Apelio eich prawf gyrru
Gallwch apelio at lys ynghylch eich prawf gyrru os nad oedd eich arholwr wedi dilyn y gyfraith, ond ni ellir newid canlyniad eich prawf.
Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru
Gallwch apelio at lys os credwch na ddilynodd eich arholwr gyrruâr gyfraith ynghylch sut y maeân rhaid iddynt gynnal profion gyrru.
Ni all y llys newid canlyniad eich prawf. Os byddwch yn ennill eich apĂȘl, gallant benderfynu y dylech naill aiân:
- cael sefyll eich prawf eto am ddim
- derbyn ad-daliad o ffi eich prawf
Maeân bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiol sylweddol os byddwch yn colliâch apĂȘl.
Maeân fwy cyflym ac yn haws gwneud cwyn iâr Asiantaeth Gyrwyr a Safonau Cerbydau (DVSA) os oes gennych brawf na ddilynodd eich prawf y gyfraith.
Sicrhau bod gennych sail i apelio n erbyn y penderfyniad
Gallwch dderbyn cyngor cyfreithiol iâch helpu i sicrhau a oes gennych sail i apelio.
Gallwch apelio os na ddilynodd eich arholwr gyrruâr gyfraith. Mae hyn yn cynnwys enghreifftiau fel:
- ni wiriodd yr arholwr eich golwg ar ddechrauâr prawf
- fe wnaethoch dreulio llai na 30 munud ar y ffordd
- ni ofynnodd yr arholwr i chi wneud ymarfer bacio
- ni ofynnodd yr arholwr y cwestiynau âdangoswch i mi, dywedwch wrthyfâ
Ni allwch apelio os na chyflawnwyd rhywbeth oherwydd iâr arholwr ddod Ăąâr prawf i ben oherwydd bod eich gyrruân beryglus.
Gwiriwch y darnau hyn o ddeddfwriaeth i gael y rhestr lawn oâr hyn roedd yn rhaid iâch arholwr gyrru ei gynnwys:
- os sefoch brawf cymhwyso fel hyfforddwr gyrru cymeradwy (ADI)
Rhesymau na ddylech apelio
Ni fydd eich apĂȘl yn llwyddiannus os:
- ydych yn anghytuno Ăą chanlyniad eich prawf
- ydych yn anghytuno Ăą barn eich arholwr gyrru
- ydych yn credu nad oedd yn deg bod yr arholwr wedi nodi camsyniad peryglus neu ddifrifol
- nad oeddech yn hoffi eich arholwr gyrru
- oeddech yn teimloân sĂąl yn ystod y prawf
- oedd eich car wedi torri i lawr yn ystod y prawf
- oedd defnyddiwr arall y ffordd wedi gwneud rhywbeth oâi le ac na wnaethoch ymateb iddoân gywir
Mae proses wahanol i wneud cwyn ynghylch eich arholwr gyrru, er enghraifft, os oeddech yn meddwl eu bod yn anghwrtais i chi. Ni all y DVSA newid canlyniad eich prawf.
Apelio yn erbyn y penderfyniad
Mae sut rydych yn apelio yn erbyn y penderfyniad yn dibynnu ar ble rydych yn byw.
Lloegr a Chymru
Cysylltwch Ăąâch llys ynadon lleol o fewn 6 mis ar ĂŽl eich prawf gyrru i apelio yng Nghymru a Lloegr.
Yr Alban
Cysylltwch o fewn 21 niwrnod ar ĂŽl eich prawf gyrru i apelio yn yr Alban.
Pa wybodaeth sydd angen i chi ei rhoi
Dywedwch wrth y llys eich bod am apelio am eich prawf gyrru o dan adran 90 y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988.
Os byddwch yn apelio yn erbyn canlyniad prawf cymhwyso fel ADI, mae angen i chi apelio o dan adran 133 y Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988 yn lle hynny.
Pan fyddwch yn llenwi unrhyw ffurflenni llys ynghylch pwy rydych yn apelio yn ei erbyn (ây diffynnyddâ), defnyddiwch y manylion hyn:
Central Policy
DVSA
1 Unity Square
Nottingham
NG2 1AY
Pan fyddwch yn apelio, bydd o gymorth os byddwch yn esbonio:
- pa adran oâr gyfraith na ddilynodd yr arholwr gyrru
- ym mha fodd na ddilynodd yr arholwr gyrruâr gyfraith
Mynd iâr apĂȘl
Bydd y llys yn ysgrifennu atoch gydaâr manylion ynghylch pryd y cynhelir y gwrandawiad. Bydd y llythyr yn dweud wrthych beth iâw wneud ar y diwrnod.
Bydd barnwr, ynad neu siryf yn gwrando ar eich apĂȘl yn y llys.
Gallwch ofyn i gyfreithiwr iâch cynrychioli yn y gwrandawiad, ond fel arfer bydd yn rhaid i chi eu talu.
Bydd y llys fel arfer yn gwrthod eich apĂȘl os na fyddwch yn mynd iâr gwrandawiad.
Rhoi tystiolaeth
Efallai y gofynnir i chi:
- sut rydych yn meddwl na ddilynodd yr arholwr gyrruâr gyfraith yn ystod eich prawf
- rhoi tystiolaeth
- ateb cwestiynau am eich prawf (a elwir yn âgroesholiâ)
Yn y mwyafrif o achosion, bydd gan y DVSA gynrychiolydd cyfreithiol yn y llys. Mewn rhai achosion, maeân bosibl y bydd yr arholwr gyrru yn y gwrandawiad hefyd i roi tystiolaeth ac ateb cwestiynau.
Yr hyn sydd angen i chi ei ddangos iâr llys
Mae angen i chi brofi ei bod yn fwy tebygol na pheidio na ddilynodd yr arholwr gyrruâr gyfraith.
Derbyn canlyniad eich apĂȘl
Fel rheol bydd y llys yn dweud wrthych am ganlyniad eich apĂȘl ar ddiwedd y gwrandawiad.
Os byddwch yn ennill eich apĂȘl
Ni all y llys newid canlyniad eich prawf os byddwch ychiân ennill eich apĂȘl.
Bydd yn dyfarnu y dylech naill ai:
- cael sefyll eich prawf eto am ddim
- derbyn ad-daliad o ffi eich prawf
Bydd y DVSA yn cysylltu Ăą chi os byddwch yn ennill eich apĂȘl.
Os byddwch yn colliâch apĂȘl
Bydd angen i chi drefnu a thalu am sefyll eich prawf gyrru eto os byddwch yn colliâch apĂȘl.
Maeân bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu costau cyfreithiol sylweddol os byddwch yn colliâch apĂȘl.
Updates to this page
-
Updated the address details to use for DVSA when filling in any court forms.
-
Added translation