Mynd i'r afael ag ymholiadau y gellir eu hosgoi
Diweddarwyd 7 Mai 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Diffiniad o geisiadau y gellir eu hosgoi
Gwallau a hepgoriadau mewn cais y gellir eu hosgoi’n rhwydd trwy ofal a sylw yw’r rhain. Maent yn amrywio o anghysondebau gydag enwau a thystiolaeth hunaniaeth anghyflawn i gynlluniau wedi eu sganio’n wael a dogfennau, tudalennau neu wybodaeth ar goll mewn ffurflenni.
Isod, ceir disgrifiad o’r 32 ymholiad y gellir eu hosgoi mwyaf cyffredin a anfonir bob blwyddyn, gyda chysylltau i ddeunyddiau hyfforddi a chymorth perthnasol.
Awgrymiadau da
Gwyliwch fideos cyflym ‘10 Awgrym Da ar gyfer ceisiadau penigamp’ ein gweithwyr cais, a all eich helpu i osgoi’r rhan fwyaf o’r ymholiadau mwyaf cyffredin hyn.
Enwau
1) Amrywiadau mewn enwau rhwng gweithredoedd neu baneli hunaniaeth.
Rydym yn gwirio bod pob enw yn cyfateb rhwng y gweithredoedd a’r paneli hunaniaeth (er enghraifft paneli 12 i 14 ffurflen AP1; paneli 14 i 16 ffurflen FR1). Os oes anghysondeb, rydym yn anfon ymholiad.
2) Amrywiadau mewn enwau rhwng gweithredoedd a chofrestr mewn cais.
Rydym yn gwirio bod pob enw yn cyfateb rhwng y gweithredoedd a chofrestr teitl yr eiddo. Os oes anghysondeb, rydym yn anfon ymholiad.
3) Amrywiadau mewn enw pan fo disgyniad teitl yn ofynnol.
Rydym yn gwirio bod pob enw yn cyfateb rhwng y gweithredoedd a’r gofrestr teitl. Os oes anghysondeb, rydym yn anfon ymholiad.
4) Sillafiad gwahanol yn yr enw a gofnodwyd yn y gofrestr – wedi ei lofnodi’n electronig
Rydym yn gwirio bod pob enw yn cyfateb rhwng y ffurflen gais, y gweithredoedd a’r gofrestr teitl. Os oes anghysondeb, rydym yn anfon ymholiad.
5) Sillafiad gwahanol yn yr enw yn parhau yn y gofrestr – wedi ei lofnodi’n electronig
Rydym yn gwirio bod pob enw yn cyfateb rhwng y ffurflen gais, y gweithredoedd a’r gofrestr teitl. Os oes anghysondeb, rydym yn anfon ymholiad.
6) Newid enw cwmni – tystiolaeth yn ofynnol
Mae angen tystiolaeth arnom i gadarnhau bod y cwmni cofrestredig wedi newid ei enw. Os yw hwn ar goll, byddwn yn anfon ymholiad yn gofyn am dystysgrif Tŷ’r Cwmnïau.
7) Anghysondeb enw rhwng gweithredoedd na ellir eu diwygio
Rydym yn gwirio bod pob enw yn cyfateb rhwng y ffurflen gais, y gweithredoedd a’r gofrestr teitl. Os oes anghysondeb ac ni ellir diwygio’r weithred, rydym yn anfon cais yn gofyn am gadarnhad ysgrifenedig neu dystiolaeth i egluro’r amrywiad.
Awgrym Da
| Gweminarau | Canllawiau | Adnoddau ychwanegol | |
|---|---|---|---|
| Ìý |
| Os yw eich cais yn cynnwys gweithredoedd wedi eu llofnodi’n electronig:ÌýCyfarwyddyd ymarfer 82: llofnodion electronig a dderbynnir gan Gofrestrfa Tir EF | ||
| Ìý | ÌýÌý |
Perchnogaeth
4) Dim gwybodaeth neu wybodaeth sy’n gwrthdaro ynghylch sut i gadw’r eiddo.
Os ydym yn cofrestru dau neu fwy o berchnogion, rydym yn gwirio:
-
panel 9 ffurflen FR1
-
panel 10 ffurflen TR1
-
panel 11 ffurflen TP1
-
cymal LR14 prydles cymalau penodedig
Os nad ydych wedi cwblhau’r panel perthnasol neu os nad yw’n glir a yw’r perchnogion i fod yn gyd-denantiaid neu’n denantiaid cydradd – er enghraifft os ydych wedi ticio’r ddau flwch, neu wedi ysgrifennu ‘gweler y ddogfen Ymddiried’ yn unig – rydym yn anfon cais.
Awgrym Da
| Canllawiau | Adnoddau ychwanegol |
|---|---|
| Cydberchnogaeth | Cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat |
| Ìý |
Hunaniaeth
5) Mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer y gwaredwr, gwaredwr neu atwrnai.
Byddwn yn gwirio eich bod wedi cadarnhau hunaniaeth y gwaredwr (gwerthwr neu brydleswr), y gwaredai (prynwr, prydlesai) neu eu hatwrnai. Os nad ydynt wedi eu nodi yn y paneli hunaniaeth, rydym yn anfon ymholiad.
6) Mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer yr atwrnai – mae tystiolaeth hunaniaeth wedi ei darparu ar gyfer y gwaredwr neu’r gwaredai.
Rydym yn anfon ymholiad os ydych wedi cadarnhau’r gwaredwr (gwerthwr neu brydleswr) a/neu’r gwaredai (prynwr, prydlesai), ond nid yr atwrnai sy’n gwneud y cais ar eu rhan.
7) Mae’r dystiolaeth hunaniaeth a gyflwynwyd yn anghyflawn.
Rydym yn anfon ymholiad os nad ydych wedi nodi cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr yn llawn ym mhaneli hunaniaeth y ffurflen rydych yn ei defnyddio.
Hunaniaeth
8) Mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer y gwaredwr, y gwaredai neu atwrnai.
Byddwn yn gwirio eich bod wedi cadarnhau hunaniaeth y gwaredwr (gwerthwr neu brydleswr), y gwaredai (prynwr, prydlesai) neu eu hatwrnai. Os nad ydynt wedi eu nodi yn y paneli hunaniaeth, rydym yn anfon ymholiad.
9) Mae tystiolaeth hunaniaeth yn ofynnol ar gyfer yr atwrnai – mae tystiolaeth hunaniaeth wedi ei darparu ar gyfer y gwaredwr neu’r gwaredai.
Mae angen cadarnhad arnom eich bod wedi cadarnhau hunaniaeth yr atwrnai, yn ogystal â’r gwaredwr (gwerthwr neu brydleswr) a/neu’r gwaredai (prynwr neu brydlesai). Byddwn yn anfon ymholiad os yw’r gwaredwr a/neu’r gwaredai wedi eu cadarnhau, ond nid yr atwrnai sy’n gweithredu ar eu rhan.
10) Mae’r dystiolaeth hunaniaeth a gyflwynwyd yn anghyflawn.
Rydym yn anfon ymholiad os nad ydych wedi nodi cyfeiriad a chyfeirnod y trawsgludwr yn llawn ym mhaneli hunaniaeth y ffurflen rydych yn ei defnyddio.
Awgrym Da
| Gweminarau | Adnoddau ychwanegol |
|---|---|
| Cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth | |
| Ìý |
Cynlluniau
8) Nid yw’r cyfeirnodau y cyfeirir atynt yn y weithred wedi eu dangos ar y cynllun.
Mae angen ichi sicrhau bod unrhyw liwio, amlinellu neu farciau eraill a grybwyllir yn y weithred wedi eu dangos yn glir ar y cynllun, fel bod y gofrestr teitl a’r cynllun teitl yn gwneud synnwyr wrth eu darllen gyda’i gilydd. Os nad yw unrhyw gyfeirnodau yn y weithred yn weladwy ar y cynllun, byddwn yn anfon ymholiad.
Sylwer: Nid ydym yn anfon ymholiad os yw’r cyfeirnodau ar y cynllun ond ddim wedi eu nodi yn y weithred.
| Gweminarau | Canllawiau | Adnoddau ychwanegol |
|---|---|---|
| Canllawiau ar gyfer paratoi cynlluniau ar gyfer ceisiadau Cofrestrfa Tir EF | Cyfarwyddyd ymarfer 40: trosolwg o gyfarwyddiadau cynlluniau Cofrestrfa Tir EF | |
| Ìý | Ìý | Sut i ddarllen cofrestr teitl a chynllun teitl |
¹ó´Úï´Ç±ð»å»å
9) Mae balans y ffïoedd yn ofynnol – Debyd Uniongyrchol.
Rydym yn gwirio’r ffi rydych wedi ei dyfynnu ac os yw’n llai na’r ffi sy’n daladwy am eich cais, byddwn yn anfon ymholiad yn gofyn ichi gadarnhau y gallwn ddebydu’r balans o’ch cyfrif debyd uniongyrchol.
10) Mae balans y ffïoedd yn ofynnol.
Pan fyddwch yn talu gyda siec, rydym yn gwirio’r ffi rydych wedi ei dyfynnu ac os yw’n llai na’r ffi sy’n daladwy am eich cais, byddwn yn anfon ymholiad yn gofyn ichi anfon y balans atom.
11) Mae ffioedd yn ofynnol.
Rydym yn anfon yr ymholiad hwn pan fydd ffi yn daladwy am y cais sy’n cael ei wneud, ond nid ydym wedi cael unrhyw daliad.
| Gweminarau | Canllawiau |
|---|---|
| )Ìý | ¹ó´Úï´Ç±ð»å»å: Cyfarwyddiadau Cofrestrfa Tir EF |
| Cofrestrfa Tir EF: ¹ó´Úï´Ç±ð»å»å Gwasanaethau CofrestruÌý | |
| Ìý |
Manylion tyst
12) Mae enw neu gyfeiriad tyst yn ofynnol
Mae’n hanfodol ein bod yn gallu cysylltu â’r unigolyn a dystiodd eich bod wedi cyflawni’r weithred os oes angen, felly byddwn yn anfon ymholiad os na allwn ddarllen ei enw na’i gyfeiriad llawn, neu os yw’r enw neu’r cyfeiriad llawn (gan gynnwys y cod post, ac mewn rhai achosion, y wlad) ar goll.
Awgrym Da
| Gweminarau | Adnoddau ychwanegol | |
|---|---|---|
| Cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd | Ìý | |
| Ìý | Ìý | |
| Ìý | Ìý | Ìý |
Tystiolaeth ar goll – atwrneiaeth
13) Unig berchennog – mae atwrneiaeth neu gopi ardystiedig yn ofynnol.
Pan fydd atwrnai yn cynrychioli unig berchennog neu gydberchennog, mae angen ichi anfon copi ardystiedig o’r atwrneiaeth neu’r atwrneiaeth arhosol sy’n awdurdodi’r person penodol hwnnw i weithredu ar ei ran. Byddwn yn anfon ymholiad os nad yw wedi ei gyflwyno gyda’r cais.
Deg Awgrym Da Rhif 6: Ble mae’r dystiolaeth?
Canllawiau
Cyfarwyddyd ymarfer 9: atwrneiaethau a thir cofrestredig
Mae ffurflen yn anghyflawn, mae gwybodaeth ar goll neu’n anghyflawn
14) Mae angen cwblhau panel mewn ffurflen neu mae gwybodaeth ar goll.
Byddwn yn gofyn am y wybodaeth os yw panel perthnasol mewn ffurflen yn anghyflawn neu os oes gwybodaeth ar goll.
15) Mae gwybodaeth ar goll neu’n aneglur mewn arwystl ar fwy nag un dyddiad a roddwyd.
Gwnewch yn siwr bod unrhyw arwystl yn dangos y dyddiad a’r partïon cywir. Os yw unrhyw un o’r manylion hyn ar goll, yn annarllenadwy neu’n aneglur, byddwn yn anfon ymholiad am gopi ardystiedig sy’n cynnwys y wybodaeth berthnasol. Rhaid i’r wybodaeth a fewnosodir gael ei llofnodi â blaenlythrennau gan bob parti i’r weithred neu gan drawsgludwr wedi ei awdurdodi i wneud hynny ar eu rhan.
16) e-DRS – Mae gwybodaeth ar goll neu’n anghywir yn y weithred.
Os oes gwybodaeth ar goll o weithred i’w chofrestru, neu os nad yw wedi ei chofnodi’n gywir, byddwn yn gofyn ichi gyflwyno copi cywir o’r weithred, wedi ei llofnodi gan yr holl bartïon neu drawsgludwr wedi ei awdurdodi i wneud hynny ar eu rhan.
17) Gweithred – mae gwybodaeth ar goll neu’n aneglur.
Os bydd trawsgludwyr yn anghofio dyddio’r weithred, er enghraifft, neu os ydym yn canfod bod manylion yn aneglur o ganlyniad i stamp neu ysgrifen drostynt, rydym yn anfon yr ymholiad hwn am gopi ardystiedig sy’n cynnwys y wybodaeth berthnasol. Rhaid i’r wybodaeth a fewnosodir gael ei llofnodi â blaenlythrennau gan bob parti i’r weithred neu gan drawsgludwr wedi ei awdurdodi i wneud hynny ar eu rhan.
18) Mae tudalen ar goll.
Gwnewch yn siwr bod y weithred rydych yn ei hanfon i’w chofrestru yn gyflawn ac yn cynnwys pob tudalen. Os oes unrhyw dudalennau ar goll, byddwn yn anfon ymholiad am fersiwn gyflawn.
19) Trosglwyddiad – mae dyddiad neu enw wedi eu hepgor.
Os oes enw ar goll o’r trosglwyddiad, mae angen inni wybod pam, ac rydym yn anfon ymholiad.
Os nad oes dyddiad ar y trosglwyddiad neu os nad yw’n cynnwys yr holl enwau perthnasol, rydym yn anfon ymholiad am drosglwyddiad wedi ei ddiwygio. Rhaid i’r mewnosodiadau neu’r newidiadau gael ei llofnodi â blaenlythrennau gan bob parti i’r trosglwyddiad neu gan drawsgludwr wedi ei awdurdodi i wneud hynny ar eu rhan.
10 Awgrym Da Rhif 5: Beth sydd ar goll?
| Gweminarau |
|---|
Treth Dir y Dreth Stamp
20) Treth Dir y Dreth Stamp – does dim tystysgrif Treth Trafodiadau Tir neu Dderbynneb Cyflwyno wedi eu cyflwyno.
Mae angen ichi ddarparu tystysgrif neu dderbynneb Treth Dir y Dreth Stamp (Lloegr) neu Treth Trafodiadau Tir (Cymru) gyda’ch cais neu anfon llythyr yn nodi pam nad oes eu hangen, gan gyfeirio at ddarpariaethau Deddf Cyllid 2003 sy’n cefnogi eich datganiad.
Sylwer:
-
nid yw copi o’r ffurflen gais SDLT1 yn dystiolaeth dderbyniol
-
Mae Treth Dir y Dreth Stamp/Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar chwalfa priodas pan fydd y trafodiad yn cynnwys trydydd parti
10 Awgrym Da Rhif 6: Ble mae’r dystiolaeth?
Adnoddau ychwanegol
Pris a dalwyd neu werth yr eiddo
21) Mae’r gwerth a ddatganwyd yn ofynnol.
Rhaid inni gofnodi’r gwerth a ddatganwyd ar gyfer yr eiddo lle gallwn. Os nad ydych wedi nodi gwerth marchnad llawn yr eiddo, byddwn yn anfon ymholiad yn gofyn amdano.
22) Mae’r pris a dalwyd yn ofynnol.
Rhaid inni nodi’r pris a dalwyd am eiddo lle gallwn, felly os nad ydych wedi nodi hyn, byddwn yn anfon ymholiad. Os yw ar goll o weithred, rhaid i’r diwygiad gael ei lofnodi â blaenlythrennau gan bob parti neu gan drawsgludwr wedi ei awdurdodi i wneud hynny ar eu rhan. Os ydych wedi cyflwyno e-AP1, gallwch ardystio’r pris a dalwyd.
Sylwer: Ym mhob achos, gwnewch yn siwr eich bod yn talu’r ffi gywir ar gyfer y cais.
10 Awgrym Da Rhif 7: Dyddiadau a Symiau
Adnoddau ychwanegol
| Cyfarwyddyd ymarfer 7: cofnodi data’r pris a dalwyd neu’r gwerth a ddatganwyd yn y gofrestr |
Cyflawni
23) Cyflawni fformat rhydd.
Os nad yw ein cais yn cyd-fynd â’r meini prawf cyffredinol, byddwn yn anfon ymholiad ar fformat rhydd, sy’n ein galluogi i nodi’n union beth sydd ei angen arnom.
24) Nid yw’r weithred wedi ei chyflawni gan barti – cyfeirir at gyfarwyddyd ymarfer 8.
Rydym yn gwirio bod pob parti perthnasol wedi llofnodi’r weithred. Os na fyddant wedi gwneud hyn, byddwn yn anfon ymholiad yn gofyn i’r weithred gael ei chyflawni’n gywir a bod copi’n cael ei gyflwyno.
25) Tystio gweithredoedd.
Os na allwn gadarnhau bod llofnod pob parti wedi eu tystio ar wahân, byddwn yn anfon ymholiad yn gofyn ichi egluro hyn.
26) Mae’r cwmni’n cyflawni’r weithred yn anghywir – cyfeiriad at gyfarwyddyd ymarfer 8.
Rydym yn gwirio bod y weithred wedi ei chyflawni ac yn anfon ymholiad os yw’n anghyflawn, wedi ei chyflawni’n anghywir neu os nad yw wedi ei chyflawni o gwbl.
| Gweminarau | Adnoddau ychwanegol | |
|---|---|---|
| Cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd | Ìý | |
| Ìý | Ìý | |
| Ìý | Ìý | |
| Ìý | Ìý | |
| Ìý | Ìý | |
| Ìý | Ìý | |
| Ìý | Ìý | |
| Ìý | Ìý |
Delweddau wedi eu sganio
27) Mae delwedd o ansawdd wael wedi ei sganio.
Os yw’r weithred a/neu’r cynllun a gawn yn annarllenadwy, yn aneglur, wedi eu plygu, yn gam, yn guddiedig neu fel arall yn annerbyniol at ddibenion cofrestru, byddwn yn gofyn am gopi newydd.
Gweminarau
Cyfeiriad ar gyfer gohebu
28) Mae cyfeiriad ar gyfer gohebu yn ofynnol.
Mae angen cyfeiriad cysylltu (cyfeiriad ar gyfer gohebu) arnom i’w gofnodi yn y gofrestr, er mwyn inni allu cysylltu â’r perchennog cofrestredig os bydd angen. Byddwn yn anfon ymholiad am un os yw ar goll neu’n aneglur. Rhaid ichi roi cyfeiriad post inni ac, os ydych yn dymuno hynny, hyd at ddau gyfeiriad ychwanegol (post, ebost neu rif blwch yn y DU). Os oes mwy nag un perchennog cofrestredig, nodwch pa gyfeiriad(au) sy’n berthnasol i bob perchennog.
29) Cyfeiriad ar gyfer gohebu – nid yw’n glir pa gyfeiriad yw pa un.
Os anfonir sawl cyfeiriad ar gyfer gohebu atom ac mae nifer o berchnogion cofrestredig, rhaid ichi nodi’n glir pa gyfeiriad(au) sy’n gymwys i bob perchennog. Os na wneir hynny, byddwn yn anfon ymholiad.
Awgrym Da
| Gweminarau | Adnoddau ychwanegol |
|---|---|
| Cyfarwyddyd ymarfer 55: cyfeiriad ar gyfer gohebu | Ìý |
Marwolaeth
30) Tystiolaeth o ddisgyniad ar farwolaeth.
Os yw perchennog eiddo wedi marw, mae angen inni weld un o’r dogfennau canlynol:
-
copi ardystiedig o’r profiant
-
copi ardystiedig o’r llythyrau gweinyddu
-
Gorchymyn Llys yn penodi’r gwaredwr yn gynrychiolydd personol yr ymadawedig
-
tystysgrif gan drawsgludwr yn nodi bod y gwreiddiol neu gopi ardystiedig o’r profiant/llythyrau gweinyddu ganddo a’u bod wedi eu rhoi yn y DU. Rhaid iddo hefyd gadarnhau nad yw’r grant na’r Gorchymyn wedi eu cyfyngu. Bydd angen tystiolaeth ychwanegol arnom os nad yw hyn yn wir
Os oes amrywiad rhwng enw’r perchennog yn y gofrestr a’r dystiolaeth a ddarparwyd, rhaid ichi naill ai:
-
ardystio’n ysgrifenedig mai’r person a enwir yn y ddogfen yw’r un person â’r perchennog cofrestredig
-
egluro’r amrywiad. Efallai y bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth.
10 Awgrym Da Rhif 10: Marwolaeth perchennog
Canllawiau
Cyfarwyddyd ymarfer 6: disgyniad ar farwolaeth perchennog cofrestredig
Ffurflenni a gweithredoedd
31) Mae’r weithred mewn rhannau ar wahân ond nid ydynt yn union yr un fath.
Mae’n well gennym un copi o weithred megis trosglwyddiad, ond os ydych yn ei anfon mewn rhannau ar wahân – er enghraifft ffurflen TR1 a gyflawnwyd gan un parti a ffurflen TR1 ar wahân a gyflawnwyd gan y llall – rhaid iddynt fod yn union yr un fath ym mhob agwedd ar wahân i’w cyflawni. Os oes unrhyw wahaniaeth o gwbl, byddwn yn anfon ymholiad yn gofyn ichi gael y rhan anghywir wedi ei diwygio a’i llofnodi â blaenlythrennau gan bob parti i’r weithred neu gan drawsgludwr wedi awdurdodi i wneud hynny ar eu rhan. Byddwn yn gofyn ichi ailanfon y rhannau fel un ddogfen hefyd.
10 Awgrym Da Rhif 8: Gweithred mewn rhannau
Disgrifiadau eiddo
32) Mae anghysondeb rhwng y disgrifiad eiddo yn y weithred ac A1.
Disgrifir yr eiddo yng Nghofrestr Eiddo A, yng nghofnod 1 (A1). Byddwn yn gwirio’r disgrifiad eiddo yn y weithred yn erbyn y gofrestr ac os yw’n wahanol, byddwn yn anfon ymholiad yn gofyn ichi ddiwygio’r weithred os yw’r gofrestr yn gywir. Rhaid i’r diwygiad gael ei lofnodi gan bob parti neu gan drawsgludwr wedi ei awdurdodi i wneud hynny ar eu rhan.
Os yw’r weithred yn gywir a’ch bod am newid y disgrifiad eiddo yn y gofrestr, rhaid ichi naill ai ddarparu tystiolaeth gan yr awdurdod lleol sy’n cadarnhau eu bod wedi cytuno i’r newid i’r cyfeiriad post neu gadarnhau eich bod wedi gweld y dystiolaeth briodol. Gallwn dderbyn hysbysiad ebost gan yr awdurdod lleol, ond nid bil y dreth gyngor.
10 Awgrym Da Rhif 9: Cynlluniau a Disgrifiadau
Adnoddau ychwanegol
Sut i ddarllen cofrestr teitl a chynllun teitl
Hyb hyfforddi Cofrestrfa Tir EF
I gael rhagor o hyfforddiant ac arweiniad di-dâl ar ystod o dasgau a phynciau cofrestru tir, ewch i’n hyb hyfforddi. Yn ogystal â chyfle i gael gafael ar ystod lawn o hyfforddiant yn gyflym ac yn hawdd, cewch ein pecyn hanfodion i gydweithwyr y mae cofrestru tir yn newydd iddynt, ynghyd â’r dyddiadau diweddaraf ar gyfer ein gweithdai cais di-dâl.