°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Gwirio’r ffordd i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad gan ddefnyddio meddalwedd fasnachol

Dysgwch a oes angen i chi greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw er mwyn cyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad gan ddefnyddio meddalwedd fasnachol.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth er mwyn cyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad gan ddefnyddio meddalwedd fasnachol. Bydd hyn yn caniatáu i’ch meddalwedd gyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad i CThEF.

Os ydych yn defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n bosibl bydd angen i chi ddefnyddio proses wahanol er mwyn awdurdodi eich meddalwedd.

Cyn i chi ddechrau

Gwiriwch eich bod wedi gwneud y canlynol:

  • cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • ychwanegu Hunanasesiad fel treth i’ch cyfrif treth busnes neu gyfrif treth personol

Bydd angen i chi wybod a ydych yn mewngofnodi i CThEF gyda’r canlynol:

  • Porth y Llywodraeth — gall eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) fod hyd at 12 o gymeriadau
  • °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login — eich enw defnyddiwr yw eich cyfeiriad e-bost

Os nad ydych yn siŵr pa fanylion yr ydych yn eu defnyddio, gwiriwch y manylion mewngofnodi cywir ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF.

Os ydych yn mewngofnodi gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth

Os ydych yn mewngofnodi i Hunanasesiad gan ddefnyddio Porth y Llywodraeth, defnyddiwch yr un manylion yn eich meddalwedd fasnachol er mwyn ei gysylltu gyda CThEF er mwyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Os ydych yn mewngofnodi gan ddefnyddio °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login

Os ydych yn mewngofnodi i Hunanasesiad gan ddefnyddio °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login, bydd angen i chi greu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth er mwyn cysylltu’ch meddalwedd fasnachol gyda CThEF wrth gyflwyno Ffurflen Dreth.

Ni all eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth gael ei ddefnyddio i gael mynediad at wasanaethau ar °Ç¸ç³Ô¹Ï.

Creu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth

Dilynwch y camau hyn er mwyn creu eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth.

  1. Defnyddiwch eich cyfrif °Ç¸ç³Ô¹Ï One Login er mwyn mewngofnodi i’ch cyfrif ar-lein CThEF.

  2. Os ydych wedi mewngofnodi i’ch cyfrif treth personol, dewiswch y canlynol:

    1. ‘Proffil a gosodiadau’.
    2. ‘Rheoli cyfrif’ sydd y drws nesaf i ‘Manylion mewngofnodi’.
    3. ‘Bwrw golwg’ sydd y drws nesaf i ‘Arweiniad ar feddalwedd fasnachol’.

  3. Os ydych wedi mewngofnodi i’ch cyfrif treth busnes, dewiswch y canlynol:

    1. ‘Rheoli’r cyfrif’.
    2. ‘Newid neu fwrw golwg dros fanylion eich cyfrif treth busnes’.
    3. ‘Rheoli’ch manylion ar gyfer mewngofnodi i wasanaethau CThEF’.
    4. ‘Bwrw golwg’ sydd y drws nesaf i ‘Arweiniad ar feddalwedd fasnachol’.

  4. Darllenwch yr arweiniad a dewis ‘Creu manylion ar gyfer Porth y Llywodraeth’.

  5. Dilynwch y camau hyd nes eich bod wedi creu Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth. Caiff eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) ei e-bostio i chi.

  6. Nodwch eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair unigryw ar gyfer Porth y Llywodraeth yn y mannau perthnasol yn eich meddalwedd fasnachol wrth gyflwyno eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Chwefror 2026

Argraffu'r dudalen hon