Canllawiau ar wneud cais am gynhyrchion rheoleiddiedig
Yr hyn y mae angen i chi ei gyflwyno fel rhan o’ch cais i awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig.
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Gwybodaeth bwysig am y broses awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad yn sgil cyhoeddiad y DU am y Cytundeb SPS rhwng y DU a’r UE
Trosolwg
Mae llywodraeth y DU wrthi’n trafod Cytundeb Iechydol a Ffytoiechydol (SPS) â’r Undeb Ewropeaidd (UE), a fydd yn gymwys rhwng y ddau endid, yn dilyn yr ymrwymiad a wnaed ynÌýUwchgynhadledd y DU a’r UE ym mis Mai 2025. Byddai’r Cytundeb hwn yn creu Parth SPS cyffredin rhwng y DU a’r UE.Ìý
Efallai y bydd angen i fusnesau yn y sectorau bwyd a ffermio, a’r rheiny sy’n gysylltiedig â nhw, fel manwerthwyr a phroseswyr, wneud rhai newidiadau er mwyn dilyn rheolau’r UE, hyd yn oed os ydynt yn cynhyrchu ac yn gwerthu o fewn Prydain Fawr yn unig.Ìý
Er bod trafodaethau’n parhau, anogir pob busnes yn y DU, yn fawr ac yn fach, sy’n tyfu, cyflenwi, prosesu neu gludo nwyddau amaethyddol i ddechrau paratoi ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod.ÌýGallwchÌýddarllen cyhoeddiad Defra ac ymateb i’w galwad am wybodaeth ar ei gwefan.Ìý
Beth sydd angen i chi ei wybod
Yn amodol ar unrhyw eithriadau a drafodir, byddai Cytundeb SPS rhwng y DU a’r UE sy’n seiliedig ar aliniad deinamig yn golygu’r canlynol:
- byddai angen awdurdodiad i roi cynnyrch rheoleiddiedig ar farchnad yr UE er mwyn rhoi’r un cynnyrch ar farchnad Prydain Fawr
- byddai amodau defnyddio’r UE ac unrhyw ofynion ôl-awdurdodi hefyd yn gymwys ym Mhrydain Fawr
- byddai awdurdodiadau’r UE, sydd eisoes yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon, yn ymestyn i’r DU gyfan
- ni fyddai awdurdodiadau Prydain Fawr yn gymwys mwyach
- mae’n annhebygol y bydd nifer sylweddol o geisiadau yng ngwasanaeth awdurdodiadau’r farchnad Prydain Fawr yn cyrraedd pwynt penderfyniad gweinidogol cyn i’r Cytundeb fod ar waith
Efallai y gellir trafod eithriadau i’r model alinio deinamig mewn nifer cyfyngedig o feysydd, ond mae’r rhain yn destun trafodaethau – darperir diweddariadau pellach.
Yr hyn y mae angen i chi ei wneud nawr
- darllenwch yrÌýwybodaeth sydd ar gael ar y Cytundeb SPS arfaethedig rhwng y DU a’r UEer mwyn ymgyfarwyddo ag ef. Bydd hyn yn effeithio ar lawer o feysydd deddfwriaeth bwyd a bwyd anifeiliaid, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer awdurdodi cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig i’w rhoi ar y farchnad ac ar gyfer eu defnyddio
- ystyriwch sut y gallai newidiadau posib effeithio ar eich cynhyrchion
- ystyriwch adolygu eich strategaeth reoleiddioÌý
Er nad yw cwmpas terfynol unrhyw gytundeb â’r UE wedi’i gytuno eto, mae’rÌýcyhoeddiad ar °Ç¸ç³Ô¹Ïyn nodiÌýdeddfwriaeth yr UE, a deddfwriaeth drydyddol yr UE (er enghraifft, deddfau dirprwyedig a deddfau gweithredu) sydd o fewn cwmpas y trafodaethau ar hyn o bryd.
Gall y dolenni gwe canlynol eich helpu i ddeall deddfwriaeth diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid yr UE:
Os oes gennych gais sydd eisoes ar y gweill
Byddwn yn ysgrifennu at bob busnes sydd â cheisiadau ar hyn o bryd yng ngwasanaeth awdurdodiadau’r farchnad yr ASB/FSS, ac at gymdeithasau masnach perthnasol.
Pethau pwysig i’w cofio:
- mae rheolau presennol Prydain Fawr yn parhau i fod yn gymwys am y tro
- byddwn yn darparu unrhyw wybodaeth am y cyfnod pontio cyn gynted ag y bydd ar gael
Os ydych chi’n ystyried gwneud cais
Cyn i chi wneud cais, dylech chi wneud y canlynol:
- darllen yÌýrhestr gyfredol o reoliadau sydd o fewn y cwmpas ar °Ç¸ç³Ô¹ÏÌý
- deall gofynion penodol eich cynnyrch
- ystyried a oes angen i chi wneud cais i’r UE hefyd
- asesu effeithiau posib ar eich amserlen baratoi
Y camau nesaf
Byddwn yn parhau i fonitro datblygiadau a darparu diweddariadau pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael fel y gall busnesau gynllunio’n hyderus.
Am gwestiynau am geisiadau neu’r broses awdurdodi cynhyrchion i’w rhoi ar y farchnad:
- tanysgrifiwch i’rÌý
- am gwestiynau cyffredinol ynghylch y cyhoeddiad a’r alwad am wybodaeth:ÌýSPSCFI@defra.gov.uk
- am bob ymholiad ac adborth arall ynghylch diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid:ÌýUKEU.SPSEngagement@food.gov.uk
Cyn i chi ddechrau
Mae’n rhaid i rai cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid, a elwir yn gynhyrchion rheoleiddiedig, fynd trwy broses dadansoddi risg, ac mae’n rhaid eu hawdurdodi i’w rhoi ar y farchnad cyn y gellir eu gwerthu.
Cyn i chi ddechrau’r broses o wneud cais, bydd angen i chi ystyried a oes angen i chi wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig i’w roi ar y farchnad. ÌýMae’r dudalen hon yn esbonio’r gofynion o ran gwneud cais a bydd yn eich helpu i bennu a oes angen i chi wneud cais.
Ìý
Mae angen i chi wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig os ydych yn dymuno rhoi un o’r mathau canlynol o gynhyrchion ar y farchnad ym Mhrydain Fawr. Dilynwch y dolenni i weld canllawiau penodol yr ASB ar gyfer pob math o gynnyrch (‘cyfundrefn’). Mae’r tudalennau hyn hefyd yn cynnwys dolenni i’r canllawiau a’r rheoliadau perthnasol sy’n gymwys i bob cyfundrefn:
- Ìý(PARNUTS)
- Ìý(GMOs) fel bwyd a bwyd anifeiliaid
Yn ogystal, os ydych yn dymuno gwneud cais i awdurdodi cynnyrch canabidiol (CBD), gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn einÌý.
Os hoffech wneud cais i awdurdodi cynnyrch a wneir drwy feithrin celloedd (CCP), gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn einÌý.
Awdurdodiadau presennol
Os cafodd eich cynnyrch neu eich proses ei hawdurdodi gan y Comisiwn Ewropeaidd (CE) cyn 1 Ionawr 2021 a bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol yn gymwys, mae’r awdurdodiad hwnnw’n parhau i fod yn ddilys ym Mhrydain Fawr.
Rhoi eich cynnyrch ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon
Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno rhoi cynhyrchion rheoleiddiedig ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon barhau i ddilyn proses awdurdodi’r UE. Fodd bynnag, gall cynhyrchion rheoleiddiedig wedi’u pecynnu ymlaen llaw i’w hadwerthu a awdurdodwyd ym Mhrydain Fawr hefyd gael eu rhoi ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon, ar yr amod eu bod yn gymwys ar gyfer Cynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS) a’u bod yn cael eu symud drwyddo.
Y broses o wneud cais
Unwaith y byddwch wedi cadarnhau bod y cynnyrch yr ydych am ei roi ar y farchnad yn gynnyrch rheoleiddiedig nad yw eisoes wedi’i awdurdodi ym Mhrydain Fawr, mae’n rhaid i chi adolygu’r wybodaeth ar y dudalen hon a’r canllawiau sy’n benodol i’ch cyfundrefn cyn i chi gyflwyno’ch cais. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth ofynnol.
Mae angen yr wybodaeth hon fel y gall ein haseswyr risg bennu a yw’r cynnyrch neu’r broses yn ddiogel, ac er mwyn helpu i benderfynu a fydd y cais yn cael ei awdurdodi.
Mae’rÌýÌýyn rhestru’r cynhyrchion rheoleiddiedig y caniateir eu defnyddio ym Mhrydain Fawr ac yn cyfeirio at eu telerau awdurdodi.
Pwysig
Bydd ansawdd y goflen, a’r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio’n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi.ÌýRydym yn annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu’r holl wybodaeth ofynnol er mwyn sicrhau y gallwn brosesu eich cais mor effeithlon â phosib. Mae ceisiadau anghyflawn yn debygol o gael eu gohirio a/neu eu hystyried yn annilys neu eu gwrthod.
I gael trosolwg o’r broses awdurdodi, edrychwch ar einÌýÌýa’nÌý.
Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o gynhyrchion rheoleiddiedig, unwaith y bydd cynhyrchion neu brosesau wedi’u hawdurdodi, cânt eu rhestru mewnÌý, sydd hefyd yn nodi sut y gellir eu defnyddio.
Nid yw’r cofrestrau ar gyfer y sylweddau neu’r prosesau canlynol wedi’u creu eto:
- ensymau bwyd
- deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd – prosesau ailgylchedig
- deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd – deunyddiau gweithredol a deallus
Hyd nes y bydd y cofrestrau ar waith, gellir gosod y cynhyrchion hyn ar y farchnad os ydynt yn bodloni gofynion:Ìý
- yÌý
- y meini prawf cyffredinol perthnasol yn y ddeddfwriaeth ensymau bwyd a deunydd a ddaw i gysylltiad â bwyd
Sylwer:ÌýYn gyffredinol, ni roddir awdurdodiadau ar gyfer bwydydd cyfansawdd. Mae’r gofyniad i wneud cais am awdurdodiad yn ymwneud â sylwedd penodol (er enghraifft 2’-ffycosylactos fel bwyd newydd) yn hytrach na chynnyrch cyfansawdd sy’n cynnwys cynnyrch rheoleiddiedig fel cynhwysyn (er enghraifft diod â blas sy’n cynnwys y bwyd newydd 2’-ffycosylactos). Rhaid paratoi ceisiadau am awdurdodiadau yn unol â hynny.
Y broses awdurdodi
Wrth asesu eich cais, byddwn yn ystyried cyfraith a gymathwyd a’r canllawiau a ddatblygwyd yn flaenorol gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA), fel yr amlinellwyd yn y canllawiau cyfundrefn-benodol.
Ar ôl i chi gyflwyno’ch cais, byddwn ni’n cynnal gwiriadau cychwynnol i sicrhau ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Yna, bydd yr ASB, ynghyd â Safonau Bwyd yr Alban (FSS), yn cynnal asesiad i benderfynu a yw’r cynnyrch neu’r broses yn ddiogel i’w rhoi ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Gallai hyn olygu asesiad risg gan un o’nÌý a/neuÌýacÌýystyriaeth ffactorau dilys eraill(er enghraifft, risgiau i’r amgylchedd). Bydd y rhain yn cael eu cyfuno i ffurfio pecyn tystiolaeth.Ìý
Yn seiliedig ar y dystiolaeth hon, byddwn yn ystyried dewisiadau rheoli risg posib ac yn gwneud argymhelliad i weinidogion. Bydd cyfle i wneud sylwadau ar y cais trwy gymryd rhan mewn ymgynghoriad yn ystod y broses rheoli risg a chyn i’r argymhelliad terfynol gael ei wneud. Yna bydd y gweinidogion yn penderfynu a ddylid awdurdodi’r cynnyrch i’w ddefnyddio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Os penderfynir cefnogi awdurdodiad, bydd y gofrestr berthnasol yn cael ei diweddaru i adlewyrchu’r newid.
Bydd amseriad y broses dadansoddi risg lawn yn dibynnu ar ba mor gymhleth yw’r cais ac ar y math o gynnyrch.Ìý Mae’r terfynau amser wedi’u gosod mewn deddfwriaeth ar gyfer rhai cynhyrchion.
Bydd ansawdd y goflen, a’r wybodaeth a ddarperir, yn effeithio’n sylweddol ar yr amser sydd ei angen ar gyfer asesu ac awdurdodi. Rydym yn annog ymgeiswyr i ddilyn y canllawiau a darparu’r holl wybodaeth ofynnol er mwyn sicrhau y gallwn brosesu eich cais mor effeithlon â phosib.
Ceisiadau parhaus i’r Undeb Ewropeaidd (UE)
Os gwnaethoch gyflwyno’ch cais i’r UE cyn 1 Ionawr 2021 ac nad yw’r broses asesu wedi’i chwblhau eto, bydd angen i chi gyflwyno’ch cais i ni gan ddefnyddio ein porth ymgeisio. Cofiwch gynnwys eich rhif cwestiwnÌýEFSAÌýyn eich cais.
Efallai y byddwn yn ystyried barn gyhoeddedigÌýEFSAÌýa chanlyniad unrhyw drafodaethau rheoli risg ar ddiwedd y cyfnod pontio, ond mewn rhai achosion efallai y bydd angen i ni barhau i gynnal asesiad risg llawn ac ystyried yr opsiynau ar gyfer rheoli risg.
Sut i wneud cais
Gwneir ceisiadau trwy einÌý, lle gallwch uwchlwytho’r holl wybodaeth ofynnol. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, byddwch yn cael e-bost gyda chyfeirnod eich achos a dolen ddiogel lle gallwch weld eich cais a hanes eich achos.
Cyngor cyffredinol ar gyflwyno cais
Wrth wneud cais i awdurdodi cynnyrch rheoleiddiedig, bydd yn rhaid i chi ddarparu gwybodaeth weinyddol a thechnegol, a gwybodaeth am ddiogelwch. Bydd yr wybodaeth hon yn ffurfio coflen eich cais.
Mae gofynion a strwythur y goflen yn benodol i’r gwahanol fathau o gynhyrchion. Rhaid i chi ddarllen a dilyn y canllawiau manwl ar gyfer y gyfundrefn sy’n berthnasol i’ch cynnyrch (er enghraifft, bwydydd newydd, ychwanegion bwyd) a chyflwyno’r data a’r wybodaeth ofynnol a nodir yn y canllawiau perthnasol.
Efallai y bydd yn rhaid gwneud ceisiadau o dan fwy nag un gyfundrefn ar gyfer rhai cynhyrchion newydd, yn enwedig cynhyrchion a addaswyd yn enetig.ÌýOs gallai hyn fod yn berthnasol i’ch cynnyrch, fe’ch cynghorir yn gryf i gysylltu â ni trwyÌýregulatedproducts@food.gov.ukÌýcyn dechrau cais.
Mae canllawiau cyfundrefn-benodol yr ASB yn cysylltu â rhannau o’r canllawiau technegol a gynhyrchwyd ganÌýEFSAÌýlle maent yn dal i fod yn berthnasol.
Fel y nodir yng nghanllawiau cyfundrefn-benodol yr ASB ar drefniadau penodol, dylech ddilyn y rhannau o’r canllawiauÌýEFSAÌýsy’n ymwneud â datblygu coflenni yn unig (nid y broses o wneud cais).
Beth sydd ei angen ar gyfer gwneud cais
Mae dwy ran i’r cais:
- Gwybodaeth weinyddolÌý
Bydd angen i ni wybod:
- pwy sy’n gwneud cais am yr awdurdodiad
- pwy sy’n gyfrifol am y cynnyrch neu’r broses
- gyda phwy y dylem ni gysylltu os bydd gennym unrhyw gwestiynau
Bydd hi hefyd yn ddefnyddiol gwybod statws y cais yn yr UE, os yw wedi’i gyflwyno yno.
Rhaid i ymgeiswyr ddarparu eu manylion diweddaraf i’r ASB ar gyfer gohebiaeth. Gall methu â gwneud hynny olygu bod y cais neu’r ceisiadau’n cael eu hystyried yn annilys.Ìý
- Gwybodaeth dechnegol a diogelwch
Mae angen i’r goflen gynnwys yr holl wybodaeth y gofynnir amdani yn y canllawiau a’r rheoliadau perthnasol ar gyfer y gwahanol fathau o gynhyrchion rheoleiddiedig. Os byddwch yn methu â chyflwyno’r holl wybodaeth angenrheidiol, gall eich cais fod yn destun oedi a/neu gall gael ei wrthod neu ei ystyried yn annilys. Mae’r porth ymgeisio yn cynnwys rhestr wirio i’ch helpu i sicrhau bod eich coflen yn gyflawn pan fyddwch yn ei chyflwyno. Ni ddylech gyflwyno’ch cais oni bai bod gennych yr holl wybodaeth ategol sy’n angenrheidiol ar gyfer eich cais a’ch bod wedi uwchlwytho’r wybodaeth ar y porth ymgeisio ar-lein.
Mae angen yr wybodaeth hon arnom i ddeall mwy am y cynnyrch neu’r broses a sut y bwriedir ei defnyddio. Bydd hyn yn ein galluogi i gynnal asesiad risg trylwyr, lle bo’n briodol, i wirio a ellir defnyddio’r cynnyrch neu’r broses yn ddiogel er mwyn helpu i benderfynu a fydd y cais yn cael ei awdurdodi.
ÌýRhaid i chi gyflwyno’r holl ddata perthnasol, p’un a yw’r canlyniadau’n cefnogi’r cynnyrch ai peidio, i ddangos eich bod yn deall y risgiau ac wedi nodi sut y gellir eu rheoli. Dylech restru’n glir yr holl ddata a ddarparwyd ac egluro sut mae’n cefnogi’r cais.
Dylech hefyd ddweud wrthym pa wybodaeth yn y cais yr hoffech iddi gael ei chadw’n gyfrinachol, yn unol â’r meini prawf a nodir yng nghanllawiau cyfundrefn-benodol yr ASB. Dylid darparu copïau o bob cyfeiriad ynghyd â thabl cyfeiriadau, a ddylai nodi’n glir pa ffeiliau neu rannau o ffeiliau sy’n cael eu hystyried yn gyfrinachol ac y gwnaed cais diogelu data ar eu cyfer.
Rydym yn derbyn coflenni yn Gymraeg ac yn Saesneg.Ìý Rhaid cyfieithu unrhyw ddogfennau, gan gynnwys dogfennau ategol fel atodiadau neu gyfeiriadau sydd mewn ieithoedd eraill, a darparu’r cyfieithiad hwnnw wrth gyflwyno’r cais.
Enwau ffeiliau
Dylid enwi’r ffeiliau o fewn y goflen mewn modd rhesymegol.Ìý Mae mwy o fanylion yn y rhestrau gwirio yn y porth. Bydd hyn yn lleihau’r siawns o golli data allweddol.Ìý Bydd yn cymryd mwy o amser i asesu coflenni nad ydynt yn nodi swyddogaeth pob ffeil yn glir.Ìý Mae hefyd yn bwysig croesgyfeirio ffeiliau o fewn y goflen lle bo’n berthnasol a nodi gwybodaeth ategol yn glir.
Gwnewch yn siŵr nad yw enwau ffeiliau yn cynnwys y nodau arbennig canlynol:
- dyfynnod “
- seren *
- colonÌý:
- arwydd llai na <
- arwydd mwy na >
- marc cwestiwn ?
- blaen slaes /
- ôl-slaes \
- bar fertigol
- hashnod #
- canran ‘%’
Mathau o ffeiliau
Dim ond y mathau canlynol o ffeiliau y gallwch eu huwchlwytho:
- .7z
- .ab1
- .aln
- .ascÌý
- .bai
- .bamÌý
- .csvÌý
- .docÌý
- .docxÌý
- .fa
- .faaÌý
- .fast5Ìý
- .fastaÌý
- .fastqÌý
- .ffnÌý
- .fna
- .fo
- .fq
- .frnÌý
- .gffÌý
- .gbk
- .gff3Ìý
- .hdf5Ìý
- .odfÌý
- .pdfÌý
- .pptÌý
- .pptxÌý
- .rÌý
- .rar
- .samÌý
- .sasÌý
- .tar
- .tsvÌý
- .txtÌý
- .xlsÌý
- .xlsxÌý
- .zip
Nid oes modd uwchlwytho unrhyw fath arall o ffeil, fydd unrhyw fath arall o ffeil, gan gynnwys lluniau.
Os oes gennych wybodaeth nad yw ar gael yn unrhyw un o’r fformatau neu meintiau hyn, cysylltwch â ni drwyÌýregulatedproducts@food.gov.ukÌýi drafod opsiynau. Argymhellir hyn yn arbennig ar gyfer y rheiny sy’n gwneud cais ar gyfer cynhyrchion GM cyn iddynt uwchlwytho eu ffeiliau.
Uwchlwytho sawl ffeil
Gallwch uwchlwytho uchafswm o 100 o ffeiliau ar y tro.ÌýOs oes gennych fwy na 100 o ffeiliau, gallwch uwchlwytho sawl gwaith.
Cyngor ar ddarparu cais dilys
Ni fydd y pwyntiau isod yn berthnasol i bob cyfundrefn, ond maent yn rhoi rhywfaint o gyngor cyffredinol:
- darperir canllawiau manwl yn nogfennau canllaw’r ASB sy’n cysylltu, lle bo’n briodol, â chanllawiau perthnasolÌýEFSA. ÌýDylai ymgeiswyr gyfeirio bob amser at y canllawiau cyfundrefn-benodol i gael eglurhad, gan fod canllawiau perthnasol yn cael eu hadolygu yn ôl yr angen i gynnal safonau priodol a chefnogi coflenni o ansawdd uchel.
- dylech esbonio’n glir ddiben y cynnyrch, y defnydd a fwriedir a’i gyfansoddiad. Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o gyfansoddiad y cynnyrch a nodi sut rydych yn gwybod am ddilysrwydd y cynnyrch. Er enghraifft, efallai y bydd angen rhoi’r enw cemegol neu’r enw gwyddonol (Lladin), yn dibynnu ar y gyfundrefn
- dylid cynnwys yr holl wybodaeth dechnegol angenrheidiol pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais, fel yr amlinellir yn y canllawiau cyfundrefn-benodol. ÌýEr enghraifft, mae angen dogfennau dilysu a/neu achredu priodol ar gyfer dulliau dadansoddi ar gyfer pob cyfundrefn wahanol, a dylid eu cynnwys wrth gyflwyno ceisiadau
- rydym yn cynghori dilyn y penawdau a’r is-benawdau a roddir yng nghanllawiau perthnasolÌýEFSA, er mwyn cynorthwyo’r gwaith dilysu. ÌýRhaid i bob adran gael ei chwblhau gan yr ymgeisydd i gael ei hystyried yn ffeil ddilys. ÌýOs nad yw adran a roddir yn y canllawiau yn briodol ar gyfer y cynnyrch, dylai’r ffeil gynnwys cyfiawnhad rhesymegol ynghylch pam (er enghraifft, hanes o’i ddefnydd). Ìý
- dylai’r goflen dechnegol esbonio sut mae’r cynnyrch yn bodloni’r meini prawf a nodir yn y rheoliad a’r canllawiau perthnasol. Dylech restru’n glir yr holl ddata a ddarparwyd ac egluro sut mae’n cefnogi’r farn bod y cynnyrch yn ddiogel. Rhaid i chi gyflwyno’r holl ddata perthnasol, p’un a yw’r canlyniadau’n cefnogi’r cynnyrch ai peidio
- ar gyfer y rhan fwyaf o lwybrau ymgeisio, dylai’r coflenni gynnwys eich asesiad o risg y cynnyrch, gyda digon o wybodaeth i ddilysu’r asesiad hwn. ÌýDiben yr asesiad yw dangos eich bod yn deall y risgiau a’ch bod wedi nodi sut y gellir eu rheoli
- lle bo’n briodol, dylid cynnwys gwybodaeth am berthnasedd a chryfder y data, yn ogystal â’r dulliau profi. Dylid hefyd gynnwys dehongliad o’r data. ÌýOs yw’n berthnasol, dylid ystyried amrywioldeb y cynnyrch wrth ddewis pa sypiau i’w profi. Rhaid i geisiadau sydd â llai o sypiau nag a nodir yn y canllawiau roi cyfiawnhad llawn dros y nifer a gyflwynir. Ìý Ìý
- ar gyfer coflenni lle mae angen llenwi adran gynhyrchu, maeÌýÌýyn ddefnyddiol. Dylai’r wybodaeth yn yr adran hon nodi a oes risgiau newydd wedi’u cyflwyno yn ystod y broses gynhyrchu ac i ba raddau y caiff peryglon cyfredol y deunydd cychwynnol eu rheoli. Os bydd profion dadansoddi’r cynnyrch yn cefnogi’r asesiad o ba mor effeithiol yw cam penodol, dylid nodi hyn yn glir.
Ceisiadau am ragor o wybodaeth
Pwysigrwydd cyflwyno cais cyflawn
Wrth gyflwyno ceisiadau, mae’r ASB yn disgwyl iddynt fod yn gyflawn ac iddynt gynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol. Mae angen yr wybodaeth hon fel y gall ein haseswyr risg bennu a yw’r cynnyrch neu’r broses yn ddiogel, ac er mwyn helpu i benderfynu a fydd y cais yn cael ei awdurdodi.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ofynion ceisiadau, gallwch gysylltu â niÌý.ÌýÌý
Mae ceisiadau anghyflawn yn debygol o gael eu gohirio a/neu eu hystyried yn annilys. Os yw’r wybodaeth mewn ceisiadau yn anghyflawn neu ar goll, yna bydd cyfle cyfyngedig i lenwi’r bylchau, o fewn rheswm ac yn ôl disgresiwn yr ASB.Ìý
Isod, ceir gwybodaeth a chyngor ar ddisgwyliadau’r ASB pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth, a allai fod yn wahanol i reoleiddwyr eraill.
Ymateb i geisiadau am wybodaeth yn ystod y cam dilysu
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, bydd yn mynd trwy gyfres o wiriadau cyn y gellir ei ddilysu. Er mwyn llwyddo yn y cam dilysu, ni ddylai fod angen ychwanegiadau sylweddol.
Os canfyddir bod gwybodaeth ar goll neu’n anghyflawn, mae’n bosib y byddwn yn anfon cais am fwy o wybodaeth, a byddwn yn oedi’r cais nes bydd yr wybodaeth yn dod i law. Bydd pob cais yn egluro pa wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu. Bydd hefyd yn nodi’n glir y dyddiad cau pryd y bydd yn rhaid i’r cais ddod i law. Os bydd angen mwy o amser arnoch, dylech ymateb cyn gynted â phosib o fewn y cyfnod penodedig i gynnig dyddiad cau arall, gan esbonio pam. Wedyn, byddwn yn ystyried eich cais.Ìý
Dylai eich ymatebion i’n ceisiadau am wybodaeth fod yn drylwyr, gan roi sylw i bob pwynt yr ydym wedi’i godi. Dylech chi roi esboniad rhesymol os na fydd eich atebion yn bodloni’r gofynion hynny.Ìý Cofiwch y pwyntiau canlynol:Ìý
- Ni fyddwn yn gofyn yr un cwestiwn ddwywaith, felly ni ddylech ddisgwyl i ni anfon ceisiadau dilynol i fynd ar drywydd gwybodaeth yr ydym eisoes wedi gofyn amdani os yw’n dal i fod ar goll ar ôl y dyddiad cau.Ìý
- Efallai y byddwn yn gofyn i chi egluro’r wybodaeth yr ydych yn ei chyflwyno i ni.Ìý
Os daw’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth i ben ac nad ydych wedi anfon yr wybodaeth rydym wedi gofyn amdani, yna bydd y penderfyniad ar ddilysu yn seiliedig ar yr wybodaeth yr ydych eisoes wedi’i rhoi i ni.ÌýÌý
Ymateb i geisiadau am wybodaeth yn ystod y cam asesu
Os bernir bod eich cais yn ddilys a’i fod yn symud i’r cam asesu, efallai y gofynnir i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol. Dyma wybodaeth y mae’r tîm arbenigol perthnasol neu’rÌý yn ei hystyried yn angenrheidiol i gefnogi’r asesiad. Byddwn yn oedi’r cais nes i’r wybodaeth ddod i law.
Bydd pob cais yn nodi’r wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu a’r dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny. Os bydd angen mwy o amser arnoch, bydd cyfle i chi gynnig dyddiad cau arall. Fodd bynnag, mae’n annhebygol y bydd amserlenni hirfaith ar gyfer cynnal astudiaethau ychwanegol yn cael eu derbyn os yw’n rhesymol disgwyl y dylai’r wybodaeth fod wedi’i chyflwyno gyda’r cais. Er mwyn osgoi’r sefyllfa hon, dylai ymgeiswyr ddarllen y canllawiau cyfundrefnol perthnasol ar ein gwefan yn drylwyr cyn cyflwyno.
Rhaid i chi ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani erbyn y dyddiad cau. Mae ymatebion hwyr neu anghyflawn yn debygol o arwain at orfod asesu eich cais ar sail yr wybodaeth sydd ar gael.
Ystyriaethau pellach
Dylai ymgeiswyr ddarllen y cais am wybodaeth i sicrhau eu bod yn deall yn iawn yr hyn sy’n cael ei ofyn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar ôl darllen y canllawiau perthnasol, dylid eu codi cyn gynted â phosibl. Os oes unrhyw faterion technegol cymhleth na ellir eu datrys trwy gyfathrebu ysgrifenedig, mewn amgylchiadau eithriadol efallai y byddwn yn trefnu cyfarfod, ar yr amod bod y materion wedi’u mynegi’n glir yn ysgrifenedig yn gyntaf.
Fel y nodwyd uchod, disgwylir i ymgeiswyr gyflwyno ceisiadau cyflawn, a bydd ceisiadau am wybodaeth yn cael eu cyhoeddi yn ôl disgresiwn yr ASB. Mae penderfyniadau ynghylch yr amserlenni ar gyfer ymateb i geisiadau am wybodaeth, yn ogystal â digonolrwydd a chyflawnder ymatebion, hefyd yn parhau i fod yn ôl disgresiwn yr ASB.
Byddwn yn ystyried amgylchiadau fesul achos, gan gynnwys i ba raddau y cydymffurfiwyd â chanllawiau’r ASB, a byddwn yn ymdrechu i sicrhau cysondeb a thegwch i ymgeiswyr, wrth hefyd hwyluso proses awdurdodi amserol ac effeithlon.
Gwneud cais am gynnyrch rheoleiddiedig
Gallwch nawr ddefnyddio ein porth ymgeisio ar-lein iÌý.
Cael help
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig, neu gwestiynau cyffredinol o ran a yw cynnyrch wedi’i ganiatáu yn y DU, a hynny ar ôl edrych ar y cofrestrau, cysylltwch â ni drwyÌýregulatedproducts@food.gov.ukÌýcyn dechrau gwneud cais.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, gan gynnwys ymholiadau ar fewnforion a chofrestru busnes bwyd, darllenwch einÌýÌýaÌý os oes angen rhagor o gymorth arnoch.
Darparu gwybodaeth am gynhyrchion rheoleiddiedig awdurdodedig
Os oes angen i chi gysylltu â’r ASB ynglÅ·n ag awdurdodiad sy’n bodoli eisoes, anfonwch e-bost atom ynÌýregulatedproducts@food.gov.uk.Ìý Dylech ddefnyddio’r llwybr hwn i roi gwybod i ni am unrhyw bryderon diogelwch newydd, neu rai sy’n datblygu, am gynnyrch awdurdodedig, er enghraifft os byddwch yn dod yn ymwybodol o unrhyw amheuaeth newydd ar asesiad diogelwch blaenorol.
Yn ogystal, rhaid i chi (lle bo angen) ddefnyddio’r llwybr hwn i anfon adroddiadau monitro ôl-farchnad, adroddiadau monitro amgylcheddol ôl-farchnad, diweddariadau neu newidiadau i ddulliau dadansoddi neu ganfod, ac unrhyw wybodaeth arall sy’n ymwneud ag awdurdodiad presennol. 
Wrth anfon e-bost, dylech sôn am yr awdurdodiad neu’r cynnyrch rydych chi’n cyfeirio ato, pa fath o wybodaeth rydych chi’n ei darparu, a chynnwys y rhif RP os yw’n berthnasol. Ìý Ìý
Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau adrodd i’r ASB/FSSÌýos oes ganddynt le i gredu y gallai rhoi’r bwyd neu’r bwyd anifeiliaid ar y farchnad wneud niwed i ddefnyddwyr.
Rhaid i chiÌýÌýÌýÌýam unrhyw ddigwyddiadau diogelwch bwyd. Os ydych yn yr Alban, neu os yw’r digwyddiad yn ymwneud â busnes yn yr Alban,Ìý. Ìý
Updates to this page
-
Fixed newsletter subscription link.
-
Added translation
-
Added information on SPS market reforms.
-
Added translation