°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Darparwyr Gwasanaethau Corfforaethol Awdurdodedig

Sut bydd y cofrestrydd yn asesu a yw ymgeisydd, neu Ddarparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP) presennol, yn addas ac yn briodol i gyflawni swyddogaethau ACSP.

O dan , rhaid i’r cofrestrydd wrthod cais i gofrestru Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (ACSP) os nad yw’r ymgeisydd yn addas ac yn briodol i gyflawni swyddogaethau ACSP. Bydd y cofrestrydd hefyd yn monitro ACSP presennol i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn addas ac yn briodol i gyflawni swyddogaethau ACSP ar ôl cofrestru. 

Bwriad yr asesiad addas a phriodol yw helpu i sicrhau bod ACSP yn addas i gyflawni swyddogaethau ACSP. Mae’n ystyried a oes materion sy’n cwestiynu addasrwydd ymgeisydd, neu ACSP presennol, i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

Mae’r canllawiau hyn yn esbonio beth y gall y cofrestrydd ei ystyried. Nid yw’n rhestr gynhwysfawr. Bydd y cofrestrydd yn ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol a gall ystyried gwybodaeth arall lle mae’n berthnasol o ran a yw person yn addas ac yn briodol i gyflawni swyddogaethau ACSP.

Y prawf addas a phriodol

Bydd y cofrestrydd yn ystyried amgylchiadau pob achos. Efallai na fydd y meini prawf canlynol bob tro yn arwain at wrthod cais, neu atal neu ddod â ACSP i ben.

Bydd y cofrestrydd yn ystyried amgylchiadau perthnasol, gan gynnwys:

  • pa mor ddifrifol oedd y mater
  • pryd y digwyddodd
  • a yw wedi cael ei ddatrys

Y meini prawf

Mae’r asesiad yn cynnwys y meysydd canlynol.

Cymhwystra a chymhwysedd i weithredu fel ACSP

P’un a oes gan yr ymgeisydd neu ACSP presennol, ac a yw’n parhau i gael, oruchwyliaeth atal-gwyngalchu arian priodol, ac yw’n addas i gyflawni swyddogaethau ACSP.

Gall hyn gynnwys a yw endid sy’n gysylltiedig â’r ACSP, fel cwmni cyfyngedig, wedi’i ddiddymu, yn cael ei ddileu oddi ar y gofrestr (gan gynnwys lle mae hysbysiadau cyntaf neu ail hysbysiadau Gazette wedi’u cyhoeddi), neu a yw’n destun achos ansolfedd (megis diddymu neu orchymyn dirwyn i ben).

Gall y cofrestrydd hefyd ystyried a yw’r ACSP wedi’i atal neu wedi dod i ben yn y gorffennol, ac a yw ei ymddygiad yn dangos ei fod yn gallu cyflawni swyddogaethau ACSP yn gymwys.

Hanes troseddol, rheoleiddiol ac ariannol

P’un a oes materion troseddol, rheoleiddiol neu ariannol sy’n berthnasol i addasrwydd. Gall hyn gynnwys:

  • methdaliad
  • anghymhwyso fel cyfarwyddwr
  • euogfarnau troseddol
  • canfyddiadau rheoleiddiol neu ddisgyblu
  • methiannau difrifol neu ailadroddus o ran bodloni rhwymedigaethau statudol i Dŷ’r Cwmnïau

Gonestrwydd, uniondeb ac ymddygiad

P’un a yw’r ymgeisydd neu ACSP wedi gweithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb. Gall hyn gynnwys:

  • ymgysylltiad blaenorol â Thŷ’r Cwmnïau
  • ffeiliau neu ddatganiadau ffug neu gamarweiniol
  • methu ag ymateb i ymholiadau
  • ymddygiad arall sy’n codi pryderon ynghylch dibynadwyedd, tryloywder neu gydymffurfiaeth

Hanes gyda Thŷ’r Cwmnïau a gweithgarwch ACSP

P’un a yw’r ymgeisydd neu ACSP wedi cydymffurfio â gofynion Tŷ’r Cwmnïau. Gall hyn gynnwys:

  • y ffordd y mae ACSP yn cynnal gweithgaredd gwiriad, ail-wiriad a ffeilio
  • cydymffurfio â gofynion ffeilio statudol gan yr ACSP ac unrhyw endid cysylltiedig, fel cwmni cyfyngedig
  • ystyriaethau cydymffurfio perthnasol eraill

Ffactorau eraill y gall y cofrestrydd eu hystyried

Gall y cofrestrydd ystyried ffactorau gwaethygol a lliniarol fel rhan o’r asesiad. Gall ffactorau gwaethygol gynnwys:

  • patrymau sy’n peri pryder dro ar ôl tro
  • methiant i fynd i’r afael â phroblemau a’u datrys
  • methiant i ymateb i Dŷ’r Cwmnïau neu awdurdod arall
  • tystiolaeth bod y mater yn creu risg i uniondeb y gofrestr

Gall ffactorau lliniarol gynnwys:

  • pryd y digwyddodd y broblem
  • tystiolaeth o ymddygiad da
  • pa mor gyflym y mae problemau wedi’u datrys
  • cydweithredu â chwmnïau neu awdurdodau eraill
  • camau a gymerwyd i atal y broblem rhag digwydd eto

Goruchwyliaeth Atal Gwyngalchu Arian (AML)

Mae’n ofynnol i ACSP gael eu goruchwylio’n briodol gan gorff goruchwylio AML perthnasol. Mae hyn ar wahân i asesiad addasrwydd a phriodol y cofrestrydd. Er y gall y cofrestrydd ystyried barn goruchwylwyr AML, mae ganddynt ddyletswydd ar wahân i benderfynu a yw’r person yn addas ac yn briodol i gyflawni swyddogaethau ACSP.

Lle mae goruchwyliaeth AML yn nodi camymddwyn neu bryder arall, gall y cofrestrydd ystyried sefyllfa’r goruchwyliwr AML. Os nad yw’r oruchwyliaeth wedi’i ddileu, nid yw hynny’n golygu y bydd y cofrestrydd yn fodlon bod y person yn addas ac yn briodol.

Bydd y cofrestrydd yn ystyried amgylchiadau, gan gynnwys:

  • difrifoldeb, perthnasedd ac amseru’r mater
  • os yw’r ACSP wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r mater
  • unrhyw gamau a gymerwyd gan y goruchwyliwr AML

Sut mae’r meini prawf yn berthnasol ar ôl cofrestru

Mae’r asesiad addas a phriodol yn parhau i fod yn berthnasol ar ôl cofrestru. Os bydd pryderon yn codi ar ôl cofrestru, gall Tŷ’r Cwmnïau ofyn i’r ACSP am wybodaeth neu gymryd camau eraill sydd ar gael a allai gynnwys atal statws ACSP neu roi’r gorau i gofrestru fel ACSP, sy’n golygu gorfod peidio â gweithedu fel ACSP mwyach. Cyn rhoi’r gorau i statws ACSP, bydd yr ACSP yn cael cyfle i wneud sylwadau, oni bai bod y gyfraith yn mynnu fel arall.

Bydd y cofrestrydd yn adolygu’r meini prawf yn gyson a gall ddiweddaru’r canllawiau hyn o bryd iw gilydd.

Sut i wneud cais

Defnyddiwch y gwasanaeth i wneud cais i gofrestru fel asiant awdurdodedig.

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu gwybodaeth gywir a chyflawn fel rhan ‘’r cais. Mae hyn yn ofynnol i’r cofrestrydd gynnal y prawf addas a phriodol.

Efallai y byddwn yn gwirio’r wybodaeth a ddarperir yn y cais gyda gwybodaeth sydd gennym eisoes, yn ogystal â:

  • chofrestrau cyhoeddus perthnasol eraill
  • rheoleiddwyr a chyrff goruchwylio
  • cyrff gorfodi’r gyfraith
  • cyrff llywodraeth
  • awdurdodau cyhoeddus eraill

Os bydd eich amgylchiadau’n newid ar ôl i chi wneud cais neu ar ôl i chi gofrestru, dylech gysylltu â Thŷ’r Cwmnïau a darparu unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i ba un a ydych chi’n parhau i fod yn addas ac yn briodol i gyflawni swyddogaethau ACSP.

Os byddwch chi’n methu’r prawf addas a phriodol

Os nad yw’r cofrestrydd yn fodlon eich bod yn addas ac yn briodol i gyflawni swyddogaethau ACSP, rhaid gwrthod eich cais.

Os ydych chi eisoes wedi cofrestru fel ACSP ac nad yw’r cofrestrydd yn fodlon eich bod chi’n parhau i fod yn addas ac yn briodol, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn ystyried pa gamau sy’n briodol. Gall hyn gynnwys atal statws ACSP neu roi’r gorau i gofrestru fel ACSP a fyddai’n golygu na allech chi weithredu fel ACSP mwyach.

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn esbonio’r rhesymau dros benderfyniad y cofrestrydd a beth mae hynny’n ei olygu i chi. Os yw Tŷ’r Cwmnïau yn ystyried rhoi’r gorau i’ch cofrestriad ACSP, byddwch yn cael cyfle i ddarparu gwybodaeth neu wneud acohos cyn gwneud penderfyniad terfynol, lle mae’r broses gyfreithiol yn darparu ar gyfer hyn.

Ni ddylech ddarparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i Dŷ’r Cwmnïau. Gellir ystyried darparu gwybodaeth anghywir, methu â datgelu gwybodaeth berthnasol, neu fethu ag ymateb i Dŷ’r Cwmnïau wrth benderfynu a ydych yn addas i gyflawni swyddogaethau ACSP.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 11 Awst 2026

Argraffu'r dudalen hon