°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau statudol

Gwybodaeth am reolaethau pysgod cregyn

Cyhoeddwyd 22 Rhagfyr 2017

Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru

Ni yw’r Awdurdod Cymwys Canolog sy’n uniongyrchol gyfrifol am benderfyniadau mewn perthynas â dosbarthu a monitro rheolaethau swyddogol pysgod cregyn. Rydym ni’n rhoi cyngor ar gau ac ailagor ardaloedd cynhyrchu ac ail-osod pysgod cregyn.Ìý

Diffinnir molysgiaid dwygragennog byw ganÌý.

Mae molysgiaid dwygragennog byw yn cynnwys:

  • wystrys (y Môr Tawel a brodorol)
  • cregyn gleision
  • cregyn berffro (clams)
  • cocos
  • cregyn bylchog

Gan fod y rhywogaethau hyn yn bwydo drwy hidlo, maent yn agored i gasglu a chronni tocsinau, halogion cemegol neu bacteriolegol o’u hamgylchedd.

Er mwyn lleihau’r risg o halogiad, dim ond o ardaloedd cynhyrchu dosbarthedig sy’n cael eu monitro y gellir cynaeafu’r rhywogaethau hyn yn fasnachol.

Mae yna driniaethau ar gyfer pysgod cregyn i leihau lefel yr halogiad microbiolegol ynddynt a sicrhau eu bod yn ddiogel i’w rhoi ar y farchnad.

Mae hefyd yn ofyniad i fonitro ardaloedd cynhyrchu dosbarthedig ar gyfer biotocsinau morol, ffytoplancton a halogiad cemegol.

Gall awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am yr ardal lle mae’r gwely pysgod cregyn wedi’i leoli samplu ar gyfer rheolaethau swyddogol. O dan drefniadau penodol gyda dilysiad priodol, gall contractwyr preifat neu sefydliadau trawsffiniol wneud hynny hefyd.

Mae labordai cymeradwy yn cynnal profion a dadansoddiadau penodol o’r samplau. ÌýPan fydd canlyniadau samplu yn dangos bod lefelau halogion yn uwch na’r lefelau uchaf a ganiateir, bydd eich awdurdod lleol yn gweithredu.

Dosbarthu, monitro a samplu

Rhaid dosbarthu ardaloedd cynhyrchu ac ail-osod pysgod cregyn yn ôl lefelau halogiad microbiolegolÌý(E. coli)Ìýa ganfyddir mewn samplau cnawd o’r ardal.

Ìý

Ardal gynhyrchu

Unrhyw fôr, aber neu lagŵn, sy’n cynnwys naill ai gwelyau molysgiaid dwygragennog naturiol neu safleoedd a ddefnyddir ar gyfer eu tyfu, ac o ble y cymerir y molysgiaid dwygragennog.

Ardal ail-osod

Unrhyw fôr, aber neu lagŵn gyda ffiniau wedi’u marcio’n glir a’u nodi gan fwiau, pyst neu unrhyw ddull sefydlog arall. Defnyddir ardal ail-osod yn gyfan gwbl ar gyfer puro molysgiaid dwygragennog byw yn naturiol i gael gwared ar halogiad microbiolegol.

Yr Alban

Gwybodaeth amÌý