ǸԹ

Skip to main content
Canllawiau

Talu ffi’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol

Sut i dalu eich ffi ddilysu ar gyfer y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, a pha mor hir mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Os ydych yn gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, bydd angen i chi dalu ffi.

Ni ellir ad-dalu’r ffi dilysu ac mae y tu allan i gwmpas TAW.

Pam y mae’n rhaid i chi dalu

CThEF yw awdurdod dilysu dynodedig y DU. Mae deddfwriaeth y DU yn caniatáu i CThEF godi ffi ddilysu er mwyn adennill costau gweinyddu’r cynllun.

Yng Nghyllideb yr Hydref 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o £5 miliwn yn y cynllun i gefnogi cynhyrchwyr gwirodydd y DU. Ers hynny, mae CThEF wedi cyflwyno ffi ddilysu safonol a fydd yn weithredol rhwng 1 Gorffennaf 2025 a 30 Mehefin 2031.

Bydd y diwydiant yn cael gwybod ynghylch unrhyw newidiadau sylweddol yn y dyfodol i strwythur y ffioedd cyn iddynt gael eu cyflwyno.

Y ffi ddilysu

Bydd CThEF yn codi ffi ddilysu safonol, sef £250 fesul cyfleuster, ar gyfer dilysiadau a gynhelir rhwng 1 Gorffennaf 2025 a 30 Mehefin 2031.

Codir y ffi ar gyfer pob gwirod â dynodiad daearyddol. Er enghraifft, mewn cyfleuster sy’n potelu Scotch Whisky a Wisgi Cymreig Brag Sengl, bydd y ffi yn cael ei chodi ar y ddau.

Os bydd ymweliadau pellach, gan gynnwys er mwyn dilysu prosesau newydd neu gynnal gwiriadau cydymffurfio, codir £250 ychwanegol fesul cyfleuster.

Pryd i dalu

Ar ôl i chi wneud cais i ymuno â’r cynllun, neu ar ôl i chi gyflwyno Ymrwymiad ar gyfer Scotch Whisky (yn agor tudalen Saesneg), byddwn yn anfon anfoneb atoch sy’n cynnwys y ffi ar gyfer eich cofrestriad a’ch dilysiad.

Bydd angen i chi dalu’ch ffi:

  • cyn bod modd trefnu ymweliad dilysu, os ydych yn gynhyrchydd yn y DU

  • cyn pen 30 diwrnod i’r dyddiad sydd ar yr anfoneb

Os bydd y dyddiad dyledus ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn ein cyrraedd erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os na fyddwch yn talu

Byddwch yn cael un nodyn i’ch atgoffa nad yw’ch anfoneb wedi’i thalu. Os na ddaw eich taliad i law:

  • ni fyddwch yn cael eich ymweliad dilysu, os ydych yn gynhyrchydd yn y DU

  • cewch eich trin fel un nad yw’n cydymffurfio, a hynny o’r dyddiad yr ydym yn ei roi i chi

  • caiff manylion eich cyfleusterau cynhyrchu dilys eu diwygio, eu dileu neu eu hepgor o’r

  • ni fydd unrhyw gynhyrchion sy’n cael eu cynhyrchu wedi’r dyddiad yr ydym yn ei roi i chi yn rhai dilys — caiff y manylion eu diwygio, eu dileu neu eu hepgor o’r rhestr o frandiau dilys yn y gwasanaeth chwilio

  • mae’n bosibl y byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdod gorfodi dynodedig

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod 14-rhif arnoch (er enghraifft, 18000012345678).

Gallwch ddod o hyd i’r rhif hwn ar yr anfoneb a anfonwyd gennym ar ôl i chi wneud cais i ymuno â’r Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol.

Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.

Talu ar-lein

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.

Gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein neu gyfrif bancio symudol i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd ni.

Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 20 50 46

  • rhif y cyfrif — 73987795

  • enw’r cyfrif — HMRC Accounts Receivable Receipts

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB61 BARC 2050 4673 9877 95

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC Accounts Receivable Receipts

Dylech wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ebrill 2026 show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. The verification fee information has been updated to reflect the fees payable between 1 July 2025 and 30 June 2031.

  3. Added details of a new verification fee that will start on 1 July 2025.

  4. Page updated to include references to Single Malt Welsh Whisky.

  5. You can now pay the Spirit Drinks Verification Scheme fee using your online or mobile bank account.

  6. Overseas payment details updated.

  7. First published.

Argraffu'r dudalen hon