°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content
Canllawiau

Llwybrau Cenedlaethol: cynnal a chadw’r llwybrau

Darganfyddwch pwy sy’n rheoli, cynnal a chadw a gwella’r llwybrau a sut y caiff newidiadau eu gwneud i’r llwybrau.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Llwybrau cerdded hir drwy Gymru a Lloegr yw’r Llwybrau Cenedlaethol. Mae rhai o’r llwybrau hefyd ar agor i feicwyr a marchogwyr.

Gallwch ddod o hyd i fapiau rhyngweithiol ar gyfer pob llwybr a lawrlwytho data GPX (Fformat Cyfnewid GPS) ar .

Gallwch hefyd ddod o hyd i ddata gwybodaeth ddaearyddol (GI) yn y:

  • ar Borth-Daear Data Agored Natural EnglandÌý

  • ar Borth-Daear Data Agored Natural England

  • ar MapDataCymru

Gallwch lawrlwytho’r data i’w ddefnyddio mewn cymwysiadau system gwybodaeth ddaearyddol. Bydd angen meddalwedd megis ArcMap, ArcGIS Pro neu QGIS arnoch i gael mynediad at y data a’i ddefnyddio.

Rheoli’r llwybrau

Caiff Llwybrau Cenedlaethol eu ‘dynodi’ gan y llywodraeth, sy’n golygu bod ganddynt statws arbennig, a chânt eu gwarchod oherwydd eu pwysigrwydd naturiol a diwylliannol. Fe’u gweinyddir gan Natural England a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn Lloegr, mae awdurdodau lleol, a rhanddeiliaid eraill o bryd i’w gilydd, yn ffurfio partneriaeth ac yn cydweithio i gynnal a chadw pob llwybr. Yng Nghymru, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am gynnal a chadw pob llwybr.

Fel arfer, caiff swyddog neu reolwr llwybr penodedig ei benodi i fod yn gyfrifol am sicrhau bod y llwybr yn cydymffurfio â’r safonau a osodwyd ar gyfer Llwybrau Cenedlaethol.

Awdurdodau priffyrdd lleol fel arfer sy’n cydlynu ac yn ymgymryd â’r gwaith cynnal a chadw ar y llwybrau, gyda chymorth tirfeddianwyr a gwirfoddolwyr o bryd i’w gilydd.

Gallwch bori drwy:ÌýÌý

Cyllid ar gyfer y llwybrau

Darperir cyllid ar gyfer y Llwybrau Cenedlaethol gan:Ìý

  • y llywodraeth drwy a Ìý

  • awdurdodau priffyrdd lleolÌýÌý

  • partneriaid ariannu eraill

Hygyrchedd y llwybrau

Mae partneriaethau Llwybrau Cenedlaethol ac awdurdodau lleol yn helpu i wneud y llwybrau’n hygyrch i fwy o bobl. Er enghraifft, trwy gael gwared ar gatiau a chamfeydd, gwella arwynebau, a darparu gwybodaeth mewn ffyrdd mwy hygyrch.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am:Ìý

Newidiadau i’r llwybrau

Gall cwrs pob llwybr newid.ÌýMae’r rhan fwyaf o newidiadau yn rhai dros dro neu’n rhai tymhorol.ÌýÌý

Rhaid dilyn proses ffurfiol er mwyn gwneud newidiadau parhaol i’r llwybrau.ÌýMae gwahanol brosesau yn bodoli ar gyfer:Ìý

  • Llwybr Arfordir Lloegr y Brenin Siarl IIIÌý

  • Llwybrau Cenedlaethol eraillÌýÌý

Llwybr Arfordir Lloegr y Brenin Siarl III Ìý

Gall Natural England gynnig newidiadau parhaol i Lwybr Arfordir Lloegr y Brenin Siarl III os oes angen. Mae’n bosib gweld y newidiadau arfaethedig ar °Ç¸ç³Ô¹Ï ar ffurf ‘adroddiad amrywiad’.

Gallwch weld newidiadau arfaethedig i rannau o lwybr yr arfordir sydd o dan ddatblygiad neu sydd eto i gael eu hagor yma.

Gallwch weld sut i wneud sylwadau ar newidiadau arfaethedig neu eu gwrthwynebu yma.

Llwybrau Cenedlaethol eraill Ìý

Mae’r rhan fwyaf o Lwybrau Cenedlaethol yn dilyn hawliau tramwy cyhoeddus a oedd eisoes yn bodoli.ÌýEich cyngor lleol sy’n gwneud penderfyniadau o ran cofnodi a newid hawliau tramwy cyhoeddus, a all gynnwys Llwybrau Cenedlaethol. Ìý

Gallwch wneud sylwadau ar orchymyn hawl tramwy neu ei wrthwynebu pan gaiff ei hysbysebu gan y cyngor.

CysylltuÌý

Defnyddiwch y berthnasol i wneud y canlynol:ÌýÌý

  • rhoi gwybod am broblem ar y llwybrau – er enghraifft, rhwystrau, pethau mae angen eu cynnal a’u cadw, neu arwydd camarweiniolÌý

  • gofyn cwestiwn am hygyrchedd ar y llwybrauÌý

  • darganfod cyfleoedd i wirfoddoli

Os ydych chi’n rhedeg busnes ar lwybr neu gerllaw, gallwch ddod o hyd i .

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Mehefin 2026

Argraffu'r dudalen hon