°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Gwirio a oes angen i chi gofrestru fel ymgynghorydd treth gyda CThEF a phryd sydd angen gwneud hynny

Gwiriwch a oes angen i chi gofrestru, a phryd sydd angen gwneud hynny, ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant er mwyn rhyngweithio â CThEF ar ran eich cleientiaid fel ymgynghorydd treth.

Newidiadau i’r broses gofrestru

Mae CThEF wedi cyflwyno gwasanaeth ar-lein er mwyn cofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant. Mae hyn yn cymryd lle’r ffordd flaenorol o gofrestru.

Mae’n bosibl bod gofyniad cyfreithiol arnoch i gofrestru â CThEF. Golyga hyn bod angen cyfrif gwasanaethau asiant arnoch os nad oes gennych un eisoes.

Rydym yn cyflwyno’r gofyniad i gofrestru mewn camau — mae’r adeg sydd angen i chi gofrestru yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os oes eisoes gennych gyfrif gwasanaethau asiant, ni fydd angen i chi gofrestru eto. Byddwn yn cysylltu â chi drwy’ch cyfrif gwasanaethau asiant pan fydd angen i ni gael rhagor o wybodaeth gennych, er mwyn gwirio eich bod yn bodloni anghenion penodol (yn agor tudalen Saesneg).

Pwy sydd angen cofrestru

Os byddwch yn rhyngweithio â CThEF ynghylch materion treth rhywun arall ac yn cael eich talu am wneud hynny, rydym yn eich ystyried yn ‘ymgynghorydd treth’. Golyga hyn y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant.

Mae rhyngweithiadau â CThEF yn cynnwys y canlynol:

  •  ffôn, post neu e-bost 

  • anfon negeseuon ar wefan °Ç¸ç³Ô¹Ï neu ap CThEF

  • gwneud taliadau

  • anfon ffurflenni treth, hawliadau neu ddogfennau eraill

Mae’n rhaid i’r endid cyfreithiol sy’n rhyngweithio â CThEF gofrestru. Nid oes angen i gyflogeion unigol gofrestru ar wahân, ond bydd angen i ni gynnal gwiriadau ar rai pobl benodol o fewn eich busnes.

Mae angen i chi gofrestru hyd yn oed os oes un o’r canlynol yn wir: 

  • nid ydych yn gweld eich hun fel ymgynghorydd treth, nag yn disgrifio eich gwaith fel cyngor treth
  • rydych yn gweithio fel unig fasnachwr cofrestredig
  • nid helpu pobl â’u materion treth yw prif swyddogaeth eich busnes
  • rydych ond yn rhyngweithio â CThEF ar ran un cleient

Ymgynghorwyr treth tramor

Bydd hefyd angen i chi gofrestru os yw’ch busnes wedi’i leoli y tu allan i’r DU. Defnyddiwch y llwybr cofrestru sydd eisoes mewn lle i wneud caisyn ystod eich cyfnod o gofrestru.

Bydd CThEF yn cyflwyno proses i ymgynghorwyr treth tramor (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn darparu dogfennau sydd wedi’u hardystio gan notari cyhoeddus, a dogfennau sydd wedi’u cyfieithu i CThEF. Nid oes angen i chi anfon unrhyw dystiolaeth eto. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi pryd i ddarparu tystiolaeth.

Gwiriwch a oes angen i chi gofrestru

Defnyddiwch yr offeryn ar-lein hwn i wirio a oes angen i chi gofrestru gyda CThEF.

I ddefnyddio’r offeryn hwn, bydd rhaid i chi wybod os yw’ch busnes:

  • yn darparu gwasanaethau treth taledig
  • yn cysylltu â CThEF ar ran cleientiaid
  • gyda chyfrif gwasanaethau asiant eisoes
  • wedi cofrestru ar gyfer cod asiant ar gyfer Treth Gorfforaeth neu Hunanasesiad yn flaenorol

Pwy sydd ddim yn gorfod cofrestru

Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant os ydych ond yn rhyngweithio â CThEF ar ran rhywun arall:

  • fel cyflogwr neu fel aelod o dîm treth mewnol (er enghraifft, rheoli’r gyflogres i’ch staff chi eich hun)
  • ynghylch materion treth eich grŵp cwmni chi eich hun
  • er mwyn rhoi cyngor treth am ddim (er enghraifft, drwy elusen neu helpu ffrindiau neu aelodau o’ch teulu)
  • gan fod y gyfraith yn gwneud hynny’n orfodol, hyd yn oed os ydych yn cael eich talu (er enghraifft, ymarferwyr ansolfedd neu rai cwmniau buddsoddi neu bensiwn)
  • er mwyn ymateb i gais am wybodaeth gan CThEF
  • er mwyn datblygu neu ddarparu meddalwedd gyfrifyddu neu feddalwedd treth (gan gynnwys meddalwedd gyflogres)

Yn ogystal, nid oes rhaid i chi gofrestru os ydych ond yn rhyngweithio â CThEF ar ran rhywun arall:

  • ynghylch TAW mewnforio neu TAW tollau
  • fel cynrychiolydd TAW (wedi’i benodi i ddelio â materion TAW y busnes)
  • fel cynrychiolydd treth yng Ngogledd Iwerddon (wedi’i benodi gan fusnes y tu allan i’r DU i reoli ymrwymiadau treth sy’n berthnasol i Ogledd Iwerddon yn benodol)
  • fel cynrychiolydd yn y DU ar gyfer Treth Anweddu (a benodir gan fusnes tramor i ddelio â materion treth penodol yn y DU)
  • fel cynrychiolydd i’r Doll Fepio yn y DU (wedi’i benodi gan fusnes dramor i ddelio â materion treth sy’n berthnasol i’r DU yn benodol)
  • fel cyfryngwr tollau i’r cynllun Gwasanaeth Un Cam Mewnforio
  • i gynrychioli cleientiaid yn ystod apeliadau i lys neu dribiwnlys
  • ynghylch ardrethi busnes, treth gyngor, neu brisio eiddo

Pryd i gofrestru

Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant o 18 Mai 2026 ymlaen, oni bai bod un o’r eithriadau canlynol yn berthnasol: 

  • mae gennych gyfrif Treth Gorfforaeth neu Hunanasesiad eisoes, felly’r cyfnod sydd angen i chi gofrestru yw o 18 Awst 2026 ymlaen
  • rydych ond yn darparu gwasanaethau cyflogres trydydd parti ar ran cleientiaid, ac nid ydych yn rhyngweithio â CThEF mewn unrhyw ffordd arall, felly’r cyfnod sydd angen i chi gofrestru yw o 18 Tachwedd 2026 ymlaen
  • rydych yn sefydliad sy’n cynnig gwasanaethau ariannol, felly’r cyfnod sydd angen i chi gofrestru yw o 31 Rhagfyr 2026 ymlaen

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru o 18 Mai 2026 ymlaen, hyd yn oed os nad oes rhaid i chi wneud hynny dan yn hwyrach.

Y cyfnod cofrestru

Bydd gennych 3 mis o ddyddiad dechrau eich cyfnod cofrestru i wneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant. Gallwch barhau i ryngweithio â CThEF ar ran eich cleientiaid:

  • yn ystod y 3 mis hyn
  • wrth i ni ystyried eich cofrestriad

Cyn i chi gofrestru

Cyn i chi gofrestru â CThEF, dylech wirio a ydych chi’n bodloni amodau CThEF i gofrestru fel ymgynghorydd treth (yn agor tudalen Saesneg).

Sut i gofrestru

Gallwch nawr wneud cais i gael cyfrif gwasanaethau asianter (yn agor tudalen Saesneg) mwyn rhyngweithio â CThEF fel ymgynghorydd treth.

Yr hyn fydd yn digwydd od na fyddwch yn cofrestru

Os oes angen i chi gofrestru i gael cyfrif gwasanaethau asiant, ond nad ydych yn gwneud hynny, ni fydd posibl i chi rhyngweithio â CThEF ar ran eich cleientiaid.

Os byddwch yn parhau i geisio rhyngweithio â CThEF, mae’n bosibl y byddwch yn agored i sancsiynau (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Mai 2026 Show all updates
  1. Information has been added to help overseas businesses understand the process they need to follow to register with HMRC. 

  2. Added translation

  3. Information has been added to tell businesses how to register with HMRC as a tax adviser through the new online registration process introduced on 18 May 2026.

  4. A tool to check if you need to register as a tax adviser has been added to the 'Who needs to register' section.

  5. Guidance has been updated to explain that intermediaries for the Import One Stop Shop scheme do not need to register as tax advisers. It also confirms that anyone providing third‑party payroll services on behalf of clients will need to register as a tax adviser from 18 November 2026.

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon