Taliadau TAW ar gyfrif
Dysgwch am bwy sydd angen talu taliadau TAW ar gyfrif, sut mae CThEF yn cyfrifo eich taliadau, opsiynau eraill a sut a phryd i dalu.
Trefniadau ar gyfer taliadau ar gyfrif
Taliadau a wnaed ymlaen llaw tuag at eich bil TAW yw ātaliadau ar gyfrifā.
Bydd CThEF yn dweud wrthoch chi am wneud taliadau ar gyfrif os ydych yn anfon Ffurflenni TAW yn chwarterol a bod arnoch fwy na £2.3 miliwn yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis neu lai.
Maeār trothwy o Ā£2.3 miliwn yn cynnwys TAW ar fewnforion a symud nwyddau i mewn ac allan o warysau ecsĆ©is.
Sut yr ydym yn cyfrifoāch ātaliadau ar gyfrifā
Yn gyntaf, byddwn yn cyfrifoāch taliadau yn seiliedig ar eich rhwymedigaeth TAW flynyddol yn ystod y cyfnod pan fyddwch yn mynd dros y trothwy.
Byddwn yn rhannuāch rhwymedigaeth TAW flynyddol yn ystod y cyfnod hwnnw gan 24 i gyfrifo swm ar gyfer rhandaliad.
Os ydych wedi bod yn gweithredu fel busnes am lai na 12 mis, byddwn yn cyfrifoār taliadau fel cyfran.
Ni fyddwn yn cynnwys y TAW ar fewnforion nac ar symud nwyddau i mewn ac allan o warysau ecsĆ©is, oni bai y rhoddwyd cyfrif amdanynt eisoes yn eich Ffurflen TAW aāu bod wedi cynnwys yn eich rhwymedigaeth TAW. Darllenwch ynghylch pryd y gallwch roi cyfrif am TAW mewnforio ar eich Ffurflen TAW.
Byddwn yn adolyguāch rhwymedigaeth TAW bob chwarter a byddwn yn newid swm eich taliadau os yw cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn cynyddu gan 20% neu fwy.
Maeān bosibl y byddwn yn gofyn am newid swm eich taliadau os yw cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn gostwng gan 20% neu fwy.
Busnesau wediāu cofrestru mewn is-adrannau
Os ydych wedi cofrestruāch busnes yn Ć“l enwau ei is-adrannau, byddwn yn edrych ar bob is-adran fel busnes ar wahĆ¢n ar gyfer taliadau ar gyfrif.
Byddwn yn defnyddio rhwymedigaeth TAW pob is-adran i benderfynuār canlynol:
- pāun a ddylai wneud taliadau ar gyfrif
- swm pob taliad ar gyfrifĀ
Busnesau sydd wediāu cofrestru fel rhan o grŵp TAW
Byddwn yn edrych ar rwymedigaeth TAW y grŵp cyfan i benderfynuār canlynol:
-
pāun a ddylai wneud taliadau ar gyfrif
-
swm pob taliad ar gyfrif
Bydd gan grŵp TAW aelod cynrychiadol a fydd yn gyfrifol am wneud taliadau ar gyfrif ar gyfer y grŵp. Os na fyddwn yn cael y taliadau, mae holl aelodauār grŵp yn gyfrifol, ar y cyd ac yn unigol, ar gyfer y taliadau ar gyfrif (mae hyn yn golygu bod aelodauār grŵp yn gyfrifol gydaāi gilydd ac yn unigol am daliadauār grŵp).
Dyddiad dechrau ar gyfer taliadau ar gyfrif aār gylchred flynyddol
Mae cylchred taliadau ar gyfrif yn dechrau yn y chwarter cyntaf ar Ól i chi fynd dros y trothwy o £2.3 miliwn.
Bydd eich taliadau ar gyfrif yn cael eu cyfrifo ar sail eich rhwymedigaeth TAW flynyddol yn y cyfnod pan fyddwch yn mynd dros y trothwy, hyd at ddechrauār gylchred flynyddol ar gyfer taliadau ar gyfrif, oni bai bod eich rhwymedigaeth TAW yn cynyddu gan 20% neu fwy cyn hynny.
Maeār gylchred flynyddol yn dechrau ym mis Ebrill, Mai neu Fehefin, yn dibynnu ar ba gyfnod gwasgaredig (āstaggerā) rydych arni o ran eich Ffurflen TAW. Rydym yn seilio swm eich taliadau yn ystod y gylchred flynyddol ar eich rhwymedigaeth yn ystod y cyfnod, sef y āflwyddyn gyfeirioā. Byddwn yn gwneud y cyfrifiad cylchred flynyddol bob blwyddyn.
Blynyddoedd cyfeirio
Maeār tabl canlynol yn nodiār flwyddyn gyfeirio ar gyfer pob cyfnod gwasgaredig mewn perthynas Ć¢ār Ffurflen TAW.
| Cyfnod gwasgaredig | Diwedd y chwarter | Blwyddyn gyfeirio | Dechrauār gylchred flynyddol |
|---|---|---|---|
| 1 | Mawrth, Mehefin, Medi, Rhagfyr | Y flwyddyn syān dod i ben ym mis Medi | Mis Ebrill y flwyddyn ganlynol |
| 2 | Ebrill, Gorffennaf, Hydref, Ionawr | Y flwyddyn syān dod i ben ym mis Hydref | Mis Mai y flwyddyn ganlynol |
| 3 | Mai, Awst, Tachwedd, Chwefror | Y flwyddyn syān dod i ben ym mis Tachwedd | Mis Mehefin y flwyddyn ganlynol |
Felly, os ydych yng nghyfnod gwasgaredig 1, bydd eich rhwymedigaeth TAW ar gyfer y flwyddyn gyfeirio syān dod i ben ym mis Medi yn pennu swm pob taliad ar gyfrif o fis Ebrill hyd at fis Mawrth y flwyddyn ganlynol.
Cyfrifiadau yn ystod y flwyddyn yn ystod y gylchred flynyddol
Yn ogystal Ć¢ār cyfrifiad cylchred flynyddol, byddwn yn adolyguāch rhwymedigaeth TAW ar gyfer y 12 mis diwethaf bob chwarter. Os yw cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn cynyddu gan 20% neu fwy, byddwn yn addasu swm eich taliadau ar gyfrif.
Dyddiadau dyledus ar gyfer taliadau
Byddwn yn ysgrifennu atoch ag amserlen ar gyfer talu yn rhoi gwybod i chi am y canlynol:
- y swm iāw dalu
- pob un oāch dyddiadau cau ar gyfer talu
Gallwch hefyd gael mynediad at amserlen eich taliadau ar gyfrif yn eich cyfrif TAW ar-lein.
Gwnewch yn siŵr bod arian wediāi glirio yng nghyfrif banc CThEF erbyn y dyddiad dyledus, neu efallai bydd y canlynol yn berthnasol:
- gallech gael cosb am daluān hwyr
- gellir cod llog am daluān hwyr arnoch
Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, maeān rhaid iāch taliad glirio cyfrif banc CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny, oni bai eich bod yn talu drwy drosglwyddiad banc (Taliadau Cyflymach).
Dyddiadau dyledus ar gyfer taliadau ar gyfrif
Y dyddiadau dyledus ar gyfer taliadau ar gyfrif yw diwrnod gwaith olaf yr ail aār trydydd mis ym mhob chwarter TAW, ni waeth beth ywār dyddiad ar gyfer diwedd y cyfnod. Nid ywār estyniad o 7 diwrnod am daluān electronig yn berthnasol i daliadau ar gyfrif.
Bydd taliadau ar gyfrif sydd heb gael eu talu mewn pryd yn agored i log am daluān hwyr.
Dyddiad dyledus ar gyfer taliadau mantoli chwarterol
Maeār canlynol yn berthnasol am eich taliadau mantoli:
- maent yn ddyledus gydaāch Ffurflen TAW
- maeān rhaid iddynt fod wedi clirio i gyfrif banc CThEF erbyn diwrnod olaf y mis os oes gennych ddyddiadau diwedd cyfnod safonol
Cyflwynwch eich Ffurflenni chwarterol ar-lein yn Ć“l yr arfer. Peidiwch ag addasu unrhyw ffigurau ar eich Ffurflen TAW i gofnodi taliadau ar gyfrif rydych wediāu gwneud eisoes. Yn hytrach, talwch y swm net a ddangosir yn eich Ffurflen TAW i CThEF, llai unrhyw daliadau ar gyfrif rydych wediāu gwneud eisoes yn y cyfnod cyfrifyddu hwnnw.
Bydd y canlynol yn berthnasol os nad ywār taliadau mantoli wediāu talu mewn pryd:
- byddwch yn agored i log am daluān hwyr
- efallai y bydd cosb am daluān hwyr yn cael ei chodi arnoch
Byddwn yn gwneud unrhyw ad-daliadau sydd arnom i chi. Os ywāch Ffurflen TAW yn cael ei chyflwyno ar gyfer ad-daliad, byddwn yn ad-daluār taliadau ar gyfrif rydych wediāu talu yn ystod y chwarter hwnnw.
Taliadau mantoli chwarterol ansafonol
Os ydych wedi cytuno Ć¢ ni i ddefnyddio dyddiadau diwedd cyfnod ansafonol ar gyfer eich Ffurflenni TAW, yna maeān rhaid iāch taliadau glirio yn ein cyfrif banc erbyn y dyddiad dyledus ar gyfer y Ffurflenni TAW hynny.
Sut i dalu
Maeān rhaid i chi daluāch holl daliadau gan ddefnyddio un oār dulliau canlynol:
- cymeradwyo taliad drwyāch cyfrif banc ar-lein
- bancio ar-lein neu dros y ffƓn, CHAPS neu Bacs
- cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
- yn eich banc neuāch cymdeithas adeiladu
- archeb sefydlog
I gael rhagor o fanylion ynghylch dulliau talu, darllenwch Taluāch bil TAW.
Taliadau hwyr
Os na fyddwch yn gwneud taliadau ar gyfrif neu daliadau mantoli llawn ac mewn pryd, byddwn yn gwneud y canlynol:
- cymryd y camau i adennill y ddyled ar unwaith
- codi llog arnoch am daluān hwyr
- ystyried codi cosbau arnoch am daluān hwyr ar symiau sydd heb eu talu ar Ć“l dyddiad dyledus y taliad mantoli
- ystyried eich trosglwyddo o Ffurflenni TAW chwarterol i Ffurflenni TAW misol
Newidiadau yn eich rhwymedigaeth TAW
Maeān bosibl y byddwn yn addasu swm eich taliadau ar gyfrif os yw cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn codi neuān disgyn gan 20% neu fwy. Maeān bosibl y byddwn yn eich tynnu oār trefniant os yw cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn gostwng o dan y trothwy.
Taliadau ar gyfrif uwch
Yn ystod cylchred flynyddol, byddwn yn cynyddu eich taliadau ar gyfrif os bydd y rhwymedigaeth TAW ar gyfer unrhyw flwyddyn ar Ć“l y flwyddyn y seiliwyd ein cyfrifiadau arni yn cynyddu gan 20% neu fwy. Byddwn yn rhoi gwybod i chiān ysgrifenedig lle bo cynnydd mewn taliadau. Byddwch yn gallu bwrw golwg dros y newidiadau hyn iāch taliadau yn eich cyfrif TAW ar-lein.
Taliadau ar gyfrif is
Os bydd cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW yn disgyn dan 80% oār rhwymedigaeth a ddefnyddiwyd gennym i gyfrifo eich taliadau presennol, gallwch ofyn i ni eu lleihau. Mae hyn yn berthnasol iār naill neuār llall oār canlynol:
- unrhyw flwyddyn gyflawn syān dod i ben ar Ć“l y flwyddyn y seiliwyd eich taliadau presennol arni (gan edrych yn Ć“l ar eich rhwymedigaeth TAW)
- unrhyw flwyddyn sydd wedi dechrau ond nad yw wedi dod i ben eto (rhagolwg, ac maeān rhaid i chi gynnwys amcangyfrif oār Ffurflenni TAW y byddwch yn eu cyflwyno yn y dyfodol i gwblhauār flwyddyn gyfan)
Yn y ddau achos, ysgrifennwch iār tĆ®m taliadau ar gyfrif.
Rhowch wybod i niār rhesymau pam y dylem leihauāch taliadau. Os byddwn yn fodlon Ć¢āch rhesymau, byddwn yn newid eich taliadau i ddangos eich rhwymedigaeth TAW wediāi gostwng.
Tynnu o drefniant taliadau ar gyfrif
Os ywāch rhwymedigaeth TAW yn disgyn o dan Ā£2.3 miliwn yn ystod eich blwyddyn cyfeirio byddwn yn eich tynnu i oār trefniant 6 mis yn ddiweddarach.
Er enghraifft, os ywāch blwyddyn gyfeirio yn dod i ben ym mis Medi, a bod eich rhwymedigaeth o dan y trothwy ar yr adeg honno, bydd eich taliad ar gyfrif olaf ym mis Mawrth y flwyddyn ganlynol. Maeān rhaid i chi barhau i wneud taliadau ar gyfrif tan hynny.
Fodd bynnag, ni fyddwch yn cael eich tynnu oār trefniant os oedd eich rhwymedigaeth TAW dros y 12 mis diwethaf, syān dod i ben mewn chwarteri dilynol, yn mynd y tu hwnt iār trothwy o Ā£2.3 miliwn eto.
Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa ddyddiad y cewch eich tynnuān Ć“l oāch trefniant taliadau ar gyfrif (sef y dyddiad dod i rym).
Os, mewn unrhyw flwyddyn a gwblhawyd syān dod i ben ar Ć“l eich blwyddyn gyfeirio, bydd cyfanswm eich rhwymedigaeth TAW o dan Ā£1.8 miliwn, gallwch ysgrifennu at y tĆ®m taliadau ar gyfrif i egluro pam y dylem eich tynnu oār trefniant.
Cysylltu â ni
Gallwch ysgrifennu at y tƮm taliadau ar gyfrif yn y cyfeiriad canlynol:
TƮm Taliadau ar Gyfrif
BT VAT
CThEF
BX9 1WR
Maeān rhaid i chi beidio ag addasu eich taliadau hyd nes bod un oār canlynol yn berthnasol:
- rydym yn rhoi gwybod i chiān ysgrifenedig
- rydych yn gweld newid iāch amserlen ar gyfer talu yn eich cyfrif TAW ar-lein
Opsiynau amgen i daliadau ar gyfrif
Mae yna 2 opsiwn amgen i daliadau ar gyfrif. Maeār rhain fel a ganlyn:
- Ffurflenni TAW Misol
- rhwymedigaeth fisol gwirioneddol
Ffurflenni TAW Misol
Os nad yw gwneud taliadau ar gyfrif a chyflwyno Ffurflenni TAW chwarterol yn addas iāch busnes, gallwch ddewis i anfon Ffurflenni TAW a thaliadau yn fisol. Er mwyn newid i Ffurflenni TAW misol, gallwch wneud cais ar-lein i newid eich manylion cofrestru
Maeān bosibl y bydd angen i chi barhau i anfon Ffurflenni TAW yn fisol am o leiaf un flwyddyn.
Bydd angen i chi barhau i wneud eich taliadau ar gyfrif hyd nes bod y ddau beth canlynol yn berthnasol:
- maeāch cais i gyflwyno Ffurflenni TAW misol wediāi gymeradwyo
- maeāch taliad misol cyntaf yn ddyledus
Maeān bosibl y bydd hawl gennych gael hyd at 7 diwrnod ychwanegol i dalu a chyflwyno eich Ffurflen TAW misol, cyn belled Ć¢āch bod yn defnyddio dull electronig o dalu.
Os byddwch yn dychwelyd iār drefn o anfon Ffurflenni TAW yn chwarterol yn hytrach naān fisol, ni fydd yr estyniad o 7 diwrnod yn berthnasol a bydd yn rhaid i chi wneud taliadau ar gyfrif oār cyfnod cyfrifyddu chwarterol cyntaf.
Rhwymedigaeth fisol gwirioneddol
Yn hytrach na thaluār symiau y gwnaethom ofyn i chi amdanynt, neu symud i gyflwyno ffurflenni misol, gallwch ddewis taluār rhwymedigaeth wirioneddol ar gyfer y mis blaenorol heb gyflwyno ffurflen TAW fisol.
Er enghraifft, y taliad syān ddyledus erbyn diwedd mis Chwefror ywār rhwymedigaeth wirioneddol ar gyfer mis Ionawr. Gall yr opsiwn hwn fod yn addas i chi os, yn ystod y flwyddyn, maeāch trosiant yn amrywio. Os byddwch yn dewis taluār rhwymedigaeth wirioneddol, maeān rhaid i chi wneud hynny am o leiaf un flwyddyn.
Os byddwch yn dewis talu rhwymedigaethau misol gwirioneddol ond eich bod mewn credyd ar gyfer unrhyw fis, bydd y canlynol yn berthnasol:
- ni fyddwch yn cael ad-daliad ar unwaith, ond dylech garioār credyd ymlaen iār Ffurflen TAW yn Ć“l yr arfer
- ni fyddwch yn gallu gwrthbwysoār credyd mewn un mis yn erbyn y rhwymedigaeth ar gyfer y mis nesaf i ostwng swm y taliad
- dylech ystyried newid i Ffurflenni TAW misol os ydych mewn credyd yn aml ac os ydych am gael ad-daliadau credyd ar unwaith
Os ydych am ddefnyddio rhwymedigaethau misol gwirioneddol, cysylltwch Ć¢ār tĆ®m taliadau ar gyfrif.
Tynnuār opsiwn ar gyfer talu rhwymedigaethau misol gwirioneddol
Maeān rhaid i chi wneud taliadau cywir ar gyfer eich rhwymedigaethau misol. Os nad ydym yn fodlon eich bod yn gwneud hynny, byddwn yn gwneud y canlynol:
- yn dweud wrthych na allwch daluār rhwymedigaeth fisol wirioneddol mwyach
- maeān bosibl y byddwn yn rhoi cyfarwyddyd i chi gyflwyno Ffurflenni TAW misol neu ddychwelyd at wneud y taliadau ar gyfrif a gyfrifwyd gennym ar eich cyfer
Anghydfodau
Os ydych yn anghytuno gydaān penderfyniad i dynnuār opsiwn i dalu rhwymedigaethau misol gwirioneddol, gallwch wneud y naill neuār llall oār canlynol:
-
gofyn iār tĆ®m taliadau ar gyfrif am adolygiad yn ysgrifenedig
-
apelio ar y tribiwnlys treth cyn pen 30 diwrnod oār llythyr yn rhoi gwybod i chi am ein penderfyniad
Updates to this page
-
A Welsh translation has been added.
-
Information to support when you should send a VAT return has been added to the page.
-
Information about making payments through an online bank account has been added to the page.
-
Information on late payment interest charges has been added.
-
The postal address for the payments on account team has been updated.
-
The option to defer VAT payments during coronavirus has come to an end and businesses can no longer defer VAT.
-
Information about deferring VAT payments because of coronavirus (COVID-19) has been updated. VAT payments due between 20 March 2020 and 30 June 2020 can be deferred. If you choose to defer a VAT payment, it must be paid on or before 31 March 2021.
-
Information about deferring VAT payments because of coronavirus (COVID-19) has been updated. VAT payments due between 20 March 2020 and 20 June 2020 can be deferred. If you choose to defer a VAT payment, it must be paid on or before 31 March 2021.
-
First published.