Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025
Maeār cynllun hwn yn nodi blaenoriaethau pedair llywodraeth y DU ar gyfer rheoli plĆ¢u, chwyn a chlefydau yn gynaliadwy. Maeān ceisio lleihauār risgiau syān gysylltiedig Ć¢ defnyddio plaladdwyr ac effaith hynny ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl, gan gefnogi cynhyrchiant amaethyddol ar yr un pryd.
Dogfennau
Manylion
Mae Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025 wediāi fframio yn erbyn ein rhwymedigaethau statudol i reoleiddio plaladdwyr. Feāi datblygwyd mewn partneriaeth rhwng Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra), Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ac maeān berthnasol iār Deyrnas Unedig i gyd.
Maeār Cynllun Gweithredu Cenedlaethol yn nodiār strategaeth ar gyfer rheoliār defnydd o blaladdwyr a lleihauār risg. Maeān adlewyrchu blaenoriaethau ac uchelgeisiau pob un oār 4 llywodraeth, aāi nod yw hyrwyddo defnydd cynaliadwy o blaladdwyr i leihauār effeithiau ar yr amgylchedd ac ar iechyd pobl, gan gefnogi diogelwch bwyd a rheoli plĆ¢u ac ymwrthedd i blaladdwyr yn effeithiol.
Maeār cynllun yn cynnwys camau gweithredu sydd wediāu strwythuro o amgylch 3 amcan:
-
annog pobl i ddefnyddio dulliau rheoli plâu yn integredig (IPM)
-
pennu amserlenni a thargedau ar gyfer lleihauār defnydd o blaladdwyrr
-
cryfhau cydymffurfiaeth i sicrhau diogelwch a chanlyniadau amgylcheddol gwell
Mae dwy ddogfen ar y dudalen hon:
-
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU ar Blaladdwyr 2025.
-
āEsbonio targed y Cynllun Gweithredu Cenedlaetholā, syān esbonioān fanylach y targed lleihau domestig ar gyfer plaladdwyr yn y DU a sut bydd y targed yn cael ei gyflawni.
Updates to this page
-
Replaced the chart in 'Figure 2. Change in the UK PLI between 2018 and 2022', NAP target explainer attachment. This corrects colour coding for the metrics on the y-axis labels.
-
We have updated the 'NAP target explainer: a detailed explanation of the Pesticides NAP target and how it will be achieved' HTML document. An error was identified in the UK Pesticide Load Indicator (UK PLI). The metrics for predatory mites and parasitic wasps have been corrected in Figure 1, Figure 2, and Table 1.
-
Added translation