Talu’r TAW sy’n ddyledus ar eich Ffurflen Gwasanaeth Un Cam TAW
Sut i dalu’r TAW sy’n ddyledus ar eich Ffurflen Gwasanaeth Un Cam (GUC) TAW a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad ddod i law CThEF.
Cyn i chi dalu’ch Ffurflen Gwasanaeth Un Cam (GUC) TAW, dylech ddysgu sut i lenwi’ch ffurflen (yn agor tudalen Saesneg).
Pryd i dalu
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen TAW (yn agor tudalen Saesneg) a thalu’r TAW sy’n ddyledus, yn llawn, erbyn diwrnod olaf y mis ar ôl diwedd pob chwarter.
Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.
Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y byddwch wedi eich eithrio rhag y cynllun ac efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
I fewngofnodi i’ch cyfrif GUC, mae angen eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Bydd eich cyfeirnod talu yn cael ei rag-lenwi.
I dalu heb fewngofnodi, bydd angen eich rhif cofrestru TAW. Bydd hwn ar eich tystysgrif cofrestru TAW.
Talu ar-lein
Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:
-
cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
-
cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Gallwch hefyd wneud taliadau a gweld eich hanes talu drwy gael mynediad at gynllun Undeb y GUC drwy eich cyfrif treth busnes CThEF.
Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes.
Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc
Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.
Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’ch cyfrif bancio symudol, i gymeradwyo’ch taliad.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gwiriwch eich cyfrif i wneud yn siŵr bod y taliad wedi mynd allan ar y dyddiad cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, cysylltwch â’ch banc.
Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol
Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn gennym ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion rydych wedi’u nodi’n cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.
Talu drwy drosglwyddiad banc
Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.
Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Dylech ofyn i’ch banc ddefnyddio’r cod ‘OUR’ yn y maes ‘Detail of charge’ pan fydd yn prosesu’ch taliad.
Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod unigryw fel y cyfeirnod talu. Mae hwn yn 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘NI’. Byddwch wedi cael hwn pan wnaethoch gyflwyno eich Ffurflen TAW.
Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:
-
bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir
-
byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:
-
cod didoli — 08 32 00
-
rhif y cyfrif — 12001047
-
enw’r cyfrif — HMRC VAT ON E
Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor
Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:
-
rhif y cyfrif (IBAN) — GB34 BARC 2005 1710 7534 91
-
Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22
-
enw’r cyfrif — HMRC VAT ON E
Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.
Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
Help a chymorth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am daliadau Ffurflen GUC TAW, e-bostiwch: paymentteam.moss@hmrc.gov.uk.
Updates to this page
-
A Welsh translation has been added.
-
The 'paying online through your bank account' section has been updated.
-
You can now select a date to pay when paying online through your bank account.
-
Welsh translation of this guidance has been added.
-
You can now access the OSS Union scheme through your HMRC business tax account.
-
More detailed information about different payment methods has been added to the 'How to pay' section.
-
The 'How to pay' section has been updated.
-
An email address to contact HMRC about One Stop Shop (OSS) VAT Return payments has been added.
-
First published.