Cael arian yn ei ôl os yw’r CMA yn gorchymyn ad-daliadau neu ddigollediadau
Efallai fod arian yn ddyledus i chi os yw’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi gorchymyn i fusnes ad-dalu neu ddigolledu ei gwsmeriaid.

Os daw’r CMA i ddeall bod busnes wedi torri cyfraith defnyddwyr, efallai y bydd yn gorchymyn i’r busnes ad-dalu neu ddigolledu’r cwsmeriaid yr effeithir arnynt (‘gwneud iawn’).
Rydym wedi gorchymyn i fusnesau ad-dalu neu ddigolledu cwsmeriaid yn uniongyrchol lle rydym wedi canfod eu bod wedi torri’r gyfraith.
Nid yw’n werth torri’r gyfraith, byth. Pan gaiff rheolau eu hanwybyddu, bydd y CMA yn cymryd camau.
Defnyddiwch y dudalen hon i ddod o hyd i bryd y mae’r CMA wedi gorchymyn i fusnes ad-dalu neu ddigolledu cwsmeriaid.
Cymerwch olwg ar bob adran  i ddysgu:
- beth wnaeth y busnes o’i le
- pa gwsmeriaid sydd â hawl i gael ad-daliad neu ddigollediad
- yr hyn y dylai cwsmeriaid yr effeithir arnynt ei gael
- yr hyn sydd angen i chi ei wneud (os oes unrhyw beth)
Nid yw’r CMA yn gyfrifol am reoli, prosesu na thalu ad-daliadau ei hun – caiff hyn ei wneud gan y busnes sy’n cael ei orchymyn i wneud yn iawn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r busnes perthnasol.

Ers ennill pwerau cyfreithiol newydd ym mis Ebrill 2025, rydym wedi sicrhau dros £1.95 miliwn o ad-daliadau i ddefnyddwyr.
Ysgol Yrru AA ac Ysgol Yrru BSM
Pam
Mae’r ddwy ysgol yrru (Ysgol Yrru AA ac Ysgol Yrru British School of Motoring[FH9.1]) yn eiddo i’r AA. Dysgon ni fod mwy na 80,000 o yrwyr sy’n dysgu heb gael gwybod am gyfanswm y pris ymlaen llaw wrth archebu gwersi ar-lein - fel sy’n ofynnol gan y gyfraith. Yn hytrach, cafodd ffi orfodol ei chynnwys yn ddiweddarach yn y broses.
Camau’r CMA
Ar ôl cyfaddef i dorri’r gyfraith, setlodd yr AA yr achos.
Rydym wedi gorchymyn i’r AA ad-dalu cwsmeriaid a archebodd wersi gyrru ar safleoedd AA a BSM o 6 Ebrill i 15 Rhagfyr 2025 . Nid oedd y prisiau dechreuol a ddangoswyd i’r cwsmeriaid yn cynnwys y ffi archebu orfodol.
Dysgwch ragor am y gwaith rydym wedi ei wneud (English only)
Yr hyn y gallech ei gael
Bydd y swm a gewch yn ôl yn dibynnu ar faint o becynnau gwersi a brynoch chi gyda’r cwmni. Bydd pob cwsmer yn cael tua £9 yn ei ôl.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Bydd yr AA yn anfon e-bost neu lythyr atoch. Bydd yn naill ai eich ad-dalu’n awtomatig ar y cerdyn a ddefnyddioch i dalu am y gwersi, neu’n anfon siec atoch.
Dylai’r AA brosesu’r holl ad-daliadau erbyn 15 Ebrill 2027.
Marks Electrical
Pam
Roedd y cwmni manwerthu teclynnau, Marks Electrical yn rhag-ddewis ac yn codi tâl ar gwsmeriaid  am wasanaethau ychwanegol heb iddynt gytuno’n benodol i hynny:
- gwasanaeth ‘Ailgylchu Hen Declynnau’
- gwasanaeth ‘Dadorchuddio ac Ailgylchu Pecynnau’
Nid oes gan fusnesau ganiatâd i ddefnyddio bylchau wedi’u ticio ymlaen llaw na mathau eraill o optio i mewn yn awtomatig ar gyfer costau dewisol sy’n costio arian.
Camau’r CMA
Rydym wedi gorchymyn i Marks Electrical ad-dalu bron i 40,000 o gwsmeriaid a gafodd eu hoptio i mewn yn awtomatig i brynu gwasanaethau ychwanegol ar wefan Marks Electrical rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd 2025.
Dysgwch ragor am y gwaith rydym wedi ei wneud (English only)
Yr hyn y gallech ei gael
Bydd y swm a gewch yn ei ôl yn dibynnu ar faint daloch chi am wasanaethau ychwanegol, wedi’u dewis ymlaen llaw. Bydd pob cwsmer yn cael tua £15 yn ei ôl.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Bydd Marks Electrical yn cysylltu â chi. Bydd yn naill ai eich ad-dalu’n awtomatig ar y dull a ddefnyddioch i dalu am y teclyn, neu’n anfon siec atoch.
Dylai Marks Electrical brosesu’r holl ad-daliadau erbyn 15 Mehefin 2027.
StubHub UK
Pam
Ni ddangosodd StubHub UK gyfanswm y pris ymlaen llaw wrth brynu tocynnau – fel sy’n ofynnol gan y gyfraith. Rhwng 6 Ebrill a 7 Rhagfyr 2025, roedd StubHub UK yn gofyn i rai cefnogwyr dalu costau gorfodol fel ffioedd danfon a ffioedd gwasanaeth. Fodd bynnag, roedd y ffioedd hyn nad oedd modd eu hosgoi yn cael eu hychwanegu yn ystod cam olaf y broses dalu, ac nid oeddent yn cael eu cynnwys yng nghyfanswm y pris o’r dechrau un, a oedd yn torri cyfraith defnyddwyr.
Camau’r CMA
Ar ôl cyfaddef i dorri’r gyfraith, setlodd StubHub UK yr achos.
Rydym wedi gorchymyn StubHub i ad-dalu mwy na 50,000 o gefnogwyr a brynodd docynnau ar wefan StubHub UK rhwng 6 Ebrill a 7 Rhagfyr 2025.
Dysgwch ragor am ein camau (English only)
Yr hyn y gallech ei gael
Bydd y swm a gewch yn ei ôl yn dibynnu ar faint o ffioedd y taloch chi. Bydd swm o tua £10 yn cael ei dalu ar gyfer pob trafodiad.
Beth sydd angen i chi ei wneud
Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Bydd StubHub UK yn cysylltu â chi ynghylch eich ad-daliad, a gaiff ei roi yn awtomatig ar y cerdyn a ddefnyddioch i brynu eich tocynnau.
Dylai StubHub UK brosesu’r holl ad-daliadau erbyn 23 Rhagfyr 2026.
Dod o hyd i ragor o gyngor
Ewch i Cymorth i ddefnyddwyr.