°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Cofrestru busnes bwyd

Mae’n rhaid i chi gofrestru gyda’ch awdurdod lleol i allu rhedeg busnes bwyd.

Gwnewch gais nawr: .

Trosolwg

Os ydych chi’n gwerthu, coginio, storio, trin, paratoi neu ddosbarthu bwyd i’r cyhoedd, efallai y byddwch chi’n cael eich ystyried yn fusnes bwyd, a bydd angen i chi .

Mae hyn yn cynnwys busnesau bwyd sy’n masnachu:

  • o eiddo ffisegol sy’n gweini cwsmeriaid
  • o gartref
  • o uned symudol neu safle dros dro
  • ar-lein (er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol neu wefan) neu drwy werthu o bell (mae gwerthu o bell yn golygu unrhyw werthu sy’n digwydd heb gyswllt wyneb yn wyneb â’r defnyddiwr)

Pwy sydd angen cofrestru

Bydd angen i chi os ydych chi’n:

  • gwerthu bwyd

  • coginio bwyd

  • storio neu drin bwyd

  • paratoi bwyd

  • dosbarthu bwyd

Bydd angen i bob math o fusnes sy’n gwerthu bwyd a diod gofrestru, ni waeth o ble maen nhw’n gweithredu. Mae’n cynnwys busnesau sy’n masnachu o gartref, uned symudol, neu eiddo dros dro fel stondin neu fan. Bydd angen cofrestru hefyd os ydych yn gwerthu bwyd neu ddiodydd ar-lein yn unig.

Dylai cwmnïau sy’n ymwneud â dosbarthu, broceru neu gyflenwi bwyd ac sy’n gweithredu o swyddfeydd hefyd gofrestru fel busnesau bwyd. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os na chaiff bwyd ei gadw ar y safle.

Os ydych yn gweithredu mewn mwy nag un lleoliad, mae angen i chi gofrestru pob safle gyda’r awdurdodau lleol y maent wedi’u lleoli ynddynt. Os ydych chi’n ansicr a oes angen i chi gofrestru, neu os oes angen rhagor o gyngor arnoch, cysylltwch â’ch awdurdod lleol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr.

Cofrestru fel gwarchodwr plant

Os ydych chi’n darparu bwyd fel rhan o’ch busnes gwarchod plant yn Lloegr, bydd y manylion rydych chi’n eu darparu i Ofsted ²Ô±ð³Ü’c³ó asiantaeth gwarchod plant hefyd yn cael eu defnyddio i’ch cofrestru fel busnes bwyd gyda’ch awdurdod lleol. Ni fydd rhaid i chi gofrestru ar wahân.

Rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd os ydych yn darparu bwyd a diod i blant neu fabanod gan gynnwys:

  • prydau

  • byrbrydau

  • diodydd (ar wahân i ddŵr tap o’r prif gyflenwad)

  • bwyd wedi’i ailgynhesu a ddarperir gan riant/gofalwr

  • bwyd yr ydych yn ei dorri a’i baratoi

Mae gofynion cofrestru gwarchodwyr plant yn wahanol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon os ydych yn darparu bwyd gyda’ch busnes gwarchod plant. Cysylltwch â’ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Os ydych chi’n warchodwr plant yn yr Alban, mae angen i chi lenwi a’i hanfon at eich awdurdod lleol.

Cofrestru fel banc bwyd neu elusen

Mae’n bosib y bydd angen i chi os ydych chi, ²Ô±ð³Ü’c³ó gweithrediad, yn darparu bwyd i’r gymuned, hyd yn oed os yw’n rhad ac am ddim, a hynny 28 diwrnod cyn i chi ddechrau darparu bwyd.

Darllenwch y canllawiau diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer banciau bwyd ac elusennau.

Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr

Mae’n ofynnol i chi gofrestru o leiaf 28 diwrnod cyn masnachu. Rydym yn argymell nad ydych yn cofrestru’n rhy gynnar, ond eich bod yn aros tan 28 diwrnod cyn i chi fod yn barod i ddechrau gweithredu.

Defnyddiwch y rhestr wirio ar gyfer paratoi i ddechrau eich busnes bwyd i wneud yn siŵr eich bod wedi ystyried popeth cyn i chi gofrestru, neu cysylltwch â’ch awdurdod lleol os oes angen rhagor o gyngor arnoch.

Yr Alban

Mae gwybodaeth a chyngor i’ch helpu i ddechrau eich busnes bwyd ar gael ar . Fel arall, os oes angen cyngor pellach arnoch.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 25 Mehefin 2026 Show all updates
  1. A link to guidance for food banks and charities has been added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon