Sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein ar gyfer talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres os ydych yn casglu treth ar fuddiannau a threuliau drwy eich cyflogres.
Mae’r rheolau ar gyfer adrodd buddiannau a threuliau yn newid.
Ni allwch newid y ffordd rydych chi’n adrodd buddiannau a threuliau ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol.
Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn mwyach ar gyfer:
- cofrestru i dalu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres
- canslo eich cofrestriad i dalu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres
Gwasanaeth ar-lein
Dim ond os ydych wedi cofrestru ar gyfer talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres cyn 6 Ebrill 2026 y gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Yn y gwasanaeth gallwch:
- fwrw golwg dros fuddiannau wedi’u cofrestru i’r gyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
- fwrw golwg dros y cyflogeion sydd wedi eu heithrio rhag cael buddiannau wedi’i dalu drwy’r gyflogres
- eithrio cyflogeion rhag cael buddiannau wedi’u talu drwy’r gyflogres ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
Os ydych yn gyflogwr, defnyddiwch y .
Os ydych chi’n asiant, mewngofnodwch i’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF — gallwch gael mynediad ar-lein at y gwasanaeth talu buddiannau drwy’r gyflogres drwy’r gwasanaeth TWE ar-lein ar gyfer asiantau.
Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth talu buddiannau a threuliau drwy’r gyflogres (yn agor tudalen Saesneg).
Sut mae talu drwy’r gyflogres yn gweithio
Gallwch ond talu buddiannau drwy’r gyflogres os gwnaethoch gofrestru i dalu drwy’r gyflogres cyn 6 Ebrill 2026.
Ar gyfer buddiannau rydych chi wedi’u cofrestru i dalu drwy’r gyflogres, rhaid i chi ychwanegu’r arian parod sy’n cyfateb i fuddiannau’r cyflogai at ei gyflog ac yna eu trethu trwy eich cyflogres.
Bydd CThEF yn sicrhau nad yw gwerth y buddiannau wedi’u cynnwys yng nghodau treth eich cyflogeion.
Os ydych chi’n talu am fuddiant drwy’r gyflogres:
- nid oes angen i chi ddefnyddio ffurflen P11D ar gyfer y buddiannau
- rhaid i chi barhau i gyfrifo cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A ar fuddiant a llenwi ffurflen P11D(b)
Gallwch eithrio cyflogeion rhag cael buddiannau wedi’u talu drwy’r gyflogres, ond bydd angen i chi ddefnyddio ffurflen P11D i ddatgan y buddiannau nad ydynt i’w talu drwy’r gyflogres. Ar ôl i chi eithrio cyflogai, ni allwch eu hychwanegu yn ôl at fuddiant.
Ni allwch roi’r canlynol ar y gyflogres:
- llety byw a ddarparwyd gennych chi, fel cyflogwr
- benthyciadau (buddiannol) sy’n ddi-log a llog isel
Os ydych chi’n darparu buddiannau sydd heb gael eu talu drwy’r gyflogres
Bydd angen i chi gyflwyno P11Ds electronig ar gyfer unrhyw gyflogeion lle rydych wedi darparu buddiannau ychwanegol sydd heb gael eu talu drwy’r gyflogres.
Updates to this page
-
Added information about changes to the rules on reporting benefits and expenses. Removed information about registering and cancelling registrations for the service, as you cannot do this any more.
-
Added translation
-
A link for agents to use the Payrolling Benefits in Kind online service has been added.
-
The link to the form 'PAYE — notification of payrolled benefits' to tell us about payrolled benefits paid to your employees has been removed. You must register and use the online service.
-
The section on Submitting electronic P11Ds has been changed because employers no longer need to use the service to send P11D’s in for payrolled employees from April 2023.
-
From 6 April 2023, HMRC will no longer HMRC will no longer accept informal payrolling of expenses and benefits, or paper P11D forms.
-
The address in the section on other ways to apply has been updated.
-
HMRC's Basic PAYE Tools can now support the payrolling benefits online service.
-
Welsh translation added.
-
Link to further guidance on payrolling benefits in kind added.
-
Guidance on using the new Payrolling Benefits in Kind service has been amended following feedback from users.
-
Register now to use the new Payrolling Benefits in Kind online service. From 6 April 2016 you'll need to use this service if you want to payroll your expenses and benefits. You'll have to register for the new service by 5 April 2016 and you'll no longer have to submit P11Ds for your employees. This service replaces the current informal payrolling process.
-
First published.