Gwneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA)
Gwneud cais am gymeradwyaeth gan CThEF i cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd fel cwrw cwrw, seidr, gwirodydd, gwin, neu gynhyrchion eplesedig eraill yn y DU.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych am i cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd yn y DU, bydd angen cymeradwyaeth ar gyfer cynhyrchwyr cynhyrchion alcoholaidd (APPA) arnoch.
Maeān drosedd cynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd heb y gymeradwyaeth briodol, neu ar safleoedd nad ydym wediāu cymeradwyo. Maeān bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb os byddwch yn gwneud hynny. Gallwn hefyd atafaelu unrhyw gynhyrchion alcoholaidd, pecynnu, offer neu sylweddau a ddefnyddir wrth gynhyrchu cynhyrchion alcoholaidd.
Gwiriwch a oes angen i chi wneud cais i gael APPA.
Pryd ddylech wneud cais
Dylech wneud cais o leiaf 45 diwrnod gwaith cyn eich bod yn bwriadu dechrau cynhyrchu. Maeān bosibl y bydd yn cymryd mwy o amser na hyn i ni brosesu eich cais os ywār canlynol yn berthnasol:
- maeān fwy cymhleth
- mae angen i ni ofyn am ragor o wybodaeth oddi wrthoch
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Er mwyn gwneud cais, mae angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:
- eich enw aāch manylion cyswllt
- manylion unrhyw un syān gysylltiedig Ć¢ār busnes, neu a fydd yn gysylltiedig, gan gynnwys ei ID APPA
- cyfeiriadau eich safleoedd, a chyfeiriad gohebu, os ywān wahanol
- eich statws busnes presennol ā er enghraifft, a ydych yn gweithredu fel unig fasnachwr, mewn partneriaeth neu fel cwmni cyfyngedig
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
- beth yw categorĆÆau y cynhyrchion alcoholaidd y byddwch yn eu cynhyrchu ar y safle
- y dyddiad y byddwch yn dechrau cynhyrchu
- beth yw categorĆÆau unrhyw gynhyrchion alcoholaidd yr ydych yn cynllunio mewnforio neu allforio
- manylion unrhyw gynhyrchion alcoholaidd rydych yn eu hanfon at, neuān eu cael gan fusnesau cymeradwy eraill neu warysau tollau, gan gynnwys y rhifau cymeradwyo a neilltuir iār person cymeradwy hwnnw neuār warws tollau
Os yw swyddog neu cyflogaiān gwneud y cais ar ran eich busnes, bydd angen iddo roi ei enw, rĆ“l yn y busnes a manylion cyswllt.
Bydd angen i chi roi amcangyfrif i ni o faint o alcohol y byddwch yn ei gynhyrchu yn y 12 mis oār amser rydych yn gwneud cais. Maeān rhaid i chi wneud nodyn yn eich cofnodion busnes o sut rydych wedi gwneud yr amcangyfrif hwn.
Bydd hefyd angen i chi roi cynllun oāch safle i ni. Maeān rhaid i hwn ddangos lleoliad a disgrifiad oār holl gyfarpar y byddwch yn eu defnyddio i gynhyrchu ac i gadw cynhyrchion alcoholaidd. Maeān rhaid iār cynllun fod:
- o faint A4 neu lai
- mewn du a gwyn
- Ć¢ mannau y gohiriwyd tollau arnynt wediāu harlliwio
- ag allanfeydd tĆ¢n sydd wediāu marcioān glir mewn coch
Pan fyddwch yn gwneud cais, dylech roi gwybod i ni am yr holl gynhyrchion, gweithgareddau ac adeiladau alcoholaidd y mae angen cymeradwyaeth arnoch ar eu cyfer. Os ydych yn mynd i gynhyrchu mwy nag un cynnyrch alcoholaidd, neuān cynhyrchu mewn mwy nag un safle, cynhwyswch y manylion hyn yn eich cais.
Gwneud cais ar-lein
Bydd angen i chi fewngofnodi i wneud cais ar-lein. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi greu rhai.
Os na allwch wneud cais ar-lein
Cysylltwch ag ymholiadau TAW, Tollau ac EcsĆ©is ar bapur i ofyn am ffurflen bapur, os ywār canlynol yn berthnasol:
- rydych yn gwrthwynebu defnyddio cyfrifiadur ar sail rhesymau crefyddol
- ni allwch ddefnyddio cyfrifiaduron oherwydd eich oed, anabledd neu oherwydd nad oes gennych fynediad iār rhyngrwyd lleār ydych yn byw
Ar Ɠl i chi wneud cais
Byddwn yn gwirioāch cais ac yn cynnal gwiriadau cefndir. Gallai hyn gynnwys:
- gwneud yn siŵr bod yr wybodaeth yr ydych wediāi rhoi yn gyflawn ac yn gywir
- gwneud yn siŵr eich bod wedi cydymffurfio Ć¢āch ymrwymiadau treth
- cysylltu ag adrannau ac asiantaethau eraill y llywodraeth
- cysylltu ag asiantaethau gwirio credyd
- gwiriad cofnodion troseddol
- gwiriad Ć¢ ThÅ·ār CwmnĆÆau
Maeān bosibl y byddwn hefyd yn ymweld Ć¢āch safle i edrych ar eich gweithgareddau masnachu. Yn ystod yr ymweliad byddwn yn gofyn am fanylion ynghylch y canlynol:
- eich cyflenwyr
- eich cwsmeriaid
- eich cynllun busnes
- cyfrifyddu a systemau rheoli stoc
- eich safle
- eich hyfywedd ariannol
Os oes angen i chi dynnu eich cais yn Ɠl
Ni allwch dynnuāch cais yn Ć“l os byddwn eisoes wediāi gymeradwyo.
Gallwch dynnuāch cais APPA yn Ć“l os ydych wedi gwneud cais am gymeradwyaeth ond heb ei gael eto.
Os oes angen i chi wneud newidiadau iāch cais neu eich cymeradwyaeth
Mae angen i chi roi gwybod i ni cyn gynted Ć¢ phosibl am unrhyw newidiadau iāch cais neu gymeradwyaeth.
Gallwch wneud newid iāch APPA.
Os byddwn yn cymeradwyoāch cais
Os byddwn yn cymeradwyoāch cais, byddwn yn rhoi eich ID APPA i chi. Mae hwn yn 15 digid. Cyn gynted ag y byddwch yn cael hyn dylech mynediad at y gwasanaeth ar-lein ar gyfer Rheoliāch Toll Alcohol.
Os ydym yn newid neuān dirymuāch cymeradwyaeth
Maeān rhaid i chi ddilyn yr amodau sydd wediāu nodi yn y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg). Os na fyddwch yn gwneud hyn, gallwn newid amodauāch cymeradwyaeth, neu ei dirymu, ar unrhyw adeg.
Os ydym yn newid neuān dirymuāch cymeradwyaeth, gallwch wneud y canlynol:
- gofyn i ni adolyguān penderfyniad
- apelio ar dribiwnlys annibynnol
Os oes angen i chi ganslo eich cymeradwyaeth
Os oes gennych gymeradwyaeth, ond nad oes ei angen arnoch mwyach, gallwch ²µ²¹²Ō²õ±ō“Ēāc³ó APPA.
Os byddwn yn gwrthod eich cais
Os byddwn yn canfod bod yr wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi yn anwir neuān anghyflawn, gallwn wrthod eich cais. Os byddwch wedi ein camarwain yn fwriadol, maeān bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb. Os byddwn yn gwrthod eich cais, byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio pam.
Os byddwn yn gwrthod eich cais, gallwch wneud y canlynol:
- gofyn i ni adolyguān penderfyniad
- apelio ar dribiwnlys annibynnol
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch adran 4 y canllaw technegol ar gyfer cynhyrchion alcoholaidd (yn agor tudalen Saesneg) i ddysgu rhagor am y canlynol:
- y broses gymeradwyo
- gwneud newidiadau iāch APPA
Updates to this page
-
Guidance has been updated to make it clear that it is an offence to produce alcoholic products without the appropriate approval, or on premises that we have not approved.
-
The sections for withdrawing your application, cancelling and making changes to your alcoholic products producer approval (APPA) have been updated due to new forms being available to tell HMRC. Also, updated the 'What you'll need' section to now say "an estimate of how much alcohol you'll produce in the 12 month period from when you apply."
-
The links to use to contact HMRC have been updated.
-
The section 'When to apply' has been added. The section 'What you'll need' has been updated with new information. The section 'If you cannot apply online' has been added.
-
A link to apply for alcoholic products producer approval (APPA) has been added to the section 'Apply online'.
-
Information about what you'll need when you apply for an alcoholic products producer approval (APPA) has been updated. Contact details if you need to withdraw an application or make changes to your approval have been updated.
-
Added translation