Adolygiad Timms: cofrestrwch eich diddordeb mewn Gweithdy Llunio Argymhellion
Cyhoeddwyd 12 Awst 2026
Crynodeb
Mae’r Gweithdai Llunio Argymhellion hyn yn bennaf i bobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, yn ddelfrydol y rhai sydd â phrofiad o ryngweithio â’r broses Taliad Annibyniaeth Personol (PIP). Bydd cyfranogwyr yn cael eu gwahodd i drafod a mireinio argymhellion newydd yr Adolygiad a byddant yn cael taliad untro i gydnabod eu presenoldeb yn ogystal ag ad-daliad o gostau teithio rhesymol.
Bydd 15 gweithdy ledled y wlad yn ystod mis Medi a mis Hydref 2026, gyda 9 yn cael eu cynnal yn bersonol a 6 ar-lein. Bydd cofrestru diddordeb yn agor ddydd Mercher 12 Awst 2026 am 10am ac yn cau ddydd Gwener 21 Awst 2026 am 5pm. Gallwch gofrestru drwy lenwi’r ffurflen “Amdanoch chi” hon. Ein nod yw rhoi gwybod i gyfranogwyr dethol erbyn 4 Medi 2026, os ydynt wedi cael eu gwahodd i fynychu ac, os felly, pa sesiwn y maen’t wedi cael eu dewis i fynychu.
Trosolwg
Lansiodd Llywodraeth y DU Adolygiad Timms i sicrhau bod PIP yn deg ac yn addas ar gyfer y dyfodol mewn byd sy’n newid. Mae’r Adolygiad yn cael ei gyd-gadeirio gan:
- Syr Stephen Timms, y Gweinidog dros Nawdd Cymdeithasol ac Anabledd
- Sharon Brennan
- Dr Clenton Farquharson CBE
Mae’r cyd-gadeiryddion yn gweithio gyda grŵp llywio o 12 aelod sy’n cyd-arwain cyd-gynhyrchu’r Adolygiad. Mae’r grŵp llywio yn dwyn ynghyd ystod o brofiadau byw, arbenigedd, a nodweddion amrywiol.
Mae’r grŵp llywio yn y broses o ddatblygu argymhellion ac yn bwriadu cynnal cyfres o weithdai i helpu i lunio’r argymhellion hyn gyda phobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ym mis Medi a mis Hydref 2026.
Mae grŵp llywio’r Adolygiad yn eich gwahodd i gofrestru eich diddordeb mewn mynychu gweithdy erbyn 5pm ddydd Gwener 21 Awst. Mae’r dudalen hon yn darparu mwy o wybodaeth am yr hyn i’w ddisgwyl o’r gweithdai.
Cyflwyniad Gweithdai Llunio Argymhellion
Bydd y gweithdai hyn yn canolbwyntio ar eich barn ar argymhellion yr Adolygiad sy’n dod i’r amlwg, yn hytrach na nodi problemau o fewn y system bresennol.
Ar ôl y gweithdy, bydd eich mewnbwn yn cael ei grynhoi a’i rannu gyda’r grŵp llywio. Bydd y mewnwelediadau o bob gweithdy yn cael eu hystyried ochr yn ochr â thystiolaeth ac ymgysylltu arall, felly ni fydd pob syniad a rennir mewn gweithdai yn cael ei symud ymlaen, ond bydd pob un yn cael ei glywed a’i ystyried. Fodd bynnag, mae’r grŵp llywio wedi ymrwymo i ddarparu adborth clir i bob gweithdy, gan esbonio’n glir pa argymhellion a gymerwyd ymlaen gan y grŵp llywio, pa rai na chawsant eu cymeryd ymlaen, a’r rhesymau dros hynnu.
Dewis cyfranogwr
Mae’r gweithdai wedi’u cynllunio’n bennaf i bobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, yn ddelfrydol y rhai sydd â phrofiad o ryngweithio â’r broses PIP, gan ymuno mewn capasiti personol. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o ymgysylltu ag adolygiadau’r llywodraeth i gymryd rhan mewn gweithdy.
I gofrestru eich diddordeb, bydd angen i chi lenwi ffurflen “Amdanoch chi”. Bydd y wybodaeth a ddarperir ar y ffurflen hon yn helpu i sicrhau bod cymysgedd eang a chytbwys o bobl o wahanol gefndiroedd, lleoliadau, cyflyrau iechyd a phrofiadau.
Bydd y dewis yn cael ei wneud ar hap ond bydd y grŵp llywio yn adolygu ac yn sicrhau bod y sampl yn cydbwyso ystod gytbwys o nodweddion fel y nodir uchod. Pan fydd nodwedd benodol yn cael ei thangynrychioli, bydd ymgeiswyr â’r nodwedd honno yn cael eu nodi o’r gronfa ymgeiswyr ehangach a’u dewis ar hap i lenwi unrhyw fylchau. Byddwn hefyd yn cadw rhestr wrth gefn ac efallai y byddwn yn cysylltu â phobl os bydd lleoedd ar gael oherwydd canslo.
Rydym yn disgwyl i ddiddordeb yn y gweithdai hyn fod yn fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael. Yn anffodus, mae hyn yn golygu efallai na fyddwn yn gallu cynnig lle i bawb sy’n cofrestru diddordeb.
Hygyrchedd a chynhwysiant
Mae’r tîm Adolygu wedi ymrwymo i sicrhau fod pob gweithdy yn hygyrch a bydd yn anelu at ddiwallu anghenion yr holl gyfranogwyr er mwyn i chi gymryd rhan yn llawn. Gallwch ddweud wrthym os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch yn y ffurflen “Amdanoch chi” a byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am ragor o fanylion os cewch eich gwahodd i weithdy.
Rhai enghreifftiau o addasiadau rhesymol yw:
- sicrhau bod deunyddiau gweithdy ar gael mewn gwahanol fformatau neu fformatau hygyrch, megis print bras a hawdd ei ddarllen
- caniatáu i gynorthwywyr personol neu ofalwyr fod yn rhan o’r cyfarfod, a dod o hyd i gymorth hygyrchedd i gyfranogwyr, er enghraifft dehonglwyr iaith arwyddion a phalantypwyr
- gwneud darpariaeth i anifeiliaid cymorth fynychu cyfarfodydd wyneb yn wyneb
Diogelu data
Gofynnir i chi gyflwyno rhywfaint o wybodaeth bersonol pan fyddwch yn llenwi’r ffurflen ‘Amdanoch chi’ i gofrestru eich diddordeb yn y gweithdai hyn. Yn ogystal â’ch enw a’ch manylion cyswllt, byddwn hefyd yn casglu rhywfaint o wybodaeth am eich cefndir a’ch nodweddion personol i sicrhau ein bod yn clywed gan ystod amrywiol o bobl a bod ein proses ddethol yn deg ac yn gynhwysol.
Bydd unrhyw wybodaeth a gesglir fel rhan o’r broses hon yn ddarostyngedig i bolisi’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) ar ddiogelu data. I ddysgu am eich hawliau gwybodaeth a sut mae DWP yn defnyddio gwybodaeth, gweler siarter gwybodaeth bersonol DWP. Bydd yr holl ddata a gesglir yn cael ei storio’n ddiogel a’i ddinistrio unwaith y bydd y gweithdai wedi’u cwblhau a’r wybodaeth o’r gweithdai wedi’i prosesu a’i ddienwio’n llwyr. Mae’r data a gesglir yn gwbl gyfrinachol a dim ond ar gael i aelodau’r tîm Adolygu perthnasol ac ni fydd yn gysylltiedig ag unrhyw gofnodion DWP eraill.
Bydd DWP yn defnyddio e-bost fel y brif ffordd o gyfathrebu â chi. Fodd bynnag, gallwch ddewis dull cyfathrebu arall a ffefrir, fel galwad ffôn, yn y ffurflen “Amdanoch chi”.
Lleoliadau a dyddiadau’r gweithdai
Bydd 15 gweithdy ledled y DU, a gynigir fel cymysgedd o bersonol ac ar-lein yn ystod mis Medi a mis Hydref 2026, fel y rhestrir yn y tabl isod. Bydd pob un ohonynt yn ddigwyddiad undydd rhwng 10am a 4pm gyda seibiannau rheolaidd a bydd uchafswm o 20 o fynychwyr yr un. Hoffai’r Adolygiad glywed gan bobl sy’n byw yn y rhanbarth lle cynhelir y gweithdy, a bydd pob cyfranogwr yn gyfyngedig i ymuno ag un gweithdy.
| Dyddiad | Cenedl | Lleoliad | Fformat |
|---|---|---|---|
| Dydd Mawrth 15 Medi | DZ– LܲԻ岹 | Llundain | ۲DzԴDZ |
| Dydd Gwener 18 Medi | DZ– GDzٻɲ | ɳٱ/Ѿdzܲ’r岹DZڲDz | Ar-lein |
| Dydd Mawrth 22 Medi | Lloegr – De | Bournemouth | ۲DzԴDZ |
| Dydd Mawrth 22 Medi | Cymru a Lloegr | ʴDzԲٳ | Ar-lein |
| Dydd Iau 24 Medi | DZ–̲ԴDZٳDZ | Birmingham | ۲DzԴDZ |
| Dydd Gwener 25 Medi | Cymru – De | Caerdydd | ۲DzԴDZ |
| Dydd Mawrth 29 Medi | DZ– Dɲ | ǰɾ’r岹DZڲDz | Ar-lein |
| Dydd Mawrth 29 Medi | Yr Alban | Glasgow | ۲DzԴDZ |
| Dydd Mercher 30 Medi | Cymru – Gogledd | Bangor | ۲DzԴDZ |
| Dydd Mercher 30 Medi | Cymru a Lloegr | ʴDzԲٳ | Ar-lein |
| Dydd Iau 01 Hydref | DZ– GDzɾ | Lerpwl | ۲DzԴDZ |
| Dydd Iau 01 Hydref | Gogledd Iwerddon | Belfast | ۲DzԴDZ |
| Dydd Gwener 02 Hydref | DZ– SɲڰDz’rܳ | Sheffield | ۲DzԴDZ |
| Dydd Mawrth 06 Hydref | Yr Alban | Yr Alban Gyfan | Ar-lein |
| Dydd Mercher 07 Hydref | Gogledd Iwerddon | Gogledd Iwerddon Gyfan | Ar-lein |
Taliadau a threuliau
Bydd cyfranogwyr sy’n mynychu’r gweithdy llawn yn cael cynnig taliad untro. Byddwn hefyd yn ad-dalu costau teithio rhesymol a threuliau angenrheidiol eraill (e.e. costau cynorthwyydd personol) i chi os ydych yn mynychu gweithdy mewn capasiti bersonol. Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi os cewch eich gwahodd i weithdy.
Mae unrhyw daliadau a dderbynnir o hyn yn ddarostyngedig i dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol. Rydych chi’n gyfrifol am ddatgelu taliadau i Cyllid a Thollau EF (CThEF) a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau am y trefniadau hyn gyda CThEF. Ni fydd y taliadau hyn yn bensiynadwy.
Cyngor ychwanegol i unigolion sy’n derbyn budd-daliadau prawf modd
Nid yw cyfranogiad gwirfoddol yn y gweithdy hwn yn cael ei ystyried yn ‘waith’ at ddibenion budd-daliadau prawf modd. Fodd bynnag, os ydych yn cael budd-daliadau, dylech roi gwybod i’ch anogwr gwaith neu’ch Canolfan Byd Gwaith leol cyn cymryd rhan. Os nad ydych yn siŵr a all cyfranogiad effeithio ar eich hawliad budd-dal, dylech ofyn am gyngor gan y swyddfa sy’n gweinyddu eich budd-dal. Gall hawlwyr Credyd Cynhwysol wneud hyn trwy eu dyddlyfr ar-lein.
Ar ôl i chi gael eich dewis ar gyfer y gweithdy hwn, gallwn roi llythyr i chi yn manylu ar eich cyfranogiad yn y gweithdy i gefnogi’r sgwrs hon.
Oherwydd gwerth a natur y taliadau hyn, byddant yn cael eu trin fel enillion a gallent effeithio ar hawl i fudd-daliadau, yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Dylech ystyried yr effaith ar eich enillion neu fudd-daliadau drwy siarad â’ch anogwr gwaith neu’ch Canolfan Byd Gwaith lleol cyn i chi gofrestru. Gallwch hefyd gymryd rhan yn y gweithdy heb y taliad neu ofyn am gael taliad is, unwaith y bydd y canllawiau talu a threuliau ar gyfer y gweithgaredd hwn wedi’u rhannu gyda chi.
Gwybodaeth am weithdai yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban
Mae grŵp llywio Adolygiad Timms am glywed gan bobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ledled y DU.
Cyfrifoldeb yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yng Nghymru a Lloegr yw PIP.
Mae PIP yn fater trosglwyddedig yng Ngogledd Iwerddon, sy’n golygu ei fod yn gyfrifoldeb i Weithrediaeth Gogledd Iwerddon. Ond mae egwyddor hirsefydlog o gydraddoldeb rhwng systemau nawdd cymdeithasol Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth y DU. Felly, mae’n bwysig bod yr Adolygiad yn clywed gan bobl anabl yng Ngogledd Iwerddon.
Mae PIP wedi’i ddatganoli yn Yr Alban ac mae wedi cael ei ddisodli gan Daliad Anabledd i Oedolion (ADP). Fodd bynnag, mae DWP yn parhau i ddarparu rhai budd-daliadau nawdd cymdeithasol “neilltuol” yn Yr Alban, fel Credyd Cynhwysol, ac mae gan rai pobl anabl yn Yr Alban brofiad o PIP cyn iddo gael ei ddisodli gan ADP. Mae’n bwysig i lwyddiant yr Adolygiad bod pobl anabl yn Yr Alban yn cael cyfle i fwydo i’r Adolygiad, er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn llawn sut y bydd y tirweddau cadwedig a datganoledig yn rhyngweithio. Bydd Gweithdai Llunio Argymhellion yn Yr Alban yn cael eu teilwra i adlewyrchu hyn.
Sut y gallwch gofrestru eich diddordeb
I gofrestru eich diddordeb, bydd angen i chi lenwi a chyflwyno’r ffurflen ‘Amdanoch chi’.
Rydym wedi ymrwymo i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw darpar gyfranogwyr dan anfantais yn ystod y broses ymgeisio - mae hyn yn cynnwys caniatáu i chi gyflwyno eich ffurflen ‘Amdanoch chi’ mewn gwahanol fformatau. Dylid cyfeirio unrhyw geisiadau am addasiadau rhesymol i gefnogi’ch cais ac unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r broses i timmsreview.shapingrecommendations@dwp.gov.uk.
Bydd y cyfnod cofrestru diddordeb yn agor ddydd Mercher 12 Awst 2026 am 10am ac yn cau ddydd Gwener 21 Awst 2026 am 5pm. Ein nod yw rhoi gwybod i gyfranogwyr dethol drwy e-bost erbyn 4 Medi 2026.