Cyfyngiad ar ryddhad Treth Gorfforaeth ar gyfer didyniadau llog
Gwiriwch a yw didyniadau llog eich cwmni neu’ch grŵp ar gyfer Treth Gorfforaeth yn mynd i gael eu cyfyngu, ac a oes angen i chi anfon Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol.
Pan fyddwch yn cyfrifo faint o Dreth Gorfforaeth y DU y mae’n rhaid i’ch cwmni neu’ch grŵp ei thalu, mae cyfyngiadau’n berthnasol (o’r enw ‘Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol’). Mae hyn yn cyfyngu swm y rhyddhad treth y gallwch ei gael ar gyfer didynnu llog net a chostau cyllido eraill.
Dim ond i gwmnïau unigol a grwpiau o gwmnïau sydd â llog net a chostau cyllido sydd dros £2 filiwn mewn cyfnod o 12 mis y mae Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol yn berthnasol.
Os yw llog net a chostau cyllido eich cwmni neu’ch grŵp wedi’u cyfyngu, dylech benodi cwmni sy’n adrodd.
Os yw eich llog net a’ch costau cyllido yn llai na £2 filiwn
Does dim angen i’ch cwmni neu’ch grŵp gyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi gadw dogfennau sy’n profi na fydd eich cwmni neu’ch grŵp yn didynnu mwy na £2 filiwn mewn llog net a chostau cyllido yn ystod y cyfnod rhoi cyfrif hwnnw.
Er mwyn lleihau cyfyngiad ar log yn y dyfodol, gallwch gario lwfans llog sydd heb ei ddefnyddio drosodd, am hyd at 5 mlynedd, drwy benodi cwmni sy’n adrodd a chyflwyno Ffurflen dalfyredig. Er mwyn defnyddio’r swm sydd wedi’i gario ymlaen, mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen lawn yn lle’r Ffurflen dalfyredig ar gyfer y cyfnod rhoi cyfrif hwnnw.
Os yw eich llog net a’ch costau cyllido yn fwy na £2 filiwn
Mae’n rhaid i chi gyfrifo beth yw ‘lwfans llog’ eich cwmni neu’ch grŵp. Dyma’r swm mwyaf o log net a chostau cyllido y caiff eich cwmni neu’ch grŵp ei ddidynnu mewn cyfnod rhoi cyfrif.
Cewch ddefnyddio’r ‘dull cymhareb sefydlog’, neu’r ‘dull cymhareb grŵp’. Defnyddiwch y dull sy’n rhoi’r lwfans mwyaf i chi.
Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion o’ch gwaith cyfrifo.
Os yw llog net a chostau cyllido eich cwmni neu’ch grŵp wedi’u cyfyngu, dylech benodi cwmni sy’n adrodd a chyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol lawn os ydych am wneud y canlynol:
-
nodi dewis ar eich Ffurflen, megis y dull cymhareb grŵp
-
dyrannu symiau na chaniateir i gwmnïau penodol yn y grŵp
Os nad yw llog net a chostau cyllido eich cwmni neu’ch grŵp wedi’u cyfyngu, mae’n rhaid i chi benodi cwmni sy’n adrodd a chyflwyno Ffurflen os ydych am wneud y canlynol:
-
cario lwfans llog heb ei ddefnyddio ymlaen — llenwch Ffurflen dalfyredig neu Ffurflen lawn
-
gwneud hawliad i ailactifadu symiau na wnaethoch eu caniatáu — llenwch Ffurflen lawn
-
nodi dewis ar eich Ffurflen, megis y dull cymhareb grŵp
Y dull cymhareb sefydlog
Gan ddefnyddio’r dull cymhareb sefydlog, y lwfans llog yw’r lleiaf o’r canlynol:
-
30% o’r elw trethadwy yn y DU sydd gan y cwmni neu’r grŵp cyn llog, trethi, lwfansau cyfalaf a rhai rhyddhadau treth eraill
-
y draul llog net byd-eang sydd gan y cwmni neu’r grŵp
Y dull cymhareb grŵp
Er mwyn defnyddio’r dull hwn, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
penodi cwmni sy’n adrodd
-
dewis defnyddio’r dull mewn Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol
Gan ddefnyddio’r dull cymhareb grŵp, y lwfans llog yw’r lleiaf o’r canlynol:
-
y gymhareb rhwng traul llog net byd-eang y cwmni neu’r grŵp sy’n ddyledus i bartïon anghysylltiedig, a chyfanswm elw’r cwmni neu’r grŵp cyn treth, llog, dibrisiad ac amorteiddiad wedi’i luosi â’r elw trethadwy yn y DU sydd gan y cwmni neu’r grŵp cyn llog a lwfansau cyfalaf
-
y draul llog net byd-eang sydd gan y cwmni neu’r grŵp, sy’n ddyledus i bartïon anghysylltiedig
Os nad yw eich didyniadau llog wedi’u cyfyngu
Gallwch benodi cwmni sy’n adrodd. Yna, bydd yn rhaid i’r cwmni hwn gyflwyno Ffurflen dalfyredig. Os byddwch yn cyfnewid y Ffurflen dalfyredig am un lawn ar gyfer y cyfnod rhoi cyfrif hwnnw, gallwch gario lwfans llog sydd heb ei ddefnyddio drosodd, am hyd at 5 mlynedd er mwyn lleihau cyfyngiad ar log yn y dyfodol.
Penodi cwmni sy’n adrodd
Gall cwmnïau unigol a grwpiau benodi cwmni sy’n adrodd. Yna, bydd y cwmni hwnnw’n gallu cyflwyno Ffurflen Dreth Cyfyngu Llog Corfforaethol. Mae angen i chi wneud hynny os ydych yn gwneud y canlynol:
-
dyrannu symiau na chaniateir i gwmnïau penodol yn y grŵp
-
cario lwfans llog heb ei ddefnyddio ymlaen — llenwch Ffurflen dalfyredig neu Ffurflen lawn
-
gwneud hawliad i ailactifadu symiau na wnaethoch eu caniatáu — llenwch Ffurflen lawn
-
nodi dewis ar eich Ffurflen, megis y dull cymhareb grŵp
Mae’n rhaid i’r cwmni sy’n adrodd fodloni’r amodau canlynol:
-
mae’n agored i Dreth Gorfforaeth y DU
-
nid yw’n segur
-
mae wedi cael awdurdod gan y cwmnïau nad ydynt yn segur yn y grŵp (sy’n agored i Dreth Gorfforaeth y DU) i gael ei benodi fel y cwmni sy’n adrodd
Os yw’ch cyfnod rhoi cyfrif yn dod i ben ar neu cyn 30 Mawrth 2026, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:
-
penodi’r cwmni sy’n adrodd cyn pen 12 mis i ddiwedd y cyfnod rhoi cyfrif cyntaf — bydd hyn yn cael ei gario ymlaen i gyfnodau yn y dyfodol
-
bod ag awdurdod gan o leiaf 50% o’r cwmnïau nad ydynt yn segur yn y grŵp i awdurdodi’r penodiad
-
cyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol ar gyfer pob cyfnod rhoi cyfrif — gan gynnwys pan nad oes cyfyngiad llog
Os yw’ch cyfnod rhoi cyfrif yn dod i ben ar neu ar ôl 31 Mawrth 2026:
-
mae’n rhaid i chi benodi’r cwmni sy’n adrodd ar gyfer pob cyfnod — does dim terfyn amser ar gyfer penodi un
-
mae’n rhaid bod gennych awdurdod gan o leiaf 50.01% o’r cwmnïau nad ydynt yn segur yn y grŵp i awdurdodi’r penodiad
-
dylech ond cyflwyno Ffurflen os ydych yn dyrannu symiau na chaniateir i gwmnïau penodol, yn cario lwfans llog ymlaen, yn gwneud hawliad i ailactifadu symiau na chaniateir neu wneud dewis
Rhoi gwybod i CThEF am eich cwmni sy’n adrodd — cyfnodau rhoi cyfrif sy’n dod i ben ar neu cyn 30 Mawrth 2026
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF am benodiad eich cwmni sy’n adrodd, drwy wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:
-
defnyddio meddalwedd fasnachol
-
llenwi’r ffurflen ar-lein
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r dulliau uchod hefyd os oes angen i chi ddirymu penodiad cwmni sy’n adrodd.
Defnyddio meddalwedd fasnachol
Er mwyn penodi cwmni sy’n adrodd drwy ddefnyddio meddalwedd fasnachol, bydd angen i chi fod â Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os ydych yn asiant sy’n cyflwyno penodiad ar ran eich cleient, cewch ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair eich hun ar gyfer Porth y Llywodraeth.
Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth. Bydd CThEF ond yn derbyn cyflwyniadau gan sefydliadau sydd â chyfrif Treth Gorfforaeth gyda ni.
Gwiriwch y dudalen ynghylch ‘darparwyr meddalwedd fasnachol ar gyfer Treth Gorfforaeth’(yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael rhestr o ddarparwyr meddalwedd fasnachol ar gyfer Ffurflenni Cyfyngiadau ar Log a phenodiadau cwmnïau sy’n adrodd.
Defnyddio’r ffurflen ar-lein
Er mwyn penodi cwmni sy’n adrodd:
-
Llenwch y templed.
-
.
Er mwyn ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen i chi fod â Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
Dim ond unwaith y bydd angen i chi benodi cwmni sy’n adrodd.
Rhoi gwybod i CThEF ynghylch eich cwmni sy’n adrodd — cyfnodau rhoi cyfrif sy’n dod i ben ar neu ar ôl 31 Mawrth 2026
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF ynghylch penodi’r cwmni sy’n adrodd ar y Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol.
Ar ôl i chi roi gwybod i ni ynghylch penodi cwmni sy’n adrodd, os byddwch yn cyflwyno Ffurflen ac nad yw’r cwmni sy’n adrodd wedi cael ei benodi’n gywir, bydd eich Ffurflen yn annilys ac mae’n bosibl y cewch gosb.
Gallwch ei benodi’n gywir ar ôl i chi gyflwyno’r Ffurflen. Nid oes angen i chi ailgyflwyno’r ffurflen, oni bai bod y cwmni sy’n adrodd wedi newid.
Dirymu penodiad y cwmni sy’n adrodd
Os bydd eich cyfnod rhoi cyfrif yn dod i ben ar neu cyn 30 Mawrth 2026
Er mwyn newid eich cwmni sy’n adrodd, bydd angen i chi roi gwybod i CThEF eich bod eisiau dirymu eich cwmni sy’n adrodd presennol, a phenodi un newydd.
. Mae angen i hyn gael ei awdurdodi gan o leiaf 50% o’r cwmnïau nad ydynt yn segur yn y grŵp (sy’n agored i Dreth Gorfforaeth y DU).
Os bydd eich cyfnod rhoi cyfrif yn dod i ben ar neu ar ôl 31 Mawrth 2026
Does dim rhaid i chi roi gwybod i CThEF os ydych yn penderfynu dirymu’r penodiad. Dylech gynnwys manylion y cwmni newydd sy’n adrodd ar eich Ffurflen nesaf.
Cyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol
Mae’n rhaid i’r cwmni sy’n adrodd i chi gyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol cyn pen 12 mis i ddiwedd y cyfnod rhoi cyfrif y mae’r Ffurflen yn berthnasol iddo.
Dysgwch sut i gyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol lawn neu dalfyredig (yn agor tudalen Saesneg).
Mae’n rhaid i chi gyflwyno eich Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol yn electronig drwy ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:
-
defnyddio meddalwedd fasnachol
-
llenwi’r ffurflen ar-lein
Mae hyn yn berthnasol i Ffurflenni gwreiddiol a Ffurflenni wedi’u diwygio.
Gwiriwch y dudalen ynghylch ‘darparwyr meddalwedd fasnachol ar gyfer Treth Gorfforaeth’ (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn cael rhestr o ddarparwyr meddalwedd fasnachol ar gyfer Ffurflenni Cyfyngiadau ar Log.
Os oes angen i chi anfon gwybodaeth ychwanegol atom, e-bostiwch eich Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid neu’r mewnflwch cysylltu ar gyfer Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg).
Os nad oes gennych Reolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid, dylech e-bostio’r wybodaeth ychwanegol at msbcorporateinterest.restrictionmailbox@hmrc.gov.uk.
Gwneud dewis
Mae gwneud dewis yn caniatáu i chi benderfynu ar ffordd benodol o drin treth eich cwmni neu’ch grŵp, er enghraifft dewis y dull cymhareb grŵp i gyfrifo’ch lwfans llog. Dylech wneud dewisiadau mewn Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol.
Os oes angen i chi wneud dewis, ond na allwch wneud hynny mewn Ffurflen, anfonwch fanylion y dewis at eich Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid neu at y mewnflwch cysylltu ar gyfer Busnesau Mawr (yn agor tudalen Saesneg).
Fel arall, anfonwch fanylion y dewis drwy’r post at y cyfeiriad canlynol:
Gwasanaethau Treth Gorfforaeth
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Dylech sôn am Gyfyngiadau ar Log Corfforaethol yn eich dewis er mwyn helpu CThEF i ddyrannu’r llythyr i’r tîm cywir.
Cosbau
Os na fydd eich cwmni neu’ch grŵp yn cyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol pan ddylai, efallai y bydd yn rhaid iddo dalu cosb benodol fel y gwelir isod:
- £500 os yw’r Ffurflen hyd at 3 mis yn hwyr
- £1,000 os yw’r Ffurflen yn fwy na 3 mis yn hwyr
Os byddwch yn cyflwyno Ffurflen Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol sy’n wallus, efallai y bydd yn rhaid i’ch cwmni neu’ch grŵp dalu cosb sydd hyd at 100% o’r dreth ychwanegol (neu’r rhyddhad treth isaf) sy’n ddyledus yn y Ffurflen sydd wedi’i chywiro.
Bydd swm y gosb y mae’n rhaid i chi ei thalu yn dibynnu ar y math o wall, a phryd y gwnaethoch roi gwybod i CThEF amdano. Efallai y bydd eich cosb yn llai os byddwch yn rhoi gwybod i CThEF am eich gwall cyn i ni ei ddarganfod.
Os bydd eich cyfnod rhoi cyfrif yn dod i ben ar neu ar ôl 31 Mawrth 2026
Efallai y bydd cosb o £1,000 yn cael ei chodi arnoch os yw’r naill a’r llall o’r canlynol yn berthnasol:
-
nid yw’r cwmni sy’n adrodd wedi cael ei benodi’n gywir ar adeg cyflwyno’ch Ffurflen
-
mae CThEF yn cysylltu â chi ynghylch cwmni sy’n adrodd sydd wedi’i benodi’n anghywir, cyn i chi gywiro’r camgymeriad
Rhagor o wybodaeth
I gael help neu ragor o wybodaeth, gallwch wneud y canlynol:
-
dysgu rhagor ynghylch Cyfyngiadau ar Log Corfforaethol yn Llawlyfr Cyllid Corfforaethol CThEF (yn agor tudalen Saesneg)
-
cysylltu â’ch Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid
-
os nad oes gennych Reolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid, e-bostiwch msbcorporateinterest.restrictionmailbox@hmrc.gov.uk — peidiwch ag anfon Ffurflenni drwy e-bost
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
For periods of account ending on or after 31 March 2026 the guidance has been updated for how you appoint a reporting company, tell HMRC about the company and revoke their appointment. Guidance about a new penalty also added. If your net interest and financing costs are more than £2 million, the guidance has been updated to explain when you should file a return.
-
Added Welsh translation.
-
Information about who to contact if you do not have a Customer Compliance Manager has been added.
-
We have added guidance on what you can do if you've missed the deadline for appointing a reporting company. We have also added guidance on what you’ll need to give us on a Corporate Interest Restriction return from 1 October 2022.
-
The process on how to tell HMRC about the appointment of your reporting company and submitting a return has been updated. You must now do this electronically using commercial software or by completing our online form and template.
-
Changes to the process to follow if you have missed the deadline for appointing a reporting company.
-
HMRC will accept elections by email while temporary measures are in place to stop the spread of coronavirus (COVID-19).
-
The timescale on when you should appoint a reporting company has been updated.
-
The address to send Corporate Interest Restriction elections to has been updated.
-
This guide has been updated to include more information about how to work out your company's or group's interest allowance.
-
The postal address to send elections outside of the interest restriction return has changed.
-
Guidance on how to submit full or abbreviated Corporate interest restriction Returns has been added.
-
The Google worksheet for appointment of a reporting company has been replaced with an Excel worksheet.
-
Updated with information on how to make an election outside of a return.
-
This guidance has been updated to include details of how to appoint a reporting company.
-
First published.