ǸԹ

Skip to main content
Ffurflen

Ffurflen WCA50: Holiadur gallu i weithio

Dylech ond llenwi’r holiadur gallu i weithio hwn os gofynnir i chi wneud hynny, nid ffurflen gais yw hon.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Dogfennau

Manylion

Mae’r ffurflen WCA50 wedi disodli’r ffurflenni holiaduron gallu i weithio ESA50 ac UC50.

Dylech ond llenwi’r ffurflen hon os gofynnir i chi wneud Asesiad Gallu i Weithio.

Darganfyddwch sut i wneud cais am:

Cyn i chi ddechrau’r ffurflen hon

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Darganfyddwch sut i wneud cais am .

Darganfyddwch sut i wneud cais am .

Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu dabled

Ni allwch lenwi’r ffurflen gan ddefnyddio ffôn symudol neu dabled. Mae’n rhaid i chi naill ai:

  • ddefnyddio cyfrifiadur neu liniadur
  • argraffu’r ffurflen a’i llenwi â llaw

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu liniadur

Defnyddiwch ddarllenydd PDF i agor a llenwi’r ffurflen hon. Gallwch lawrlwytho darllenydd PDF am ddim ar-lein.

Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrin i gael mynediad i’r ffurflen, rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r holl nodiadau a’r cwestiynau ar y ffurflen cyn i chi ei chwblhau. Wrth i chi lenwi’r ffurflen, byddwch yn cael eich tywys drwy’r cwestiynau yn seiliedig ar yr ymatebion rydych yn eu darparu.

Peidiwch â defnyddio porwr eich cyfrifiadur neu, os ydych yn ddefnyddiwr Apple Macintosh, y cyfleuster Preview.

Gallwch arbed data wedi’i deipio yn y ffurflen hon os ydych yn defnyddio darllenydd PDF. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi lenwi’r ffurflen mewn un sesiwn.

Mae yna broblemau dibynadwyedd gyda rhywfaint o feddalwedd gynorthwyol, agallai olygu na fydd y ffurflen yn arbed yn iawn.

Bydd y ffurflen hon ond yn arbed os yw:

  • wedi’i arbed ar eich cyfrifiadur
  • wedi’i agor mewn fersiwn ddiweddar o ddarllenydd PDF

Ni chaiff y ffurflen ei harbed yn:

  • fersiynau o Acrobat Reader sy’n hŷn na fersiwn XI
  • rhai darllenwyr PDF eraill, er enghraifft Preview ar Mac neu Foxit ar Gyfrifiadur

Cymorth i ddefnyddio’r ffurflen gais PDF hon

Cymorth gyda Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Am gymorth a chyngor ar y wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi ar y ffurflen neu am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Cymorth gyda Chredyd Cynhwysol

Ni fyddwch yn gallu cael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich budd-dal. Ar gyfer hyn bydd angen i chi naill ai:

  • fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol os oes gennych un
  • ffonio linell gymorth Credyd Cynhwysol os nad oes gennych gyfrif ar-lein

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644 

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm    

(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644   

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm 

Llinell Gymraeg: 0800 328 1744 

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych angen y ffurflen hon mewn ffurf gwahanol

Gallwn anfon y ffurflen atoch yn y ffurfiau canlynol:

  • copi wedi’i argraffu
  • ffurf gwahanol, fel print bras, braille neu CD sain

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac angen ffurf gwahanol, cysylltwch â Chredyd Cynhwysol.

Os ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac angen ffurf gwahanol, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 Mai 2026 show all updates
  1. New versions of forms WCA50 in English and Welsh language have been added. The updated versions are dated 03/26.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon