Sut i ddewis enw elusen
Dewiswch enw unigryw y bydd pobl yn ei gofio pan fyddant am wneud cyfraniad neu wirfoddoli.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Enwau elusen
Prif enwâch elusen yw ei enw swyddogol. Gall fod gan eich elusen enw gweithredol hefyd, syân enw a ddefnyddir i adnabod eich elusen ac y mae gweithgareddauâr elusen yn cael eu cyflawni oddi tano. Er enghraifft:
- âComic Reliefâ yw enw gweithredol yr elusen âCharity Projectsâ.
- Adnabyddir y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant fel yr NSPCC
Nid oes gan bob elusen enwau gweithredol.
Lle maeâr cyfarwyddyd hwn yn cyfeirio at enwâch elusen, rydym yn golyguâr prif enw aâr un gweithredol.
Gofynion ar gyfer enwau elusen
Maeân rhaid i enwâch elusen beidio:
- bod yr un peth nac yn rhy debyg i brif enw neu enw gweithredol elusen syân bodoli
- defnyddio geiriau nad oes gennych ganiatâd iâw defnyddio, er enghraifft enwau enwog
- defnyddio geiriau na byrfoddau tramgwyddus
- bod yn gamarweiniol, er enghraifft awgrymu bod yr elusen yn gwneud rhywbeth nad ywân ei wneud
- torri rheolau eiddo deallusol (mae hyn yn cynnwys y defnydd o nodau masnach neu enwau masnach)
Chwiliwch y gofrestr o elusennau i wirio a ywâch enw arfaethedig yr un peth neuân rhy debyg i enw elusen gofrestredig.
Ni fydd elusennau heb eu cofrestru yn ymddangos yn y gofrestr felly dylech hefyd chwilioâr rhyngrwyd neu wneud ymholiadau rhesymol eraill i wirio am debygrwydd i enwau elusennau a sefydliadau eraill.
Gall y Comisiwn Elusennau eich cyfeirio i newid prif enw neu atal defnyddio enw gweithredol nad ywân addas oherwydd ei fod yn rhy debyg i enw elusen arall, neu oherwydd ei fod yn dramgwyddus neuân gamarweiniol.
Os ydym yn gwneud cyfeiriad syân gofyn iâch elusen ddewis prif enw gwahanol, gallwn ohirio cofrestruâch elusen ac, os oes angen, cymryd camau rheoleiddiol.
Geiriau y mae angen caniatâd ar bob elusen iâw defnyddio mewn enw
Mae angen tystiolaeth arnoch fod gennych ganiatâd i ddefnyddio:
- enw person neu gymeriad enwog
- enw gwaith enwog neu â hawlfraint arno, megis llyfr neu ddarn o gerddoriaeth
- nodau masnach, megis Olympaidd neu Baralympaidd
- geiriau âBrenhinolâ, megis Brenin, Brenhines, Tywysog, Ei Mawrhydi neu Ei Fawrhydi, neu Windsor
Gwneud cais i gofrestruâch elusen
Cynhwyswch unrhyw enwau gweithredol maeâch elusen yn eu defnyddio, neu bydd yn eu defnyddio.
Cynhwyswch gyfieithiadau o unrhyw eiriau sydd ddim yn Saesneg mewn unrhyw brif enw neu enw gweithredol.
Nid ydym yn gallu gwarantu, cadw nac awgrymu enw.
Gofynion ychwanegol ar gyfer enwau sefydliadau elusennol corfforedig (CIO)
Maeân rhaid i bob CIO gael cymeradwyaeth Tšâr CwmnĂŻau i ddefnyddio geiriau sensitif penodol yn eu prif enw neu enw gweithredol. Am restr o eiriau sensitif, darllewnch Canllawiau Tšâr CwmnĂŻau.
Bydd angen cymeradwyaeth Tšâr CwmnĂŻau arnoch hefyd os ydych chiân cynllunio newid prif enw neu enw gweithredol eich CIO i gynnwys gair sensitif.
Nid oes angen cymeradwyaeth Tšâr CwmnĂŻau arnoch os maiâr unig eiriau sensitif yn enw eich CIO yw:
- elusen
- elusennol
- cymdeithas
- sefydliad
- ymddiriedolaeth
Os oes angen cymeradwyaeth arnoch o Dšâr CwmnĂŻau i ddefnyddio gair sensitif neu nad ydych yn siwr a yw gair rydych am ei ddefnyddio yn sensitif, e-bostiwch enquiries@companieshouse.gov.uk. Defnyddiwch âCIOâ yn y llinell pwnc ac esboniwch pam bod eisiau defnyddioâr gair sensitif arnoch.
Bydd rhai geiriau sensitif yn gofyn hefyd am Ddatganiad Peidio Gwrthwynebu o adran llywodraeth arall. Darllenwch y canllawiau o Dšâr CwmnĂŻau i wirio os yw hyn yn gymwys i chi. Er enghaifft, os oes eisiau defnyddioâr gair âYswiriantâ arnoch yn eich enw, bydd angen Datganiad Peidio Gwrthwynebu arnoch gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Anfonwch y datganiad hwn at Dšâr CwmnĂŻau pan fyddwch yn gofyn am gymeradwyaeth i enwâch CIO.
Gofynion ychwanegol ar gyfer enwau cwmnĂŻau elusennol
Gallwch ddefnyddioâr geiriau âelusenâ, âelusennauâ neu âelusennolâ ym mhrif enw neu enw gweithredol eich cwmni elusennol ond bydd angen cymeradwyaeth arnoch gan y Comisiwn Elusennau cyn i chi allu cofrestru â Thšâr CwmnĂŻau.
I ofyn am gymeradwyaeth y Comisiwn Elusennau, pan fyddwch yn ceisio cofrestru fel elusen rhowch wybod iâr Comisiwn Elusennau bod Datganiad Peidio Gwrthwynebu yn ofynnol i chi gan gadarnhau bod gennych ganiatâd i ddefnyddioâr geiriau hyn yn eich prif enw neu enw gweithredol. Bydd angen i chi ddarparuâr datganiad hwn pan fyddwch yn cofrestru a Thšâr CwmnĂŻau.
Os ywâch cwmni elusennol wediâi gofrestru eisoes â Thšâr CwmnĂŻau, nid oes angen Datganiad Peidio Gwrthwynebu arnoch os ydych am newid eich enw i gynnwys gair sensitif.
Anghydfodau dros brif enw neu enw gweithredol
Dylech ddatrys unrhyw anghydfodau, rhwng ymddiriedolwyr neu ag elusen wahanol, dros y cynnig i fabwysiadu neu newid enwâch elusen cyn i chi fabwysiadu enw, ceisio cofrestruâch elusen, neu newid enw.
Byddwn yn cymryd rhan yn unig os:
- ydym yn ystyried nad yw enw elusen yn cydymffurfio ââr adran âGofynion ar gyfer holl enwau elusennauâ uchod, a
- bod risg y bydd yr enwân achosi dryswch, anfantais neu niwed, megis effaith ar gyfraniadau i elusen syân bodoli ag enw tebyg
Gwybodaeth gefnogol
Os ywâch elusen yn elusen syân bodoli aâch bod yn ystyried newid eich prif enw neu enw gweithredol, mae cyfarwyddyd ychwanegol ar gael:
Updates to this page
-
Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.
-
We have added information on rules on sensitive words in the names of charitable incorporated organisations (CIOs)
-
First published.