Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol
Cyhoeddwyd 26 Ionawr 2018
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
0.1 Hwb y Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol
²Ñ²¹±ðÌý yn darparu mynediad i’n holl bwyllgorau yn ogystal â man storio ar gyfer dogfennau traws-bwyllgor.
1. Ein Pwyllgorau
1.1 Cyngor Gwyddoniaeth
²Ñ²¹±ðÌýyr ASB yn bwyllgor arbenigol annibynnol o’r ASB, sy’n cynnwys Cadeirydd a saith aelod. Mae’n darparu mewnwelediad, her a chyngor strategol lefel uchel, arbenigol i’n Prif Gynghorydd Gwyddonol, y Bwrdd a gweithrediaeth yr ASB ar ein defnydd o wyddoniaeth i gyflawni amcanion yr ASB.
1.2 Pwyllgor Cynghori ar Fwyd a Phrosesau NewyddÂ
²Ñ²¹±ð’rÌýyn gorff anstatudol o arbenigwyr gwyddonol annibynnol sy’n cynghori’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ar unrhyw faterion sy’n ymwneud â bwydydd newydd (gan gynnwys bwydydd wedi’u haddasu’n enetig) a phrosesau newydd (gan gynnwys arbelydru bwyd).
1.3 Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd
²Ñ²¹±ð’rÌý yn rhoi cyngor arbenigol i’r llywodraeth ar gwestiynau sy’n ymwneud â materion microbiolegol a bwyd.
1.4 Pwyllgor ar Wenwyndra
²Ñ²¹±ð’rÌý yn bwyllgor gwyddonol annibynnol sy’n rhoi cyngor i’r ASB, yr Adran Iechyd ac Adrannau ac Asiantaethau eraill y Llywodraeth ar faterion sy’n ymwneud â gwenwyndra cemegau.Â
1.5 Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Anifeiliaid
²Ñ²¹±ð’rÌý yn cynghori ar ddiogelwch a defnyddio bwydydd anifeiliaid ac arferion bwydo, gyda phwyslais arbennig ar ddiogelu iechyd pobl, a thrwy gyfeirio at ddatblygiadau technegol newydd.
1.6 Pwyllgor Cynghori ar Wyddoniaeth Cymdeithasol
²Ñ²¹±ð’rÌý yn darparu cyngor strategol arbenigol i’r ASB ar ei defnydd o’r gwyddorau cymdeithasol gan gynnwys dulliau, prosesau a systemau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg i holi data, i gyflawni amcanion yr ASB. Ei bwrpas yw helpu’r ASB i ddefnyddio’r gwyddorau a’r dulliau hyn o lunio a chyflawni ei hamcanion strategol a deall ei heffaith.
2. Pwyllgorau nad ydynt yn rhan o’r ASB
2.1 Pwyllgor ar Garsinogenedd (Carcinogenicity)
²Ñ²¹±ð’rÌýPwyllgor ar Garsinogenedd Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd yn asesu ac yn rhoi cyngor ar risg carsinogenig i bobl.
2.2 Pwyllgor ar Fwtagenedd
Mae’r Pwyllgor ar Fwtagenedd Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd (COM) yn asesu ac yn cynghori ar risgiau mwtagenig i bobl. Gallwch chi ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Pwyllgor ar Fwtagenedd ar °Ç¸ç³Ô¹Ï.
2.3 Pwyllgor Cynhyrchion MilfeddygolÂ
Sefydlwyd y Pwyllgor Cynhyrchion Milfeddygol (VPC) i gynghori ar ddiogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd meddyginiaethau milfeddygol, ac i ystyried adroddiadau am adweithiau niweidiol i feddyginiaethau milfeddygol o dan amheuaeth.
2.4 Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus
Mae Is-grŵp Asesu Peryglon TSE y Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus (ACDP) wedi’i sefydlu i ddarparu cyngor arbenigol annibynnol yn y maes hwn i’r ASB ac adrannau eraill, yn dilyn diddymu’r Pwyllgor Cynghori Enseffalopathi Sbyngffurf (SEAC) yn 2011.
2.5 Pwyllgor Arbenigol y DU ar Blaladdwyr Â
²Ñ²¹±ðÌýPwyllgor Arbenigol y DU ar Blaladdwyr (ECP)yn rhoi cyngor annibynnol, diduedd i’r llywodraeth ar bob mater gwyddonol sy’n ymwneud â phlaladdwyr. Mae’r aelodau’n darparu cyngor gwyddonol ar awdurdodi plaladdwyr a materion eraill sy’n ymwneud â phlaladdwyr.
2.6 Pwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth
²Ñ²¹±ð’rÌýPwyllgor Cynghori Gwyddonol ar Faeth (SACN) yn bwyllgor ymgynghorol ledled y DU yn lle’r Pwyllgor ar Agweddau Meddygol Polisi Bwyd a Maeth (COMA)
2.7 Pwyllgor Arbenigol Defra ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd
Disodlwyd y Pwyllgor Gweddillion Plaladdwyr (PRiF) gan Bwyllgor Arbenigol Defra ar Weddillion Plaladdwyr mewn Bwyd. Mae’n darparu cyngor gwyddonol annibynnol ar weddillion plaladdwyr ym mwyd y Deyrnas Unedig (DU).
Mae’r Pwyllgor yn cynghori Gweinidogion a’n Prif Weithredwyr a’r Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegion (CRD) ar gynllunio rhaglenni gwyliadwriaeth ar gyfer gweddillion plaladdwyr yng nghyflenwad bwyd y DU a gwerthuso’r canlyniadau, a gweithdrefnau ar gyfer samplu, prosesu samplau a dulliau dadansoddi newydd.
3. Pwyllgorau sydd wedi dod i ben
Yn dilyn adolygiad o bwyllgorau cynghori gwyddonol, disodlwyd gan Gyngor Gwyddoniaeth newydd ar 1 Ebrill 2017 a’r ²µ²¹²ÔÌý ym mis Ebrill 2018. Mae gweithgor y Pwyllgor Cynghori Traws Wyddonol ar y fframwaith ar gyfer bwydydd sy’n peri risg, a sefydlwyd yn 2016, wedi cau.