Perchen ar dir ac eiddo gyda rhywun arall
Canllaw syml gan Gofrestrfa Tir EF ar gyfer perchnogion eiddo yng Nghymru a Lloegr.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae cofrestru tir yn gymhleth, wedi ei gynllunio i warchod buddion cyfreithiol ac ariannol mewn eiddo. Gall unrhyw wall arwain at ganlyniadau sylweddol. Dylech ystyried cael cynrychiolaeth gyfreithiol. Cyn gwneud cais heb gynrychiolaeth gyfreithiol, mae’n bwysig ystyried manteision defnyddio trosglwyddwr (cyfreithiwr eiddo).
Perchnogaeth ar y cyd
Mae Cofrestrfa Tir EF yn cadw’r cofnod swyddogol ar gyfer tir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr, o’r enw ‘y gofrestr teitl’. Mae hyn yn dangos pwy sy’n berchen ar yr eiddo ac sydd â hawl i’w werthu, ei forgeisio neu ddelio ag ef fel arall.
Mae’r gofrestr teitl yn dangos perchnogion cyfreithiol eiddo, ond nid yw’n dangos pwy sy’n elwa ohono’n ariannol na sut y byddai unrhyw arian yn cael ei rannu pe bai’r eiddo’n cael ei werthu.
Mae hyn yn bwysig oherwydd nid y bobl a enwir ar y gofrestr teitl yw’r un bobl sy’n elwa o’r eiddo bob tro.
Perchen ar eiddo gyda rhywun arall
Os ydych yn berchen ar eiddo gyda rhywun arall yng Nghymru neu Loegr, ceir dau fath gwahanol o berchnogaeth:
-
yr ystad gyfreithiol
-
y budd llesiannol
Nid yr un peth yw’r rhain, ac mae deall y gwahaniaeth yn bwysig.
Beth yw’r ystad gyfreithiol?
Mae’r ystad gyfreithiol yn ymwneud â phwy sy’n berchen ar yr eiddo yn gyfreithiol.
Pethau allweddol i’w gwybod:
-
Gelwir y perchnogion cyfreithiol yn berchnogion cofrestredig
-
Mae eu henwau’n ymddangos ar y gofrestr teitl
-
Os enwir mwy nag un person, maent yn berchen ar yr eiddo gyda’i gilydd
-
Gelwir hyn yn berchen fel cyd-denant (perchen fel cyd-berchennog yw’r ystyr, ac nid oes ganddo unrhyw beth i’w wneud â rhentu)
-
Ni ellir rhannu’r berchnogaeth gyfreithiol yn gyfrannau
-
Nid yw bod yn berchen ar yr ystad gyfreithiol bob amser yn golygu eich bod yn elwa o’r eiddo
Beth yw budd llesiannol?
Mae budd llesiannol yn ymwneud â phwy sy’n elwa o’r eiddo.
Fel rheol, mae hyn yn golygu:
-
yr hawl i fyw yn yr eiddo neu ei ddefnyddio
-
yr hawl i gael rhywfaint neu’r holl arian os caiff yr eiddo ei werthu
Budd llesiannol:
-
gellir ei rannu’n gyfrannau
-
nid oes yn rhaid i’r cyfrannau fod yn gyfartal
Er enghraifft:
-
gall un person gael 25%, a
-
gall person arall gael 75%
Efallai mai’r bobl sy’n elwa o’r eiddo yw’r un bobl â’r perchnogion cyfreithiol – ond nid oes rhaid iddynt fod.
Pam mae’r gwahaniaeth yn bwysig
Mae’r ystad gyfreithiol a’r budd llesiannol yn wahanol. Mae hyn yn bwysig oherwydd:
-
Dim ond yr ystad gyfreithiol mae Cofrestrfa Tir EF yn ei chofnodi
-
Nid yw’n cofnodi’r budd llesiannol
-
Os yw dau neu ragor o bobl yn berchen ar yr ystad gyfreithiol, maent yn dal yr eiddo ar ymddiried
-
Mae hyn yn golygu eu bod yn ei ddal ar ran y bobl sy’n berchen ar y budd llesiannol
Gall y bobl sy’n berchen ar y budd llesiannol fod:
-
yr un bobl â’r perchnogion cofrestredig, neu’n
-
bobl hollol wahanol
Ffyrdd gwahanol o fod yn berchen ar y budd llesiannol
Os yw dau neu ragor o bobl yn berchen ar y budd llesiannol, mae dwy brif ffordd y gallant wneud hyn – fel cyd-denantiaid neu fel tenantiaid cydradd. Am ragor o wybodaeth am hyn, gweler Cyd-berchnogaeth eiddo ar °Ç¸ç³Ô¹Ï.
Sut i ddod o hyd i wybodaeth am y budd llesiannol
Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi pwy sy’n berchen ar y budd llesiannol mewn eiddo, felly ni allwn ddweud yn sicr sut mae’n cael ei ddal. Am ragor o wybodaeth darllenwch ein blog
Newid y math o gyd-berchnogaeth
Gallwch newid y ffordd rydych yn berchen ar y budd llesiannol mewn eiddo. Gweler ein canllawiau am ragor o wybodaeth:
Newid o gyd-denantiaid i denantiaid cydradd
Newid o denantiaid cydradd i gyd-denantiaid
Newid perchnogaeth cartref pan fyddwch yn priodi neu’n symud i mewn gyda’ch gilydd
Gallwch wneud cais i ychwanegu rhywun arall fel perchennog ar y cyd eich eiddo.
Gallwch:
-
gwneud cais eich hun, neu
-
defnyddio cyfreithiwr neu drosglwyddwr eiddo
Gwerthu ar ran rhywun arall
Am wybodaeth am beth i’w wneud os bydd rhywun sy’n berchen ar dŷ neu dir yn marw, gweler Diweddaru’r gofrestr pan fydd perchennog eiddo yn marw.
Os ydych yn un o ddau berchennog tŷ neu fwy ac mae un perchennog wedi colli ‘galluedd meddyliol’, sy’n golygu na all wneud penderfyniad drosto ei hunan ar yr adeg y mae angen ei wneud, gweler Gwerthu pan fydd perchennog wedi colli galluedd meddyliol
Mae ffi i’w thalu.
Gwahanu ac ysgaru
Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, a’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil yw’r unig berchennog cyfreithiol ar eich cartref, efallai byddwch yn gallu amddiffyn eich hawl i barhau i fyw yno. Am ragor o wybodaeth, gweler Aros yn eiddo eich partner yn ystod ysgariad neu wahanu
Newid perchnogaeth cartref ar ôl ysgariad neu ddiddymiad
Weithiau, ar ôl ysgariad neu os daw partneriaeth sifil i ben, mae angen rhoi’r cartref yn enw un person. Gelwir hyn yn drosglwyddo’r cartref.
Mae hyn yn golygu bod y berchnogaeth yn newid:
-
o ddau berson i un, neu
-
o un partner i’r llall
Gall hyn ddigwydd trwy gytundeb neu oherwydd bod llys yn ei orchymyn.
Os yw’r cartref yn gofrestredig
Mae angen ichi lenwi 2 ffurflen:
| Ffurflen | Canllawiau |
|---|---|
| AP1 | Sut i lenwi ffurflen AP1 |
| TR1 | Sut i lenwi ffurflen TR1 |
| Ìý | Cyfarwyddyd ymarfer 24Ìý–ÌýYmddiriedau tir preifat |
Os oes gorchymyn llys, dywedwch wrthym amdano ym mlwch 11 ar Ffurflen TR1. Dim ond os yw’r barnwr wedi llofnodi’r ffurflen TR1 mae angen ichi anfon y gorchymyn llys atom.
Mae angen ichi anfon y canlynol atom hefyd:
-
y ffi gywir (yn seiliedig ar werth y cartref).
Am fanylion ein ffïoedd, gweler Graddfa 2 ein gorchymyn ffïoedd.
Os nad yw’ch cartref yn gofrestredig
Mae angen ichi lenwi 3 ffurflen:
| Ffurflen | Canllawiau |
|---|---|
| TR1 | Sut i lenwi ffurflen TR1 |
| FR1 | Cyfarwyddyd ymarfer 1: Cofrestriadau cyntaf |
| DL | Ìý |
Darllenwch amÌýble i anfon eich ffurflenni.
Oes angen help arnoch?
Gall llenwi’r ffurflenni hyn deimlo’n anodd – mae hynny’n arferol. Gallwn ddweud wrthych sut i lenwi ac anfon ffurflenni, ond ni allwn roi cyngor cyfreithiol. Os nad ydych yn siwr beth i’w wneud:
-
Siaradwch â throsglwyddwr (cyfreithiwr eiddo)
-
Darllenwch y canllawiau gan ddefnyddio’r cysylltau a ddarperir