ǸԹ

Skip to main content
Canllawiau

Talu Treth Dirlenwi

Sut i dalu Treth Dirlenwi, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio sut a phryd i dalu Toll Dirlenwi a’r hyn sydd i’w wneud os oes gennych ddim byd i’w dalu.

Mae yna ganllaw ar wahân ar gyfer talu Ardoll Agregau (yn agor tudalen Saesneg).

Pryd i dalu

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad (yn agor tudalen Saesneg) a thalu’r dreth sydd arnoch erbyn y dyddiad cau. Fel arfer, dyma ddiwrnod gwaith olaf y mis (ac eithrio unrhyw benwythnosau neu wyliau cyhoeddus) ar ôl diwedd cyfnod y Ffurflen Dreth, oni bai eich bod yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu ansafonol.

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Yr hyn sydd ei angen arnoch

Mae angen eich cyfeirnod talu arnoch, sy’n 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Gallwch ddod o hyd i hwn ar eich Ffurflen Dreth.

Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.

Talu ar-lein

Gallwch gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein.

Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talu drwy Ddebyd Uniongyrchol

I drefnu Debyd Uniongyrchol, gallwch argraffu ffurflen cyfarwyddyd Debyd Uniongyrchol (EEITT15) (yn agor tudalen Saesneg) a’i hanfon drwy’r post.

Dylech ganiatáu 10 diwrnod gwaith i CThEF drefnu Debyd Uniongyrchol. Os na fydd wedi ei drefnu mewn pryd, bydd angen i chi ddefnyddio dull arall o dalu.

Unwaith y bydd y Debyd Uniongyrchol wedi’i drefnu, bydd CThEF yn casglu’r swm a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth yn awtomatig.

Mae’n rhaid i chi dalu gan ddefnyddio dull arall os ydych yn gwneud taliad o £20 miliwn neu fwy.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 00

  • rhif y cyfrif — 11963198

  • enw’r cyfrif — HMRC Landfill Tax

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB73 BARC 2005 1760 3873 98

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC Landfill Tax

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Talu â siec

Sicrhewch y bydd eich taliad yn cyrraedd CThEF cyn y dyddiad cau.

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘HM Revenue and Customs only’, ac ysgrifennwch eich cyfeirnod ar y cefn.

Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.

Gallwch gynnwys llythyr i ofyn am dderbynneb.

Anfonwch eich siec i:

HM Revenue and Customs
Direct
BX5 5BD
United Kingdom

Os oes gennych ddim byd i’w dalu

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth i CThEF hyd yn oed os ydych wedi cyfrifo bod gennych ddim byd i’w dalu, neu fod ad-daliad yn ddyledus i chi.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Ebrill 2026 show all updates
  1. A Welsh translation has been added

  2. Information about the maximum amount you can pay by Direct Debit has been updated.

  3. Information about approving a payment through your online bank account has been added.

  4. Cheque payment details updated.

  5. First published.

Argraffu'r dudalen hon