Dinasoedd Diwylliant y DU 2029 Cais llawn: Arweiniad i ymgeiswyr
Updated 26 May 2026
Cyflwyniad
Mae’r canllawiau hyn wedi’u llunio gan Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) i gynorthwyo’r lleoedd a gafodd eu rhestru ar y rhestr hir yn llwyddiannus yng ngham Mynegi Diddordeb (EOI) cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU 2029 i baratoi a chyflwyno eu ceisiadau llawn (o hyn ymlaen, y “ceisiadau”). Cynghorir y lleoedd ar y rhestr hir sy’n paratoi eu ceisiadau i ddarllen yr arweiniad hwn yn llawn.
Mae fersiwn Saesneg o’r canllawiau hyn hefyd ar gael.
Trosolwg
Mae Dinas Diwylliant y DU yn rhaglen ledled y DU, a ddatblygwyd ar y cyd â’r llywodraethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac mae wedi dod yn fodel ar gyfer datblygu lleoedd drwy ddiwylliant. Mae’r rhaglen yn dathlu ac yn cefnogi cymunedau mewn lleoedd ledled y DU i ddefnyddio diwylliant fel catalydd ar gyfer trawsnewid lleoedd a bywydau pobl drwy ysgogi twf a swyddi da, creu bywydau cyfoethocach gyda dewisiadau a chyfleoedd i bawb, a meithrin gwlad sy’n fwy cydlynol yn gymdeithasol lle mae cymunedau’n teimlo’n falch o’u lle ac wedi’u grymuso i’w newid. Mae Dinas Diwylliant y DU yn adeg drawsnewidiol yn nhaith mannau ymgeisio wrth iddyn nhw dyfu, ac mae’r gystadleuaeth yn gyfle i fannau a chymunedau anelu’n uwch a rhoi diwylliant a chreadigrwydd wrth wraidd eu cynlluniau ar gyfer gweithgarwch trawsnewidiol a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.
Lansiwyd yn gyntaf yn 2009, ac erbyn hyn dyma’r pumed tro i’r DCMS gynnal y gystadleuaeth. Yn ystod yr amser hwn, mae hi wedi cynorthwyo Derry/Londonderry, Hull, Coventry a Bradford i gyflawni blwyddyn o weithgarwch llawn diwylliant sydd wedi’i wreiddio yn hunaniaeth unigryw’r llefydd hyn ac yn tynnu ar eu straeon a’u chryfderau lleol. Mae’r Dinasoedd Diwylliant y DU blaenorol hyn yn dangos sut y gall y rhaglen ysgogi canlyniadau economaidd a chymdeithasol cadarnhaol, datblygu partneriaethau parhaol lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, a dod â phobl ynghyd. Gall hefyd gryfhau cymunedau, creu ymdeimlad o le ac ysbrydoli balchder lleol, dathlu a rhoi hwb i gelfyddydau a diwylliant lleol a llawr gwlad, a denu buddsoddiad a thwristiaeth newydd.
Gall ymgeisio am y teitl yn unig gael effeithiau hynod gadarnhaol. Mae’r broses o baratoi cais wedi cefnogi lleoedd i ddod â phartneriaid ynghyd, datblygu arweinyddiaeth ddiwylliannol strategol, mynegi gweledigaeth ar gyfer eu lle ac ystyried rôl diwylliant yn eu cynlluniau a’u dyheadau.
Gan gydnabod y bydd gan enillydd 2029 amserlen gyflawni fyrrach o’i chymharu ag enillwyr teitl diweddar, mae’r gofynion cais llawn hyn wedi’u dylunio i roi’r cyfle gorau i leoedd ddatblygu cynllun cadarn, manwl a chyfiawnadwy ar gyfer rhaglen ddiwylliannol uchelgeisiol blwyddyn o hyd a fydd yn arwain at effaith wirioneddol a momentwm parhaus.
Yn gysylltiedig â hyn, mae DCMS wedi gwarantu, am y tro cyntaf, y bydd yn darparu £10 miliwn o gyllid i’r lle buddugol i’w helpu i gyflawni eu blwyddyn. Bydd y sicrwydd hwn, yn ogystal â’r grant datblygu cais o £60,000, yn cefnogi’r gwaith cynllunio. Bydd hefyd ddigwyddiad gwybodaeth gyda’r panel cynghori arbenigol i helpu i ddeall ymhellach, neu egluro, yr hyn y bydd y panel ei hun yn chwilio amdano yn y ceisiadau (rhagor o wybodaeth am hyn isod). Dylai hyn gefnogi’r broses o ysgrifennu’r cais.
Mae lefel y manylder a’r data y mae DCMS yn gofyn amdanynt yn gymesur â’r amserlen a’r gefnogaeth hon.
Amcanion a meini prawf Dinas Diwylliant y DU 2029
Mae’r amcanion a’r meini prawf yn amlinellu amcanion strategol y rhaglen ac yn nodi’r hyn y bydd angen i enillydd llwyddiannus Dinas Diwylliant y DU 2029 ei wneud. Fe’u defnyddir gan y panel cynghori arbenigol i asesu ceisiadau ar bob cam o’r gystadleuaeth. Mae’r meini prawf wedi’u diweddaru ar gyfer y gystadleuaeth hon er mwyn canolbwyntio hyd yn oed yn fwy ar gynnwys pobl leol wrth lunio’r ymgais a sicrhau eu bod nhw wir yn elwa o’r cyfleoedd a’r effeithiau a ddaw yn sgil y rhaglen. Er mwyn bod yn llwyddiannus, mae’n rhaid i geisiadau ddangos sut y maent yn bodloni’r meini prawf ac amlygu’r potensial i wneud cyfraniad sylweddol at amcanion rhaglen Dinas Diwylliant y DU.
Nodau 1
1. Rhannu a dathlu stori a gweledigaeth leol unigryw sy’n defnyddio diwylliant a chreadigrwydd i drawsnewid man penodol
Meini Prawf
-
1. Gweledigaeth: Mynegi gweledigaeth gref ac unigryw ar gyfer eich man a’ch rhaglen, wedi’i llywio gan gymunedau ac wedi’i seilio ar stori leol drawiadol sy’n defnyddio effaith diwylliant a threftadaeth fel catalydd i ddod â phobl at ei gilydd, meithrin ymdeimlad o fan penodol ac ysbrydoli balchder lleol.
-
2. Arweinyddiaeth: Dangos dull arweinyddol cryf a chydweithredol gydag ymrwymiad clir a chymorth gan awdurdodau lleol, sefydliadau cymunedol a’r sector diwylliannol, gan sicrhau gwaddol diwylliannol, credadwy a hirdymor.
-
3. Anghenion lleol: Gosod rhaglen a gwaddol sydd wedi’i lunio gan gymunedau ac sy’n defnyddio diwylliant i ymateb i flaenoriaethau penodol lleol ac yn targedu’r rhai sydd angen cymorth mwyaf.
-
4. Trawsnewid: Cyflwyno dealltwriaeth strategol o beth mae “trawsnewid” yn ei olygu i’ch man chi a sut y gall hynny gyflawni newid mesuradwy a chynaliadwy fesul cam ar gyfer y bobl a’r man dan sylw. Mae hyn yn cynnwys cyfleu effeithiau cymdeithasol, llesiannol ac economaidd clir.
Nodau 2
2. Creu cyfleoedd trawsnewidiol a bywydau cyfoethocach i bobl a chymunedau
Meini Prawf
-
5. Cyfle: Creu mwy o gyfleoedd i bawb, yn enwedig pobl ifanc, i gael mynediad at ddiwylliant a chymryd rhan yn y diwylliant hwnnw.
-
6. Galluogi: Dangos ymrwymiad i gynnwys cymunedau lleol, artistiaid a gweithwyr creadigol llawr gwlad, ac arweinwyr lleol a rhanbarthol yn y broses o wneud penderfyniadau. Hefyd dangos ymrwymiad i’w cynorthwyo nhw i lunio’r ymgais, y rhaglen a’r gwaddol yn uniongyrchol, gan ddatganoli’r pŵer i wneud penderfyniadau i gymunedau lle bo modd.
-
7. Cydlyniant: Hyrwyddo a gwella cydlyniant cymunedol drwy ymgysylltu â chymunedau lleol a’u hysbrydoli i wirfoddoli a dod â phobl at ei gilydd drwy greu llefydd a chyfleoedd ar gyfer cymysgu’n gymdeithasol.
-
8. Balchder: Meithrin ymdeimlad o berthyn ac ysbrydoli balchder lleol a chenedlaethol.
Nodau 3
3. Creu effaith economaidd gynaliadwy drwy ddarparu swyddi da a rhoi hwb i dwf yn eich man neu’ch rhanbarth chi yn ehangach
Meini Prawf
-
9. Cyd-destun: Dangos dealltwriaeth glir o sut mae’ch cynnig yn cyd-fynd â chynlluniau ehangach ar gyfer twf rhanbarthol neu genedlaethol, ac yn cryfhau’r cynlluniau hyn.
-
10. Twf: Cynyddu buddsoddiad mewn diwylliant a chreadigrwydd, gan arwain at fod yn fwy cynhyrchiol ac at fwy o allbwn, er mwyn codi proffil yr ardal fel cyrchfan ddiwylliannol. Bydd hyn yn denu twristiaeth a buddsoddiad newydd i annog twf cynhwysol.
-
11. Swyddi: Cynyddu cyfleoedd am gyflogaeth leol yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol – cyn, yn ystod ac ar ôl blwyddyn eich rhaglen.
-
12. Sgiliau: Cynyddu cyfleoedd cynhwysol ar gyfer datblygu sgiliau arbenigol a sgiliau bywyd, yn ogystal â datblygu llwybrau i yrfaoedd creadigol a diwylliannol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i bobl ifanc.
Nodau 4
4. Hyrwyddo ansawdd ac arloesed
Meini Prawf
-
13. Ansawdd: Darparu rhaglen ddiwylliannol o ansawdd uchel sy’n adeiladu ar gryfderau ac asedion lleol, ac yn ehangu arnyn nhw, yn ogystal â rhaglen sydd wedi’i seilio ar y gorau o gelfyddyd, treftadaeth a diwydiannau creadigol y DU. Bwriad hyn oll fydd gyfrannu at enw da’r DU fel arweinydd byd-eang yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol.
-
14. Arloesi: Dangos rhagoriaeth ddiwylliannol ac artistig, creadigrwydd ac arloesed, gan gynnwys gwneud hyn drwy ddefnyddio technoleg i alluogi mynediad at ddiwylliant.
-
15. Cyfrifoldeb amgylcheddol: Gwreiddio arferion cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol yn rhan o’r rhaglen a’i gwaddol, gan ddangos cyfraniad at nodau Sero Net y DU a nodau o ran amddiffyn natur, yn ogystal â hyrwyddo ac ysbrydoli cyfrifoldeb amgylcheddol.
Nodau 5
5. Estyn llaw yn lleol ac ar draws y DU i weithio gyda phartneriaid amrywiol
Meini Prawf
-
16. Stori gyffredin: Cryfhau a dathlu cysylltiadau â mannau ar draws pedair gwlad y DU (ac yn rhyngwladol hefyd, os yw’n bwysig i’ch man chi a’i stori). Byddwch yn seilio hyn ar ddiwylliant a threftadaeth i adrodd ein stori gyffredin gyda’n gilydd drwy raglen hynod gynhwysol ac agored ei natur.
-
17. Partneriaethau: Cydweithio ag ystod eang o bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol (a rhyngwladol hefyd, os yw’n bwysig i’ch man chi a’i stori). Byddwch yn ceisio cyfleoedd newydd a chreu cysylltiadau ystyrlon a pharhaol sy’n cyfrannu at weledigaeth hirdymor eich man.
Nodau 6
6. Manteisio i’r eithaf ar waddol rhaglen Dinas Diwylliant y DU
Meini Prawf
-
18. Gwerthuso: Cyflwyno cynllun a methodoleg gadarn a chyraeddadwy i werthuso a monitro effaith y rhaglen a’i newidiadau disgwyliedig fesul cam, gan ddysgu o brofiadau mannau blaenorol sydd wedi ennill.
-
19. Gwreiddio: Dangos dealltwriaeth glir o sut mae’r rhaglen yn cyd-fynd â strategaethau diwylliannol lleol presennol y tu hwnt i 2029, ac yn gwreiddio ei hun yn y rhain. Yn ogystal â sut mae modd defnyddio’r rhaglen fel catalydd i ddatblygu strategaeth ddiwylliannol sy’n cyd-fynd â strategaethau lleol presennol.
-
20. Cynnal: Cyflwyno cynllun uchelgeisiol a chadarn sy’n dangos sut bydd y strategaeth sy’n sail i’r rhaglen yn darparu ecosystem gref o sefydliadau diwylliannol a chreadigol. Bydd y sefydliadau hyn wedi’u gwreiddio yn y gymuned ac wedi’u siapio gan y gymuned. Wrth wneud hyn, byddwch yn bwriadu cryfhau arweinyddiaeth, partneriaethau a gallu lleol.
Pa fannau all ymgeisio?
Mae’r cam hwn o’r gystadleuaeth ar agor yn unig i’r naw lle canlynol ar y rhestr hir, sydd wedi’u gwahodd i gyflwyno ceisiadau llawn yn dilyn Mynegiant o Ddiddordeb (EOI) llwyddiannus:
- Blackpool
- ԱԱ‑HԻ
- Ipswich, Middlesbrough
- Milton Keynes
- Portsmouth
- Sheffield
- Swindon
- Wrecsam
Cyllid
I gydnabod effaith rhaglen Dinas Diwylliant y DU, mae DCMS wedi cadarnhau gwobr ariannol warantedig o £10 miliwn i’r lle buddugol i’w gefnogi i gyflwyno eu rhaglen, yn ogystal â grantiau adnoddau o £125,000 i bob un o’r tri “ail safle” er mwyn iddynt allu bwrw ymlaen â rhai elfennau o’u cais.
Mae DCMS yn cydnabod y gall ymrwymiad i gyllid ymlaen llaw roi’r hyder a’r sicrwydd i leoedd ymgysylltu â’r gystadleuaeth a lansio ceisiadau uchelgeisiol. Dylai uchelgeisiau codi arian fod yn fwy na gwobr ariannol DCMS, a byddem yn disgwyl i ymgeiswyr fanteisio i’r eithaf ar y cyfle hwn i sicrhau cyllid sylweddol o ffynonellau eraill, megis noddi a dyngarwch.
Mae DCMS wedi dyfarnu grantiau datblygu cais o £60,000 i bob un o’r lleoedd ar y rhestr hir i gefnogi datblygu ceisiadau. Bwriad y grantiau hyn yw darparu ffynhonnell ariannu hyblyg y gall lleoedd sy’n ymgeisio ei defnyddio yn ôl yr angen i gryfhau ceisiadau a helpu i ddatblygu cynllun y gellir ei raddio. Er enghraifft, gellir gwario’r grantiau ar:
- Ymchwil a Datblygu (Y&D)
- Ymgynghori; Adnoddau dynol
- Casglu data
- Arbenigedd masnachol ar gyfer cynlluniau cyfalaf arfaethedig
Panel cynghori arbenigol
Mae panel cynghori arbenigol Dinas Diwylliant y DU yn chwarae rhan allweddol yn y gystadleuaeth. Maent yn dod ag ystod eang ac amrywiol o brofiad ac arbenigedd sector, yn darparu asesiad beirniadol a gwrthrychol o geisiadau, ac yn gwneud argymhellion i Weinidogion DCMS ar bob cam o’r gystadleuaeth. Yn ddiweddarach yn y gystadleuaeth, bydd y panel yn cynnal ymweliadau â’r lleoedd ar y rhestr fer. Byddant hefyd yn gweithredu fel “cyfaill beirniadol” i’r lle buddugol unwaith y caiff yr enillydd ei gyhoeddi (rhagor o wybodaeth am hyn isod).
Mae DCMS a holl aelodau’r panel wedi ymrwymo i sicrhau tegwch llwyr yn y broses gystadleuol. Bydd unrhyw wrthdaro buddiannau, pan fyddant yn codi, yn cael eu datgan, a bydd pob rhyngweithio rhwng y panel a’r lleoedd sy’n ymgeisio yn cael ei gynnal mewn modd cwbl deg ac yn cynnwys ysgrifenyddiaeth panel DCMS. Ni fydd aelodau’r panel yn gallu cefnogi nac ymgynghori ar unrhyw gais penodol mewn unrhyw gapasiti, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol.
Camau a cherrig milltir y gystadleuaeth
Bwriad y broses ddethol yw sicrhau bod yr ymgeisydd gorau posibl o’r DU gyfan yn cael ei ddewis yn Ddinas Diwylliant y DU 2029. Mae’r broses ddethol wedi’i chynllunio fel ei bod hi’n arwain at ddynodi’r man sydd â gweledigaeth uchelgeisiol ac unigryw o’r hyn y bydd yn ei gyflawni yn 2029 ac wedi hynny; ond hefyd un sydd â chynlluniau credadwy a realistig i wireddu ei gweledigaeth.
Cam 1 (Mynegi Diddordeb)
- Derbyniodd DCMS fynegiadau o ddiddordeb gan leoedd ledled y DU. Asesodd y panel cynghori arbenigol y mynegiadau o ddiddordeb yn erbyn meini prawf y gystadleuaeth ac argymhellodd restr hir o leoedd i Weinidogion DCMS. Gwahoddwyd y lleoedd ar y rhestr hir i gyflwyno ceisiadau llawn.
Cam 2 (Rhestr Hir)
-
Bydd pob lle ar y rhestr hir yn datblygu ac yn cyflwyno cais llawn yn unol â’r canllawiau hyn, gyda chefnogaeth grant o £60,000 gan DCMS. Bydd gan leoedd bedwar mis i gwblhau eu cais.
-
Bydd y lleoedd ar y rhestr hir hefyd yn cael eu gwahodd i Ddigwyddiad Gwybodaeth gyda’r panel cynghori arbenigol (rhagor o wybodaeth am hyn isod).
-
Bydd y panel cynghori arbenigol yn asesu’r holl geisiadau llawn yn erbyn meini prawf y gystadleuaeth ac yn argymell rhestr fer o hyd at bedwar lle, a gyflwynir i Weinidogion DCMS, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Byddwn ni’n rhoi adborth i bob un o’r mannau ar y rhestr hir.
Cam 3 (Rhestr Fer)
-
Bydd y panel yn ymweld â’r lleoedd ar y rhestr fer. Yn dilyn yr ymweliadau hyn, bydd y lleoedd ar y rhestr fer hefyd yn cael eu gwahodd i roi cyflwyniad terfynol i’r panel ac i gymryd rhan mewn trafodaethau manwl ynghylch eu gweledigaeth a’u cynlluniau. Bydd arweiniad pellach ar y cam hwn yn cael ei rannu maes o law.
-
Bydd y panel yn cyflwyno ei argymhelliad ar gyfer enillydd Dinas Diwylliant y DU 2029 i Weinidogion DCMS, a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol. Byddwn ni’n rhoi adborth i bob un o’r ardaloedd sydd ar y rhestr fer.
-
Nod DCMS yw cyhoeddi enillydd Dinas Diwylliant y DU 2029 ddiwedd 2026 neu ddechrau 2027.
Cerrig milltir y gystadleuaeth a dyddiadau dangosol
Cam y gystadleuaeth: Rhestr Hir
- Cyhoeddwyd: 18 Mawrth 2026
- Canllawiau’r cais llawn wedi’u cyhoeddi: 10 Ebrill 2026
- Digwyddiad gwybodaeth: 2 Mehefin 2026
- Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau llawn: Dydd Llun 10 Awst 2026, 5pm
Cam y gystadleuaeth: Rhestr Fer
- Cyhoeddwyd: Hydref 2026
- Ymweliadau a chyflwyniadau terfynol: Hydref 2026
Cam y gystadleuaeth: Yr enillydd wedi’i hysbysu a’i gyhoeddi
- Rhagfyr 2026/dechrau Ionawr 2027
Cam y gystadleuaeth: Adolygiad canol tymor y panel ymgynghorol arbenigol
- Ionawr 2028: ymweliad gan y panel â’r lle buddugol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y gwaith cynllunio a’r cyflawni, ac i weithredu fel “cyfaill beirniadol”
Cam y gystadleuaeth: Y flwyddyn pan fydd yr enillydd yn cyflawni ei raglen Dinas Diwylliant y DU 2029
- Ionawr i Ragfyr 2029
Teitl, nod masnach a brand ‘Dinas Diwylliant y DU 2029’
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei ddynodi fel ‘Dinas Diwylliant y DU 2029’. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau brandio i’r holl ymgeiswyr ar y rhestr hir i amlinellu sut y gall lleoedd sy’n ymgeisio, lleoedd buddugol a lleoedd etifeddol ddefnyddio’r teitl a’r nod masnach yn y blynyddoedd sy’n arwain at 2029 ac ar ôl hynny.
Y cyfryngau a chyhoeddusrwydd
Rydyn ni’n disgwyl y bydd cyhoeddusrwydd sylweddol yn gysylltiedig â’r broses ddethol, gyda sylw ar lefel leol a chenedlaethol. Byddwn yn cyhoeddi datganiadau i’r wasg ynglŷn â chanlyniadau’r broses o lunio’r rhestr fer a’r broses ddethol derfynol. Bydd tîm gohebu’r DCMS yn cysylltu â thimau gohebu yn y mannau sy’n ymgeisio yn ôl yr angen er mwyn rhoi’r diweddaraf iddyn nhw ynglŷn â’r cynlluniau a’r embargos.
Rhannu data a thryloywder
Mae rhaglen Dinas Diwylliant y DU a’i gwerthuso yn hollbwysig i’n dealltwriaeth gynyddol o effeithiau cymdeithasol ac economaidd y mae buddsoddiad diwylliannol yn eu cael. Bob pedair blynedd, rydyn ni’n cael swm anhygoel o wybodaeth a data. Unwaith y bydd teitl 2029 wedi’i ddyfarnu, rydym yn bwriadu adneuo’r holl geisiadau (Mynegiadau o Ddiddordeb a cheisiadau llawn) yn yr Archifau Cenedlaethol, sef archif gyhoeddus swyddogol Llywodraeth y DU, er mwyn galluogi ymchwilwyr a’r cyhoedd i gael mynediad am ddim at y cyfoeth hwn o wybodaeth. Rydyn ni’n deall efallai fod rhywfaint o ddata yn fasnachol sensitif, felly byddwn ni’n gweithio gyda phob ymgeisydd i ddarparu fersiynau wedi’u golygu yn ôl yr angen.
Diogelu Data
Mae’r DCMS wedi ymrwymo i ddefnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn ni mewn modd cyfreithlon, teg a thryloyw, gan barchu’ch hawliau cyfreithiol fel unigolyn yn unol â Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, Deddf Diogelu Data 2018 y DU a chyfreithiau perthnasol eraill sy’n rheoleiddio defnydd a phreifatrwydd data personol (Cyfraith Diogelu Data).
Fel rhan o’n hymrwymiad i fodloni’r gofyniad hwn, rydyn ni wedi cyhoeddi ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol i chi gyfeirio ato. Am ragor o wybodaeth am ein hymrwymiadau a’ch hawliau o dan Gyfraith Diogelu Data, yn ogystal â sut i roi gwybod am bryderon os credwch chi fod eich data personol yn cael eu casglu neu eu defnyddio’n anghyfreithlon, gweler hefyd .
Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial (DA)
Gan ymgeiswyr
Rydym yn cydnabod y gall rhai ymgeiswyr ddewis defnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial i gefnogi drafftio cais sy’n mynegi eu syniadau gwreiddiol eu hunain. Rydym yn argymell bod y rhai sy’n dewis defnyddio offer deallusrwydd artiffisial i ddrafftio eu ceisiadau yn gwneud hynny’n ofalus, a bod timau ymgeisio’n ymwybodol o gyfyngiadau data a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial. Mae’n bwysig pwysleisio mai’r ymgeiswyr sy’n atebol am yr hyn y maent yn ei gyflwyno DCMS. Rydym am i gymeriad a llais lleol lleoedd ddisgleirio drwy’r ceisiadau, a gall offer deallusrwydd artiffisial gynhyrchu ceisiadau ag iaith a thestun tebyg, sy’n gallu tynnu sylw oddi wrth gynnig unigryw cais. Rydym yn cynghori ymgeiswyr i ystyried a yw cais a luniwyd gyda chymorth deallusrwydd artiffisial yn cynnig y gynrychiolaeth orau a chliriaf o’u rhaglen, ac i sicrhau bod unrhyw gais a gyflwynir i DCMS yn cynrychioli cynnig gwir, gwreiddiol ac ymarferol. Os ydych wedi defnyddio deallusrwydd artiffisial wrth ysgrifennu eich cais, nodwch hyn yn eich cais.
Gan DCMS
Gall DCMS ddefnyddio systemau deallusrwydd artiffisial diogel a chaeedig i gefnogi cynhyrchu crynodebau o geisiadau at ddibenion rhannu gwybodaeth, yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol. Ni fydd deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio wrth asesu ceisiadau nac ar gyfer gwneud penderfyniadau.
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost i ukcityofculture2029-competition@dcms.gov.uk.
Prif ddisgwyliadau ar gyfer ymgeiswyr
Diwylliant wedi’i ddiffinio’n eang
Un canfyddiad allweddol gan enillwyr cystadlaethau blaenorol yw bod diwylliant, gyda chreadigrwydd yn greiddiol iddo, yn golygu pethau gwahanol i leoedd a chymunedau gwahanol. Rydym am gael straeon sy’n seiliedig ar leoedd ac sy’n caniatáu i gymeriad unigryw lleoedd ddisgleirio drwy’r ceisiadau. Rydym yn disgwyl i ymgeiswyr ddangos cryfderau’r cynnig diwylliannol yn yr ardal, gan gydnabod ei wendidau a’i botensial i wella. Ymgeiswyr fydd yn gyfrifol am wneud yr achos dros ba weithgareddau sy’n cael eu cynnwys yn eu rhaglen ddiwylliannol arfaethedig ac am nodi’n glir y newid cam y maent yn anelu at ei gyflawni. Rydym yn disgwyl i raglenni apelio at ystod eang o gynulleidfaoedd ac i gynyddu cyfranogiad mewn gweithgareddau diwylliannol, yn enwedig ymhlith pobl ifanc a’r rhai sy’n ymgysylltu llai â diwylliant ar hyn o bryd, yn ogystal â chyfrannu at dwf economaidd, adfywio, cydlyniant cymunedol a balchder lleol mewn lle.
Anogir ymgeiswyr i feddwl am yr hyn y mae diwylliant yn ei olygu iddynt ac i gynnwys gweithgareddau sy’n cwmpasu diffiniad eang o ddiwylliant a’i ddiwydiannau creadigol. Mae hyn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i: y celfyddydau gweledol; llenyddiaeth; cerddoriaeth; gwyddoniaeth a thechnoleg; treftadaeth fyw; theatr; dawns; celfyddydau cyfun; pensaernïaeth; crefftau; dylunio; treftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol a naturiol; amgueddfeydd ac orielau; llyfrgelloedd ac archifau; ffilm, darlledu a’r cyfryngau; gemau fideo; animeiddio, effeithiau gweledol ac effeithiau arbennig; ffotograffiaeth; a chyhoeddi.
Mae’r rhestr hon yn un ddangosol yn unig, gan fod is-sectorau’n ffynnu o fewn pob categori neu genre. Mae cerddoriaeth, fel dawns, yr un mor eang ac amrywiol â’r amrywiaeth ddiwylliannol ar draws y pedair gwlad. A lle mae gweithgareddau treftadaeth fyw, megis coginio a garddio, yn cael eu lleoli o fewn hunaniaethau a threftadaeth greadigol lleoedd ledled y DU?
Er bod ymgeiswyr yn cael eu hannog i geisio rhagoriaeth ar lefel genedlaethol a lleol, mae’n bwysig bod ymgeiswyr yn ystyried diwylliant yn ei ystyr ehangaf, o ran yr hyn y mae’n ei olygu i’w holl gymunedau.
Cydweithio
Rydym yn disgwyl i dimau ymgeisio weithio’n wirioneddol gydweithredol ar eu ceisiadau ac ar gyflawni eu rhaglen, gan gynnwys yn y ffyrdd canlynol.
Dylai partneriaethau ymgeisio gynnwys yr awdurdodau lleol perthnasol a/neu’r awdurdod strategol mewn rôl benodol, ac mae’n rhaid i’r cais ddangos eu hymrwymiad i gefnogaeth ac ymgysylltiad parhaus. Dylai’r bartneriaeth ymgeisio ehangach ddangos ymrwymiad i gydweithio a chynnwys ystod eang o bartneriaid cymunedol ac ar draws sectorau, megis: busnesau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, arweinwyr diwydiant a dinesig, sefydliadau addysg uwch, cyrff diwylliannol, gwasanaethau llyfrgell leol, a sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a mentrau cymdeithasol, a bod wedi’u halinio â chyrff strategol rhanbarthol eraill. Dylai hefyd ddangos ymrwymiad i gynnwys cymunedau lleol yn y broses o wneud penderfyniadau a’u cynorthwyo i lywio’n uniongyrchol beth sy’n digwydd yn eu hardal nhw. Dylech chi ddangos yr ymrwymiad hwn i gydweithio â’r gymuned ar bob cam o’r gystadleuaeth.
Rydym yn disgwyl i’r enillydd weithio gyda phartneriaid allweddol i wneud y mwyaf o gyfleoedd a sicrhau bod eiliadau o effaith uchel yn cael eu cyflawni drwy gydol blwyddyn y rhaglen. Ar y cam hwn o’r gystadleuaeth, rydym yn disgwyl i’r timau ymgeisio fod wedi edrych yn strategol ar galendr digwyddiadau diwylliannol ac i geisiadau ddangos rhaglenni posibl sy’n cynnwys partneriaid cenedlaethol ac sydd â chyrhaeddiad ar draws y DU, a all, wrth gwrs, ganolbwyntio’n lleol gan gynnwys eu cymunedau.
Llywodraethu ac Atebolrwydd Clir ar gyfer y rhaglen
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr nodi’r sefydliadau a fydd yn gweithredu fel y “Corff Atebol” a’r “Corff Cyflawni” ar gyfer eu rhaglen (gall y rhain fod yr un sefydliad, ond nid oes rhaid iddynt fod), a nodi cynllun ar gyfer hyn yn eu cais, gan gyfeirio at y diffiniadau canlynol:
Corff Atebol
Y corff a ddewiswyd gan y man dan sylw, sef y Corff Atebol cydnabyddedig sy’n ymwneud â rhaglen Dinas Diwylliant y DU arfaethedig. Er enghraifft, yr awdurdod cyhoeddus, lleol neu ranbarthol, perthnasol. Os byddwch chi’n llwyddiannus, bydd gan y Corff Atebol gyfrifoldeb cyffredinol dros y rhaglen, a bydd yn berchen arni. Gall cyfrifoldebau’r Corff Atebol gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
- Sicrhau bod rhaglen Dinas Diwylliant y DU yn cael ei chyflawni’n ddiogel ac yn llwyddiannus;
- Rheoli’r gofynion ariannol a chyfreithiol sy’n gysylltiedig â chyflawni rhaglen Dinas Diwylliant y DU;
- Cymryd cyfrifoldeb dros drefnu rhaglen Dinas Diwylliant y DU, gan arwain ar y gwaith cydlynu angenrheidiol rhwng partneriaid perthnasol;
- Cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw gyllid grant sy’n gysylltiedig â rhaglen Dinas Diwylliant y DU, lle mai’r Corff Atebol yw’r sefydliad sy’n cael y grant; a
- Monitro’r gwaith o gyflawni rhaglen Dinas Diwylliant y DU a pharatoi adroddiadau perthnasol yn ôl y gofyn gan y DCMS.
Corff sy’n Cyflawni
Y corff a ddewiswyd gan y man dan sylw a fydd yn gyfrifol am gynllunio, caffael, comisiynu a chyflawni rhaglen Dinas Diwylliant y DU arfaethedig.
Alinio â chenadaethau a blaenoriaethau eraill y llywodraeth
Mae cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU yn rhan o Gynllun ar gyfer Newid uchelgeisiol Llywodraeth y DU ac yn hyrwyddo’r cenadaethau i gael gwared ar rwystrau i gyfleoedd a sbarduno twf economaidd mewn mannau ar draws y DU. Mae’r celfyddydau a diwylliant yn rhan hanfodol o ddiwydiannau creadigol penigamp y DU. Dyma un o’r prif sectorau sy’n annog twf yn Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU. Mae Cynllun Sector y Diwydiannau Creadigol yn darparu fframwaith i adeiladu ar gryfderau presennol y sector a manteisio ar gyfleoedd newydd.
Mae’r gystadleuaeth yn cyd-fynd â mentrau eraill Llywodraeth y DU i gefnogi diwylliant i ffynnu, megis y buddsoddiad o £1.5 biliwn Arts Everywhere, a fydd yn cefnogi lleoliadau diwylliannol lleol ledled y wlad, gan adfer balchder mewn lle ac adnewyddiad cenedlaethol, a sicrhau bod gan bawb, ym mhobman, y cyfle i brofi diwylliant o safon uchel a chael mynediad at sefydliadau o ansawdd uchel yn y lleoedd y maent yn eu galw’n gartref.
Mae llywodraeth leol yn sylfaen i rannu cyfleoedd diwylliannol ar draws y DU, ac i gyflawni Dinas Diwylliant y DU yn llwyddiannus. Dylai awdurdodau lleol weithio gyda phobl leol i sicrhau bod eu hymgais a’u gweledigaeth greadigol nhw yn adlewyrchu eu cymunedau. Yn y modd hwn, mae cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU yn gwreiddio egwyddorion a nodir ym Mhapur Gwyn Datganoli Lloegr, sef y trosglwyddiad mwyaf o bŵer o San Steffan i ranbarthau Lloegr yn ystod y ganrif hon. Drwy Fil Datganoli Lloegr a Grymuso Cymunedau, yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol, bydd Maerion hefyd yn ennill pwerau newydd i hyrwyddo’r celfyddydau, treftadaeth a’r diwydiannau creadigol, gan ddathlu’r hyn sy’n gwneud pob lle’n unigryw, wrth i ddiwylliant ddod yn faes cymhwysedd swyddogol i Awdurdodau Strategol am y tro cyntaf.
Mae hefyd yn ategu mentrau eraill gan Lywodraeth y DU sy’n seiliedig ar leoliadau, yn arbennig ’Strategaeth Falch och Man eich hun, sy’n gosod cynllun i greu cymdogaethau mwy diogel ac iachach lle gall cymunedau ffynnu. Mae ’Rhaglen Falch och Man eich hun yn cynrychioli un o’r buddsoddiadau mwyaf mewn cymdogaethau difreintiedig ers oes - hyd at £5 biliwn dros 10 mlynedd i roi cymorth i hyd at 250 o fannau. Mae hefyd yn cyd-fynd â gwaith Llywodraeth y DU ar Strydoedd Mawr, gan gynnwys yr ymrwymiad o £301 miliwn a gyhoeddwyd yn ddiweddar i Bartneriaethau Arloesi Strydoedd Mawr, a fydd yn cefnogi cymunedau lleol i ail-ddychmygu ac adfywio strydoedd mawr sy’n ei chael hi’n anodd, ac i’w paratoi ar gyfer y dyfodol.
Gall lleoedd sy’n ymgeisio o Gymru a’r Alban ddymuno ystyried alinio â mentrau penodol yn y gwledydd hynny, er enghraifft amcanion a dyheadau a yn yr Alban, a , a yng Nghymru.
Rydym yn annog ymgeiswyr i feddwl am sut y mae eu cais yn alinio â chronfeydd a mentrau eraill, yn adeiladu arnynt neu’n paratoi ar eu cyfer, yn ogystal â sut y caiff ei integreiddio mewn cynlluniau twf rhanbarthol a chenedlaethol ehangach. Dylai ymgeisiau ategu, yn hytrach na dyblygu neu gystadlu â chyllid sydd eisoes yn cyflawni, neu’n bwriadu cyflawni, yn eu hardaloedd nhw. Ni ddylai ardaloedd ystyried cystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU fel cyfle i lenwi unrhyw fylchau sydd heb eu gwireddu gan gronfeydd eraill gan y llywodraeth. Nac ychwaith y dylai mannau deimlo eu bod nhw dan anfantais wrth wneud cais am gystadleuaeth Dinas Diwylliant y DU; p’un a wnaethon nhw gael cymorth drwy gronfeydd eraill neu beidio. Hoffwn ni helpu pob ymgeisydd i sylweddoli beth yw cyfraniad diwylliant at drawsnewid fesul cam.
Ystyriaethau amgylcheddol
Un o genadaethau Llywodraeth y DU yw gweld Prydain yn oruwchbŵer o safbwynt ynni adnewyddadwy, ac i gyflymu’r broses o gyrraedd sero net erbyn 2050. Mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd yw un o ymdrechion mwyaf brys ein hoes ni, sy’n galw am gamau beiddgar gan bob un ohonon ni. Mae ein trefi a’n dinasoedd ar flaen y gad o ran newid yn yr hinsawdd ac mae diwylliant yn offeryn pwerus i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol. Dylai ceisiadau Dinas Diwylliant y DU 2029 wreiddio arferion cynaliadwy o safbwynt amgylcheddol yn eu cynlluniau, gan ddangos sut y maent yn cyfrannu at nodau’r DU o ran sero net ac amddiffyn natur, ac yn hyrwyddo ac ysbrydoli cyfrifoldeb amgylcheddol.
Yn ymarferol, dylai rhaglenni fod yn seiliedig ar arferion gorau o ran garbon isel neu ddigarbon, mabwysiadu a chynorthwyo technoleg lân arloesol lle bo hynny’n bosibl, a rhoi cymorth i’r sgiliau cynyddol a’r cadwyni cyflenwi sy’n cynorthwyo’r nod o gyrraedd sero net lle bo hynny’n bosibl. Er mwyn cefnogi twf gwyrdd, dylai ymgeisiau hefyd ystyried sut gall y rhaglen weithio gyda’r amgylchedd naturiol i gyflawni ei hamcanion, ac - ar y lleiaf - ystyried effaith y rhaglen ar asedion naturiol a natur ein gwlad. Gall ymgeiswyr weld bod yr adnoddau a gynhyrchir gan yn ddefnyddiol, gan eu bod yn arddangos lleoedd a sefydliadau ledled y byd sy’n dod yn fwy cynaliadwy, gyda diwylliant yn sbardun iddynt.
Dysgu o brofiadau Dinasoedd Diwylliant blaenorol y DU
Rydym am weld ceisiadau sy’n cynnig rhaglenni unigryw sydd wedi’u gwreiddio mewn lle a chymunedau lleol, ond sydd hefyd yn adeiladu ar y corff cynyddol o dystiolaeth o Ddinasoedd Diwylliant y DU blaenorol. Er ein bod yn cydnabod nad yw’r hyn sy’n briodol i un lle o reidrwydd yn berthnasol i le arall, rydym yn disgwyl i ymgeiswyr nodi sut y maent wedi ymgorffori eu profiad dysgedig eu hunain, yn ogystal â phrofiad lleoedd eraill, yn eu cynigion.
Mae Dinasoedd Diwylliant blaenorol y DU wedi cyhoeddi adroddiadau yn gwerthuso eu rhaglenni nhw:
Efallai y bydd mannau ymgeisio eisiau cyfeirio at yr adolygiadau canlynol o’r dystiolaeth, sy’n archwilio’r effeithiau mae ennill ac ymgeisio yn ystod y gystadleuaeth yn eu cael:
-
Adolygiad o’r dystiolaeth: rhaglen Dinas Diwylliant y DU
-
Dinasoedd Diwylliant y DU: Cyfweliadau gan randdeiliad y mannau ymgeisio a ddaeth yn ail orau
Cymorth yn ystod y broses ymgeisio
Digwyddiad gwybodaeth – 2 Mehefin 2026
Bydd DCMS yn cynnal digwyddiad gwybodaeth ar gyfer pob lle ar y rhestr hir ar 2 Mehefin 2026 yn Lerpwl. Mae hwn yn ddigwyddiad allweddol i dimau ymgeisio ddeall y broses a gwneud y mwyaf o fanteision ymgeisio am Ddinas Diwylliant y DU. Rhennir manylion maes o law, a byddem yn annog yn gryf bob lle ar y rhestr hir i fynychu’r digwyddiad hwn wyneb yn wyneb.
Cefnogaeth a chyngor ehangach
Mae’r sefydliadau a’r unigolion sy’n cefnogi rhaglen Dinas Diwylliant y DU yn barod i gefnogi’r broses ymgeisio, ond bydd angen iddynt weithredu mewn ffordd deg a chyfartal, ac ni fyddant yn gallu ymrwymo’n unigryw i unrhyw un lle. Gallwch ddisgwyl cael cyngor cyson a strategol gan y sefydliadau hyn. Mae’n rhaid datgan unrhyw wrthdaro buddiannau, ac er eglurder, ni fydd aelodau’r panel cynghori arbenigol yn gallu cefnogi nac ymgynghori ar unrhyw gais mewn unrhyw gapasiti, gan gynnwys ar gyfryngau cymdeithasol.
Sut i baratoi a chyflwyno eich cais llawn (‘cais’)
Dyddiad cau a chyflwyno
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau llawn a therfynol yw Dydd Llun 10 Awst 2026, 5:00pm.
Dylid e-bostio pob rhan o’ch cais gyda’i gilydd i ukcityofculture2029-competition@dcms.gov.uk.
Beth i’w gynnwys yn eich cais
Mae tri elfen yn rhan o’ch cais llawn, a bydd yn angen i ymgeiswyr gwblhau’r tair:
1. Y brif ddogfen gais
Yn eich prif gais, bydd gofyn i chi ymateb i’r cwestiynau a restrir isod.
Mae’r rhain yn adeiladu ar yr hyn y gofynnwyd amdano ac yn ei ehangu yn ystod gam y Mynegiant o Ddiddordeb. Er ein bod yn deall bod y Mynegiant o Ddiddordeb yn cynrychioli cynllun cychwynnol a fydd yn datblygu wrth baratoi eich cais, rydym yn disgwyl gweld trywydd naratif clir yn rhedeg o’ch Mynegiant o Ddiddordeb i’ch cais llawn. Os oes unrhyw wyriadau sylweddol, nodwch y rheswm dros hyn.
Disgwylir i geisiadau nodi gweledigaeth glir ar gyfer eich lle a chynlluniau manwl a chredadwy ar gyfer sut y byddwch yn cyflawni hyn, gan gynnwys cynllun a naratif y rhaglen, partneriaethau a chyllideb. Bydd angen gwybodaeth am eich cyd-destun lleol, blaenoriaethau a heriau, a sut y byddwch chi’n defnyddio Dinas Diwylliant y DU i fynd i’r afael â’r rhain. Disgwylir i ymgeiswyr gomisiynu a/neu gynnal ymchwil ac ymgynghori, a chyflwyno data sy’n ymwneud ag effeithiau cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd, yn ogystal â chynlluniau cyflawni, codi arian a llywodraethu credadwy a manwl, yn enwedig ar gyfer unrhyw brosiectau cyfalaf a gynlluniwyd.
Dylai’r rhaglen arfaethedig fod yn raddadwy, fel y gellir bwrw ymlaen ag elfennau ohoni a gwireddu effeithiau i ryw raddau, waeth a lwyddir yn y gystadleuaeth hon ai peidio.
2. Taflen ddata allbynnau economaidd a chymdeithasol
Yn ogystal â hyn, bydd gofyn i ymgeiswyr gwblhau’r “Daflen ddata allbynnau economaidd a chymdeithasol” i gefnogi’r wybodaeth a gyflwynir yn eu cais llawn. Mae’r daflen ddata hon (sydd ar gael i’w llwytho i lawr isod) yn rhan allweddol o’ch cais, lle bydd angen i chi nodi ac ategu tystiolaeth o’ch lefel o angen a’r effeithiau arfaethedig o’i chymharu â’ch llinell sylfaen gyfredol. Mae’r canllaw gwybodaeth yn darparu cyfarwyddiadau manwl ar sut i lenwi’r daflen ddata.
Yn ogystal â’r data a ddarparwch yn Naflen Ddata Allbynnau Economaidd a Chymdeithasol Dinas Diwylliant y DU, bydd y panel cynghori arbenigol hefyd yn derbyn ystadegau ychwanegol i ddisgrifio’r cyd-destun lleol. Bydd y data hwn yn crynhoi’r canlynol: demograffeg (Cyfrifiad 2021 a Chyfrifiad yr Alban 2022), GVA a chyflogaeth (Amcangyfrifon Economaidd DCMS ac SYG), Llesiant (Arolwg Blynyddol y Boblogaeth), ymgysylltiad diwylliannol a chydlyniant cymunedol (Arolwg Cyfranogiad, Arolwg Bywyd Cymunedol, Arolwg Aelwydydd yr Alban, Arolwg Cenedlaethol Cymru), a Mynegeion Amddifadedd Lluosog a Mynegai Anghenion Cymunedol (Lloegr, yr Alban a Chymru).
Bydd yr wybodaeth gyd-destunol hon i’r panel yn gyfyngedig o ran lefel manylder a chwmpas, ac rydym yn annog ymgeiswyr i gyfeirio at ddata lleol presennol i gefnogi eu ceisiadau.
3. Gwybodaeth ategol bellach
Bydd gofyn i ymgeiswyr hefyd gyflwyno’r wybodaeth a amlinellir yn yr adran “Gwybodaeth ategol bellach” isod.
Gofynion fformat
Mae’n rhaid i’ch cais ddilyn y canllawiau isod:
- Mae’n rhaid cyflwyno’r Brif Ddogfen Gais ar ffurf PDF ac ni ddylai fod yn fwy na 30 tudalen A4 i gyd (ac eithrio gwybodaeth ategol).
- Dylid cyflwyno’r Daflen Ddata ar ffurf dogfen agored (.ODS) neu Microsoft Excel (.XLSX).
- Mae’n rhaid casglu’r Wybodaeth Ategol fel atodiad unigol ar wahân. Mae’n rhaid cyflwyno’r ddogfen hon ar ffurf PDF, ac ni ddylai fod yn fwy na 10 llythyr neu 20 tudalen A4 i gyd.
- Mae’n rhaid casglu’r llythyrau cefnogaeth fel un ddogfen ar wahân. Mae’n rhaid cyflwyno’r ddogfen ar ffurf PDF, ac ni ddylai fod yn fwy na 10 llythyr neu 20 tudalen A4 i gyd.
Pwyntiau cyffredinol:
- Gall ceisiadau gynnwys lluniau a graffeg i wella’r deunydd, ond bydd y rhain yn cyfrif tuag at y terfyn tudalennau.
- Ni chaniateir dolenni na chodau QR, ac ni ddylid eu cynnwys mewn ceisiadau.
- Mae’n rhaid i geisiadau gael eu hysgrifennu mewn ffont nad yw’n llai na 10 pwynt.
Sut y caiff ceisiadau eu hasesu?
Bydd y brif ddogfen gais, y daflen ddata allbynnau economaidd a chymdeithasol a’r wybodaeth ategol yn cael eu hadolygu gan y panel ymgynghorol arbenigol. Mae’n rhaid i geisiadau llwyddiannus ddangos sut y maent yn bodloni meini prawf y gystadleuaeth ac yn dangos y potensial i wneud cyfraniad sylweddol at nodau rhaglen Dinas Diwylliant y DU. Caiff ceisiadau eu hasesu gan y panel ymgynghorol arbenigol yn erbyn nodau a meini prawf y gystadleuaeth, a disgwylir i geisiadau ddangos yn fanwl sut y maent yn cyflawni’r holl nodau a meini prawf.
I gefnogi’r broses asesu, ceisir sylwadau ychwanegol ar bob cais gan arbenigwyr yn DCMS a phartneriaid allanol dethol, er mwyn sicrhau bod safbwyntiau arbenigol sy’n seiliedig ar leoedd yn cael eu hystyried fel rhan o’r asesiad. Mae’r partneriaid hyn yn cynnwys, ond nid ydynt o reidrwydd yn gyfyngedig i, y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (MHCLG), Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru. Bydd DCMS yn rhannu eich ceisiadau gyda’r sefydliadau hyn at y diben hwn. Gweler ein Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol am fanylion ynghylch sut yr ydym yn prosesu eich gwybodaeth. Bydd y panel hefyd yn cael ystadegau a data am eich lle at ddibenion cyd-destunol.
Egwyddorion arweiniol
Wrth lunio eu ceisiadau, dylai ymgeiswyr roi sylw i’r egwyddorion arweiniol canlynol, sy’n deillio o’r meini prawf. Mae Syr Phil Redmond, Cadeirydd y panel cynghori arbenigol, wedi mynegi’r rhain er mwyn crynhoi’r hyn y mae’n dymuno ei weld mewn cais cryf:
Newid cam cynaliadwy: Rydym am i flwyddyn Dinas Diwylliant y DU fod yn ddechrau newid cam mwy, cynaliadwy a arweinir gan ddiwylliant, ynghyd â chynllun strategol ehangach sy’n seiliedig ar le ac sy’n sail i weledigaeth y cais.
Cynllunio etifeddiaeth a chynnal momentwm: Mae’n rhy aml y caiff “etifeddiaeth” ei hystyried fel rhywbeth sy’n digwydd ar ôl digwyddiad – ond dylai’r flwyddyn ei hun fod yn fan cychwyn ar gyfer defnyddio’r rhaglen ddiwylliannol fel rhan o weledigaeth strategol ehangach. Mae’n rhaid i gynlluniau i gynnal momentwm y tu hwnt i 2029 fod wrth wraidd eich rhaglen arfaethedig.
Llais dilys: rydym am i’ch stori leol a’ch cymeriad ddisgleirio drwodd, ac i leisiau cymunedau lleol gael eu clywed yn glir ac yn gryf.
Uchelgais: Rydym am weld rhaglenni a chynlluniau mawr ac uchelgeisiol sy’n cynnwys digwyddiadau diwylliannol mawr ochr yn ochr â phrosiectau cymunedol a gwreiddradd.
Arloesedd: Rydym am weld rhaglen eithriadol sy’n cyflwyno stori eich lle i gynulleidfa ehangach yn y DU ac yn rhyngwladol.
Effaith: Rydym am weld set gryno o effeithiau clir, cyfiawnadwy a chanolog sy’n gysylltiedig â’ch gweledigaeth ac a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a lle.
Cefnogaeth leol: Rydym am weld cefnogaeth ac arwain clir gan eich arweinwyr lleol.
Diwylliant: Rydym am weld dehongliad eang a chreadigol o’r hyn yw diwylliant a’r hyn y mae’n ei olygu i’ch lle. Rydym am weld cydweithrediadau diddorol ac arloesol sy’n gwneud synnwyr yn eich lle, ac rydym am deimlo’r dychymyg, yr unigoliaeth a’r uchelgais hyn wedi’u mynegi’n glir drwy’r cais.
Prif gwestiynau’r cais
Mae’r cwestiynau y mae angen eu hateb yn eich cais wedi’u rhifo. Dylai eich cais gyflwyno’r cwestiynau hyn, a’ch ymatebion iddynt, yn y drefn a nodir isod.
O dan bob cwestiwn ceir awgrymiadau sy’n deillio o’r meini prawf a’r canllawiau ehangach, a dylid eu defnyddio i arwain eich ymatebion. Mae’r rhain yn ehangu ar y prif gwestiynau ac yn helpu i egluro’r hyn y mae’r panel a DCMS am i chi ei ystyried a’r hyn yr hoffent ei weld yn eich cais.
Eich stori
1. Beth yw stori eich lle, a sut mae’n cyfrannu at hunaniaeth leol glir a chydlynol?
- A yw’r stori’n un apelgar, ac a yw’r hunaniaeth leol yn gydlynol ac yn glir?
Eich gweledigaeth ar gyfer eich lle
2. Beth yw’r weledigaeth strategol ar gyfer eich lle erbyn 2034?
- Sut fydd eich lle’n edrych ac yn teimlo yn 2034?
- A yw’r weledigaeth yn uchelgeisiol, yn greadigol, yn unigryw ac wedi’i chysylltu’n glir â chymunedau, hunaniaeth a stori’r lle?
- A yw’r weledigaeth yn mynegi newid cam trawsnewidiol clir, realistig a chyflawnadwy ar gyfer y lle a’r bobl?
- Sut mae eich rhaglen wedi’i dylunio i lansio’r weledigaeth hon a chyfrannu ati?
- A yw’r weledigaeth yn dangos ymrwymiad i drawsnewid hirdymor ac yn gosod Dinas Diwylliant y DU fel dechrau newid cam ehangach, cynaliadwy a arweinir gan ddiwylliant?
Effaith a thrawsnewid
3. Sut fydd eich rhaglen yn mynd i’r afael â’ch blaenoriaethau ac anghenion lleol (fel y’u nodwyd a’u tystiolaeth yn eich taflen ddata)?
- A yw’n glir pam mae trawsnewid yn hanfodol i’ch lle, a sut y bydd yn gwella bywydau pobl leol ac yn creu effaith economaidd gynaliadwy?
- A yw’n glir bod y rhaglen wedi’i dylunio i fynd i’r afael â’r broses drawsnewid hon neu i’w hwyluso?
- A yw’n glir sut y bydd y rhaglen yn hybu buddsoddiad a’r economi ymwelwyr i sicrhau twf economaidd?
- A yw’n glir sut y bydd y rhaglen yn cefnogi cynlluniau twf rhanbarthol a chenedlaethol?
- A yw’n glir sut y bydd y rhaglen yn creu cyfleoedd swyddi a sgiliau?
- A yw’r prif rwystrau i dwf wedi’u nodi, ynghyd â sut y bydd y rhaglen yn helpu i fynd i’r afael â hwy?
4. Sut mae Dinas Diwylliant y DU 2029 yn allweddol i gyflawni hyn?
- A yw’n glir sut mae Dinas Diwylliant y DU yn allweddol i wireddu’ch gweledigaeth?
- A yw’n glir sut y byddwch yn cynnal momentwm tuag at eich gweledigaeth strategol?
Gwybodaeth ategol ofynnol:
Ategwch eich ymateb drwy lenwi’r daflen ddata allbynnau economaidd a chymdeithasol. Mae hyn yn gofyn i chi ddarparu data meintiol ar linellau sylfaen, nodi effaith ragamcan Dinas Diwylliant y DU, dangos lefel yr angen yn fanwl, ac amlinellu data ansoddol economaidd a chymdeithasol pellach. Ceir rhagor o gyfarwyddiadau ar lenwi’r daflen yn y canllaw gwybodaeth.
Ymgysylltu a grymuso cymunedau
5. Sut mae cymunedau lleol a phartneriaid strategol a chreadigol lleol wedi llunio eich cais a llywio’ch gweledigaeth?
- Cyfeiriwch at brif ganfyddiadau unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd.
- A yw’r prosesau ymgynghori (a’r fethodoleg ar eu cyfer) gydag ystod eang o randdeiliaid cymunedol wedi’u nodi’n glir?
6. Sut fyddwch yn grymuso pobl leol, yn atebol iddynt ac yn datganoli wneud penderfyniadau iddynt yn weithredol yn ystod y rhaglen, ac yn cynnal momentwm tuag at ei hetifeddiaeth?
- A yw’r cynlluniau i rymuso cymunedau a datganoli gwneud penderfyniadau iddynt yn gredadwy ac yn gyflawnadwy?
7. Sut fyddwch yn cynyddu cyfleoedd i gael mynediad at ddiwylliant ar draws eich holl gymunedau, ac yn enwedig i bobl ifanc a’r rhai sydd â lefelau is o ymgysylltiad?
- A yw’r cais yn ceisio’n weithredol ac yn greadigol ymgysylltu â phobl ifanc, grwpiau mwy difreintiedig a chymunedau sy’n ymgysylltu’n llai â diwylliant?
- Darparwch grynodeb yma; mae angen rhagor o fanylion am ymgysylltu â chynulleidfaoedd yn y Daflen Ddata.
Eich rhaglen
8. Beth yw prif themâu ac elfennau eich rhaglen Dinas Diwylliant y DU?
- Dylai hyn gynnwys eiliadau “sioe-atal” allweddol a fydd yn denu sylw cenedlaethol ac yn cynnal momentwm drwy gydol y flwyddyn ac i’r dyfodol tuag at eich gweledigaeth a nodwyd.
- A yw’r rhaglen arfaethedig yn uchelgeisiol yn greadigol, yn unigryw, yn apelgar ac wedi’i gwreiddio yn stori’r lle?
- A yw’r rhaglen yn adlewyrchu dehongliad eang o ddiwylliant ar draws sectorau a chymunedau gwahanol yn eich lle?
- Pa gydgomisiynu bydd yn cryfhau eich cais, a pha sefydliadau yr ydych yn dymuno cydweithio â hwy?
- Beth sy’n gwneud y rhaglen hon yn unigryw?
9. Sut fyddwch yn ymgorffori cynaliadwyedd amgylcheddol yn eich gweithgareddau?
Gwybodaeth ategol ofynnol:
Cynhwyswch fel Atodiad A: Rhaglen a lleoliadau amlinelliad dangosol o’r rhaglen ar gyfer eich blwyddyn Dinas Diwylliant y DU 2029 a’r prif leoliadau yn eich ardal.
Ar draws y DU ac yn fyd-eang
10. Pa elfennau penodol o’ch rhaglen a gaiff gyrhaeddiad ar draws y pedair gwlad, i gryfhau a dathlu stori gyffredin y DU i bob cynulleidfa?
- Yn ogystal ag archwilio cysylltiadau lleol, a yw’r cais yn edrych tuag allan ac yn tynnu ar elfennau ar draws y DU mewn ffordd ystyrlon ac wedi’i hymgorffori’n llawn?
11. Os yw’n berthnasol i’ch lle a’i stori, pa elfennau penodol o’ch rhaglen a gaiff gyrhaeddiad rhyngwladol ac a fydd yn cyfrannu’n gadarnhaol at enw da byd-eang y DU am ragoriaeth ddiwylliannol a chelfyddydol?
- Os oes elfennau rhyngwladol yn eich rhaglen, nodwch hyn yn glir.
Eich asedau
12. Beth yw prif asedau diwylliannol a chymunedol eich lle, a sut y byddwch yn adeiladu arnynt ac yn gwneud y mwyaf ohonynt?
- Gall y rhain gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, adeiladau a mannau, treftadaeth fyw, sefydliadau a chasgliadau, ac artistiaid ac ymarferwyr.
- A yw’r cais yn dangos dealltwriaeth gref o asedau diwylliannol y lle?
13. Beth yw’r prif fylchau, gwendidau a chyfleoedd nad ydynt wedi’u datblygu’n llawn yn eich cynnig diwylliannol presennol, a sut y byddwch yn defnyddio Dinas Diwylliant y DU i fynd i’r afael â’r rhain?
- A yw’r cais yn dangos dealltwriaeth gref o fylchau diwylliannol y lle?
Partneriaethau a chydweithio
14. Gyda phwy y byddwch yn cydweithio ac yn partneru i gyflawni eich rhaglen?
- Dylai hyn gynnwys cyfeiriad at sefydliadau diwylliannol, ymarferwyr, artistiaid a rhwydweithiau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. Dylai hyn hefyd gynnwys cyfeiriad at sefydliadau diwylliannol, ymarferwyr, artistiaid a rhwydweithiau ar lefel ryngwladol, os yw hynny’n bwysig i’ch lle a’i stori.
- A yw’r cynlluniau ar gyfer cydweithio a phartneriaethau yn eang ond yn strategol?
- A yw dull traws-sector wedi’i fabwysiadu, wedi’i lywio gan ddiffiniad eang o ddiwylliant?
15. Sut y byddwch yn adeiladu rhaglen wirfoddoli sydd â photensial cryf i gryfhau cydlyniant cymunedol, ochr yn ochr â helpu i gyflawni eich rhaglen?
Hanes perfformiad
16. Pa hanes perfformiad amlwg sydd gennych chi a’ch partneriaid o ran: (1) cyflawni rhaglenni digwyddiadau diwylliannol mawr; (2) defnyddio diwylliant i sicrhau adfywio, cydlyniant cymunedol, swyddi a sgiliau; a (3) gwneud y mwyaf o etifeddiaeth digwyddiadau?
17. Sut yr ydych wedi defnyddio’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu o’r blaen wrth ddatblygu eich cais Dinas Diwylliant y DU?
Gwybodaeth ategol ofynnol:
Cynhwyswch fel Atodiad B: Hanes Perfformiad rhestr o ddigwyddiadau a gweithgareddau blaenorol a reolwyd gennych chi a’ch partneriaid dros y 5 mlynedd diwethaf.
Arweinyddiaeth greadigol
18. Er mwyn cyflawni’ch gweledigaeth a’ch cais, pa fodel Arweinyddiaeth Greadigol yr ydych yn bwriadu ei weithredu?
19. Pa unigolion a grwpiau sydd wedi bod yn brif sbardunwyr wrth ddatblygu eich gweledigaeth ar gyfer y lle?
- Dros gyfnod cynllunio a chyflawni eich rhaglen ddiwylliannol, sut y byddwch yn sicrhau tîm arweinyddiaeth greadigol gryf a sefydlog, ac yn lleihau newidiadau i’r tîm hwn?
- Os bydd newidiadau, sut y byddwch yn sicrhau parhad arweinyddiaeth?
Llywodraethu a rheoli
20. Pa sefydliad sy’n arwain eich cais?
21. Pa sefydliad a fyddai’n
a. atebol am eich rhaglen (y Corff Atebol cydnabyddedig, fel y’i diffinnir yn y canllawiau);
b. gyfrifol am gyflawni eich rhaglen (y Corff Cyflawni, fel y’i diffinnir yn y canllawiau). Gall y rhain fod yr un sefydliad, ond nid oes angen iddynt fod.
- A yw arweinydd y cais, y Corff Atebol a’r Corff Cyflawni wedi’u dynodi’n glir ac yn bodloni gofynion y canllawiau?
- A oes ymrwymiad clir a ffurfiol o ran cefnogaeth ac ymgysylltiad parhaus gan yr awdurdod lleol a/neu’r awdurdod strategol?
22. Pwy arall sy’n rhan o ddatblygu a chefnogi’r cais?
- A oes tystiolaeth glir o ystod amrywiol o sefydliadau ac unigolion traws-sector sy’n cefnogi ac yn cyfrannu at y cais?
Gwybodaeth ategol ofynnol:
Cynhwyswch fel Atodiad C: Tîm ymgeisio’r cais rhestr o’r holl sefydliadau ac unigolion sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu’r cais, gan nodi eu rôl yn y broses ddatblygu.
Darparwch gyda’ch cais lythyrau cefnogaeth gan bartneriaid allweddol (uchafswm o 10 llythyr a 20 tudalen i gyd), gan gynnwys arweinydd yr awdurdodau lleol perthnasol.
Hyrwyddo
23. Sut y byddwch yn hyrwyddo’ch teitl a’ch rhaglen, yn fewnol ac yn allanol, yn y cyfnod cyn ac yn ystod eich blwyddyn gyflawni?
- Gyda pha bartneriaid lleol, rhanbarthol a chenedlaethol y byddech yn gweithio?
- Beth yw eich cynlluniau dros dro ar gyfer cyfryngau traddodiadol a chymdeithasol, ymgyrchoedd, llefarwyr, a gwneud y mwyaf o’r brand drwy addurno’r amgylchedd lleol?
Parodrwydd
24. Sut mae eich cais yn alinio â chronfeydd a mentrau eraill y llywodraeth sy’n canolbwyntio ar greu lleoedd?
- A yw’r cais wedi ystyried yn ddigonol sut mae’r cynlluniau’n ffitio o fewn mentrau ehangach y llywodraeth, ac wedi chwilio am gyfleoedd i alinio â hwy?
25. Pa seilwaith presennol (gan gynnwys digidol, trafnidiaeth ac ymwelwyr) sydd eisoes yn bodoli i gefnogi eich cynlluniau a’ch gallu i gyflawni rhaglen uchelgeisiol drwy gydol y flwyddyn?
- A oes dealltwriaeth glir o gryfderau a gwendidau’r seilwaith yn cael ei dangos? A yw’r cynlluniau i adeiladu seilwaith yn realistig ac yn argyhoeddiadol?
26. Sut y byddwch yn blaenoriaethu datblygu eich seilwaith cyn 2029? Os yw eich seilwaith yn fwy cyfyngedig, sut y byddwch yn manteisio ar Ddinas Diwylliant y DU i’w ddatblygu ar sail barhaol neu dros dro?
27. Beth yw eich cynlluniau ar gyfer rheoli ymwelwyr, sicrhau digon o gapasiti, a bodloni gofynion mynediad a gofynion eraill?
28. Beth yw eich strwythur cyflawni, a beth yw eich cynlluniau i ehangu tîm cyflawni’n gyflym gyda’r sgiliau priodol sydd eu hangen?
29. Pa drefniadau llywodraethu cadarn, gyda chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir, y byddwch yn eu rhoi ar waith i gefnogi cyflawni mewn pryd ar gyfer 2029?
30. Beth yw eich prif risgiau a’ch camau lliniaru?
Gwybodaeth ategol ofynnol:
Cynhwyswch fel Atodiad D: Rheoli Prosiect eich dogfennau rheoli prosiect a llywodraethu, gan gynnwys asesiad risg.
Cyllid
31. Faint rydych yn disgwyl y bydd yn ei gostio i gyflawni’r rhaglen arfaethedig?
- A yw’r costau cyffredinol a’r cynlluniau codi arian wedi’u profi fel rhai realistig a chredadwy?
32. Faint o gyllid ychwanegol, uwchlaw grant gwobr DCMS a’r lefelau presennol o gefnogaeth i ddiwylliant yn eich ardal, y byddwch yn ei sicrhau, a beth yw eich strategaeth i godi’r cyllid hwnnw?
- A yw ystod eang o ffynonellau cyllido wedi’u hystyried yn llawn?
- Cyfeiriwch at unrhyw ymrwymiadau neu gyllid sydd eisoes wedi’u sicrhau.
Gwybodaeth ategol ofynnol:
Cynhwyswch fel Atodiad E - Cyllideb (1) cyllideb fras ar gyfer y rhaglen a (2) dadansoddiad o ffynonellau cyllido’r gyllideb.
Cynnal momentwm
33. Sut mae Dinas Diwylliant y DU yn alinio â strategaethau a chynlluniau lleol a rhanbarthol presennol, a/neu’n cael ei hymgorffori ynddynt, er mwyn cynnal momentwm? Sut y bydd hyn yn ymestyn y tu hwnt i 2029?
- A yw eich cais wedi’i ymgorffori’n dda mewn strategaethau a chynlluniau ehangach, er mwyn rhoi hyder y bydd ganddo’r siawns orau bosibl o adael etifeddiaeth gadarnhaol y tu hwnt i 2029?
34. Sut y byddwch yn cynnal ac yn datblygu arbenigedd, cyllid, strwythurau llywodraethu a phartneriaethau cyflawni y tu hwnt i 2029?
- A yw rolau a chyfrifoldebau’r etifeddiaeth wedi’u diffinio’n glir?
35. Sut y bydd Dinas Diwylliant y DU 2029 yn gadael etifeddiaeth barhaol i’ch lle a’i ddarpariaeth ddiwylliannol?
- A yw strwythurau cyflawni’r etifeddiaeth i gynnal momentwm yn cael eu hystyried yn y cais ac wedi’u diffinio’n glir?
- A oes cynllun clir i bontio o’r cais, i gyflawni, ac i gynnal momentwm ar y weledigaeth?
Gwerthuso a monitro
36. Sut y byddwch yn mesur, gwerthuso a rhannu dysgu ar weithredu, effaith a gwerth eich rhaglen Dinas Diwylliant y DU?
- A yw’r prif fetrigau ar gyfer monitro’r rhaglen wedi’u nodi?
- A yw’r dull o gasglu data yn gadarn, ac a oes ganddo botensial cryf i gyfrannu at well dealltwriaeth o’r hyn y gall ymyriadau diwylliannol sy’n seiliedig ar le ei gyflawni?
- A gaiff gwerthuso ei ddefnyddio i lywio gweithredu a gwneud penderfyniadau wrth fynd rhagddi (ac nid ar ddiwedd y rhaglen yn unig)?
- A yw heriau gwerthuso a chamau lliniaru wedi’u hystyried?
- A yw’r cynlluniau’n adeiladu ar werthusiad Bradford a deiliaid teitl blaenorol eraill Dinas Diwylliant y DU?
- A yw cynlluniau i rannu canfyddiadau gwerthuso wedi’u cynnwys?
Gwybodaeth ategol ofynnol:
Cynnwyswch fel Atodiad F i’ch cais Ddamcaniaeth Newid.
Graddadwyedd
37. Sut yr ydych wedi cynllunio’ch rhaglen gyda graddadwyedd mewn golwg, a pha elfennau y byddech yn eu bwrw ymlaen â hwy pe baech yn “ail orau” ac yn derbyn grant o £125,000?
Gwybodaeth ategol bellach
Dylid cyflwyno’r canlynol ochr yn ochr â’ch prif gais a’r daflen ddata.
Atodiad A: Rhaglen a lleoliadau
Amlinelliad dangosol o’r rhaglen ar gyfer 2029 (a’r cyfnod arwain ati, os dymunwch). Rhowch wybodaeth am eich prif ddigwyddiadau, hyd at 15 i gyd:
- Thema
- Disgrifiad o’r digwyddiad/gyfeirnod
- Lleoliad
- Amseru a hyd
- Costau cyflawni a thocynnau
- Presenoldeb disgwyliedig
- Cyrhaeddiad – lleol/rhanbarthol/ar draws y DU
Rhestr o leoliadau presennol a’u capiaist, gan gynnwys:
- Enw’r lleoliad
- Disgrifiad
- ô
(iii) Yn ogystal â’r lleoliadau a restrir uchod, disgrifiwch pa fynediad sydd gennych at fannau lleoliad eraill (er enghraifft canolfannau cymunedol, neuaddau dinas neu dref, llyfrgelloedd, ysgolion, colegau, prifysgolion, mannau addoli, ysgolion llwyfan/dawns, sinemâu neu fannau gwyrdd a ddefnyddir ar gyfer y celfyddydau awyr agored, cerddoriaeth a theatr).
Atodiad B: Hanes Perfformiad
Rhestr o ddigwyddiadau a gweithgareddau blaenorol a reolwyd gan sefydliad arweiniol y cais a’i bartneriaid dros y 5 mlynedd diwethaf. Rhowch enghreifftiau sy’n nodi natur, hyd, mesurau llwyddiant a chost fras y digwyddiadau/gweithgareddau.
Atodiad C: Tîm ymgeisio
Rhestr o’r holl sefydliadau ac unigolion sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu’r cais, gan nodi eu rôl yn y broses ddatblygu, a thynnu sylw at y rhai a fyddai’n pontio i’r camau cyflawni a chynnal momentwm yn y dyfodol.
Atodiad D: Rheoli prosiect
Dogfennau rheoli prosiect a llywodraethu, gan gynnwys diagram llywodraethu o’r holl bartneriaid cyflawni allweddol, gyda rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir, ac asesiad risg. Ni ddylai hyn fod yn hwy na 3 tudalen.
Dylai’r asesiad risg gynnwys:
- Rhif y risg
- Disgrifiad o’r risg
- Tebygolrwydd (isel, canolig, uchel)
- Effaith (isel, canolig, uchel)
- Gostyngiad
Atodiad E: Cyllideb
Cyllideb fras ddangosol ar gyfer y rhaglen. Dylai’r gyllideb gael ei threfnu yn ôl blwyddyn ariannol, gynnwys amcanion a cherrig milltir glir ym mhob blwyddyn ariannol, a dangos tystiolaeth bod tuedd optimistiaeth wedi’i hystyried (yn enwedig ar gyfer gwaith cyfalaf), ynghyd â darpariaeth wrth gefn mewn rhagolygon cyllidebol.
i) Costau – gwariant ar gynnal Dinas Diwylliant y DU 2029
Dylai’r tabl hwn gynnwys adnoddau a neilltuwyd yn unig ar gyfer cynnal Dinas Diwylliant y DU 2029 ac sydd o dan reolaeth y sefydliad cyflawni.
Yn ôl blwyddyn: 2027, 2028, 2029, 2030
Math
- Rheoli gweinyddol
- Rhaglen farchnata
- Rhaglen ddiwylliannol
- Gwerthuso a chynllunio etifeddiaeth
- Cyfanswm
ii) Ffynonellau cyllido ar gyfer cyllideb cynnal Dinas Diwylliant y DU 2029
Dylai’r tabl hwn gynnwys ffynonellau cyllido a neilltuwyd yn unig ar gyfer cynnal Dinas Diwylliant y DU 2029 ac sydd o dan reolaeth y sefydliad cyflawni, yn ogystal â grant gwobr DCMS.
Yn ôl blwyddyn: 2027, 2028, 2029, 2030
ڲԳDzԲԱ
- Llywodraeth leol;
- Cyllid cyhoeddus arall;
- Cyllidwyr eraill e.e. ymddiriedolaethau a sefydliadau
- Dyngarwch a rhoddion
- Nawdd gan unigolion a chwmnïau
- Incwm gwerthiant (e.e. o werthiant tocynnau)
- Rhoddion mewn nwyddau
- Arall (manylion)
- Cyfanswm
iii) Statws y cyllid arfaethedig
Ffynhonnell Swm £m Amodau i’w bodloni? Statws presennol: Heb ei drafod eto / yn cael ei drafod / wedi’i ymrwymo mewn egwyddor / wedi’i ymrwymo Pryd a sut y bydd y cyllid yn dod yn gadarn Risg y bydd (a) y swm yn llai (b) dim cyllid: (a) isel / (b) dim
Atodiad F: Damcaniaeth Newid
Dylai hyn gynnwys prif fertigau i gefnogi cynlluniau gwerthuso a monitro. Dylai’r metrigau hyn fod yn gysylltiedig â’ch canlyniadau a fwriadwyd.
Dylai Damcaniaeth Newid ddangos sut y bydd gweithgareddau eich cynnig yn arwain at ganlyniadau penodol. Dylai olrhain y rhesymeg o fewnbynnau/gweithgareddau i allbynnau ac effaith, er mwyn dangos bod eich cynigion wedi’u hystyried yn ofalus. Dylech ddarparu Damcaniaeth Newid “lefel uchel” syml ar ffurf cynrychiolaeth weledol o’r newid yr ydych yn disgwyl ei weld.
Efallai y dymunwch gyfeirio at y Damcaniaethau Newid a ddatblygwyd gan Ddinasoedd Diwylliant y DU blaenorol ac mewn strategaethau gwerthuso a gyhoeddwyd. Gallwch hefyd gael ysbrydoliaeth o’r Adolygiad Tystiolaeth o Ddinasoedd Diwylliant y DU a Mesur Etifeddiaeth ac Effaith Digwyddiadau Mawr. Efallai y byddwch hefyd am gyfeirio at y Llyfr Magenta am ganllawiau ar Ddamcaniaethau Newid.
Cyflwyno ar wahân: Llythyrau o gefnogaeth
Llythyrau cefnogaeth gan bartneriaid allweddol, gan gynnwys arweinydd yr awdurdodau lleol perthnasol (uchafswm o 10 llythyr ac nid mwy na 20 tudalen i gyd).