Arweiniad ar gynllun pensiwn llywodraeth leol, Pennod 3
Os ydych chiān aelod o gynllun pensiwn llywodraeth leol, neuān gynrychiolydd personol cyfreithiol ar gyfer aelod oār fath, gwiriwch sut gallaiār cyfnod pontio ar gyfer pensiynauār gwasanaeth cyhoeddus (syān cael ei alwān McCloud) effeithio arnoch chi.
Beth yw cynllun Pennod 3
Mae Cynllun Pensiwn Pennod 3 yn golygu cynllun pensiwn y gwasanaeth cyhoeddus sydd naill ai:
- yn gynllun hanesyddol llywodraeth leol (roedd y buddiannau hyn wediāu cronni ar sail cyflog terfynol cyn 1 Ebrill 2015 (1 Ebrill 2014 ar gyfer Cymru a Lloegr))
- yn gynllun newydd ar gyfer llywodraeth leol (maeār buddiannau hyn wedi dechrau cronni ar sail cyfartaledd gyrfa o 1 Ebrill 2015 ymlaen (1 Ebrill 2014 ar gyfer Cymru a Lloegr))
I bwy maeār cyfnod pontioān berthnasol
Dim ond os oes gennych wasanaeth y gellir ei unioni y maeār cyfnod pontioān berthnasol. Hynny yw (pob un oār canlynol):
- lleār oedd gennych wasanaeth pensiynadwy ar neu cyn 31 Mawrth 2012
- lleār oedd gennych wasanaeth pensiynadwy o dan gynllun newydd ar gyfer llywodraeth leol neu wasanaeth athrawon dros ben ar unrhyw adeg rhwng 1 Ebrill 2014 a 31 Mawrth 2022 ar gyfer Cymru a Lloegr, neu rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth 2022 o dan unrhyw gynllun newydd arall ar gyfer llywodraeth leol (sef y cyfnod pontio)
- lle nad oedd gennych fwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy a oedd wedi para am fwy na 5 mlynedd, ac a oedd wedi dechrau neu wedi dod i ben rhwng 1 Ebrill 2012 a 31 Mawrth 2015
Mae gwasanaeth athrawon dros ben yn cyfeirio at y gyflogaeth ran-amser, lle bo gan athrawon gyflogaeth amser llawn a chyflogaeth ran-amser ar yr un pryd, a bod y gyflogaeth ran-amser yn bensiynadwy yn y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
Sut maeār cyfnod pontioān effeithio arnoch chi
Ar 1 Ebrill 2014 (yn achos Llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr) ac ar 1 Ebrill 2015 (yn achos pob llywodraeth leol arall), roedd cynllun pensiwn hanesyddol llywodraeth leol wedi newid i gynllun newydd ar gyfer llywodraeth leol. Roedd hyn yn newid y ffordd roedd buddiannauān cael eu cyfrifo o gyflog terfynol i gyfartaledd gyrfa.
Os ydych chiān aelod a ddiogelir, cawsoch eich gwarchod rhag y newid hwn, sef y tanategu. Mae hyn yn golygu eich bod wedi cael buddiannau a oedd yn seiliedig ar yr uchaf oār naill neuār llall oār canlynol:
- croniad cyflog terfynol yn ystod y cyfnod pontio
- croniad enillion cyfartaledd gyrfa yn ystod y cyfnod pontio
Os ydych chiān aelod na ddiogelir o ganlyniad iār cyfnod pontio, byddwch yn cael eich diogelu gan y tanategu. Mae hyn yn golygu y byddan nhwān cael yr uchaf oār naill neuār llall oār canlynol:
- croniad cyflog terfynol yn ystod y cyfnod pontio
- croniad enillion cyfartaledd gyrfa yn ystod y cyfnod pontio
Beth fydd gweinyddwr eich cynllun yn ei anfon atoch
Datganiad cynilion pensiwn
Bydd gweinyddwr eich cynllun pensiwn yn rhoi datganiad cynilion pensiwn diwygiedig i chi os ydych chi:
- wedi ymddeol yn ystod y cyfnod pontio
- wedi cael codiad cyflog terfynol ar Ɠl ymddeol
- wedi cael datganiad cynilion pensiwn wrth ymddeol
Os oedd gennych chi dĆ¢l treth lwfans blynyddol iāw dalu
Efallai fod eich sefyllfa dreth wedi newid os ywār swm syān cael ei dalu i mewn iāch pensiwn wedi newid o ganlyniad iār cyfnod pontio. Os oedd gennych chiĀ dĆ¢l treth lwfans blynyddol iāw daluĀ yn ystod y cyfnod pontio, neu os oeddech chiān agos at hynny, maeān bosibl y bydd angen i chi adolygu a chyfrifoāch sefyllfa o ran lwfans blynyddol.
Gwirio a yw hyn wedi effeithio ar eich lwfans blynyddol. Os yw wedi cael effaith, bydd angen i chiĀ gyfrifoāch sefyllfa dreth a chyflwyno cais iāw chywiro.
Effaith ar daliadau treth lwfans oes
Os cawsoch chi ddigwyddiad crisialu buddiannau yn ystod y cyfnod pontio, ni fydd hyn yn cael ei addasu fel rhan oār cyfnod pontio. Bydd unrhyw fuddiannau newydd yn cael eu trin fel digwyddiad crisialu buddiannau newydd.
Os ydych am i asiant weithredu ar eich rhan
Bydd angen i chi roi caniatĆ¢d ysgrifenedig os ydych am i asiant gyflwyno eich gwybodaeth wediāi diweddaru i CThEF. Bydd yr asiant wedyn yn gallu defnyddioār gwasanaeth Cyfrifoār addasiadau iāch pensiwn gwasanaeth cyhoeddus i wirio unrhyw newidiadau iāch sefyllfa dreth a chyflwynoār wybodaeth ar eich rhan.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
First published.