°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Cael mynediad at eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm newydd ar ôl i chi gofrestru

Sut i gael mynediad at eich gwasanaeth newydd a’r hyn y gallwch ei wneud yn eich cyfrif ar-lein.

Unwaith i chi gofrestru, os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord, gallwch gael mynediad at eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm newydd drwy eich cyfrif ar-lein CThEF presennol.ÌýÌý

Mae angen i asiantau ddefnyddio’u cyfrif gwasanaethau asiant i gael mynediad at y gwasanaeth hwn ar ran cleientiaid sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.Ìý

Ar gyfer unig fasnachwyr a landlordiaidÌý

Mewngofnodwch i wasanaethau ar-lein CThEFÌý— bydd angen arnoch y manylion mewngofnodi rydych yn eu defnyddio ar gyfer Hunanasesiad.ÌýÌý

Yna, dewiswch y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.Ìý

Os na allwch gael mynediad at y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fel gwasanaeth, gallwch ei ychwanegu â llaw:Ìý

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes.Ìý

  2. Dewiswch yr opsiwn ar gyfer ychwanegu treth at eich cyfrif er mwyn cael mynediad ar-lein at dreth, toll neu gynllun.Ìý

  3. Dewiswch yr opsiwn ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.Ìý

  4. Atebwch y cwestiynau diogelwch.Ìý

Ar gyfer asiantauÌý

Unwaith i chi gael eich awdurdodi i weithredu ar ran eich cleient mewn perthynas â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, ac mae’ch cleient wedi’i gofrestru, gallwch gael mynediad at ei fanylion drwy’ch cyfrif gwasanaethau asiant.ÌýÌý

Bydd yr hyn y gallwch ei wneud ar ran eich cleient hefyd yn dibynnu ar p’un a ydych yn brif asiant neu’n asiant cynorthwyol.Ìý

Yr hyn y gallwch ei wneud yn eich cyfrif ar-leinÌý

Gallwch gael mynediad at wybodaeth am eich gwasanaeth Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF. Gallwch ei ddefnyddio er mwyn gwneud y canlynol:Ìý

  • bwrw golwg dros amcangyfrif o’ch bil trethÌýÌý

  • gwirio dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno diweddariadau chwarterol a Ffurflenni TrethÌý

  • bwrw golwg dros yr hyn sydd angen i chi roi gwybod amdano ar gyfer pob blwyddyn dreth (eich ymrwymiadau o ran adrodd)ÌýÌý

  • gwirio’r hyn sydd arnoch a gwneud taliadÌý

  • bwrw golwg dros eich manylion unig fasnachwr a manylion busnes eiddoÌý

  • ychwanegu unig fasnachwr neu fusnes eiddo newydd (yn y DU neu dramor)Ìý

  • rhoi gwybod i ni pryd mae ffynhonnell incwm yn stopio (yn dod i ben) Ìý

  • addasu taliad ar gyfrifÌý

  • bwrw golwg dros, ac apelio yn erbyn, pwyntiau cosb a chosbauÌý

  • optio allan os ydych yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddolÌý

  • cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os gwnaethoch gofrestru’n flaenorol ac wedyn optio allanÌýÌý

Yn y dyfodol, byddwch yn gallu cael mynediad at fwy o wasanaethau yn eich cyfrif.Ìý Os bydd angen i chi wneud rhywbeth sydd heb ei restru yma, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.Ìý

Yr hyn i’w wneud nesafÌý

Nawr, mae angen i chi neu’ch cleient ddechrau creu cofnodion digidol o incwm a threuliau er mwyn cyflwyno diweddariadau chwarterol.