ǸԹ

Skip to main content
Canllawiau

Gwirio a yw galwad ffôn rydych wedi’i chael gan CThEF yn ddilys

Gwirio rhestr o gysylltiadau ffôn diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw galwad ffôn rydych wedi’i chael yn sgam.

Os nad yw’ch galwad ffôn wedi’i rhestru yma, gwiriwch gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.

Rheoli dyledion

Mae CThEF yn anfon negeseuon llais at rai cwsmeriaid, sy’n esbonio’r hyn y mae angen i chi ei wneud os ydych ar ei hôl hi gyda’ch taliadau. Bydd cwsmeriaid yn cael y rhain fel galwad ffôn i ffonau llinell dir a ffonau symudol. Byddan nhw’n rhoi gwybodaeth am dalu CThEF (yn agor tudalen Saesneg) neu rif ffôn llinell gymorth.

Mae CThEF hefyd yn anfon negeseuon sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio’r wybodaeth gywir wrth dalu.

Ni fydd y negeseuon yn gofyn am wybodaeth bersonol na gwybodaeth ariannol o unrhyw fath.

Deall safbwyntiau o ran erlyniadau treth

O 20 Ebrill 2026 hyd at a chan gynnwys 18 Mai 2026, mae’n bosibl y byddwch yn cael galwad ffôn gan Verian.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, Verian, i gynnal ymchwil sy’n archwilio ymwybyddiaeth mewn perthynas ag erlyniadau twyll treth a deall rhagor amdanynt.

Mae’n bosibl y byddwch yn cael galwad ffôn gan Verian yn gofyn i chi i gymryd rhan yn yr ymchwil hon.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol, ac os gwnewch hynny, bydd eich atebion:

  • yn gyfrinachol
  • yn ddienw
  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Ni fydd Verian yn gofyn i chi am wybodaeth bersonol ariannol.

Colli galwad neu leisbost gan CThEF

Gall CThEF gysylltu â chi dros y ffôn neu adael lleisbost o’r rhif hwn - 0300 200 3884.

Nid rhif ymholiadau cyffredinol CThEF yw’r rhif ffôn hwn.

Os byddwn ni’n cysylltu â chi, byddwn yn gwneud y canlynol:

  • eich ffonio ar ddyfais symudol neu linell dir
  • byth yn gofyn am wybodaeth bersonol neu ariannol yn ystod yr alwad

Os byddwch chi’n colli’r alwad, efallai y byddwn ni’n gadael lleisbost i roi gwybod i chi y byddwn ni’n ceisio cysylltu â chi eto.

Os ydych chi’n defnyddio nodweddion blocio galwadau, gwiriwch ei fod yn caniatáu galwadau gan CThEF (0300 200 3884).

Galwadau ffôn eraill y dylech eu gwirio

Gallwch hefyd wirio’r galwadau ffôn a restrir ar y dudalen gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 30 Ebrill 2026 show all updates
  1. Information about receiving a 'Missed call or voicemail from HMRC' has been added.

  2. Information about 'Understanding views on tax prosecutions' has been added.

  3. Contact date for 'Inheritance Tax — nil rate bands' has been extended to Friday 28 November 2025.

  4. Information about 'Inheritance Tax — nil rate bands' has been added.

  5. Added translation

  6. Information about ‘Research into arranging temporary work abroad’ has been added.

  7. Information about 'Electronic invoicing — small and medium business usage and attitudes' has been added.

  8. Information about pension research has been added.

  9. Information about 'temporary overseas working — social security research' has been added.

  10. Information about 'VAT on private school fees — registration reminder' has been added.

  11. Information about Capital Gains Tax when selling a rental property research has been added.

  12. Information about Single Trade Window user testing has been added to the page.

  13. Research on Enterprise Investment Schemes has been extended to Wednesday 31 January 2024.

  14. Information about Enterprise Investment Schemes research has been added.

  15. Added translation

  16. Inheritance Tax and property valuation research and customs declaration follow-up research contacts added.

  17. We have added 'New starter checklist research' and removed 'Coronavirus Job Retention Scheme — research about employers' experiences'.

  18. Research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme has been added.

  19. Added translation

  20. Added information on Self Assessment tax return — research with first-time customers.

  21. Added information on Haulier's Survey.

  22. Added information on research to understand customer experiences of making a tax code amendment or correction.

  23. Added 'Digital Products and Services ― research with businesses and agents' section.

  24. Added 'VAT returns communications campaign ― research with businesses' section.

  25. A road hauliers survey will be carried out between August 2021 and 31 October 2021.You may get a telephone call from IFF Research to invite you to take part.

  26. Added translation

Argraffu'r dudalen hon