Llenwi tudalen CT600P ar gyfer rhyddhadau’r diwydiannau creadigol
Sut i lenwi tudalen atodol CT600P ar gyfer rhyddhadau’r diwydiannau creadigol a pha wybodaeth y mae angen i chi ei chynnwys.
Pryd i lenwi’r tudalennau
Llenwch y tudalennau atodol hyn os yw’ch cwmni’n hawlio unrhyw un o’r canlynol:
- Credyd Gwariant Clyweledol (AVEC), gan gynnwys rhyddhad uwch ar gyfer ffilmiau annibynnol a chredyd ychwanegol ar gyfer costau effeithiau gweledol:
- Rhyddhad Treth Ffilm
- Rhyddhad Treth Teledu o Safon Uchel
- Rhyddhad Treth Teledu i Blant
- Rhyddhad Treth Animeiddio
- Credyd Gwariant Gemau Fideo (VGEC)
- Rhyddhad Treth Gemau Fideo
- Rhyddhad Treth Theatr
- Rhyddhad Treth Cerddorfeydd
- Rhyddhad Treth Arddangosfeydd Orielau ac Amgueddfeydd
Rhagor o wybodaeth am:
- rhyddhadau treth y diwydiant creadigol ar gyfer Treth Gorfforaeth, gan gynnwys cysylltiadau at y llawlyfrau CThEF perthnasol
- Rhannau 14A i Rannau 15E o
P1 Enw’r cwmni
Nodwch enw’r cwmni.
P2 Cyfeirnod treth
Nodwch Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr ‘10 digid’ ar gyfer y cwmni.
Y cyfnod dan sylw yn y dudalen atodol hon (ni all fod yn fwy na 12 mis)
P3 Dyddiad dechrau’r cyfnod cyfrifyddu
Nodwch ddyddiad dechrau’r cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.
P4 Dyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu
Nodwch ddyddiad dod i ben y cyfnod cyfrifyddu gan ddefnyddio’r fformat DD MM BBBB.
Credyd Gwariant Clyweledol
Os oes gan eich cwmni ffilmiau neu raglenni teledu y mae’n hawlio un o’r rhyddhadau treth blaenorol ar eu cyfer yn hytrach na Chredyd Gwariant Clyweledol, peidiwch â’u cynnwys yn yr adran hon — darllenwch o flwch P260 ymlaen.
Mae ‘gwariant byd-eang perthnasol’ yn golygu gwariant cynhyrchu sy’n wariant craidd ac nad yw’n wariant eithriedig. Mae’n wariant ‘ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ os yw’n cael ei ystyried wrth gyfrifo elw’r fasnach gynhyrchu ar wahân ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sy’n berthnasol i’r ffurflen atodol hon (darllenwch ).
Mae ‘gwariant byd-eang perthnasol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ sy’n wariant yn y DU yn golygu swm y gwariant o golofn A a wariwyd ar nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig (darllenwch ).
Mae ‘gwariant cymhwysol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ yn golygu’r swm a roddir gan gam 4 wrth gyfrifo swm y credyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sy’n berthnasol i’r ffurflen atodol hon (darllenwch ).
Mae ‘credyd gwariant sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn (ac eithrio credyd ychwanegol ar gyfer effeithiau gweledol)’ yn golygu’r swm a roddir gan gam 5 wrth gyfrifo swm y credyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sy’n berthnasol i’r ffurflen atodol hon (darllenwch ).
Mae ‘credyd ychwanegol ar gyfer effeithiau gweledol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ yn golygu’r swm sy’n cael ei gyfrifo yn unol â’r cyfrifiad credyd VFX ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sy’n berthnasol i’r ffurflen atodol hon (darllenwch ). Dim ond ar gyfer ffilmiau nad ydynt yn ffilmiau wedi’u hanimeiddio neu’n ffilmiau annibynnol y gellir ei hawlio, ac ar gyfer rhaglenni teledu o safon uchel.
Ym mhob rhes o’r tabl, dylech nodi’r gwariant byd-eang perthnasol, gwariant yn y DU, gwariant cymhwysol, credyd gwariant a chredyd ychwanegol ar gyfer eich holl gynyrchiadau sydd yn yr un categori. Er enghraifft, os yw eich cwmni wedi cynhyrchu 2 raglen deledu o safon uchel, dylech gynnwys:
- swm gwariant byd-eang perthnasol y ddau gynhyrchiad ar gyfer y cyfnod ym mlwch P10 colofn A
- swm eu gwariant yn y DU yng ngholofn B
- swm eu gwariant cymhwysol ar gyfer y cyfnod yng ngholofn C
- swm y credyd gwariant sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod ar y ddau gynhyrchiad yng ngholofn D
- swm unrhyw gredyd ychwanegol sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod ar y ddau gynhyrchiad yng ngholofn E
Er y dylech nodi cyfansymiau cyfunol yn y tabl hwn, dylai eich cyfrifiannau ddangos cyfrifiad manwl o’r holl ffigurau ar gyfer pob cynhyrchiad ar wahân.
P5 Ffilmiau
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl ffilmiau eich cwmni nad ydynt yn ffilmiau wedi’u hanimeiddio neu’n ffilmiau annibynnol fel a ganlyn:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol y gwariant byd-eang perthnasol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU
- yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y gwariant cymhwysol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y credyd gwariant sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn E, nodwch swm cyfunol y credyd ychwanegol ar gyfer effeithiau gweledol sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nid oes modd rhoi ffigur llai na sero yng ngholofn E. Os oes gennych gredyd ychwanegol negyddol ar gyfer effeithiau gweledol, peidiwch â’i nodi yng ngholofn E. Mae’n rhaid i chi dynnu swm y credyd ychwanegol negyddol o’r credyd gwariant sy’n cael ei hawlio yng ngholofn D.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
P10 Rhaglenni teledu o safon uchel
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl raglenni teledu o safon uchel eich cwmni fel a ganlyn:

P15 Rhaglenni teledu i blant
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl raglenni teledu plant eich cwmni fel a ganlyn:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol y gwariant byd-eang perthnasol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU
-
yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y gwariant cymhwysol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y credyd gwariant sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
P20 Animeiddio
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl gynyrchiadau wedi’u hanimeiddio eich cwmni. Mae hyn yn cynnwys rhaglenni teledu wedi’u hanimeiddio a ffilmiau wedi’u hanimeiddio:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol y gwariant byd-eang perthnasol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU
- yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y gwariant cymhwysol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y credyd gwariant sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
P25 Ffilmiau annibynnol
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl ffilmiau annibynnol eich cwmni. Mae ffilm yn un annibynnol os yw’r ffilm wedi cael tystysgrif o gyllid isel gan Sefydliad Ffilm Prydain (BFI). Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais am ardystiad Prydeinig a rhyddhad treth ar gael ar .
Yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol y gwariant byd-eang perthnasol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn. Noder na all hwn fod yn fwy na £15 miliwn fesul ffilm (darllenwch ).
Yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU.
Yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y gwariant cymhwysol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn.
Yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y credyd gwariant sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn. Noder na all hwn fod yn fwy na £6.36 miliwn fesul ffilm, oherwydd y terfyn o £15 miliwn ar wariant byd-eang perthnasol.
P30 Cyfanswm
Nodwch gyfansymiau blychau P5 i P25 ar gyfer pob colofn. Copïwch y ffigur yng ngholofn C i flwch P75. Copïwch y ffigur yng ngholofn D i flwch P80. Copïwch y ffigur yng ngholofn E i flwch P81.
Credyd Gwariant Gemau Fideo
Os oes gan eich cwmni gemau fideo y mae’n hawlio Rhyddhad Treth Gemau Fideo ar eu cyfer yn hytrach na Chredyd Gwariant Gemau Fideo, peidiwch â’u cynnwys yn yr adran hon — darllenwch o flwch P260 ymlaen.
Mae ‘gwariant byd-eang perthnasol’ yn golygu gwariant cynhyrchu sy’n wariant craidd ac nad yw’n wariant eithriedig. Mae’n wariant ‘ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ os yw’n cael ei ystyried wrth gyfrifo elw’r fasnach gynhyrchu ar wahân ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sy’n berthnasol i’r ffurflen atodol hon (darllenwch ).
Mae ‘gwariant byd-eang perthnasol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn sy’n wariant yn y DU’ yn golygu swm y gwariant o golofn A a wariwyd ar nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig (darllenwch ).
Mae ‘gwariant cymhwysol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ yn golygu’r swm a roddir gan gam 4 wrth gyfrifo swm y credyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sy’n berthnasol i’r ffurflen atodol hon (darllenwch ).
Mae ‘credyd gwariant sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ yn golygu’r swm a roddir gan gam 5 wrth gyfrifo swm y credyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sy’n berthnasol i’r ffurflen atodol hon (darllenwch ).
P35 Gemau fideo
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl gemau fideo eich cwmni fel a ganlyn:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol y gwariant byd-eang perthnasol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU
- yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y gwariant cymhwysol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y credyd gwariant sy’n ddyledus ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
P45 Cyfanswm
Copïwch y ffigurau ym mlwch P35 ar gyfer pob colofn. Copïwch y ffigur yng ngholofn C i flwch P85. Copïwch y ffigur yng ngholofn D i flwch P90.
Cyfyngiad cyn cam 1
Llenwch y rhan hon os yw’r naill neu’r llall yn berthnasol:
- mae gennych swm o gyfyngiad cam 2 a ddygwyd ymlaen o gyfnod cyfrifyddu blaenorol
- yn dymuno cynnwys swm o Gredyd Gwariant Clyweledol a Gemau Fideo sydd wedi’i ildio gan gwmnïau eraill sy’n rhan o grŵp
Darllenwch Lawlyfr mewnol CThEF CREC071100 — Adbryniant credyd gwariant: cyfyngiad cyn cam 1 (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
P50 Cyfyngiad cam 2 a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cyfrifyddu blaenorol neu symiau a ildiwyd o gwmnïau sy’n rhan o grŵp
Nodwch gyfanswm y cyfyngiadau cam 2 a ddygwyd ymlaen o gyfnodau cyfrifyddu blaenorol. Os ydych chi wedi llenwi tudalen atodol CT600P ar gyfer y cwmni hwn o’r blaen, gallwch gopïo’r ffigur o flwch P210 eich CT600P diweddaraf.
Gallwch hefyd gynnwys unrhyw AVEC neu VGEC a ildiwyd gan gwmnïau eraill sy’n rhan o grŵp, y gall eich cwmni ei ddefnyddio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn (darllenwch ac o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009).
Mae’n bosibl i chi wneud hyn hyd yn oed os nad ydych chi eich hun yn hawlio unrhyw ryddhadau’r diwydiannau creadigol yn y Ffurflen Dreth hon. Fodd bynnag, os byddwch yn dewis peidio â chynnwys rhai symiau Cam 2 neu 4 sydd wedi’u hildio yn y CT600P, mae’n rhaid cynnwys manylion y cwmni sy’n rhan o grŵp ac sy’n ildio yn eich cyfrifiannau o hyd.
Os byddwch yn cynnwys swm a ildiwyd, sicrhewch fod y cwmni sy’n ildio, sy’n rhan o grŵp, yn cynnwys y manylion yn ei gyfrifiannau fel y gall CThEF roi cyfrif am y credyd.
P55 Rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth
Nodwch y ffigur o flwch 475 eich ffurflen CT600, wedi i chi dynnu’r ffigur sydd ym mlwch 530 eich ffurflen CT600 ohono. Os yw’r ffigur ym mlwch 530 yn fwy n’r ffigur ym mlwch 475, nodwch 0.00 yn y blwch hwn.
Os na wnaethoch lenwi blwch 530, nodwch y ffigur o flwch 475 yn y blwch hwn.
P60 Swm Cam 2 a ddygwyd ymlaen ’r Credyd Gwariant Clyweledol a Gemau Fideo a ildiwyd ac a gafodd ei ddefnyddio i ryddhau rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth
Nodwch y swm lleiaf o flwch P50 neu P55. Copïwch y ffigur hwn i flwch P230.
P65 Swm Cam 2 a ddygwyd ymlaen ’r Credyd Gwariant Clyweledol a Gemau Fideo a gariwyd ymlaen
Nodwch y ffigur ym mlwch P50 llai’r ffigur ym mlwch P60. Copïwch y ffigur hwn i flwch P195.
P70 Rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth sy’n weddill i’w chario ymlaen i Gam 1
Nodwch y ffigur ym mlwch P55 llai’r ffigur ym mlwch P60. Copïwch y ffigur hwn i flwch P100.
Cam 1: cyfrifo Credyd Gwariant Clyweledol a Gemau Fideo a osodwyd yn erbyn rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth
Mae’r cam hwn yn defnyddio credyd gwariant sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu hwn i ryddhau unrhyw rwymedigaeth Treth Gorfforaeth sy’n weddill ar ôl y cyfyngiad cyn Cam 1. Os na wnaethoch chi gwblhau’r cyfyngiad cyn Cam 1, bydd rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth eich cwmni yn cael ei phennu ar sail y ffigurau ar eich ffurflen CT600.
Cewch ragor o arweiniad drwy ddarllen:
- llawlyfr mewnol CThEF CREC070100 — Adbryniant credyd gwariant: trosolwg (yn agor tudalen Saesneg)
- llawlyfr mewnol CThEF CREC071200 — Adbryniant Credyd Gwariant: Cam 1 (yn agor tudalen Saesneg)
P75 Gwariant cymhwysol y mae Credyd Gwariant Clyweledol yn cael ei hawlio arno yn y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nodwch y ffigur yng ngholofn C o flwch P30. Dyma gyfanswm y gwariant cymhwysol ar gyfer y cyfnod y mae Credyd Gwariant Clyweledol yn cael ei hawlio arno.
P80 Hawliad Credyd Gwariant Clyweledol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn (ac eithrio credyd ychwanegol ar gyfer effeithiau gweledol)
Nodwch y ffigur yng ngholofn D o flwch P30. Dyma gyfanswm y Credyd Gwariant Clyweledol y mae gan eich cwmni hawl iddo ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu.
P81 Credyd ychwanegol ar gyfer effeithiau gweledol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nodwch y ffigur yng ngholofn E o flwch P30. Dyma gyfanswm y credyd ychwanegol ar gyfer effeithiau gweledol y mae gan eich cwmni hawl iddo ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu.
P85 Gwariant cymhwysol yr hawlir VGEC arno yn y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nodwch y ffigur yng ngholofn C o flwch P45. Dyma gyfanswm y gwariant cymhwysol ar gyfer y cyfnod y mae VGEC yn cael ei hawlio arno.
P90 Hawliad VGEC ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nodwch y ffigur yng ngholofn D o flwch P45. Dyma gyfanswm yr VGEC y mae gan eich cwmni hawl iddo ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu.
P95 Cyfanswm y Credyd Gwariant Clyweledol a Gemau Fideo ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu
Nodwch swm blychau P80, P81 ac P90.
P100 Rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth sy’n weddill
Nodwch y ffigur o flwch P70. Os na wnaethoch lenwi blwch P70, nodwch y ffigur o flwch 475 eich ffurflen CT600 wedi i chi dynnu’r ffigur sydd ym mlwch 530 eich ffurflen CT600 ohono. Os yw’r ffigur ym mlwch 530 yn fwy n’r ffigur ym mlwch 475, nodwch 0.00 yn y blwch hwn.
Os na wnaethoch lenwi blwch P70 na blwch 530, nodwch y ffigur o flwch 475 yn y blwch hwn.
P105 Treth Incwm a ddidynnwyd o elw (sy’n berthnasol i rwymedigaeth Treth Gorfforaeth)
Nodwch yr elfen o Dreth Incwm a ddidynnwyd o elw gros, fel y dangosir ym mlwch 515, y mae angen ei osod yn erbyn y rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth ym mlwch 475. Hwn fydd y swm llawn os nad oes unrhyw rwymedigaeth arall ym mlychau 480 i 505.
Os oes rhwymedigaethau eraill ym mlychau 480 i 505, gellir gwneud dosraniad teg a rhesymol rhwng y rhwymedigaethau hynny ’r rhwymedigaeth ym mlwch 475. Dim ond y rhwymedigaeth sy’n cael ei ddosrannu yn erbyn blwch 475 y dylid ei nodi yn y blwch hwn.
P110 Yr uchafswm sydd ar gael ar gyfer gwrthbwysiad Cam 1
Nodwch y ffigur ym mlwch P100 llai’r ffigur ym mlwch P105.
P115 Swm y Credyd Gwariant Clyweledol a Gemau Fideo a ddefnyddiwyd i ryddhau’r Dreth Gorfforaeth ar Gam 1
Nodwch y swm lleiaf o flwch P95 neu P110. Copïwch y ffigur hwn i flwch P235.
Cam 2: cyfrifo’r tâl treth tybiannol
Mae’r cam hwn yn sicrhau bod y rhai sy’n gwneud colled yn cael yr un budd net â’r rhai sy’n gwneud elw, drwy gymhwyso tâl treth tybiannol i’r credyd os nad yw eisoes wedi cael ei leihau’n ddigonol gan y rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth yng Ngham 1. Mae hyn yn gwneud cyfanswm y budd arian parod ar gyfer pob hawliwr yn hafal i’r credyd gwariant net, heb dreth ar brif gyfradd Treth Gorfforaeth.
Darllenwch lawlyfr mewnol CThEF CREC071300 — Adbryniant credyd gwariant: Cam 2 (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
P120 Balans Cam 1 a gariwyd ymlaen i Gam 2
Nodwch y ffigur ym mlwch P95 llai’r ffigur ym mlwch P115.
P125 Tâl Treth Gorfforaeth ar AVEC ac VGEC ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nodwch y ffigur ym mlwch P95 wedi’i luosi gan brif gyfradd Treth Gorfforaeth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn.
P130 Cyfanswm yr AVEC ’r VGEC sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu hwn llai’r tâl Treth Gorfforaeth ar yr AVEC ’r VGEC ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nodwch y ffigur ym mlwch P95 llai’r ffigur ym mlwch P125.
P135 AVEC ac VGEC sy’n codi yn y cyfnod cyfrifyddu hwn, llai’r rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth sy’n weddill yng Ngham 1
Nodwch y ffigur ym mlwch P95 llai’r ffigur ym mlwch P110. Os yw’r ffigur ym mlwch P110 yn fwy n’r ffigur ym mlwch P95, nodwch 0.00.
140 Cyfyngiad Cam 2 a gariwyd ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf
Nodwch y ffigur ym mlwch P135 llai’r ffigur ym mlwch P130. Os yw’r ffigur ym mlwch P130 yn fwy n’r ffigur ym mlwch P135, nodwch 0.00.
Copïwch y ffigur hwn i flwch P200.
Cam 3: Credyd Gwariant Clyweledol neu Gemau Fideo i’w wrthbwyso yn erbyn rhwymedigaethau Treth Gorfforaeth sydd heb eu talu
Defnyddir unrhyw swm sy’n weddill ar ôl Cam 2 i ryddhau unrhyw rwymedigaethau Treth Gorfforaeth y cwmni sydd heb eu talu ar gyfer unrhyw gyfnodau cyfrifyddu eraill. Mae rhwymedigaeth yn golygu unrhyw swm o Dreth Gorfforaeth sy’n ddyledus ond heb gael ei setlo.
Darllenwch lawlyfr mewnol CThEF CREC071500 — Adbryniant credyd gwariant: Cam 3 (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
P145 Balans Cam 2 a gariwyd ymlaen i Gam 3
Nodwch y ffigur ym mlwch P120 llai’r ffigur ym mlwch P140.
P150 Swm a ddefnyddiwyd i ryddhau rhwymedigaeth Treth Gorfforaeth cyfnod cyfrifyddu arall
Ni all y ffigur fod yn fwy n’r ffigur ym mlwch P145.
Cam 4: y swm a ildiwyd i aelod o grŵp
Os yw’r cwmni’n aelod o grŵp, gall ildio’r cyfan, neu unrhyw ran sy’n weddill ar ôl Cam 3, i unrhyw aelod arall o’r grŵp. Mae’r cam hwn yn ddewisol — gall eich cwmni ddewis peidio ag ildio unrhyw swm.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
- llawlyfr mewnol CThEF CREC071600 — Adbryniant Credyd Gwariant: Cam 4 (yn agor tudalen Saesneg)
- Llawlyfr mewnol CThEF CREC072000 — Adbryniant credyd gwariant: trin symiau a ildiwyd i aelodau o grŵp (yn agor tudalen Saesneg)
P155 Balans Cam 3 a gariwyd ymlaen i Gam 4
Nodwch y ffigur ym mlwch P145 llai’r ffigur ym mlwch P150.
P160 Credyd a ildiwyd i aelod o grŵp
Ni all y ffigur fod yn fwy n’r ffigur ym mlwch P155. Copïwch y ffigur hwn i flwch P220. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiannau gynnwys manylion y cwmni arall/cwmnïau eraill sy’n rhan o’r grŵp rydych yn ildio’r credyd iddo/iddynt.
Cam 5: Swm a ddefnyddir i ryddhau unrhyw rwymedigaeth arall y cwmni
Defnyddir unrhyw swm sy’n weddill ar ôl Cam 4 i ryddhau’r cwmni rhag unrhyw rwymedigaeth arall i dalu swm i’r Comisiynwyr, er enghraifft rhwymedigaethau TAW neu symiau o dan unrhyw setliad contract.
Darllenwch lawlyfr mewnol CThEF CREC071700 — Adbryniant credyd gwariant: Cam 5 (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
P165 Balans Cam 4 a gariwyd ymlaen i Gam 5
Nodwch y ffigur ym mlwch P155 llai’r ffigur ym mlwch P160.
P170 Swm a ddefnyddiwyd i ryddhau rhwymedigaeth arall y cwmni ar yr Hunanasesiad hwn ar gyfer Treth Gorfforaeth
Nodwch y swm a ddefnyddiwyd i ryddhau rhwymedigaethau ar Ffurflen Dreth eich cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn, gan gynnwys y rhai nad ydynt yn Dreth Gorfforaeth ond sy’n cael eu trin felly. Er enghraifft: Ardoll Banc, treth cwmni tramor rheoledig, a threth ar fenthyciadau i gyfranogwyr.
Ni all y ffigur fod yn fwy n’r ffigur ym mlwch P165. Copïwch y ffigur hwn i flwch P240.
P175 Swm a ddefnyddiwyd i ryddhau unrhyw rwymedigaeth arall y cwmni
Nodwch y swm a ddefnyddiwyd i ryddhau unrhyw rwymedigaethau eraill y tu hwnt i Dreth Gorfforaeth. Er enghraifft: TWE neu TAW.
Ni all y ffigur fod yn fwy n’r ffigur ym mlwch P165 llai’r ffigur ym mlwch P170.
P180 Y cyfanswm a ddefnyddiwyd i ryddhau rhwymedigaeth arall y cwmni
Nodwch swm blychau P170 ac P175.
Cam 6: Credyd Gwariant Clyweledol a Gemau Fideo sy’n daladwy
Mae’r swm terfynol sy’n weddill yn daladwy i’r cwmni, ar yr amod nad yw’r cwmni yn nwylo’r gweinyddwyr nac yn cael ei ddatod pan fydd Ffurflen Dreth y Cwmni CT600 yn cael ei chyflwyno.
Darllenwch lawlyfr mewnol CThEF CREC071800 — Adbryniant credyd gwariant: Cam 6 a thalu (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
P185 Symiau nad ydynt yn daladwy oherwydd Adran 1179CG o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2009
Nodwch y swm cyfan na chafodd ei ganiatáu gan (y rheolau o ran gweinyddwyr/datod), os yn berthnasol.
P190 Credyd Gwariant Clyweledol a Gemau Fideo sy’n daladwy
Nodwch y ffigur ym mlwch P165 llai swm blychau P180 ac P185. Copïwch y ffigur hwn i flwch 886 ar eich ffurflen CT600, oni bai ei fod yn sero.
Credyd Gwariant Clyweledol a Gemau Fideo a gariwyd ymlaen
Mae’r adran hon yn galluogi eich cwmni i ildio symiau o gredyd sydd o dan gyfyngiadau Cam 2 i gwmnïau eraill yn yr un grŵp. Fel Cam 4, mae hyn yn ddewisol, a gall eich cwmni ddewis ildio rhywfaint, y cyfan neu ddim o’r credyd sydd ar gael ganddo.
Bydd credyd nad yw’n cael ei ildio yn cael ei gario ymlaen a gellir ei ddefnyddio i ryddhau rhwymedigaethau Treth Gorfforaeth eich cwmni mewn cyfnodau cyfrifyddu yn y dyfodol, ar adeg y cyfyngiad cyn Cam 1.
Darllenwch lawlyfr mewnol CThEF CREC071400 — Adbryniant credyd gwariant: trin symiau a gadwyd yn ôl yng Ngham 2 (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
P195 Cyfyngiad cyn Cam 1
Nodwch y ffigur o flwch P65. Gall y ffigur hwn ond cynnwys symiau a gariwyd ymlaen ac na chawsant eu defnyddio yng Ngham 2. Ni all gynnwys swm unrhyw ildiad o gwmnïau sy’n rhan o grŵp.
P200 Cyfyngiad Cam 2
Nodwch y ffigur o flwch P140.
P205 Swm a ildiwyd i gwmni arall sy’n rhan o grŵp
Ni all y ffigur fod yn fwy na swm blychau P195 a P200. Copïwch y ffigur hwn i flwch P215. Mae’n rhaid i’ch cyfrifiannau gynnwys manylion y cwmni arall/cwmnïau eraill sy’n rhan o’r grŵp rydych yn ildio’r credyd iddo/iddynt.
P210 Y cyfanswm a gariwyd ymlaen i’r cyfnod cyfrifyddu nesaf
Nodwch swm blychau P195 a P200 llai’r ffigur ym mlwch P205.
Credyd Gwariant Clyweledol a Gemau Fideo a ildiwyd
P215 Cyfyngiad Cam 2 a ildiwyd
Nodwch y ffigur o flwch P205.
P220 Credyd Cam 4 a ildiwyd i aelod o grŵp
Nodwch y ffigur o flwch P160.
P225 Y cyfanswm a ildiwyd
Nodwch swm blychau P215 ac P220.
Cyfanswm y credydau i’w rhyddhau yn erbyn rhwymedigaethau yn Ffurflen Dreth y Cwmni
P230 | Swm rhyddhau AVEC ac VGEC cyn Cam 1
Nodwch y ffigur o flwch P60.
P235 Swm rhyddhau AVEC ac VGEC Cam 1
Nodwch y ffigur o flwch P115.
P240 Swm rhyddhau AVEC ac VGEC Cam 5 ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nodwch y ffigur o flwch P170.
P245 Cyfanswm
Nodwch swm blychau P230, P235 ac P240. Copïwch y ffigur hwn i flwch 541 ar eich ffurflen CT600.
P250 Manylion yr AVEC ac VGEC a ildiwyd
Mae angen i chi lenwi’r adran hon os ydych yn ildio unrhyw swm o gredyd gan ddefnyddio blwch P205 a/neu flwch P160. Dylech gynnwys manylion pob cwmni sy’n cael swm sydd wedi’i ildio.
Ar gyfer pob ildiad, nodwch y canlynol:
- enw’r cwmni sy’n cael y swm sydd wedi’i ildio
- cyfeirnod treth y cwmni hwnnw (a elwir yn Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr neu’n rhif UTR)
- dyddiad dechrau a dod i ben cyfnod cyfrifyddu’r cwmni hwnnw. Gall hwn fod yn wahanol i’r cyfnod sy’n cael ei gwmpasu ar Ffurflen Dreth eich cwmni, ond mae’n rhaid i o leiaf un diwrnod orgyffwrdd rhwng y cyfnodau
- y swm a ildiwyd
Os ydych chi’n ildio credyd i’r un cwmni ar gyfer sawl cyfnod cyfrifyddu gwahanol ar gyfer y cwmni hwnnw, gwnewch gofnod yn y tabl ar gyfer pob cyfnod.
Darllenwch lawlyfr mewnol CThEF CREC072000 — Adbryniant credyd gwariant: trin symiau a ildiwyd i aelodau o grŵp (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth.
P255 Y cyfanswm a ildiwyd
Nodwch gyfanswm colofn D yn nhabl P250 ar gyfer y swm a ildiwyd. Dylai’r ffigur hwn gyfateb i’r ffigur ym mlwch P225.
Rhyddhad treth ffilm, teledu o safon uchel, teledu i blant, animeiddio a gemau fideo
Os oes gan eich cwmni ffilmiau, rhaglenni teledu neu gemau fideo y mae’n hawlio Credydau Gwariant Clyweledol neu Gemau Fideo ar eu cyfer yn hytrach nag un o’r rhyddhadau treth blaenorol, peidiwch â’u cynnwys yn yr adran hon — darllenwch o flwch P5 ymlaen.
Os dechreuodd eich cynhyrchiad ar 1 Ebrill 2025 neu ar ôl hynny, mae’n rhaid i chi hawlio Credydau Gwariant Clyweledol neu Gemau Fideo yn hytrach n’r rhyddhadau treth. Mae’n rhaid i bob cynhyrchiad sy’n weddill drosglwyddo i’r credydau gwariant o 1 Ebrill 2027 ymlaen. Nid yw’r adran hon ar gael ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Ar gyfer ffilmiau a rhaglenni teledu, mae gwariant craidd yn golygu gwariant ar gyn-gynhyrchu, prif ffotograffiaeth ac ôl-gynhyrchu.
Ar gyfer gemau fideo, mae gwariant craidd yn golygu gwariant ar ddylunio, cynhyrchu a phrofi gêm. Peidiwch â chynnwys unrhyw gostau isgontractwyr sy’n uwch n’r cap o £1 miliwn ar gyfer gemau fideo ac nad ydynt felly’n wariant cymhwysol (darllenwch ).
Mae gwariant craidd yn golygu gwariant ‘ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ os yw’n cael ei ystyried wrth gyfrifo elw’r fasnach gynhyrchu ar wahân ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sy’n berthnasol i’r ffurflen atodol hon.
Ar gyfer ffilmiau a rhaglenni teledu, mae ‘gwariant craidd yn y DU ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ yn golygu cyfanswm y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn a wariwyd ar nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig. Darllenwch:
- , ar gyfer ffilmiau
- , ar gyfer rhaglenni teledu
Ar gyfer gemau fideo, defnyddir gwariant Ewropeaidd yn hytrach na gwariant yn y DU. Nodwch gyfanswm y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn a wariwyd ar nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd o’r Deyrnas Unedig neu’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (darllenwch ).
Mae’r ‘didyniad ychwanegol’ yn golygu’r swm a roddir gan:
- , i gael ffilmiau
- , ar gyfer rhaglenni teledu
- , ar gyfer gemau fideo
Cyfrifir y didyniad ychwanegol ar gyfer pob cyfnod rhoi cyfrif. Os yw cyfnod rhoi cyfrif eich cwmni dros 12 mis o hyd ac yn cael ei gwmpasu gan sawl cyfnod cyfrifyddu, dylech ddosrannu’r didyniad ychwanegol rhwng y cyfnodau cyfrifyddu. Dim ond y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn y dylech ei gynnwys yn y tabl.
Mae’r ‘colledion a ildiwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ yn golygu’r swm a roddir gan:
- , ar gyfer ffilmiau
- , ar gyfer rhaglenni teledu
- , ar gyfer gemau fideo
Mae’r ‘credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ yn golygu’r swm a roddir gan:
- , ar gyfer ffilmiau
- , ar gyfer rhaglenni teledu
- , ar gyfer gemau fideo
Ym mhob rhes o’r tabl, dylech nodi cyfanswm cyfunol y canlynol:
- cyfanswm y gwariant craidd
- gwariant craidd yn y DU (Ewropeaidd ar gyfer gemau fideo)
- didyniad ychwanegol
- y colledion a ildiwyd
- y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer eich holl gynyrchiadau sydd yn yr un categori
Er enghraifft, os yw eich cwmni wedi cynhyrchu 2 ffilm, dylech gynnwys swm:
- cyfanswm gwariant craidd y ddwy ffilm ar gyfer y cyfnod ym mlwch P260 colofn A
- eu gwariant craidd yn y DU ar gyfer y cyfnod yng ngholofn B
- eu didyniadau ychwanegol ar gyfer y cyfnod yng ngholofn C
- y colledion a ildiwyd yng ngholofn D
- y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod ar y ddau gynhyrchiad yng ngholofn E
Er y dylech nodi cyfansymiau cyfunol yn y tabl hwn, dylai eich cyfrifiannau ddangos cyfrifiad manwl o’r holl ffigurau ar gyfer pob cynhyrchiad ar wahân.
P260 Ffilmiau
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl ffilmiau eich cwmni, gan gynnwys ffilmiau wedi’u hanimeiddio, fel a ganlyn:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol cyfanswm y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU
- yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y colledion a ildiwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn E, nodwch swm cyfunol y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
P265 Teledu o safon uchel
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl raglenni teledu o safon uchel eich cwmni fel a ganlyn:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol cyfanswm y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU
- yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y colledion a ildiwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn E, nodwch swm cyfunol y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
P270 Teledu i blant
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl raglenni teledu i blant eich cwmni fel a ganlyn:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol cyfanswm y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU
- yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y colledion a ildiwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn E, nodwch swm cyfunol y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
P275 Animeiddio
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl raglenni teledu wedi’u hanimeiddio eich cwmni. Peidiwch â chynnwys ffilmiau wedi’u hanimeiddio.
Yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol cyfanswm y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn.
Yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU.
Yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn.
Yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y colledion a ildiwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn.
Yng ngholofn E, nodwch swm cyfunol y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn.
P280 Gemau fideo
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl gemau fideo eich cwmni fel a ganlyn:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol cyfanswm y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant Ewropeaidd
- yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y colledion a ildiwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn E, nodwch swm cyfunol y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
P285 Cyfanswm
Nodwch gyfansymiau blychau P260 i P280 ar gyfer pob colofn.
Rhyddhadau diwylliannol
Diffinnir gwariant craidd yn:
- , ar gyfer cynyrchiadau theatraidd
- , ar gyfer cynyrchiadau cerddorfaol
- , ar gyfer arddangosfeydd amgueddfeydd ac orielau
Mae gwariant craidd yn golygu gwariant ‘ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ os yw’n cael ei ystyried wrth gyfrifo elw’r fasnach gynhyrchu ar wahân ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu sy’n berthnasol i’r ffurflen atodol hon.
Mae ‘gwariant craidd yn y DU ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ yn golygu cyfanswm y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn a wariwyd ar nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio yn y Deyrnas Unedig. Darllenwch:
- , ar gyfer cynyrchiadau theatraidd
- , ar gyfer cynyrchiadau cerddorfaol
- , ar gyfer arddangosfeydd amgueddfeydd ac orielau
Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau cyn 1 Ebrill 2025, efallai y bydd angen i chi gynnwys gwariant Ewropeaidd yn hytrach na gwariant yn y DU, ar gyfer rhan o’r cyfnod neu’r cyfnod cyfan. Mae gwariant Ewropeaidd yn golygu gwariant ar nwyddau a gwasanaethau a ddarparwyd o’r Deyrnas Unedig ’r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch y canlynol:
- llawlyfr mewnol CThEF TTR50090 — Gwariant cymwys: Gwariant Ewropeaidd ac yn y DU - rheolau trosiannol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer cynyrchiadau theatraidd
- Llawlyfr mewnol CThEF OTR60070 — Rhyddhad Treth Cerddorfeydd: gwariant cymwys: Gwariant Ewropeaidd ac yn y DU - rheolau trosiannol (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer cynyrchiadau cerddorfaol
- Llawlyfr mewnol CThEF MGETR60070 — Rhyddhad Treth Arddangosfeydd Orielau ac Amgueddfeydd: gwariant cymwys: Gwariant Ewropeaidd ac yn y DU - rheolau trosiannol(yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer arddangosfeydd amgueddfeydd ac orielau
Mae’r ‘didyniad ychwanegol’ yn golygu’r swm a roddir gan:
- , ar gyfer cynyrchiadau theatraidd
- , ar gyfer cynyrchiadau cerddorfaol
- , ar gyfer arddangosfeydd amgueddfeydd ac orielau
Cyfrifir y didyniad ychwanegol ar gyfer pob cyfnod rhoi cyfrif. Os yw cyfnod rhoi cyfrif eich cwmni dros 12 mis o hyd ac yn cael ei gwmpasu gan sawl cyfnod cyfrifyddu, dylech ddosrannu’r didyniad ychwanegol rhwng y cyfnodau cyfrifyddu. Dim ond y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn y dylech ei gynnwys yn y tabl.
Mae’r ‘colledion a ildiwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ yn golygu’r swm a roddir gan:
- , ar gyfer cynyrchiadau theatraidd
- , ar gyfer cynyrchiadau cerddorfaol
- , ar gyfer arddangosfeydd amgueddfeydd ac orielau
Mae’r ‘credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn’ yn golygu’r swm a roddir gan:
- , ar gyfer cynyrchiadau theatraidd
- , ar gyfer cynyrchiadau cerddorfaol
- , ar gyfer arddangosfeydd amgueddfeydd ac orielau
Ym mhob rhes o’r tabl, dylech nodi cyfanswm cyfunol cyfanswm y gwariant craidd, gwariant craidd yn y DU, y didyniad ychwanegol, y colledion a ildiwyd, ’r credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer eich holl gynyrchiadau sydd yn yr un categori.
Er enghraifft, os yw eich cwmni wedi cynhyrchu 2 gynhyrchiad theatraidd, dylech gynnwys swm:
- cyfanswm gwariant craidd y ddau gynhyrchiad ar gyfer y cyfnod ym mlwch P290 colofn A
- eu gwariant craidd yn y DU yng ngholofn B
- eu didyniadau ychwanegol ar gyfer y cyfnod yng ngholofn C
- y colledion a ildiwyd yng ngholofn D
- y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod ar y ddau gynhyrchiad yng ngholofn E
Er y dylech nodi cyfansymiau cyfunol yn y tabl hwn, dylai eich cyfrifiannau ddangos cyfrifiad manwl o’r holl ffigurau ar gyfer pob cynhyrchiad ar wahân.
P290 Theatr
Mae cynyrchiadau theatr yn cynnwys cynyrchiadau dramatig, dramâu, operâu, sioeau cerdd a bale. Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl gynyrchiadau theatraidd eich cwmni fel a ganlyn:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU — cofiwch ei bod yn bosibl y bydd angen i chi gynnwys gwariant Ewropeaidd mewn rhai achosion
- yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y colledion a ildiwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn E, nodwch swm cyfunol y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
P295 Cerddorfa
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl gynyrchiadau cerddorfaol eich cwmni fel a ganlyn:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU — cofiwch ei bod yn bosibl y bydd angen i chi gynnwys gwariant Ewropeaidd mewn rhai achosion
- yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y colledion a ildiwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn E, nodwch swm cyfunol y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
P300 Arddangosfeydd orielau ac amgueddfeydd
Ym mhob colofn, dylech gynnwys y cyfanswm cyfunol ar gyfer holl arddangosfeydd eich cwmni mewn amgueddfeydd neu orielau fel a ganlyn:
- yng ngholofn A, nodwch swm cyfunol y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn B, nodwch swm cyfunol y gwariant o golofn A sy’n wariant yn y DU — cofiwch ei bod yn bosibl y bydd angen i chi gynnwys gwariant Ewropeaidd mewn rhai achosion
- yng ngholofn C, nodwch swm cyfunol y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn D, nodwch swm cyfunol y colledion a ildiwyd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
- yng ngholofn E, nodwch swm cyfunol y credyd treth sy’n cael ei hawlio ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
P305 Cyfanswm
Nodwch gyfansymiau blychau P290 i P300 ar gyfer pob colofn.
Rhyddhadau diwylliannol a rhyddhad treth ar gyfer ffilm, teledu o safon uchel, teledu i blant, animeiddio a gemau fideo
P310 Cyfanswm y gwariant craidd ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nodwch swm blychau P285A ac P305A. Copïwch y ffigur hwn i flwch 663 ar eich Ffurflen CT600.
P315 Cyfanswm y didyniad ychwanegol ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nodwch swm blychau P285C ac P305C. Copïwch y ffigur hwn i flwch 665 ar eich Ffurflen CT600.
P320 Cyfanswm yr hawliad am gredyd treth ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn
Nodwch swm blychau P285E ac P305E.
P325 Credyd treth taladwy a osodwyd yn erbyn rhwymedigaethau eraill ar y Ffurflen Dreth hon
Ni all y ffigur fod yn fwy n’r ffigur ym mlwch P320. Copïwch y ffigur hwn i flwch 540 ar eich Ffurflen CT600.
P330 Balans y credyd treth sy’n daladwy
Nodwch y ffigur ym mlwch P320 llai’r ffigur ym mlwch P325. Copïwch y ffigur hwn i flwch 885 ar eich ffurflen CT600, oni bai ei fod yn sero.
Updates to this page
-
A Welsh translation has been added.
-
First published.