Treth cerbyd dros dro o £1 ar gyfer y rhan fwyaf o gerbydau nwyddau trwm (HGV)
Gwiriwch os yw’ch HGV yn gymwys ar gyfer y gyfradd dreth cerbyd dros dro o £1.
Ers 1 Gorffennaf 2026, mae’r rhan fwyaf o gerbydau HGV yn gymwys ar gyfer gostyngiad yn y gyfradd dreth cerbyd o £1 am 12 mis.
Os yw’ch cerbyd yn gymwys, bydd y gyfradd ostyngedig yn cael ei hychwanegu’n awtomatig pan rydych yn trethu eich cerbyd rhwng 1 Gorffennaf 2026 a 30 Mehefin 2027.
Gwirio os yw’ch cerbyd HGV yn gymwys
Mae’r gyfradd o £1 yn gymwys i gerbydau HGV sydd o fewn y cyfraddau treth canlynol:
- 1 (HGV)
- 2 (Ôl-gerbyd HGV)
- 16 (Ynysoedd Bychain)
- 23 (Trafnidiaeth Gyfun)
- 57 (Mathau Arbennig)
Gallwch ddod o hyd i’ch cyfradd dreth cerbyd ar y llyfr log (V5CW). Os ydych chi’n weithredwr fflyd gofrestredig DVLA, gallwch hefyd wirio’r wybodaeth hon gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein.
Pan fydd y gyfradd £1 yn gymwys
Mae’r gyfradd £1 yn gymwys i gerbydau sy’n cael eu trethu rhwng 1 Gorffennaf 2026 a 30 Mehefin 2027.
Os gwnaethoch drethu eich cerbyd cyn 1 Gorffennaf 2026, byddwch wedi talu’r gyfradd berthnasol ar y pryd ac ni fydd gennych hawl i gael ad-daliad. Byddwch yn gallu talu’r gyfradd £1 y tro nesaf y byddwch yn ei drethu yn ystod y cyfnod cyfradd gostyngedig.
Ardoll HGV
Os yw’ch cerbyd yn ddarostyngedig i’r ardoll HGV, bydd yn parhau i gael ei chodi ar y gyfradd gyfredol ochr yn ochr â’r gyfradd £1 o VED. Bydd hyn yn cael ei hychwanegu’n awtomatig pan fyddwch yn adnewyddu eich treth cerbyd.
Sut i drethu eich cerbyd
Gallwch drethu eich cerbyd ar-lein, dros y ffôn neu yn Swyddfa’r Post sy’n delio â threth cerbyd.
Efallai na fydd y gyfradd ar eich nodyn atgoffa treth cerbyd yn cynnwys y gyfradd £1. Bydd y gyfradd gywir yn cael ei hychwanegu pan fyddwch yn trethu eich cerbyd.
Updates to this page
-
Updated the information now that the £1 rate is in use.
-
Added translation