ǸԹ

Skip to main content
Canllawiau

Gwneud cais am ardrethi busnes ar gyfer eiddo hunanddarpar yng Nghymru

Llenwch y ffurflen hon os oes gennych lety gwyliau hunanddarpar yng Nghymru sy’n gymwys ar gyfer ardrethi busnes

Yn berthnasol i Gymru

Pryd y gallwch wneud cais

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, mae’n rhaid i’r canlynol i gyd fod yn wir er mwyn i’ch eiddo fod yn gymwys ar gyfer ardrethi busnes:

  • roedd ar gael i’w osod yn fasnachol (gyda’r bwriad o wneud elw) am 252 noson o fewn y 12 mis diwethaf

  • cafodd ei osod yn fasnachol am 182 noson o fewn y 12 mis diwethaf, neu am gyfartaledd o 182 noson y 12 mis dros y 24 neu 36 mis diwethaf

  • rydych yn bwriadu ei wneud ar gael i’w osod yn fasnachol am o leiaf 252 noson yn y 12 mis canlynol

Mae’n bosibl y bydd eich eiddo yn cael ei symud o ardrethi busnes i Dreth Gyngor os yw’n peidio â bodloni’r meini prawf.

Nosweithiau y gallwch eu cynnwys

Gallwch gynnwys yr holl nosweithiau y canlynol yn wir am eich eiddo:

  • roedd ar gael i’w osod yn fasnachol am arhosiadau o 28 noson neu lai

  • fe’i gosodwyd yn fasnachol mewn gwirionedd am arhosiadau o 28 noson neu lai

O 1 Ebrill 2026 ymlaen, gallwch hefyd gynnwys hyd at 14 noson y flwyddyn a roddoch i elusen gofrestredig.

Nosweithiau na allwch eu cynnwys

Wrth gyfrifo’r nosweithiau yr oedd eich eiddo ar gael i’w osod neu wedi’i osod mewn gwirionedd, ni allwch gynnwys y canlynol:

  • nosweithiau y bu’ch eiddo ar gau ar gyfer atgyweirio neu adnewyddu

  • nosweithiau y bu’r safle lle mae’r eiddo wedi’i leoli ar gau

  • nosweithiau yr oeddech yn defnyddio’r eiddo’n breifat, gan gynnwys ei osod i ffrindiau neu deulu am bris gostyngol

  • archebion yn y dyfodol nad ydynt wedi digwydd eto

Ni chaiff arhosiadau dros 28 noson eu dosbarthu fel llety tymor byr. Ni allwch eu cyfrif fel nosweithiau y cafodd eich eiddo ei roi ar osod.

Ni allwch gynnwys nosweithiau a roddoch i elusen gofrestredig cyn 1 Ebrill 2026.

Sut i lenwi’r ffurflen

Gallwch lenwi’r ffurflen ar y sgrin, neu argraffu’r ffurflen a’i llenwi â llaw.

Llenwch un ffurflen ar gyfer pob eiddo hunanddarpar cymwys.

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os ydych yn ceisio ei hagor yn eich porwr. I agor y ffurflen mae angen i chi:

  1. Lawrlwytho ac arbed y ffurflen ar eich cyfrifiadur.

  2. Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r .

Ble i anfon y ffurflen hon

Atodwch y ffurflen wedi’i chwblhau at e-bost. Anfonwch hi at selfcatering@voa.gov.uk gan ddefnyddio’r pennawd pwnc ‘Ffurflen ddychwelyd hunanddarpar wedi’i chwblhau’.

Os yw’n well gennych, gallwch anfon y ffurflen wedi’i chwblhau drwy’r post i:

Valuation Officer
Wycliffe House  
Green Lane  
ٳܰ󲹳
DH1 3UW

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 8 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Ebrill 2026 show all updates
  1. Information has been added to the section 'When you can apply' about using the average nights let across 2 or 3 years. Information has been added to the section 'Nights you can include' about donating nights to charity.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon