Gwneud cais i fod yn Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr ar y rhaglen Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith
Canllawiau i sefydliadau ar sut i wneud cais i fod yn Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr i weinyddu'r rhaglen Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith, a gwybodaeth am sut y bydd eich cais yn cael ei asesu.
Bydd y Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr yn gorff annibynnol, nid-er-elw, sy’n cael ei arwain gan gynhyrchwyr, a bydd yn gweithio ochr yn ochr â PackUK i gyflawni’r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith.Â
Gallai’r Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr fod yn gyfrifol am weinyddu’r gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r canlynol:Â
-
cyfrifo ffioedd cynhyrchwyrÂ
-
modiwleiddio ffioedd cynhyrchwyrÂ
-
y Fethodoleg Asesu Ailgylchadwyedd (RAM)Â
-
modelu costau awdurdodau lleol Â
-
gohebiaeth a gwybodaeth gyhoeddusÂ
-
gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gweithrediadau awdurdodau lleolÂ
Mae PackUK yn bwriadu penodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr ym mis Mawrth 2026.Â
Darllenwch ganllawiau am Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar gyfer Pecynwaith: (/government/collections/extended-producer-responsibility-for-packaging).Â
Pwy all wneud caisÂ
Rhaid i’ch sefydliad fod yn gorff preifat, annibynnol, nid-er-elw. Â
Pryd ddylech wneud caisÂ
Mae’r cyfnod ymgeisio ar agor nawr. Gallwch gyflwyno eich cais unrhyw bryd cyn 17:00 ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025.Â
Pe bai’r dyddiad cau hwn yn newid neu’n cael ei ymestyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl.Â
Sut mae gwneud caisÂ
Cysylltwch ag EPRCustomerService@defra.gov.uk i ofyn am ddogfennau’r cais.Â
Bydd PackUK yn ymateb o fewn 3 diwrnod gwaith gyda’r ffurflen gais.Â
Dychwelwch y ffurflen gais wedi’i llenwi drwy anfon e-bost i EPRCustomerService@defra.gov.uk erbyn 17:00 ddydd Gwener 12 Rhagfyr 2025. Â
Sut bydd eich cais yn cael ei asesuÂ
Bydd eich cais yn cael ei asesu ar sail teilyngdod a pha mor addas ydych chi i fod yn Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr. Byddwn yn edrych ar:Â
-
sut rydych chi’n dangos eich bod yn gallu cyflawni’r cyfrifoldebau ar gyfer y gweithgareddau y byddwch chi’n eu gweinyddu;Â
-
sut rydych chi’n dangos bod gan eich sefydliad gefnogaeth cynhyrchwyr, eu cynrychiolwyr, ac eraill y mae’r penodiad yn debygol o effeithio arnynt.Â
Byddwn ni’n cynnal asesiad cychwynnol o’r holl geisiadau a ddaw i law, ac yna’n gofyn i chi am ragor o wybodaeth, os oes angen. Byddwn ni’n defnyddio system sgorio safonol i roi sgôr i’r ceisiadau.Â
Bydd y sgoriau hyn yn sail i’r argymhelliad y byddwn ni’n ei gyflwyno gerbron Gweinidogion ym mhob un o Bedair Gwlad y Deyrnas Unedig er mwyn iddynt benodi Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr.