°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Canllawiau gwasanaeth cofrestru ôl-gerbydau INF291W

Diweddarwyd 30 Ebrill 2026

1. Beth yw ôl-gerbyd?

Mae’r Deddf Trwyddedau Cludo Nwyddau a Chofrestru Ôl-gerbydau 2018 yn nodi mai diffiniad o ôl-gerbyd yw unrhyw beth ar olwynion, sydd wedi’i fwriadu neu wedi’i addasu i gael ei dynnu gan gerbyd modur. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i:

  • ôl-gerbydau masnachol
  • cludwyr anifeiliaid
  • carafannau

2. Pryd i gofrestru ôl-gerbyd

Mae’n rhaid i chi gofrestru pob ôl-gerbyd dros 750kg i’w gyrru yn y rhan fwyaf o wledydd yn Ewrop, ar wahân i Iwerddon, Cyprus, Malta a Sbaen.

Gall awdurdodau tramor gymryd camau gorfodi os nad yw’r ôl-gerbyd wedi’i gofrestru ac na allwch gyflwyno’r dystysgrif gofrestru ôl-gerbyd os gofynnir amdani. Mae hyn yn berthnasol i ôl-gerbydau masnachol ac anfasnachol (er enghraifft, carafannau a chludwyr anifeiliaid).

Ar gyfer gwledydd nad ydynt yn Ewrop, gallwch wirio a yw gwlad benodol yn gofyn i ôl-gerbydau sy’n ymweld gael eu cofrestru. Cysylltwch â naill ai:

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth cofrestru ôl-gerbydau ar gyfer:

  • unrhyw ôl-gerbydau sy’n pwyso 750kg neu lai mewn pwysau gros
  • ôl-gerbydau Ffrâm-A - ffrâm yw hon (siâp fel A) sydd ynghlwm wrth flaen cerbyd (er enghraifft, car) i ddarparu atodiad sy’n caniatáu i’r cerbyd gael ei dynnu y tu ôl i gerbyd arall (er enghraifft, cartref modur)

3. Ôl-gerbydau llwyth annormal

Os oes gennych ôl-gerbyd llwyth annormal, yn ogystal â’i gofrestru gyda DVLA, bydd angen ichi wneud cais i’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) am dystysgrif ceidwad. Mae rhai gwledydd yn mesur llwythi annormal yn wahanol i’r DU. Gwiriwch gyda phob gwlad rydych chi’n teithio drwyddi i gael gwybod os yw’r llwyth rydych chi’n ei gludo yn cyfrif fel annormal.

Dylech wirio a yw’ch ôl-gerbyd yn gymwys fel llwyth annormal gyda DVSA - cael tystysgrif ceidwad ar gyfer ôl-gerbyd llwyth annormal os oes gennych unrhyw ymholiadau.

4. Ffioedd

Mae’n costio:

  • £26 i gofrestru ôl-gerbyd am y tro cyntaf
  • £21 i gyhoeddi tystysgrif gofrestru newydd ar gyfer ceidwad cofrestredig newydd
  • £10 i ddisodli tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd y DU neu un sydd ar goll, wedi’i dwyn, ei difrodi neu ei dinistrio

Bydd angen ichi gael plât rhif gyda’r rhif cofrestru ôl-gerbyd a roddir i’ch ôl-gerbyd pan gaiff ei gofrestru gyntaf. Gallwch ddod o hyd i fanylion eich cyflenwr plât rhif cofrestredig (RNPS) agosaf am ragor o fanylion.

5. Y gwasanaeth cofrestru ôl-gerbydau

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth cofrestru ôl-gerbydau i:

  • greu cyfrif i gofrestru eich ôl-gerbydau
  • mewngofnodi i gyfrif presennol (cliciwch ‘dechrau nawr’)
  • rheoli manylion eich ôl-gerbyd cofrestredig – er enghraifft, os ydych chi’n gwerthu neu’n sgrapio ôl-gerbyd neu’n newid eich enw neu’ch cyfeiriad

6. Sut i gofrestru ôl-gerbyd

I gofrestru ôl-gerbyd sydd heb ei gofrestru o’r blaen, bydd arnoch angen y canlynol:

  • Rhif Adnabod y Cerbyd (VIN) – sy’n 17 nod a ni ellir gynnwys y llythrennau 1, O neu Q
  • rhif siasi (gall hwn fod yn llai na 17 nod)
  • gwneuthurwr ôl-gerbyd (os na allwch ddod o hyd i’ch gwneuthurwr, dewiswch ‘gwneuthurwr heb ei restru’ i’w deipio â llaw)
  • pwysau gros mewn kg
  • pwysau heb lwyth mewn kg – pwysau ôl-gerbyd gwag, gan gynnwys unrhyw addasiadau parhaol (ar gyfer carafannau, os nad yw pwysau gros wedi’i nodi, gellir defnyddio’r Màs y Cerbyd wrth ei Weithredu (MIRO))
  • math o ôl-gerbyd (er enghraifft, ôl-gerbyd bocs, ôl-gerbyd cynhwysydd, cludwr anifeiliaid neu garafán)
  • dull talu

Os gwelwch y neges gwall canlynol ‘Mae’r VIN yn cydweddu â’r ôl-gerbyd sydd eisoes wedi’i gofrestru’, bydd angen ichi gaffael yr ôl-gerbyd gan ddefnyddio ei rif cofrestru ôl-gerbyd.

6.1 Rhif siasi

Mae’r rhifau hyn fel arfer ar blât metel sydd wedi’i osod ar yr ôl-gerbyd gan y gwneuthurwr neu wedi’i stampio i mewn i’r siasi.

Mae rhai gwneuthurwyr carafán yn defnyddio CRIS (Cynllun Cofrestru ac Adnabod Canolig) fel VIN. Gall hwn gael ei ddefnyddio cyn belled na ddefnyddir y llythrennau I, O neu Q.

Os nad oes gan eich ôl-gerbyd VIN, siasi neu CRIS y gellir ei ddefnyddio, bydd angen ichi gael VIN cyn y gallwch gofrestru’r carafán. Os ydyw dros 3,500kg, bydd angen ichi gysylltu â DVSA. Os ydyw o dan 3,500kg, bydd angen ichi gysylltu â DVLA.

Mae gan rhai ôl-gerbydau rif cyfresol yn lle’r uchod, gall hwn hefyd gael ei ddefnyddio yn y maes siasi ar y gwasanaeth.

6.2 Pwysau gros mewn kg

Mae hyn yn cael ei bennu gan y gwneuthurwr, ac mae’n golygu’r pwysau mwyaf y caniateir i’r ôl-gerbyd fod pan fydd wedi’i lwytho’n llawn. Dyma’r pwysau heb lwyth yr ôl-gerbyd ynghyd ag uchafswm y prif lwyth a ganiateir, a elwir hefyd yn uchafswm màs a ganiateir.

Ar gyfer carafanau, os nad yw pwysau gros wedi’i nodi, gellir defnyddio’r Màs Llawn Llwytho Uchaf a Ganiateir yn Dechnegol (MTPLM).

7. Sut i gaffael ôl-gerbyd

Os ydych chi’n ceisio caffael ôl-gerbyd (sydd eisoes wedi’i gofrestru gyda rhif cofrestru ôl-gerbyd), rhaid ichi gofrestru’r ôl-gerbyd gan ddefnyddio ei rif cofrestru ôl-gerbyd a gyhoeddwyd gan y DVLA.

I gaffael ôl-gerbyd, bydd arnoch angen:

  • rhif cofrestru’r ôl-gerbyd
  • rhif VIN (17 nod) neu rif siasi (gall hwn fod yn llai na 17 nod)

Os nad yw’r rhif cofrestru ôl-gerbyd yn cael ei adnabod, bydd angen ichi gofrestru’r ôl-gerbyd am y tro cyntaf gan ddefnyddio’r rhif VIN neu rif siasi.

8. Beth sy’n digwydd nesaf

8.1 Cadarnhad

Unwaith y bydd ôl-gerbyd wedi’i gofrestru’n llwyddiannus, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau ar unwaith. Gwiriwch eich ffolder sothach.

8.2 Tystysgrif awdurdodi plât rhif ôl-gerbyd

Bydd eich e-bost cadarnhau yn cynnwys ‘Tystysgrif awdurdodi plât rhif ôl-gerbyd’ (eV948/2) y gallwch ei defnyddio i gynhyrchu platiau rhif ôl-gerbyd. Am ragor o wybodaeth, gweler adran 17 o’r canllaw hwn.

8.3 Tystysgrif Gofrestru Ôl-gerbyd

Byddwch hefyd yn derbyn tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd bapur a fydd yn cael ei phostio i’ch cyfeiriad o fewn 3 i 5 diwrnod gwaith. Rhaid ichi gael tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd gyda’r ôl-gerbyd fel y gellir ei dangos i awdurdod tramor ar gais. Mae eich tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd yn ddilys am 10 mlynedd.

9. Creu cyfrif ôl-gerbyd

I greu cyfrif ôl-gerbyd am y tro cyntaf, bydd arnoch angen ID Porth y Llywodraeth (hyd at 12 nod). Os nad oes gennych ID Porth y Llywodraeth, byddwch yn gallu creu un tra’n defnyddio’r gwasanaeth ôl-gerbyd.

I greu ID Porth y Llywodraeth, bydd arnoch angen:

  • eich enw
  • cyfeiriad e-bost
  • cyfrinair
  • gair cofiadwy, y mae Porth y Llywodraeth yn ei alw’n ‘air adfer’

Os ydych chi wedi creu ID Porth y Llywodraeth o’r blaen ar gyfer gwasanaeth gwahanol, gallwch ddefnyddio hwnnw i greu cyfrif ôl-gerbyd.

Mae’n bwysig cofio eich ID Porth y Llywodraeth gan fod hwn yn ofynnol i gael mynediad i’ch cyfrif yn y dyfodol.

Gallwch greu cyfrif ôl-gerbyd at ddefnydd personol (cyfrif unigol) neu ddefnydd masnachol (cyfrif cwmni).

Ar gyfer cyfrifon masnachol, dylech ystyried pwy sydd â mynediad at eich cyfrif pryd rydych yn ei greu. Bydd hyn yn helpu i osgoi colli mynediad i’ch cyfrif oherwydd newid mewn staff. Rydym yn argymell bod eich cyfrif cwmni yn cael ei greu gan rywun sy’n berchen ar y cwmni. Bydd dal gennych yr opsiwn i ychwanegu gweithwyr cyflogedig at y cyfrif - gweler adran 13 o’r canllaw hwn.

Mae’n bwysig sicrhau bod eich cyfeiriad e-bost a manylion eich ôl-gerbyd bob amser yn gyfredol, fel nad ydych byth yn colli hysbysiadau pwysig am eich ôl-gerbyd. Gallwch ddiweddaru eich gwybodaeth unrhyw bryd os bydd unrhyw beth yn newid.

10. Cyrchu eich cyfrif ôl-gerbyd

Gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif ôl-gerbyd drwy:

  • ymweld â chofrestru ôl-gerbyd i gymryd dramor
  • clicio ar ‘dechrau nawr’
  • cliciwch ‘oes’ i ‘A oes gennych gyfrif ôl-gerbyd?’
  • rhowch ID a chyfrinair Porth y Llywodraeth dilys

Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau wrth fewngofnodi, fel anghofio cyfrinair neu ID Porth y Llywodraeth, mae dolenni cymorth ar gael ar y dudalen fewngofnodi. Gweler ‘problemau wrth fewngofnodi’.

11. Rheoli eich ôl-gerbydau

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ôl-gerbyd ar eich cyfrif ôl-gerbyd, gallwch:

  • archebu tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd newydd am ffi (os yw wedi’i cholli neu ei difrodi)
  • newid manylion y ceidwad neu’r ôl-gerbyd
  • tynnu’r ôl-gerbyd o’r cyfrif
  • adnewyddu’r dystysgrif ôl-gerbyd (os yw’n berthnasol)

12. Gwaredu ôl-gerbyd

Rhaid ichi ddweud wrth DVLA os yw eich ôl-gerbyd:

  • wedi’i werthu neu ei drosglwyddo
  • wedi’i sgrapio neu y tu hwnt i’w drwsio
  • wedi’i allforio

Gallwch wneud hyn yn eich cyfrif ôl-gerbyd drwy ddewis yr ôl-gerbyd perthnasol a chlicio ‘dileu o’r cyfrif ôl-gerbyd.’ Gofynnir ichi ychwanegu’r dyddiad gwaredu.

Rhaid ichi hefyd dynnu’r plât cofrestru oddi ar yr ôl-gerbyd a dylech ddweud wrth unrhyw geidwad newydd beth yw’r rhif cofrestru. Mae hyn rhag ofn y byddant am gofrestru fel ceidwad yr ôl-gerbyd fel y gallant ei ddefnyddio’n rhyngwladol yn y dyfodol.

Gallwch hefyd ddewis tynnu ôl-gerbyd o’ch cyfrif os nad ydych chi’n ei ddefnyddio y tu allan i’r DU bellach. Mae hyn oherwydd nad yw’r cynllun yn berthnasol i ôl-gerbydau a ddefnyddir yn y DU yn unig. Dylech hefyd dynnu’r plât cofrestru oddi ar yr ôl-gerbyd ar ôl ichi hysbysu DVLA.

13. Rheoli cyfrif ôl-gerbyd cwmni

Os ydych chi wedi creu cyfrif cwmni, gallwch chi reoli aelodau eich tîm gan ddefnyddio’r swyddogaeth ‘rheoli cyfrif’.

Gallwch:

  • weld manylion aelodau’r tîm
  • ychwanegu aelodau newydd o’r tîm
  • diweddaru manylion aelodau’r tîm fel enw a chyfeiriad e-bost
  • ailosod cyfrinair, ail-anfon neu ddileu ID Porth y Llywodraeth

Mae 2 fath o fynediad i aelodau’r tîm:

  • gweinyddwr – gall gael mynediad at wasanaethau ar gyfer sefydliad a rheoli aelodau ei dîm
  • defnyddiwr safonol – gall gael mynediad at wasanaethau ar gyfer sefydliad

Rydym yn argymell eich bod wedi sefydlu o leiaf 2 aelod o’r tîm fel gweinyddwyr.

14. Rhifau cofrestru ôl-gerbyd

Unwaith y bydd ôl-gerbyd wedi’i gofrestru gyda DVLA, bydd rhif cofrestru unigryw yn cael ei ddyrannu iddo y mae’n rhaid ei arddangos ar yr ôl-gerbyd. Mae’r rhifau cofrestru hyn yn ffordd o adnabod ôl-gerbydau sydd wedi’u cofrestru yn y DU ac sy’n cael eu gyrru’n rhyngwladol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau hwylustod teithio tra byddwch dramor.

15. Fformat rhif cofrestru ôl-gerbyd

Fformat rhif cofrestru’r ôl-gerbyd yw un llythyren ac yna 7 rhif, sydd wedi’u gosod dros 2 linell. Dyma enghraifft:

Ni fydd rhif cofrestru ôl-gerbyd a gyhoeddwyd gan DVLA byth yn dechrau gyda’r llythyr ‘C’.

16. Arddangos rhifau cofrestru ôl-gerbyd

Rhaid arddangos rhifau cofrestru ôl-gerbydau yn gywir ar blatiau rhif fel y nodir yn y Rheoliadau Cofrestru Ôl-gerbydau 2018.

Mae’r rheoliadau hyn yn llywodraethu sut mae platiau rhifau cofrestru ôl-gerbydau yn cael eu dylunio a’u harddangos.

Mae’n drosedd cuddio’r rhif cofrestru mewn unrhyw ffordd sy’n ei gwneud hi’n anodd ei ddarllen. Er enghraifft, ni ddylech ddefnyddio bolltau gosod i newid y llythyren nac unrhyw un o’r rhifau. Gallai unrhyw un sydd â phlât rhif nad yw’n arddangos y rhif cofrestru’n gywir gael dirwy o hyd at £1,000.

17. Sut i gael plât rhif ôl-gerbyd

I brynu plât rhif ar gyfer eich ôl-gerbyd, rhaid ichi ddod o hyd i’ch cyflenwr plât rhif agosaf (RNPS) sy’n cyflenwi platiau rhif ôl-gerbyd.

Bydd angen ichi gyflwyno eich ‘Tystysgrif awdurdodi plât rhif ôl-gerbyd’ (eV948/2W) i’r RNPS. Byddwch wedi derbyn hon drwy e-bost pan wnaethoch gofrestru’r ôl-gerbyd. Mae’r awdurdodiad e-bost hwn yn ddilys am 5 diwrnod.

Os ydyw wedi dod i ben, bydd angen ichi gyflwyno eich tystysgrif gofrestru ôl-gerbyd yn lle. Bydd angen i’r cyflenwr weld dogfennau gwreiddiol hefyd sy’n profi eich enw a’ch cyfeiriad.

Gallwch ddefnyddio un o’r dogfennau adnabod canlynol:

  • trwydded yrru
  • bil cyfleustodau, y dreth gyngor, neu fil ardrethi o’r 6 mis diwethaf
  • datganiad banc neu gymdeithas adeiladu o’r 6 mis diwethaf
  • cerdyn adnabod cenedlaethol

Bydd y canlynol yn cadarnhau eich enw yn unig:

  • pasbort – nid oes rhaid ei fod wedi’i gyhoeddi yn y DU
  • cerdyn debyd neu gredyd banc neu gymdeithas adeiladu
  • cerdyn gwarant heddlu
  • cerdyn adnabod y lluoedd arfog

18. Manyleb dylunio plât ôl-gerbyd

Mae plât cofrestru ôl-gerbyd yr un siâp â phlât safonol beic modur a rhaid iddo gynnwys nodau du solet (y llythyren a’r rhifau) ar gefndir gwyn. Ni ddylai’r nodau ac arwyneb y plât gynnwys unrhyw ddyluniadau, patrymau na gweadau.

Hefyd:

  • rhaid i’r nodau fod yn 64mm o uchder
  • rhaid i’r nodau (ac eithrio’r rhif ‘1’ neu’r llythyren ‘I’) fod yn 44mm o led
  • rhaid i’r rhif ‘1’ a’r llythyren ‘I’ fod yn 10mm o led
  • rhaid i strôc y nod (trwch y print du) fod yn 10mm o led
  • rhaid i’r gofod rhwng y nodau fod yn 10mm
  • rhaid i’r gofod fertigol rhwng pob rhes o’r nodau fod yn 5mm
  • rhaid i led yr ymyl rhwng top y plât ac unrhyw un o’r nodau fod o leiaf 5mm
  • rhaid i led yr ymyl rhwng gwaelod y plât ac unrhyw un o’r nodau fod o leiaf 13mm

Rhaid i’r nodau fod mewn ffont safonol (arddull llythrennu), er enghraifft:

Rhaid i’r plât rhif ddangos y rhif cofrestru yn unig a manylion gwneuthurwr neu gyflenwr y plât rhif (er enghraifft, yr enw, y nod masnach, neu ffordd arall o adnabod gwneuthurwr neu gyflenwr y plât).

19. Ble i arddangos y platiau cofrestru ar ôl-gerbyd

Rhaid arddangos plât cofrestru’r ôl-gerbyd ar gefn yr ôl-gerbyd mewn man gweladwy a fertigol. Rhaid ei arddangos yn ogystal â phlât cofrestru’r cerbyd sy’n tynnu a rhaid ei osod cyn belled ag y bo’n rhesymol bosibl o’r plât hwn.

Os na ellir arddangos y plât ar gefn yr ôl-gerbyd, rhaid gosod plât cofrestru ôl-gerbyd ar ddwy ochr yr ôl-gerbyd fel eu bod ill dau yn hollol weladwy.

20. Sticeri’r DU

Yn ogystal â phlât cofrestru’r ôl-gerbyd, efallai y bydd rhai gwledydd tramor hefyd yn mynnu bod sticer o’r DU yn cael ei arddangos ar yr ôl-gerbyd. Er mwyn osgoi unrhyw risg o gamau gorfodi dramor, argymhellir eich bod yn arddangos sticer o’r DU. Ni ddylid arddangos y sticer ar blât cofrestru’r ôl-gerbyd. Dylai hwn fod yn sticer neu’n arwydd ar wahân wrth ymyl plât yr ôl-gerbyd.

21. Beth i’w wneud os caiff eich plât cofrestru ôl-gerbyd ei ddwyn

Os caiff eich plât ei ddwyn, dylech ddweud wrth yr heddlu fel y gallant ymchwilio.

22. Gwybodaeth ddefnyddiol

Gallwch ffonio 0300 123 1350 (ychwanegwch estyniad 821 pan ofynnir amdano) am fwy o wybodaeth.

Gallwch hefyd wirio os oes angen ichi gofrestru ôl-gerbyd cyn ei dynnu dramor.