar gael i rannu eu harbenigedd.

Mae hyfforddi a datblygu yn nodweddion allweddol i’r rhaglen. Bydd y rheiny sy’n dychwelyd yn cael cyfle i fynychu sesiynau hyfforddi grŵp ar ystod o bynciau, fel sgiliau TG a meithrin gwydnwch.

Manyleb y person

Rydym yn gofyn am dystiolaeth o’r canlynol ar eich ffurflen gais:

  • y gallu i arwain, ysgogi ac ysbrydoli pobl eraill i wireddu canlyniadau, gan gynnwys rhannu’ch gwybodaeth broffesiynol i helpu pobl eraill i ddatblygu
  • sgiliau cyfathrebu ardderchog, gyda’r gallu i ddelio ag ystod eang o gwsmeriaid a rhanddeiliaid
  • sgiliau dadansoddi a barnu cryf,gyda’r gallu iddehongli ystod o dystiolaeth er mwyn rhoi cyngor perthnasol
  • ymrwymiad personol a phroffesiynol i’ch datblygiad parhaus

Lleoliadau

Mae gennym swyddfeydd modern, cynllun agored, sydd mewn lleoliadau cyfleus ledled Cymru a Lloegr.

Rydym yn rhagweld y bydd cyfleoedd ar gael yn y lleoliadau canlynol:

Abertawe, Birmingham, Bryste, Caerdydd, Caerfyrddin, Caergrawnt, Caerhirfryn, Caerwysg,CanaryWharf,Colchester,Croydon,Durham,Eastbourne,Folkestone,Hull,Leeds, Lerpwl (Bootle), Manceinion, Newcastle,Norwich,Nottingham, Plymouth,Preston, Rhydychen (Abingdon),Sheffield,Southampton, St.Austell,StokeaWembley.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau eich bod yn cael eich lleoli yn y lleoliad sydd orau gennych. Fodd bynnag, oherwydd galw busnes a lleoliad ein syrfewyr, ni allwn roi sicrwydd y byddpob swyddfa’rVOsydd wedi’u rhestru ar gael.

Byddwn yn trafod lleoliadau posibl gennych yn ystod y broses ddethol.

Cyflog

Y cyflog ar gyfer y rôl hon yw:

  • £48,886 (yn genedlaethol)
  • £53,251 (yn Llundain)

Buddion

Rydym yn cynnig buddion gwych o fewn CThEF. Yn ogystal â’ch cyflog deniadol, mae CThEF yn cyfrannu at eich aelodaeth o Gynllun Pensiwn Buddion Diffiniedig y Gwasanaeth Sifil. Mae hwn yn gynllun pensiwn hael iawn, gyda chyfraniadau isel gan weithwyr. Cliciwch ar y ddolen hon am ragor o wybodaeth i

Lle bo’n briodol, rydym hefyd yn cynnig.

Polisi gweithio hyblyg

Mae gan CThEF polisi gweithio hyblyg, yn cynnig gweithio rhan-amser a gweithio yn ystod tymor yr ysgol, sy’n eich galluogi chi i gydbwyso eich gwaith â’ch ymrwymiadau personol.  Mae CThEF hefyd yn gweithredu system gweithio hybrid – bydd eich rôl yn gyfuniad o weithio yn y swyddfa a gweithio gartref.Rydym hefyd yn cynnig cymorth rhagorol ar gyfer yr achlysuron hynny sy’n codi’n annisgwyl, gan gynnwys absenoldeb gofal a chymorth yn ystod argyfyngau domestig.

Gwyliau

Rydym yn cynnig lwfans gwyliau sy’n dechrau gyda 25 diwrnod ac yn codi i 30 diwrnod ar ôl cyfanswm o 5 mlynedd o wasanaeth. Byddwch hefyd yn cael 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus ac 1 diwrnod braint.

Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd

Mae hyn yn cynnwys cyfnodau mamolaeth, mabwysiadu neu absenoldeb ar y cyd i rieni hyd at 26 wythnos o gyflog llawn, yna 13 wythnos o dâl statudol,awedyn13 wythnos arall heb dâl yn ôl eich disgresiwn. Rydym hefyd yn cynnig tâl tadolaeth am 4 wythnos ar gyflog llawn.

Cymorth personol 

Rydym hefyd yn cynnig cymorth rhagorol ar gyfer yr achlysuron hynny sy’n codi’n annisgwyl, gan gynnwys absenoldeb gofal a chymorth yn ystod argyfyngau domestig. Mae hyn yn cynnwys trefniadau estynedig o absenoldeb arbennig i’ch helpu i gydbwyso eich ymrwymiadau bywyd a gwaith, ac rydym yn gweithio gyda darparwyr proffesiynol i gynnig gwasanaethau iechyd galwedigaethol a llesiant meddyliol a chorfforol cynhwysfawr.

Cyfleoedd hyfforddi a datblygu

Rydym yn cynnig cyfleoedd gwych o ran datblygiad proffesiynol a phersonol. Byddwch yn cael eich cefnogi gan gydweithwyr sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad fel y gallwch dyfu’n barhaus yn eich rôl.

Buddion ar wahân i’r cyflog

Rydym yn cynnig buddion hael ar gyfer ein cydweithwyr i’w mwynhau, fel cynllun Beicio i’r Gwaith gwerth hyd at £4,000, cynllun gostyngiad i gyflogai sydd ar gael i’w ddefnyddio mewn ystod eang o fanwerthwyr, gostyngiad campfa a mwy.

Sut i wneud cais

Byddwn yn adolygu’r ceisiadau ar sail barhaus. Os oes diddordeb gennych yn y cyfle hwn, anfonwch e-bost at returningsurveyorsprogramme@hmrc.gov.uk gyda’r wybodaeth ganlynol:

  • CV sy’n nodi hanes eich gyrfa, eich cyfrifoldebau a’ch cyflawniadau (oherwydd natur y rhaglen, rydym yn disgwyl y bydd bylchau yn eich CV)
  • llythyr eglurhaol, hyd at 750 gair, yn nodi sut rydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystraynghŷd âmanyleb personol,pahamyrhoffech y cyfle hwn,a’r hyn y gallwch ei gynnig i’r VO
  • hyd at 3 lleoliad dewisol, wedi’i restru yn ôl blaenoriaeth

Camau nesaf

Bydd ymgeiswyr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwystra a manyleb y person yn cael eu gwahodd i drafod eu CV a’u cymell am ymgeisio am y rhaglen mewn mwy o fanylder. 

Bydd y cyfweliad yn anffurfiol, ond bydd yn cael ei sgorio. Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhoi yn ddiweddarach. 

Bydd yr holl gyfweliadau yn cael eu cynnal dros MicrosoftTeams.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ein rhaglen neu’r meini prawf cymhwystra, anfonwch e-bost at returningsurveyorsprogramme@hmrc.gov.uk.

Tystebau syrfëwr

Penny Walsh

Penny Welsh yw’r Arweinydd Prisio yn ein tîm Cyfleustodau, Telegyfathrebu a Thrafnidiaeth. Mae hi’n esbonio yma am sut mae ein polisïau gweithio hyblyg wedi’u cefnogi hi trwy gydol ei gyrfa.

“Dechreuais fy ngyrfa yn y VO ar ôl graddio dros 30 mlynedd yn ôl, cyn symud i bractis preifat er mwyn ehangu ar fy mhrofiad.

“Ar ôl dechrau teulu, fe benderfynais yn 2002 i ddychwelyd i’r VO. Roedd gweithio hyblyg yn golygu fy mod i’n gallu cydbwyso cael teulu ifanc ochr yn ochr ag ymrwymiadau fy nhyrfa.

“Gweithiais mewn sawl tîm, yn cwmpasu ystod eang o fathau o eiddo, cyn arbenigo mewn prisiadau amaethyddol.

“Yn 2018, oherwydd profedigaeth annisgwyl yn y teulu, roeddwn i’n gallu manteisio ar fuddiant arall o weithio i’r VO a chymerais seibiant gyrfa am 3 blynedd.

“Roedd y sicrwydd o wybod y byddwn i’n gallu dychwelyd i’r VO yn rhoi cymaint o dawelwch meddwl i mi yn ystod cyfnod pan oedd popeth arall yn fy mywyd mor ansicr.

“Yn y pen draw, roeddwn i’n barod i ddychwelyd i’r gwaith yn gynt na’r disgwyl. Roedd y VO yn hynod hyblyg ac, er gwaethaf pwysau’r pandemig, ges i groeso cynnes yn ôl ym mis Gorffennaf 2020.

“Gwnaeth y pandemig fy atal rhag dychwelyd i’m rôl flaenorol, felly ges i gyfle i fynd ar secondiad gyda thîm newydd. Ces i hyfforddiant trylwyr ar gyfer fy rôl newydd a ffynnais mewn amgylchedd newydd. O ganlyniad, gofynnais i’r VO fy noddi i astudio Diploma Graddio RICS.

“Gyda chefnogaeth fy nghydweithwyr, llwyddais yn fy niploma yn 2023. Yn y diwedd, roedd yr wybodaeth fanwl a’r ddealltwriaeth o drethiant lleol ges i wedi fy arwain at ymuno ag un o dimau ardrethu arbenigol y VO fel arweinydd prisio.

“M’r VO wedi rhoi cymaint o hyblygrwydd a chefnogaeth i mi er mwyn i mi gyflawni fy mhotensial.”

Ellen Atkin

Pennaeth Llywodraeth Leol a Datganoledig yw Ellen Atkin. Mae hi’n sôn am ddatblygiad ei gyrfa yn y VO.

“Ymunais â’r VO ar ôl gweithio i lywodraeth leol a’r sector preifat. Doeddwn i ddim yn gwybod llawer am y sefydliad pan gyrhaeddais 12 mlynedd yn ôl, ond newidiodd hynny’n gyflym.

“Dechreuais weithio yn y maes ardrethi busnes cyn symud ymlaen i Wasanaethau Prisiwr Dosbarth (DVS), sef cangen eiddo arbenigol y VO.

“Un o’r pethau gwych am weithio yn y VO yw’r amrywiaeth o waith y gallwch ei wneud. Yn ystod fy ngyrfa, dwi wedi bod yn ddigon ffodus i weithio ar nifer o gynlluniau datblygu ac adfywio proffil uchel ledled Swydd Efrog a Gogledd-ddwyrain Lloegr.

“Ym mis Tachwedd 2020, des i’n arweinydd tîm yn DVS. Yma, gwnes i ragor o waith rheoli, fel monitro perfformiad gweithredol ac ystyried materion amserlennu a chyllidebu. Ar yr ochr brisio, parheais i weithio ar brosiectau cymhleth, heriol a thechnegol, a darparu cyngor ymgynghorol i amrywiaeth o gleientiaid yn y sector cyhoeddus.

“Ddwy flynedd yn ôl, ges i rôl dros dro fel pennaeth uned DVS. Rhoddodd hyn gyfrifoldeb ar y cyd i mi dros tua 350 o bobl, a helpais i i arwain strategaeth genedlaethol a rhanbarthol DVS ar gyfer 2022–23.

“Y llynedd, des i’n bennaeth llywodraeth leol a datganoledig yn DVS. Yn fy rôl newydd, rwy’n awyddus i ddatblygu sgiliau’r VO ym maes prisio’r amgylchedd adeiledig cynaliadwy.

“I gefnogi’r nod hwn, y llynedd rhoddodd y VO y cyfle i mi ddychwelyd i’r brifysgol i astudio gradd meistr yn y maes hwn.

“Rwy’n wirioneddol ddiolchgar am bopeth y mae’r VO wedi’i wneud drosta i dros y 12 mlynedd diwethaf. Gyda’u cefnogaeth a’u buddsoddiad, rwyf wedi gallu tyfu a datblygu fel syrfëwr ac arweinydd.

“M’r amrywiol raglenni hyfforddi, cyfleoedd mentora a phrosiectau datblygu wedi gwella fy ngalluoedd, a hefyd wedi fy helpu i gyfrannu’n fwy effeithiol at nodau’r sefydliad.

“Rwy’n arbennig o ddiolchgar am y pwyslais ar ddysgu parhaus a datblygiad personol. Mae hyn wedi bod o fudd i mi’n broffesiynol, ond hefyd wedi cyfoethogi fy mhrofiad cyffredinol yn y gwaith yn sylweddol.”

Gareth Palmer

Gareth Palmer yw Cyfarwyddwr Prosiect Net Capacity Assessment, ac mae’n gweithio yng Ngwasanaethau Prisiwr Dosbarth (DVS). Mae’n amlinellu sut y cefnogodd y VO ef pan ddechreuodd deulu.

“Dechreuodd fy mywyd yn y VO yn 2013, pan ymunais i fel syrfëwr graddedig. Ar ôl cymhwyso, gweithiais i fel uwch-syrfëwr yn DVS cyn cael cynnig dyrchafiad dros dro dros gyfnod o absenoldeb mamolaeth.

“Wrth i fy nghydweithiwr ddychwelyd, cafodd fy merch gyntaf, Maisie, ei geni. Ces i 2 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth â thâl, a chymerodd fy ngwraig 7 mis o Absenoldeb Mamolaeth. Cymerais i’r 5 mis oedd yn weddill fel Absenoldeb ar y Cyd i Rieni.

“Treulio 5 mis cyfan gyda fy merch (er iddo fod yn ystod y cyfnod clo) oedd y penderfyniad gorau y gallwn fod wedi’i wneud, ac un y byddwn yn ei argymell i unrhyw dad arall.

“Pan ddychwelais i’r gwaith, ces i ddyrchafiad dros dro bron yn syth. Roedd hyn eto dros gyfnod absenoldeb mamolaeth cydweithiwr.

“Roedd y rôl hon yn wych, a helpodd y profiad hwn i mi sicrhau swydd barhaol arall ar yr un radd. Llwyddodd fy nghydweithiwr i gael dyrchafiad ar ôl dychwelyd o’r cyfnod mamolaeth, ac fe ddaeth hi’n rheolwr i mi.

“Ym mis Chwefror 2022, cafodd fy ail ferch, Annabelle, ei geni. Roedd y VO wedi newid ei bolisi felly ces i 4 wythnos o Absenoldeb Tadolaeth â thâl. Roedd yr amser ychwanegol i ffwrdd i ofalu am fy nheulu yn amhrisiadwy.

“Cymerais Absenoldeb ar y Cyd i Rieni eto pan anwyd Annabelle. Rhannon ni 5 mis hyfryd gyda’n gilydd, gan fynd i ddosbarthiadau babanod a threulio diwrnodau yn y ddinas.

“Dychwelais i’r gwaith ym mis Tachwedd 2022, a chynigiwyd dyrchafiad dros dro arall i mi’n fuan wedyn. Rwy’n dal yma ac yn ei fwynhau’n fawr.

“M’r VO wedi bod yn anhygoel drwy gydol fy nhaith. Dydy cymryd Absenoldeb ar y Cyd i Rieni erioed wedi fy nal yn ôl, ac rwyf wedi cael cyfleoedd gwych i ddirprwyo ar gyfer cydweithwyr sydd hefyd yn dechrau eu teuluoedd eu hunain.

“Gall gweithio’n llawn amser gyda 2 o blant ifanc fod yn heriol, ond mae oriau hyblyg y VO, ei bolisi gweithio hybrid a’i lwfans gwyliau blynyddol yn help mawr.”