°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Canllawiau ar y rhaglen Erasmus+ ar gyfer prosiectau ieuenctid

Diweddarwyd 1 Mehefin 2026

Trosolwg

Mae Erasmus+ yn cynnig cyfleoedd ariannu penodol i ieuenctid gyda ffocws ar:

  • addysg ddi-ffurfiol
  • gwaith ieuenctid
  • gweithredu cymdeithasol ieuenctid

Mae Erasmus+ yn cynnig profiadau sy’n newid bywyd, yn enwedig i bobl ifanc ddifreintiedig.ÌýDrwy deithiau cyfnewid rhyngwladol, gall pobl ifanc:

  • meithrin hyderÌý

  • dysgu sgiliau newyddÌý

  • cael ymdeimlad o berthyn

Mae’r rhaglen Erasmus+ hefyd yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi yn y gweithlu ieuenctid, cryfhau ansawdd gwaith ieuenctid drwy ariannu hyfforddiant i weithwyr ieuenctid, ac annog sefydlu partneriaethau.Ìý

Drwy’r rhaglen, gall sefydliadau ieuenctid dderbyn cyllid ar gyfer prosiectau cydweithredol gyda sefydliadau mewn gwledydd eraill. Mae’r partneriaethau hyn yn meithrin dysgu ar y cyd ar sail themâu cyffredin a gall gweithwyr ieuenctid ennill syniadau a dulliau newydd i’w gweithredu ar ôl dychwelyd adref.Ìý

³Û²ÔÌý´Ç²µ²â²õ³Ù²¹±ôÌýâ’rÌý·É²â²ú´Ç»å²¹±ð³Ù³óÌý²â²ÔÌý²âÌý³¦²¹²Ô±ô±ô²¹·ÉÌý³ó·É²Ô,Ìý³¾²¹±ðÌý²µ·É±ð´Ú²¹²ÔÌýÌýErasmus+ÌýynÌýcynnwysÌýmanylionÌýam y rhaglen Erasmus+, gan gynnwys cymhwysedd a sut i wneud cais am gyllid.

Nodau rhaglen Ieuenctid Erasmus+

Nod y rhaglen Ieuenctid yw:

  • cynyddu sgiliau pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid

  • cefnogi cyswllt rhwng pobl ifanc o wahanol gefndiroedd diwylliannol

  • hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a chydsefyll ymhlith pobl ifanc

  • grymuso pobl ifanc i fod yn ddinasyddion gweithredol a chael llais mewn penderfyniadau

  • cefnogi pobl ifanc i gael mynediad at hyfforddiant a gwaith

  • datblygu gwelliannau ansawdd mewn gwaith ieuenctid

  • cefnogi datblygu gwybodaeth a pholisi ieuenctid ar sail tystiolaeth

  • cefnogi cydnabod dysgu di-ffurfiol ac anffurfiol

  • cryfhau elfen ryngwladol gweithgareddau ieuenctid

Cychwyn arni gydag Erasmus+Ìý

Mae’r camau isod yn rhoi arweiniad syml i gychwyn arni gyda’r rhaglen Erasmus+. Os ydych yn newydd i’r rhaglen Ieuenctid, dylech:

  • adnabod pa her neu bwnc yr ydych eisiau gweithio arno gyda phobl ifancÌý
  • penderfynu pa un o gyfleoedd Erasmus+ sy’n cyd-fynd â’ch syniadau ac amcanion ([rhestrir y cyfleoedd i gyd yn y canllawiau hyn] (#cyfleoedd))
  • dod o hyd i sefydliadau partner mewn gwledydd eraill a defnyddio Ìýi hysbysebu eich syniad a chwilio am bartneriaid
  • datblygu gweithgareddau ac effaith ddisgwyliedig eich prosiect
  • cyflwyno cais drwy’r neu’r Comisiwn Ewropeaidd

Amcanion a chyfleoedd perthnasol

Dyma enghreifftiau o amcanion a’r cyfle Erasmus+ sy’n cwrdd orau â’r gofynion.

Amcan:

Rydych eisiau dod â phobl ifanc o ddwy neu fwy o wledydd at ei gilydd i weithio ar faterion sy’n bwysig iddynt.

Cyfle Erasmus+: Teithiau cyfnewid ieuenctid

Dewis teithiau cyfnewid ieuenctid oherwydd drwy’r prosiectau hyn gall pobl ifanc:

  • cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu gyda chyfoedion o wledydd eraill

  • datblygu sgiliau a hyder drwy addysg ddi-ffurfiol

  • teithio a phrofi gwahanol ddiwylliannau

´¡³¾³¦²¹²Ô:Ìý

Rydych eisiau datblygu sgiliau eich gweithwyr ieuenctid a chreu cysylltiadau â sefydliadau sy’n gweithio ar themâu tebyg.

Cyfle Erasmus+: Prosiectau symudedd i weithwyr ieuenctid

Dewis prosiectau symudedd i weithwyr ieuenctid oherwydd, drwy’r prosiectau hyn gall gweithwyr ieuenctid:

  • cymryd rhan mewn gweithgareddau hyfforddiant, dysgu neu rwydweithio dramor

  • rhannu arferion da gyda chydweithwyr o wledydd eraill

  • cefnogi eu datblygiad proffesiynol

Amcan:

Rydych eisiau cefnogi pobl ifanc i ymgysylltu â materion sy’n effeithio ar eu cymunedau lleol.

Cyfle Erasmus+: Prosiectau cyfranogiad ieuenctid

Nod prosiectau cyfranogiad ieuenctid yw:

  • helpu pobl ifanc i weithio gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau

  • sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed

  • cefnogi pobl ifanc i ddatblygu a chreu atebion i heriau lleol

Mae’r canllawiau hyn yn rhoi mwy o fanylion i’ch helpu i ddewis y cyfle iawn i’ch helpu i gyflawni eich amcanion.

Amcan:

Nid yw eich sefydliad wedi cymryd rhan yn y rhaglen Erasmus o’r blaen ond hoffech weithio ar wella gwasanaethau i bobl ifanc a chryfhau eich cydweithrediad â sefydliadau o wledydd eraill, i gyd yn unol â’ch galluogrwydd.

Cyfle Erasmus+:Ìý partneriaethau graddfa fach

Dewiswch bartneriaeth ar raddfa fach fel y cam cyntaf o gydweithrediad rhyngwladol ar gyfer sefydliadau llawr gwlad, mudiadau newydd a grwpiau gyda chapasiti llai yn y maes ieuenctid.

Amcan:

Rydych yn sefydliad profiadol sydd wedi cymryd rhan mewn prosiectau Erasmus+ o’r blaen ac yn awyddus i ddarparu prosiect mawr i wella ansawdd gwaith ieuenctid yn gyffredinol a chyfnewid syniadau ar lefel Ewropeaidd.

Cyfle Erasmus+: partneriaethau cydweithredu

Dewiswch bartneriaeth gydweithredu a allai gefnogi datblygu arferion arloesol a hyrwyddo cydweithrediad a chyfnewid syniadau ar gyfer sefydliadau ieuenctid profiadol neu brosiectau mwy.

Camau Gweithredu Allweddol Erasmus+

Gelwir y mathau o brosiectau a gweithgareddau ieuenctid y gallai Erasmus+ eu hariannu yn :

Cam Gweithredu Allweddol 1

Yn ariannu ymweliadau rhyngwladol dramor (gelwir y rhain yn ‘symudiadau’) ar gyfer pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid. Mae’r cyllid yn cael ei rannu ar draws meysydd penodol fel cymorth sefydliadol i baratoi ar gyfer y prosiect, costau’r gweithgareddau a gynlluniwyd a chostau teithio, bwyd a llety i’r holl gyfranogwyr.

Cam Gweithredu Allweddol 2

Yn ariannu partneriaethau a meithrin cydweithrediad rhwng sefydliadau ieuenctid mewn gwahanol wledydd. Daw’r cyllid ar ffurf grant cyfandaliad.

Cyflwynwyd grantiau cyfandaliad i symleiddio pethau. Mae prosiectau’n cael eu hariannu ar sail swm penodol a benderfynir yn y cam ymgeisio, gyda ffocws ar ddarparu canlyniadau’n hytrach nag archwilio ariannol manwl.Ìý

Cam Gweithredu Allweddol 3

Yn cefnogi diwygio polisi ac arloesi yn y maes ieuenctid (rheolir y prosiectau hyn yn ganolog gan y Comisiwn Ewropeaidd). Darperir y cyllid drwy grantiau cyfandaliad.Ìý

Blaenoriaethau’r rhaglen Erasmus+

Yn ogystal â’r Camau Gweithredu Allweddol, mae’r rhaglen Erasmus+ hefyd wedi’i hategu gan Ìý:ÌýÌý

  • cynhwysiant ac amrywiaethÌý

  • trawsnewid digidol

  • cynaliadwyedd amgylcheddolÌý

  • cyfranogi’n weithredol mewn bywyd democrataiddÌý

Mae’r blaenoriaethau hyn yn ystyriaethau gorfodol i bob prosiect a gyflwynir i Erasmus+ er mwyn creu Ewrop fwy cynhwysol, gwyrdd a digidol.Ìý

Dylai prosiectau a gweithgareddau ieuenctid hefyd fod wedi eu hysbrydoli gan flaenoriaethau ieuenctid strategol canlynol yr UE:ÌýÌý

  • Ìý

  • Ìý

  • Ìý

Ymgeisio drwy Asiantaeth Genedlaethol

Asiantaeth Genedlaethol yw’r corff swyddogol a benodir gan yr UE i reoli a darparu’r rhaglen Erasmus+ ar lefel genedlaethol ym mhob gwlad.

Yr Asiantaeth Genedlaethol yn y DU yw’r Cyngor Prydeinig. Maen nhw’n gyfrifol am:

  • hyrwyddo cyfleoedd
  • cefnogi sefydliadau ieuenctid i ymgeisio am grantiau
  • dewis prosiectau
  • rheoli’r cyllid

Rheolir peth o’r cyllid yn ganolog gan Gomisiwn yr UE. Camau Gweithredu Allweddol a gofynion cymhwyso eich prosiect sy’n penderfynu a fydd angen cyflwyno eich cais am grant i Asiantaeth Genedlaethol y DU neu i Gomisiwn yr UE.ÌýÌý

Trefnir Gweithgareddau Hyfforddiant a Chydweithredu (TCA) yn rheolaidd gan Asiantaethau Cenedlaethol Erasmus+ ym mhob gwlad, sy’n cynnwys hyfforddiant, rhwydweithio a digwyddiadau ar-lein i helpu sefydliadau i ddod o hyd i, a sefydlu, partneriaethau.

Rhoddir gwybodaeth am weithgareddau TCA yn yÌý. Am ysbrydoliaeth ar gyfer prosiectau, gallwch hefyd ddefnyddioÌý.Ìý

Sut y mae’r cyllid yn gweithioÌý

Sefydliadau sy’n ymgeisio am gyllid Erasmus+ yn bennaf. Nid yw pobl ifanc unigol neu weithwyr ieuenctid unigol fel arfer yn ymgeisio eu hunain.Ìý

Mae dau eithriad nodedig sy’n caniatáu i bobl ifanc ymgeisio’n uniongyrchol:Ìý

Y cyfleoedd Ieuenctid Erasmus+ sydd ar gael

Bydd angen i chi ddewis y cyfle ieuenctid Erasmus+ sy’n iawn ar gyfer eich sefydliad.

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’r cyfleoedd canlynol:

  • Teithiau cyfnewid ieuenctid

  • Prosiectau cyfranogiad ieuenctid

  • Prosiectau symudedd i weithwyr ieuenctid

  • Mae partneriaethau cydweithredu ar gyfer sefydliadau profiadol

  • Mae partneriaethau graddfa fach ar gyfer sefydliadau

  • DarganfodUE

  • Grantiau ieuenctid a reolir gan Gomisiwn yr UE

  • Meithrin gallu yn y sector ieuenctid

  • Prosiectau Ieuenctid gyda’n Gilydd Ewropeaidd

Teithiau cyfnewid ieuenctid

Teithiau cyfnewid ieuenctid yw pan fydd grwpiau o bobl ifanc o 2 wlad wahanol o leiaf yn cwrdd.

Maen nhw’n teithio dramor i ddod at ei gilydd am gyfnod byr, dwys i weithredu rhaglen ddysgu di-ffurfiol ar y cyd, am bwnc o ddiddordeb, gan gymryd ysbrydoliaeth yn aml o’rÌý.ÌýÌý

Mae cyfranogwyr yn dod at ei gilydd i drafod pynciau fel:

  • eiriolaeth ieuenctid

  • lles digidol

  • dinasyddiaeth

Mae’r profiad dysgu cyffredinol yn cael ei strwythuro’n ofalus ac yn cynnwys cam paratoi, y daith gyfnewid ei hun, ac yna gwerthusiad a chyfnod ôl-ddilyn.Ìý

Gallai’r gweithgareddau gynnwys:

  • gweithdai

  • ymarferion

  • dadleuon

  • chwarae rôl

  • gweithgareddau dysgu awyr agored

Mae teithiau cyfnewid ieuenctid ar gael i unrhyw berson ifanc, gyda ffocws arbennig ar rai sy’n cael llai o gyfleoedd.Ìý

Ar ddiwedd y daith gyfnewid, mae’r cyfranogwyr i gyd yn caelÌýÌýi gydnabod y sgiliau a’r dysgu a enillwyd.ÌýÌý

Y manteision i bobl ifanc:Ìý

  • trochi diwylliannol: profi bywyd dyddiol, traddodiadau a gwerthoedd gwlad newyddÌý

  • ffrindiau byd-eang: cyfle i greu cysylltiadau diffuant gyda phobl ifanc o gefndiroedd gwahanol, sy’n aml yn para oes

  • hwb hyder: cyfle i gamu allan o’u hesmwythyd arferol a chryfhau eu hunangred mewn amgylchedd diogel a chefnogol

  • datblygu sgiliau drwy weithgareddau ‘dysgu drwy wneud’

  • dysgu creadigol: profiad o weithdai, gemau a phrosiectau difyr sy’n gwneud dysgu’n hwyl ac ymarferol

  • persbectif newydd: cyfle i weld eu diwylliant a’u bywyd eu hunain mewn golau newydd drwy daith gyfnewid ryngwladol

  • mantais yrfaol drwy’r cyfle i ychwanegu tystysgrif Youthpass, sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol, at eu CV

Parhad: gall yr elfen cyfnewid rhyngwladol bara rhwng 5 a 21 diwrnod (ac eithrio diwrnodau teithio). Mae’r prosiect cyfan, gan gynnwys y trefnu, fel arfer yn para rhwng 3 a 24 mis.

Mae’r profiad dysgu cyffredinol yn cael ei strwythuro’n ofalus ac yn cynnwys cam paratoi, y daith gyfnewid ei hun, yna gwerthusiad a chyfnod ôl-ddilyn.

Gall teithiau cyfnewid ieuenctid hefyd gynnwys ymweliad paratoi i helpu i baratoi’r trefniadau a sefydlu partneriaeth gadarn rhwng y sefydliadau cyn y daith gyfnewid. Mae’r ymweliad paratoi’n digwydd yn y wlad sy’n croesawu.

Gofynion cymhwyso

Mae teithiau cyfnewid Erasmus+ ar agor i ystod eang o sefydliadau sy’n weithgar yn y maes ieuenctid, gan gynnwys:

  • sefydliadau di-wneud-elw

  • sefydliadau anllywodraethol (NGO)

  • cynghorau ieuenctid cenedlaethol

  • awdurdodau cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol

Rhaid i brosiect taith gyfnewid ieuenctid:

  • digwydd rhwng dau sefydliad o leiaf

  • bod â chyfranogwyr o ddwy wahanol wlad (sefydliad sy’n anfon a sefydliad sy’n derbyn)

  • dewis sefydliad i fod yn gyfrifol am gydlynu, ac am wneud y cais am gyllid ar ran y bartneriaeth

  • bod â chyfranogwyr rhwng 13 a 30 oed sy’n byw yn un o’r gwledydd dan sylw

  • bod ag arweinwyr grŵp sy’n 18 oed o leiaf, i sicrhau bod profiad dysgu ansawdd uchel yn cael ei ddarparu ac i sicrhau amgylchedd diogel ar gyfer cyfranogwyr y prosiect

  • bod ag o leiaf 16 ac uchafswm o 60 o gyfranogwyr ar gyfer pob gweithgaredd

Mae dulliau SALTO defnyddiol i helpu i ddod o hyd i sefydliadau partner y tu allan i’r DU a sefydliadau i gynnig cymorth.ÌýÌý

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ceisiadau i Asiantaeth Genedlaethol y wlad y mae’r sefydliad ieuenctid sy’n cydlynu wedi’i leoli ynddi.Ìý

Nid oes swm cyllid penodol ar gyfer taith gyfnewid ieuenctid. Mae’r swm yn cael ei benderfynu yn ôl sut fath o weithgareddau y byddwch yn ymgeisio amdanynt, a faint o gyllid sydd ar gael. Er enghraifft, yn 2024 derbyniodd brosiectau cyfnewid ieuenctid gyllid rhwng €6,000 a €60,000.Ìý

Mae yn cynnwys mwy o wybodaeth am beth i’w gynnwys yn eich cais, gan gynnwys y meini prawf dyfarnu ar gyfer derbyn cyllid.Ìý

Disgwylir i’r cyfnod ymgeisio am gyllid 2027 redeg o tua mis Tachwedd 2026 tan Chwefror 2027.

Rhaglen enghreifftiol

Diwrnod Ffocws Uchafbwyntiau gweithgaredd
Diwrnod 1 Cyrraedd a chroeso Cyfranogwyr yn cyrraedd, gemâu torri’r rhew, cinio croeso a chyflwyniad i amcanion y prosiect.
Diwrnod 2 Meithrin tîm a chyd-destun Gweithdai meithrin tîm, penderfynu ar reolau’r grŵp, cyflwyniad i Erasmus+ a’r dystysgrif Youthpass, taith ddiwylliannol o gwmpas yr ardal leol.
Diwrnod 3 Sgiliau digidol Gweithdy ar faterion amgylcheddol a dulliau digidol ar gyfer cynaliadwyedd, er enghraifft defnyddio AI ar gyfer mapio amgylcheddol a defnyddio apiau eco.
Diwrnod 4 Addysg awyr agored Cerdded mewn parc cenedlaethol cyfagos, gweithdai ymarferol ar fioamrywiaeth a her codi sbwriel.
Diwrnod 5 Taith gyfnewid rhyng-ddiwylliannol Bore: Myfyrio ar y diwrnodau blaenorol. Prynhawn: Ymweliad diwylliannol. Gyda’r nos: Noson ryng-ddiwylliannol gyda grwpiau’n arddangos bwyd, miwsig a thraddodiadau eu gwledydd.
Diwrnod 6 Gweithredu ymarferol Gweithdy: Creu ymgyrch ddigidol ar y cyfryngau cymdeithasol ar gyfer arferion gwyrdd. Ffug-efelychiad o drafodaeth cynaliadwyedd trefol gan gyngor lleol.
Diwrnod 7 Gwerthuso a chau Cyflwyniad terfynol y prosiect, gweithdy hunanasesu Youthpass. Parti ffarwelio a seremoni cyflwyno tystysgrifau.

Prosiectau cyfranogiad ieuenctid

Mae prosiectau cyfranogiad ieuenctid yn helpu pobl ifanc i fod yn rhan o fywyd dinesig, diwylliannol a gwleidyddol, ac i godi llais am faterion sy’n bwysig iddynt.

Yn y DU, disgrifiwn y math yma o brosiectau fel llais ieuenctid neu weithredu cymdeithasol ieuenctid. Gall prosiectau cyfranogiad ieuenctid gynnwys gweithgareddau fel:

-Ìý gweithdai

  • cynadleddau

  • dadleuon

  • ymgyrchoedd ymwybyddiaeth

  • cyfarfodydd rhwng pobl ifanc a rhai sy’n gwneud penderfyniadau

Dyma enghreifftiau o weithgareddau cyfranogiad ieuenctid y gallai prosiect eu gweithredu:Ìý

  • Efelychiadau o sefydliadau democrataidd: Ffug-sesiynau cynghorau lleol neu sefydliadau seneddol i ddod â phrosesau democrataidd yn fyw.

  • Ymgynghori ar bolisi: Gweithdai lle y mae pobl ifanc yn adnabod materion lleol a chyflwyno atebion yn uniongyrchol i arweinwyr lleol a rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

  • Uwch-gynadleddau ieuenctid: Digwyddiadau er mwyn cysylltu pobl ifanc â gwleidyddion i drafod materion sy’n effeithio ar eu bywydau pob dydd.Ìý

  • Ymgyrchoedd eiriolaeth: Ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o heriau cymdeithasol penodol sy’n berthnasol i bobl ifanc, fel diweithdra ymhlith pobl ifanc.ÌýÌý

  • Prosiectau cyfnewid rhithiol: Fforymau ar-lein yn cysylltu ieuenctid ar draws ffiniau i drafod heriau cyffredin.ÌýÌý

Parhad: Gall y prosiectau bara rhwng 3 a 24 mis a bod wedi eu lleoli’n llwyr yn y DU neu gydag elfen ryngwladol.

Gofynion cymhwyso

Gall grwpiau anffurfiol o bobl ifanc ymgeisio am gyllid am brosiectau ar ben eu hunain neu gyda chymorth i gyd-ddylunio prosiect gan sefydliad fydd yn ymgeisio am grant ar eu rhan ac yn eu cefnogi wedyn i weithredu’r prosiect.Ìý

Mae ystod eang o sefydliadau sy’n weithredol yn y maes ieuenctid yn gymwys i ymgeisio, gan gynnwys:

  • sefydliadau di-wneud-elw

  • sefydliadau anllywodraethol

  • cynghorau ieuenctid cenedlaethol

  • awdurdodau cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol

Rhaid i’r cyfranogwyr ieuenctid fod rhwng 13 a 30 oed a byw yn un o wledydd y sefydliadau sy’n cymryd rhan.ÌýÌý

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ceisiadau i Asiantaeth Genedlaethol y wlad y lleolir y sefydliad sy’n cydlynu ynddi.Ìý

Nid oes swm penodol o arian ond yr uchafswm grant y gallwch ddisgwyl ei dderbyn ar gyfer gweithgareddau cyfranogiad ieuenctid yw €60,000.ÌýÌýÌý

Mae yn cynnwys mwy o wybodaeth am beth i’w gynnwys yn eich cais, gan gynnwys y meini prawf dyfarnu ar gyfer derbyn cyllid.Ìý

Disgwylir i’r cyfnod ymgeisio am gyllid 2027 redeg o tua mis Tachwedd 2026 tan Chwefror 2027.

Prosiectau symudedd i weithwyr ieuenctid

Mae’r prosiectau hyn yn cael eu rhedeg gan sefydliadau ieuenctid i:

  • cefnogi datblygiad proffesiynol gweithwyr ieuenctid
  • meithrin arferion sefydliadol newydd
  • gwella ansawdd gwaith ieuenctid yn gyffredinol

Gall y gweithgareddau gynnwys:

  • seminarau
  • cyrsiau hyfforddiant
  • digwyddiadau rhwydweithio
  • ymweliadau astudio
  • cysgodi swyddi dramor

Rhaid i’r prosiect gynnwys o leiaf 2 sefydliad ieuenctid o wahanol wledydd gan bara rhwng 3 mis a 2 flynedd.ÌýÌýÌý

Gallai’r math o weithgareddau gynnwys:ÌýÌý

  • gweithwyr ieuenctid o un wlad yn ymweld â sefydliad ieuenctid mewn gwlad arall i gysgodi swyddi a dysgu oddi wrth ei gilydd

  • uwch-gynhadledd neu gynhadledd i weithwyr ieuenctid o wahanol wledydd er mwyn rhwydweithio, ennill gwybodaeth, a rhannu arferion gorau

  • gweithwyr ieuenctid o wahanol wledydd yn cyfarfod ar gyfer cyrsiau hyfforddiant a gweithdai ar y cyd i gyfrannu at ddatblygu dulliau newydd ac arloesol o ddarparu gwaith ieuenctid

Mae prosiect symudedd da ar gyfer gweithwyr ieuenctid:Ìý

  • yn cael effaith glir ar waith arferol y gweithwyr ieuenctid gyda phobl ifanc ac ar eu sefydliad

  • yn dibynnu ar gyfranogiad gweithredol y sefydliadau a’r gweithwyr ieuenctid sy’n cymryd rhan, a ddylai chwarae rôl weithredol ym mhob cam o’r prosiect, gan gyfoethogi eu profiad dysgu a’u datblygiad

  • yn seiliedig ar anghenion addysgol a datblygiad proffesiynol y gweithwyr ieuenctid, sydd wedi eu hadnabod yn glir, yn enwedig ansawdd ac arloesi

  • yn sicrhau bod y canlyniadau dysgu di-ffurfiol ac anffurfiol yn rhai y gellir eu trosglwyddo a’u defnyddio yn y sefydliadau sy’n cyfranogi, gan gyfrannu at esblygiad y sefydliadau ieuenctid

Gofynion cymhwyso

Rhaid i ddau sefydliad cyfranogi o leiaf (o leiaf un sefydliad anfon ac o leiaf un sefydliad derbyn) o ddwy wahanol wlad gymryd rhan.

Mae ystod eang o sefydliadau sy’n weithredol yn y maes ieuenctid, gan gynnwys sefydliadau di-wneud-elw ac anllywodraethol, cynghorau ieuenctid cenedlaethol ac awdurdodau cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol, yn gymwys i ymgeisio.ÌýÌý

Rhaid i’r gweithwyr ieuenctid fod yn 16 oed o leiaf a byw yn un o’r gwledydd dan sylw.ÌýÌý

Gall uchafswm o 50 o gyfranogwyr fod yn rhan o bob gweithgaredd a drefnir gan y prosiect (ac eithrio, lle bo’n berthnasol, hyfforddwyr a hwyluswyr).ÌýÌý

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ceisiadau i Asiantaeth Genedlaethol y wlad y lleolir y sefydliad ieuenctid sy’n cydlynu ynddi.Ìý

Mae yn cynnwys mwy o wybodaeth am beth i’w gynnwys yn eich cais, gan gynnwys y meini prawf dyfarnu ar gyfer derbyn cyllid.Ìý

Disgwylir i’r cyfnod ymgeisio am gyllid 2027 redeg o tua mis Tachwedd 2026 tan Chwefror 2027.

Cyfleoedd partneriaeth ar gyfer sefydliadau ieuenctid

O dan Gam Gweithredu Allweddol 2, mae Erasmus+ yn rhoi cyllid i sefydliadau ieuenctid i ddatblygu partneriaethau gyda sefydliadau eraill mewn gwahanol wledydd.ÌýÌý

Pwrpas y cyllid hwn yw:Ìý

  • helpu i wella ansawdd a pherthnasedd gweithgareddau ieuenctid, datblygu rhwydweithiau, rhoi hwb i weithgarwch rhyngwladol a throsglwyddo arferion arloesol

  • creu canlyniadau a dysgu y gellir eu hail-ddefnyddio, trosglwyddo, a’u lledaenu i eraill

  • darparu fformat cyllid agored ar gyfer prosiectau tymor canolig i dymor hir er mwyn cryfhau rôl gwaith ieuenctid yn Ewrop a chynnig potensial mawr i greu newid systemig

  • creu cyfle i weithio’n ddwys gyda phartneriaid o wledydd eraill ar bwnc dros gyfnod hir er mwyn gwreiddio dysgu

Mae dau fath o brosiect partneriaeth:Ìý

  • Partneriaethau cydweithredu

  • Partneriaethau graddfa fachÌý

Partneriaethau cydweithredu

Mae’r rhain wedi eu dylunio i helpu i ddatblygu arferion arloesol ac i hyrwyddo cydweithrediad a chyfnewid syniadau ar lefel Ewropeaidd. Maen nhw’n addas ar gyfer sefydliadau ieuenctid profiadol neu brosiectau mwy.ÌýÌý

Gofynion cymhwyso

Rhaid cael o leiaf 3 sefydliad o wahanol wledydd am gyfnod rhwng 1 a 3 blynedd. Mae’r math yma o brosiect yn addas ar gyfer sefydliadau mawr.ÌýÌý

I gael ei hystyried am gyllid, rhaid i bartneriaeth gydweithredu gwrdd naill ai ag un o flaenoriaethau llorweddol Erasmus+ neu o leiaf un flaenoriaeth yn ymwneud ag ieuenctid.ÌýÌý

Mae 3 opsiwn grant ar gyfer partneriaethau cydweithredu:

  • €120,000

  • €250,000

  • €400,000

Rhaid dewis maint y grant yn y cam ymgeisio ar sail anghenion ac amcanion y prosiect, a’r gweithgareddau sydd mewn golwg.Ìý

Partneriaethau graddfa fach

Mae’r rhain wedi eu dylunio i gynyddu mynediad at gydweithrediad i sefydliadau llawr gwlad, mudiadau newydd a grwpiau gyda chapasiti llai yn y maes ieuenctid.

Maen nhw’n cynnig grantiau llai gyda chyfnodau parhad llai a gweinyddu symlach o’i gymharu â phartneriaethau eraill, gan gynnig hyblygrwydd o ran fformat prosiectau i gefnogi cynhwysiant.

Rhaid i’r partneriaethau hyn gynnwys o leiaf 2 sefydliad o 2 wahanol wlad am gyfnod rhwng 6 a 24 mis. Rhaid dewis parhad y prosiect yn y cam ymgeisio, ar sail amcanion y prosiect a’r math o weithgareddau a gynlluniwyd dros amser.Ìý

I gael ei hystyried am gyllid, rhaid i bartneriaeth ar raddfa fach gwrdd naill ai ag un o flaenoriaethau llorweddol Erasmus+ neu o leiaf un flaenoriaeth yn ymwneud ag ieuenctid.Ìý

Mae 2 opsiwn grant ar gyfer partneriaethau graddfa fach:

  • €30,000

  • €60,000

Rhaid dewis maint y grant yn y cam ymgeisio ar sail anghenion ac amcanion y prosiect, a’r gweithgareddau sydd mewn golwg.Ìý

Sut i ymgeisio am y ddau

Gwneir ceisiadau am gyllid drwy Asiantaeth Genedlaethol y DU.ÌýÌý

Disgwylir i’r alwad am gyllid agor ym mis Tachwedd 2026.ÌýÌý

DarganfodUEÌýÌý

ÌýMae Ìýyn rhoi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill pas teithio am ddim i Ewrop, dysgu am ei threftadaeth ddiwylliannol a’i hanes a chysylltu gyda phobl ar draws y cyfandir.ÌýÌý

Gofynion cymhwyso

  • rhaid i’r bobl ifanc sy’n ymgeisio fod yn 18 oed

  • gall pobl ifanc deithio ar ben eu hunain neu fel rhan o grŵp o hyd at 5 o ffrindiau

  • gall y teithiau bara am o leiaf diwrnod a hyd at fis yn gynhwysol

Sut i ymgeisio

I ymgeisio, rhaid i bobl ifanc gyflwyno cais drwy’rÌý.ÌýÌý

Mae gan DarganfodUE 2 gylch ymgeisio pob blwyddyn a bydd cyfranogwyr o’r DU yn gymwys i ymgeisio yng ngwanwyn a hydref 2027.

Mae tua 40,000 o basys teithio am ddim yn cael eu dyfarnu pob blwyddyn ac mae cwota i bob gwlad i sicrhau tegwch.

Rhoddir cymorth cyllid pellach drwy Weithredu Cynhwysiant Darganfod UE, sy’n ceisio:Ìý

  • estyn allan at bobl ifanc gyda llai o gyfle ac na fyddent yn ymgeisio i DarganfodUE heb gymorth

  • goresgyn y rhwystrau sy’n atal y bobl ifanc hyn rhag ymgeisio, a rhoi’r cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt fel talu am ofalwr sy’n oedolyn i ddod gyda nhw

Grantiau ieuenctid a reolir gan Gomisiwn yr UE

Mae sefydliadau ieuenctid yn y DU hefyd yn gymwys i ymgeisio am 2 grant ieuenctid Erasmus+ sy’n cael eu rheoli’n ganolog a’u dyfarnu gan Gomisiwn yr UE.ÌýÌýÌý

Meithrin gallu yn y sector ieuenctidÌýÌýÌý

Mae prosiectau meithrin gallu wedi eu dylunio i gefnogi cydweithrediad rhyngwladol er mwyn cryfhau sefydliadau ieuenctid a hyrwyddo dysgu di-ffurfiol mewn gwledydd sydd â chysylltiad â’r UE, a rhai o wledydd y trydydd byd.Ìý

Mae’r prosiectau’n canolbwyntio ar feysydd fel grymuso ieuenctid, dinasyddiaeth weithredol a datblygu gwaith ieuenctid o ansawdd uchel.ÌýÌý

Rhaid i weithgareddau’r prosiect ganolbwyntio ar feithrin a chryfhau gallu sefydliadau ieuenctid a gallent fod yn ymwneud ag ystod eang o bynciau o ddiddordeb ar draws Ewrop.Ìý

Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n cynnwys partneriaid o’r gwledydd ac ardaloedd canlynol:ÌýÌý

  • Gorllewin y Balcanau: Albania, Bosnia a Hertsegofina, Cosofo, Montenegro, Gogledd Macedonia, a Serbia

  • Dwyrain y Gymdogaeth: Armenia, Aserbaijan, Belarws, Georgia, Moldofa, a Wcráin

  • De Môr y Canoldir: Algeria, Yr Aifft, Israel, Jordan, Libanus, Libia, Moroco, Palesteina, Syria, a Thwnisia

  • Affrica Is-Sahara

Gallwch adolygu am ysbrydoliaeth.

Gofynion cymhwyso

Mae prosiectau meithrin gallu’n darparu grantiau hyd at €300k ar gyfer prosiectau’n para 1, 2 neu 3 blynedd. Rhaid penderfynu parhad y prosiect yn y cam ymgeisio.Ìý

Mae sefydliadau anllywodraethol ac awdurdodau cyhoeddus ar lefel leol, ranbarthol neu genedlaethol yn gymwys i ymgeisio fel cydlynwyr rhaglen.ÌýÌý

Mae ystod eang o sefydliadau sy’n weithredol yn y maes ieuenctid, gan gynnwys sefydliadau di-wneud-elw, sefydliadau sylfaen a sefydliadau ymchwil yn gymwys fel cyfranogwyr.ÌýÌý

Er bod prosiectau meithrin gallu fel arfer wedi eu targedu at sefydliadau di-wneud-elw, gall cwmnïau cyhoeddus neu breifat hefyd gael eu cynnwys. Er enghraifft, busnesau bach, canolig neu fawr, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, ond rhaid dangos gwerth ychwanegol clir.

Sut i ymgeisioÌý

Daw’r cyfle hwn o dan Gam Gweithredu Allweddol 2 a dylid cyflwyno ceisiadau’n uniongyrchol iÌýÌý drwy’r cyllido a thendro.Ìý

Prosiectau Ieuenctid Gyda’n Gilydd Ewropeaidd

Mae gan brosiectau Ieuenctid Gyda’n Gilydd Ewropeaidd sgôp eang a’u nod yw creu cydweithrediad rhanbarthol fel y gall pobl ifanc ar draws Ewrop sefydlu prosiectau ar y cyd, trefnu teithiau cyfnewid rhyngwladol a rhedeg cyrsiau hyfforddiant i arweinwyr ieuenctid a gweithwyr ieuenctid. Gall y gweithgareddau hyn fod wyneb yn wyneb neu ar-lein.ÌýÌý

Mae prosiectau Ieuenctid Gyda’n Gilydd Ewropeaidd hefyd yn meithrin partneriaethau rhyngwladol ar gyfer sefydliadau ieuenctid i greu rhwydweithiau.

Dyma enghreifftiau o’r gweithgareddau:

  • Ymgyrchoedd dan arweiniad ieuenctid: Ymgyrchoedd traws-ffin ar newid hinsawdd, iechyd meddwl neu ymgysylltu democrataidd.Ìý

  • Meithrin gallu: Cyrsiau hyfforddiant i arweinwyr ieuenctid ar sgiliau digidol a chynhwysiant cymdeithasol.Ìý

  • Dadleuon polisi: Gweithdai ac ymarferion ymgynghori gyda phobl ifanc i oleuo penderfyniadau polisi.Ìý

Mae themâu prosiectau blaenorol wedi cynnwys:

  • cau’r bwlch digidol

  • dinasyddiaeth weithredol

  • cynnwys ieuenctid yng nghefn gwlad

  • gwella deialog gyda / rhwng pobl ifanc

  • newid hinsawdd ac ansefydlogrwydd gwleidyddol

Gofynion cymhwyso

Mae Ieuenctid Gyda’n Gilydd Ewropeaidd yn rhoi grantiau hyd at €500k i brosiectau sy’n para 2 flynedd.ÌýÌý

Rhaid i brosiectau gynnwys consortiwm o 5 partner o leiaf o 5 o wahanol wledydd y rhaglen Erasmus+ (gwledydd sy’n aelodau o’r UE a gwledydd cysylltiedig).Ìý

Mae cystadlu brwd am y grantiau ac mae Comisiwn yr UE yn dewis rhwng 20 a 30 o brosiectau pob blwyddyn.ÌýÌý

Sut i ymgeisio

Daw’r cyfle hwn o dan Gam Gweithredu Allweddol 3 a dylid cyflwyno ceisiadau’n uniongyrchol iÌýÌýdrwy’rÌý cyllido a thendro.ÌýÌý