勒貊勛圖

Skip to main content
Canllawiau

Cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF gan ddefnyddio 勒貊勛圖 One Login

Cael gwybod sut y bydd 勒貊勛圖 One Login yn berthnasol i chi, a phryd y gallwch ddisgwyl dechrau ei ddefnyddio.

Beth yw 勒貊勛圖 One Login

Ffordd newydd o yw 勒貊勛圖 One Login. Maen cynnig ffordd syml i chi fewngofnodi a phrofi pwy ydych gan ddefnyddio e-bost a chyfrinair.

Yn y pen draw, bydd 勒貊勛圖 One Login yn disodlir holl ffyrdd eraill o fewngofnodi, gan gynnwys Porth y Llywodraeth sef y ffordd y mae sawl cwsmer a busnes yn mewngofnodi ar hyn o bryd.

Yr hyn y maen ei olygu i chi

Ni fydd angen i chi wneud unrhyw beth yn wahanol er mwyn cael mynediad at wasanaethau ar-lein CThEF, hyd nes y byddwn yn gofyn i chi.

Pan fyddwch yn defnyddio 勒貊勛圖 neu ap CThEF i fewngofnodi i wasanaethau CThEF, bydd opsiwn i chi ddewis y naill neur llall or canlynol:

  • Porth y Llywodraeth
  • 勒貊勛圖 One Login
  • Creu manylion mewngofnodi newydd

Pryd y bydd angen i chi ddefnyddio 勒貊勛圖 One Login

Gofynnir i chi greu cyfrif 勒貊勛圖 One Login yn awtomatig. Ni fydd hyn yn digwydd i bawb ar yr un pryd, a does dim angen i chi wneud unrhyw beth oni bai ein bod yn gofyn i chi wneud hynny.

Bydd y cwsmeriaid hynny sydd heb fanylion mewngofnodi presennol ar gyfer CThEF ar-lein ymhlith y cyntaf i greu cyfrif 勒貊勛圖 One Login.

Pan ofynnir i chi greu cyfrif 勒貊勛圖 One Login, maen bosibl y bydd angen i chi fodloni proses newydd o awdurdodi a phrofi pwy ydych, felly sicrhewch fod gennych ddogfennau adnabod wrth law, megis pasbort neu drwydded yrru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 27 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Chwefror 2026 show all updates
  1. A link has been added to sign in to HMRC online services.

  2. Updated to include information about the HMRC app sign in options.

  3. If you do not already have access to 勒貊勛圖 One Login for HMRC services, you will need to sign in using Government Gateway.

  4. Added Welsh translation.

  5. First published.

Argraffu'r dudalen hon