ǸԹ

Skip to main content
Canllawiau

Dysgwch a allwch wneud cais am eithriad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Gwiriwch a allwch wneud cais am esemptiad rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut mae’n berthnasol i chi.

Pwy sy’n esempt rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Mae yna wahanol resymau pam y gallech gael esemptiad rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Er enghraifft, gallech gael esemptiad os ydych wedi’ch cau allan o’r byd digidol.

Os ydych chi’n esempt, ni fydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ond bydd yn rhaid i chi barhau i roi gwybod am eich incwm a’ch enillion mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad fel arfer.

Mathau o esemptiadau

Dyma’r gwahanol fathau o esemptiadau ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm:

  • esemptiadau awtomatig — mae’r rhain yn cael eu rhoi gan CThEF yn seiliedig ar yr wybodaeth sydd gennym, felly nid oes angen i chi gysylltu â CThEF na chyflwyno cais
  • esemptiadau y mae angen i chi wneud cais amdanynt — dylech ddarparu gwybodaeth ychwanegol gyda’ch cais i roi gwybod i ni pam rydych yn esempt

Gall yr esemptiadau hyn naill ai fod:

  • yn barhaol — oni bai bod eich amgylchiadau’n newid
  • dros dro — yn para tan Ebrill 2027 ar y cynharaf

Esemptiadau awtomatig

Partneriaethau

Ar hyn o bryd, nid oes angen i bartneriaethau ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Byddwn yn nodi’r amserlen ar gyfer pryd y bydd angen i bartneriaethau ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol.

Esemptiadau parhaol oni bai bod eich amgylchiadau’n newid

Ni fydd angen i chi wneud cais am yr esemptiadau canlynol.Mae’r esemptiadau hyn yn barhaol ac felly mae hyn yn golygu na fydd gofyn i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm oni bai bod eich amgylchiadau’n newid.

Os yw’ch incwm cymhwysol yn £20,000 neu lai

Rydych chi’n esempt yn awtomatig ac nid oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw eich incwm cymhwysol yn £20,000 neu lai.

Os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol

Rydych chi’n esempt yn awtomatig, ac ni allwch gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os nad oes gennych rif Yswiriant Gwladol cyn dechrau’r flwyddyn dreth.

Er enghraifft, os cewch rif Yswiriant Gwladol ar 30 Ebrill 2026 a bod eich incwm cymhwysol dros £50,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, byddwch wedi’ch eithrio rhag defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027.

Esemptiadau yn seiliedig ar rôl

Mae’n bosibl y byddwch yn gyfrifol am gyflwyno Ffurflen dreth ar ran endid, fel ymddiriedolaeth.

Mae’r endidau canlynol wedi’u hesemtpio’n awtomatig rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm:

Dylech barhau i gyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad fel arfer ar ran yr endidau hyn.

Rydych hefyd wedi’ch esemptio’n awtomatig rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os ydych yn gweithredu fel cynrychiolydd personol rhywun sydd wedi marw, ond mae’n rhaid i chi sicrhau bod unrhyw Ffurflenni Treth Hunanasesiad sydd heb eu gwneud wedi’u cwblhau.

Os oes gennych eich incwm personol eich hun o hunangyflogaeth neu eiddo, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o hyd i roi gwybod am yr incwm hwnnw. Dylech gyfrifo eich incwm cymhwysol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Esemptiadau eraill

Rydych hefyd wedi’ch esemptio’n awtomatig, os gwnaethoch gynnwys unrhyw un o’r wybodaeth ganlynol yn eich Ffurflen Dreth 2024 i 2025:

  • y tudalen atodol SA103L (yn agor tudalen Saesneg) fel aelod o Lloyd’s mewn perthynas â’ch busnes tanysgrifio
  • nad ydych yn gorfforol nac yn feddyliol abl i ddarparu gwybodaeth ariannol i CThEF a bod gennych naill ai:

    • wedi rhoi pŵer atwrnai i rywun yn y DU i weithredu ar eich rhan ac mae ar waith ar hyn o bryd
    • dirprwy, rheolwr neu warcheidwad a benodwyd yn gyfreithiol yn ei le

Esemptiadau awtomatig sy’n para tan fis Ebrill 2027

Nid oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2026 i 2027, os ydych wedi gwneud y canlynol yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2024 i 2025:

  • hawlio rhyddhad cyfartalu (fel ffermwr, garddwr marchnad neu rywun sy’n creu gweithiau llenyddol neu artistig yn bersonol) gan ddefnyddio naill ai:

  • hawlio rhyddhad gofal cymhwysol (er enghraifft os ydych yn ofalwr maeth neu’n ofalwr sy’n berthynas)
  • cynnwys y dudalen atodol SA107 i roi gwybod am incwm o ymddiriedolaethau neu ystadau
  • cynnwys y dudalen atodol SA109

Nid oes angen i chi gysylltu â CThEF na gwneud cais os yw un o’r esemptiadau hyn yn berthnasol.

Os yw’ch incwm cymhwysol yn uwch na £30,000 ym mlwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o flwyddyn dreth 2027 i 2028 ymlaen.

Os na wnaethoch gynnwys unrhyw un o’r hawliadau neu dudalennau hyn yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2024 i 2025, ond ei bod yn rhesymol i chi ddisgwyl gwneud hynny yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026 neu 2026 i 2027, darllenwch yr adran ar ‘Esemptiadau y mae angen i chi wneud cais amdanynt’.

Esemptiadau awtomatig sy’n para y tu hwnt i fis Ebrill 2027

Rydych wedi’ch esemptio’n awtomatig os oedd eich Ffurflen Dreth 2024 i 2025 yn cynnwys unrhyw un o’r hawliadau neu’r tudalennau canlynol:

Os bydd un o’r esemptiadau hyn yn berthnasol i chi, nid oes angen i chi gysylltu â CThEF na gwneud cais am esemptiad.

Bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol.Byddwn ni’n nodi’r amserlen ar gyfer hyn yn nes ymlaen.

Os na wnaethoch gynnwys unrhyw un o’r rhain yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2024 i 2025, ond ei bod yn rhesymol i chi ddisgwyl gwneud hynny yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026 neu 2026 i 2027, darllenwch yr adran ar ‘Esemptiadau y mae angen i chi wneud cais amdanynt’.

Esemptiadau y mae angen i chi wneud cais am amdanynt

Esemptiad ar gyfer y rheiny sydd wedi’u cau allan o’r byd digidol

O ran Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, ystyr ‘bod wedi’ch cau allan o’r byd digidol’ yw ei fod yn afresymol i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu er mwyn:

  • cadwcofnodion digidol
  • anfon diweddariadau chwarterol neu gyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Mae yna wahanol resymau pam mae hyn efallai’n berthnasol i chi, er enghraifft:

  • mae’ch oedran, cyflwr iechyd neu’ch anabledd yn eich rhwystro chi rhag defnyddio cyfrifiadur, llechen neu ffôn clyfar i gadw cofnodion digidol neu gyflwyno’r cofnodion hynny i CThEF
  • rydych chi’n aelod gweithredol o gymdeithas neu urdd grefyddol y mae ei chredoau’n anghydnaws â chyfathrebu’n ddigidol neu gadw cofnodion digidol, ac nid ydych chi’n defnyddio cyfrifiadur, llechen na ffôn clyfar at ddefnydd busnes neu ddefnydd personol
  • ni allwch chi gael mynediad at y rhyngrwyd gartref, neu yn eich busnes, oherwydd eich lleoliad ac ni allwch chi gael mynediad i leoliad addas arall

Ni fydd CThEF yn derbyn eich cais am esemptiad os un o’r canlynol yw’r unig reswm sydd gennych dros wneud cais:

  • os gwnaethoch chi gyflwyno Ffurflen Dreth ar bapur o’r blaen
  • os ydych chi’n gyfarwydd â meddalwedd gyfrifyddu
  • os oes gennych chi nifer fach o gofnodion digidol i’w creu bob blwyddyn dreth
  • os bydd hi’n golygu cost neu amser ychwanegol i chi gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a’i ddefnyddio

Efallai y bydd rhesymau eraill pam eich bod chi o bosibl wedi’ch cau allan o’r byd digidol neu beidio. Bydd CThEF yn ystyried pob cais fesul achos.

Gallwch wneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os credwch chi eich bod chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol.

Os oes gennych chi asiant, ffrind neu aelod o’r teulu sy’n gwneud cais ar eich rhan, bydd yr esemptiad yn dal i fod ar sail eich sefyllfa bersonol chi.

Os ydych chi’n esempt rhag defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â Throi Treth yn Ddigidol ar gyfer Ffurflenni TAW

Os yw CThEF wedi cadarnhau yn flaenorol eich bod chi’n esempt rhag anfon Ffurflenni TAW gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol oherwydd eich bod chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol, dylech chi gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF dros y ffôn neu’n ysgrifenedig.

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich rhif cofrestru TAW
  • y rheswm pam eich bod chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol at ddiben anfon Ffurflenni TAW gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â Throi Treth yn Ddigidol, ac a yw’ch amgylchiadau chi wedi newid

Os nad yw’ch amgylchiadau chi wedi newid, byddwn ni’n cadarnhau eich bod chi hefyd yn esempt rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Os ydyn nhw wedi newid, bydd angen i chi wneud cais am esemptiad.

Os yw’ch esemptiad TAW oherwydd eich ansolfedd chi

Os yw’r rheswm am eich esemptiad rhag TAW yw eich bod yn mynd trwy weithdrefn ansolfedd a’ch bod wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, ni fyddwch yn esempt a dylech barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth.

Esemptiadausy’n para tan fis Ebrill 2027

Bydd angen i chi wneud cais am esemptiad os nad oedd eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2024 i 2025 yn dangos y canlynol, ond ei bod hi’n rhesymol i chi ddisgwyl i’ch Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026 neu 2026 i 2027 gynnwys un ohonynt:

  • hawliad am ryddhad cyfartalu (fel ffermwr, garddwr marchnad neu rywun sy’n creu gweithiau llenyddol neu artistig yn bersonol) gan ddefnyddio naill ai:

  • hawliad am ryddhad gofal cymhwysol (er enghraifft os ydych yn ofalwr maeth neu’n ofalwr sy’n berthynas)
  • y dudalen atodol SA107 i roi gwybod am incwm o ymddiriedolaethau neu ystadau
  • y dudalen atodol SA109, gallwch ddarllen am y rhesymau dros ddefnyddio SA109 yn yr adran ‘Tudalen atodol SA109’

Tudalen atodol SA109

Mae gwahanol resymau pam y gallai fod angen i chi gynnwys y dudalen atodol SA109 yn eich Ffurflen Dreth 2025 i 2026 neu 2026 i 2027. Mae’r rhain yn cynnwys ble rydych yn un o’r canlynol:

Nid oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn dreth 2026 i 2027 os yw un o’r esemptiadau hyn yn berthnasol i chi. Os yw eich incwm cymhwysol yn fwy na £30,000, bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o flwyddyn dreth 2027 i 2028 ymlaen.

Ni ddylech wneud cais am esemptiad os nad ydych yn hyderus y byddwch yn cynnwys unrhyw ran o’r wybodaeth hon yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026 neu 2026 i 2027.

Os gwnaethoch gynnwys unrhyw un o’r hawliadau neu dudalennau hyn yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2024 i 2025, darllenwch yr adran ar ‘Esemptiadau awtomatig sy’n para tan fis Ebrill 2027’.

Gallwch wneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Esemptiadau sy’n para y tu hwnt i fis Ebrill 2027

Bydd angen i chi wneud cais am esemptiad os nad oedd eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2024 i 2025 yn dangos y canlynol, ond ei bod yn rhesymol i chi ddisgwyl i’ch Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026 neu 2026 i 2027 ddangos bod un o’r canlynol yn berthnasol:

Bydd angen i chi wneud cais am esemptiad os nad oedd eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2024 i 2025 yn cynnwys y dudalen atodol SA102M, ond byddwch yn ei chynnwys yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026 neu 2026 i 2027 oherwydd eich bod yn Weinidog o unrhyw ffydd, crefydd neu enwad.

Os bydd un o’r esemptiadau hyn yn berthnasol i chi, bydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol. Byddwn ni’n nodi’r amserlen ar gyfer hyn yn nes ymlaen.

Ni ddylech wneud cais am esemptiad os nad ydych yn hyderus y byddwch yn cynnwys unrhyw ran o’r wybodaeth hon yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2025 i 2026 neu 2026 i 2027.

Os gwnaethoch gynnwys unrhyw un o’r hawliadau neu dudalennau hyn yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2024 i 2025, darllenwch yr adran ar ‘Esemptiadau awtomatig’.

Gallwch wneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Ebrill 2026 show all updates
  1. The guidance has been updated to clarify the exemption criteria for not being physically or mentally capable of providing financial information to HMRC, for not having a National Insurance number and if you use the SA109 supplementary page. It now also mentions the 2025 to 2026 tax return, partnerships and the supplementary pages used to claim averaging relief and if you are a Lloyd's member.

  2. The guidance now includes details on automatic exemptions and exemptions you need to apply for. It also explains which exemptions are permanent and which are temporary.

  3. The updated guidance explains that if you’re exempt from sending VAT returns using Making Tax Digital compatible software because you’re going through an insolvency procedure, and you are signed up to Making Tax Digital for Income Tax, you will not be exempt and should continue to use the service.

  4. The guidance has been updated to give more information about what being digitally excluded means for Making Tax Digital for Income Tax. It has also been updated to include information about how to contact us if you're exempt from using Making Tax Digital compatible software for VAT returns.

  5. If you're exempt from sending online returns for Making Tax Digital for VAT, you should contact HMRC when the exemptions application process opens for Making Tax Digital for Income Tax. If your VAT exemption is due to your insolvency, you're not exempt from Making Tax Digital for Income Tax.

  6. Information about who is automatically exempt has been added.

  7. The reasons for when to apply for an exemption from using Making Tax Digital for Income Tax have been clarified.

  8. Added translation

  9. First published.

Argraffu'r dudalen hon