°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Anfon diweddariadau chwarterol

Sut a phryd i anfon diweddariad-au chwarterol, yn seiliedig ar eich cyfnod cyfrifyddu.

Am ddiweddariadau chwarterol 

Bob 3 mis, bydd eich meddalwedd sy’n cydweddu yn ychwanegu eich cofnodion digidol at ei gilydd ar gyfer pob busnes sydd gennych.ÌýMae hyn yn creu cyfansymiau ar gyfer eich incwm a’ch treuliau hunangyflogaeth ac eiddo.ÌýGelwir y rhain yn ddiweddariadau chwarterol — crynodebau ydyn nhw, nid Ffurflenni Treth.Ìý

Mae angen i chi anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF bob 3 mis ar gyfer pob busnes hunangyflogaeth ac eiddo sydd gennych.Ìý 

Nid oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau cyfrifyddu na threth cyn anfon diweddariad chwarterol.Ìý

Mae’r cyfnodau diweddaru a’r dyddiad cau wedi’u nodi yn y canllaw hwn, a bydd eich meddalwedd yn rhoi gwybod pryd a sut i anfon diweddariadau.Ìý

Beth fydd yn cael ei anfon yn eich diweddariadau chwarterol 

Bydd eich diweddariadau chwarterol yn cynnwys cyfansymiau ar gyfer pob categori incwm a threuliau rydych wedi’u defnyddio ar gyfer eich incwm hunangyflogaeth ac eiddo.Ìý

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn defnyddio’r un categorïau incwm a threuliau â Hunanasesiad.ÌýGallwch ddarllen rhagor am y categorïau y dylech eu defnyddio yn y Cyfarwyddyd diweddariad chwarterol ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).Ìý

Ni fydd CThEF yn cael manylion cofnodion digidol unigol, megis derbynneb neu anfoneb.Ìý

Mae pob diweddariad chwarterol yn cwmpasu’r cyfnod o ddechrau’r flwyddyn dreth hyd at ddiwedd y cyfnod diweddaru.ÌýCaiff y rhain eu cyfrifo’n awtomatig gan eich meddalwedd i chi eu gwirio cyn eu hanfon.

Os nad ydych wedi cael unrhyw incwm nac wedi mynd i unrhyw gostau yn ystod y cyfnod diweddaru diwethaf, mae’n rhaid i chi anfon eich diweddariad chwarterol o hyd i hysbysu CThEF.

Ar ôl i chi anfon diweddariad

Ar ôl anfon diweddariad, byddwch yn gallu cael amcangyfrif o’ch bil treth ar gyfer eich incwm hunangyflogaeth ac eiddo yn eich meddalwedd, neu yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF. Fel rhan o’ch amcangyfrif, bydd CThEF yn cynnwys unrhyw wybodaeth arall sydd ganddo eisoes.Ìý

Er enghraifft, os ydych yn ad-dalu benthyciad myfyriwr neu fenthyciad ôl-raddedig, caiff eich cynllun neu fath o fenthyciad ei ychwanegu’n awtomatig i gyfrifo’ch ad-daliadau.ÌýGallwch gael rhagor o wybodaeth am hysbysu CThEF am fenthyciad myfyriwr neu ôl-raddedig yn eich ffurflen dreth.Ìý

Gall eich amcangyfrif fod yn llai cywir os oes gennych ffynonellau incwm eraill nad ydych wedi dweud wrth CThEF amdanynt eto, neu os nad yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth.Ìý

Ffynonellau incwm eraill 

Yn dibynnu ar y feddalwedd rydych yn ei defnyddio a’r ffynonellau incwm sydd gennych, efallai y gallwch ychwanegu ffynonellau incwm eraill yn eich meddalwedd yn ystod y flwyddyn dreth, er enghraifft llog cynilion.Ìý 

Ni fydd y ffynonellau incwm eraill hyn yn cael eu cynnwys yn eich diweddariadau chwarterol, ond os dewiswch eu cofnodi yn eich meddalwedd yn ystod y flwyddyn dreth, bydd gennych ddelwedd fwy cyflawn o’ch sefyllfa dreth.ÌýMae hyn oherwydd y bydd yr amcangyfrif o’r bil treth a welwch pan fyddwch yn anfon diweddariad chwarterol yn cynnwys yr incwm hwn.Ìý

Er enghraifft, os ydych yn landlord sy’n gyflogedig ac sydd hefyd ag incwm o log cynilion, bydd eich amcangyfrif o’r bil treth yn seiliedig ar: 

  • incwm a threuliau eiddo, pan fyddwch yn anfon y cyfansymiau hynny yn eich diweddariadau chwarterol 

  • incwm o gyflogaeth (TWE) a ychwanegir gan CThEF  

  • incwm o log cynilion, os dewiswch ei ychwanegu  

Os na allwch gofnodi ffynonellau incwm eraill yn eich meddalwedd yn ystod y flwyddyn dreth, neu os byddwch yn dewis peidio â gwneud hynny, bydd angen i chi eu hychwanegu cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.Ìý

Os ydych yn gosod eiddo ar y cyd 

Ar gyfer eiddo a osodir ar y cyd, yn eich diweddariadau chwarterol gallwch ddewis cynnwys naill ai: 

  • incwm a threuliau eiddo 

  • incwm eiddo yn unig 

Os byddwch yn dewis peidio â chynnwys eich treuliau ar gyfer eiddo a osodir ar y cyd, mae’n rhaid i chi eu hadrodd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth. Gwnewch hyn drwy ail-anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.Ìý

Os ydych hefyd yn berchen ar eiddo arall ar eich pen eich hun, mae angen i chi gynnwys incwm a threuliau eiddo ar gyfer yr eiddo hynny yn eich diweddariadau chwarterol.Ìý 

Cyfnodau diweddaru a therfynau amser  

Mae 2 fath o gyfnodau diweddaru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm:  

  • cyfnodau diweddaru safonol — mae’r rhain yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill)  

  • cyfnodau diweddaru calendr — sy’n cwmpasu’r cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth  

Mae’r dyddiadau y mae’ch cyfnod diweddaru yn eu cwmpasu yn dibynnu ar a ydych yn defnyddio cyfnodau safonol neu galendr, ond mae’r terfyn amser i anfon eich diweddariad yr un fath.Ìý

Bob tro y byddwch yn anfon diweddariad chwarterol, bydd yn cwmpasu’r cyfnod o ddechrau’r flwyddyn dreth hyd at ddiwedd y cyfnod diweddaru, nid dim ond y tri mis blaenorol. Mae hyn yn golygu y gallwch gywiro’ch cofnodion heb orfod ail-anfon diweddariadau blaenorol.Ìý

Os oes gennych asiant, gallent ddweud wrthych ba gyfnod diweddaru i’w ddefnyddio os nad ydych yn siŵr.

Cyfnodau diweddaru safonol  

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn cyd-fynd â’r flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill), dylech ddefnyddio cyfnodau diweddaru safonol.Ìý

Mae’r tabl hwn yn dangos y dyddiau ar gyfer y cyfnodau diweddaru safonol ochr yn ochr â’r dyddiad cau ar gyfer y diweddariadau chwarterol.Ìý

Cyfnodau diweddaru safonol Dyddiad cau diweddaru
6 Ebrill i 5 Gorffennaf 7 Awst
6 Ebrill i 5 Hydref 7 Tachwedd
6 Ebrill i 5 Ionawr 7 Chwefror
6 Ebrill i 5 Ebrill 7 Mai (y flwyddyn dreth ganlynol)

Cyfnodau diweddaru calendr  

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn cwmpasu 1 Ebrill i 31 Mawrth, dylech ystyried defnyddio cyfnodau diweddaru calendr. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i chi gadw cofnodion.Ìý 

Bydd angen i chi ddewis cyfnodau diweddaru calendr ar gyfer pob ffynhonnell incwm yn eich meddalwedd cyn i chi anfon eich diweddariad chwarterol cyntaf. Bydd cyfnodau diweddaru calendr yn parhau i fod yn berthnasol oni bai eich bod yn penderfynu newid yn ôl i gyfnodau diweddaru safonol.Ìý

Ni allwch newid y cyfnodau diweddaru rydych yn eu defnyddio ar gyfer blwyddyn dreth ar ôl i chi anfon diweddariad chwarterol.Ìý

Mae’r tabl hwn yn dangos y dyddiadau ar gyfer y cyfnodau diweddaru calendr ochr yn ochr â’r dyddiadau cau ar gyfer diweddariadau chwarterol.Ìý 

Cyfnod diweddaru calendr Dyddiad cau ar gyfer diweddaru
1 Ebrill i 30 Mehefin 7 Awst
1 Ebrill i 30 Medi 7 Tachwedd
1 Ebrill i 31 Rhagfyr 7 Chwefror
1 Ebrill i 31 Mawrth 7 Mai (y flwyddyn dreth ganlynol)

Pryd i anfon diweddariad 

Nid oes rhaid i chi anfon eich diweddariad ar ddiwrnod y terfyn amser.ÌýGallwch anfon diweddariad chwarterol unrhyw bryd o ddiwedd y cyfnod diweddaru hyd at y terfyn amser.Ìý 

Gallwch hefyd anfon diweddariad hyd at 10 diwrnod cyn diwedd y cyfnod diweddaru os nad ydych yn disgwyl cofnodi unrhyw drafodion pellach.Ìý 

Er enghraifft, efallai eich bod yn mynd ar wyliau ac yn gwybod na fyddwch yn gweithio am weddill y cyfnod ac na fyddwch yn cael unrhyw incwm pellach.Ìý

Os byddwch yn methu terfyn amser ar gyfer anfon diweddariad 

Os byddwch yn methu terfynau amser diweddariadau chwarterol, efallai y cewch gosb am gyflwyno’n hwyr — mae’r rhain yn seiliedig ar bwyntiau.ÌýOs byddwch yn cyrraedd trothwy pwyntiau cosb, cewch gosb o £200.Ìý

Mae’r trothwyon pwyntiau yn dibynnu ar a yw’n ofynnol i chi ddefnyddio Cadw cofnodion yn ddigidol ar gyfer Treth Incwm neu a ydych yn gwirfoddoli.Ìý

Blwyddyn dreth 2026 i 2027 

Ni fydd CThEF yn cymhwyso pwyntiau cosb am ddiweddariadau chwarterol hwyr yn ystod blwyddyn dreth 2026 i 2027.Ìý 

Bydd angen i chi anfon eich diweddariadau chwarterol cyn y gallwch gyflwyno’ch ffurflen dreth.Ìý

Bydd pwyntiau cosb yn dal i fod yn berthnasol ar gyfer Ffurflenni Treth hwyr ar gyfer y flwyddyn dreth hon.Ìý

Ar ôl blwyddyn dreth 2026 i 2027 

Os na fyddwch yn anfon eich diweddariad chwarterol erbyn y terfyn amser perthnasol, cewch bwynt cosb am gyflwyno’n hwyr.ÌýOs byddwch yn cyrraedd 4 pwynt, cewch gosb o £200.ÌýBydd pwyntiau cosb hefyd yn berthnasol ar gyfer Ffurflenni Treth hwyr.Ìý

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gosbau ar gyfer Cadw cofnodion yn ddigidol ar gyfer Treth Incwm.Ìý

Os ydych yn wirfoddolwr 

Nid yw cosbau’n berthnasol ar gyfer diweddariadau chwarterol hwyr tra’ch bod yn gwirfoddoli ar gyfer Cadw cofnodion yn ddigidol ar gyfer Treth Incwm.Ìý 

Bydd pwyntiau cosb yn dal i fod yn berthnasol ar gyfer Ffurflenni Treth hwyr.ÌýOs byddwch yn cyrraedd 2 bwynt, cewch gosb o £200.Ìý

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gosbau os ydych yn gwirfoddoli ar gyfer Cadw cofnodion yn ddigidol ar gyfer Treth Incwm.Ìý

Anfon diweddariadau’n amlach 

Gallwch ddewis anfon diweddariadau yn amlach. Bydd y rhan fwyaf o feddalwedd sy’n cydweddu yn eich galluogi i anfon diweddariad ar unrhyw ddiwrnod.Ìý

Er enghraifft, efallai eich bod am ddeall sut mae derbynneb neu gost fusnes sylweddol yn effeithio ar eich amcangyfrif o’r bil treth.Ìý 

Os byddwch yn dewis anfon diweddariadau’n amlach, mae’n rhaid iddynt gwmpasu’r cyfnod diweddaru llawn o hyd. Er enghraifft, yn hytrach nag anfon un diweddariad chwarterol sy’n cwmpasu 6 Gorffennaf i 5 Hydref, gallech ddewis anfon 3 diweddariad ar wahân sy’n cwmpasu: 

  • 6 Ebrill i 5 Awst 

  • 6 Ebrill i 5 Medi 

  • 6 Ebrill i 5 Hydref 

Gwneud newidiadau ar ôl y pedwerydd diweddariad chwarterol 

Efallai y bydd angen i chi ail-anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol os oes angen i chi wneud unrhyw newidiadau i’ch cofnodion digidol. Gallai hyn fod oherwydd bod angen i chi: 

  • gywiro’ch cofnodion os ydych wedi nodi gwall 

  • cofnodi treuliau incwm eiddo ar y cyd (os na chawsant eu cynnwys mewn diweddariadau cynharach) 

  • cofnodi incwm Rhentu Ystafell (os penderfynoch hawlio rhyddhad Rhentu Ystafell ar ôl diwedd y flwyddyn dreth) 

Os oes angen, dylech ail-anfon eich pedwerydd diweddariad chwarterol cyn i chi wneud unrhyw addasiadau treth.ÌýGallwch gael rhagor o wybodaeth am pa gofnodion digidol y mae angen i chi eu creu a phryd.Ìý

Beth i’w wneud nesaf 

Ar ôl i chi anfon eich diweddariad chwarterol olaf ar gyfer y flwyddyn dreth, dylech wirio a oes angen i chi wneud unrhyw addasiadau i’ch incwm hunangyflogaeth ac eiddo.