Carchar Woodhill
Carchar diogelwch uchel i ddynion a sefydliad troseddwyr ifanc ym Milton Keynes yw Woodhill.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. .
Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Woodhill
I ymweld â rhywun yn Woodhill, rhaid i chi:
- fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
- archebu eich ymweliad ymlaen llaw
- bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd
Gall uchafswm o 3 o bobl 18 oed neu hŷn ymweld ar yr un pryd, yn ogystal â phlant. Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.
Gall preswylwyr gael un ymweliad penwythnos a 2 ymweliad yn ystod yr wythnos bob mis, yn ogystal ag ymweliadau ychwanegol yn dibynnu ar lefel eu braint.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld, ffoniwch y llinell archebu ymweliadau ar 01908 722 329.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych chi dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Woodhill
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau
I drefnu ymweliad, gallwch wneud y canlynol:
- bwcio eich ymweliad ar-lein
- ffonio 01908 722 329
Mae’r llinell ffôn ar gyfer trefnu ymweliadau ar agor:
- O ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 11.30am
- Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 1pm a 3.30pm
- Ar gau ar wyliau banc
Amseroedd ymweld:
- Dydd Mawrth, rhwng 2pm a 3:45pm
- Dydd Iau, rhwng 2pm a 3:45pm
- Dydd Sadwrn, rhwng 2pm a 3:45pm
- Dydd Sul, rhwng 2pm a 3:45pm
Sut i drefnu ymweliadau swyddogol
I drefnu ymweliad fideo swyddogol, e-bostiwch custody.woodhill@justice.gov.uk.
Amseroedd ymweld swyddogol drwy fideo:
- Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am, 10am, 2:15pm a 3:15pm (slotiau un awr)
I drefnu ymweliad wyneb yn wyneb swyddogol, e-bostiwch legalvisits.woodhill@justice.gov.uk.
Amseroedd ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:
- Dydd Iau, rhwng 9am a 10:30am
Cyrraedd Woodhill
Yr orsaf drenau agosaf yw Milton Keynes Canolog, sydd tua 2.5 milltir i ffwrdd.
Mae bysiau’n pasio’n agos at y carchar. Gallwch gynllunio taith gan ddefnyddio neu mae tua 10 munud mewn tacsi.
Mynediad i Woodhill
Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.
Mae’n amod mynediad bod yn rhaid i staff chwilio ymwelwyr, ac mae pob ymweliad yn digwydd yn ôl disgresiwn y rheolwr ymweliadau.
Mae loceri am ddim ar gael yn y ganolfan ymwelwyr ar gyfer cadw cotiau, eitemau personol ac ati.
Rhaid i ymwelwyr â Charchar Ei Fawrhydi Woodhill wisgo’n briodol bob amser. Mae hyn yn adlewyrchu ein nod o greu awyrgylch teuluol fel rhan o’r agenda lleihau aildroseddu a gwedduster.
Dylai dillad pawb fod yn addas i staff allu eu chwilio’n ddigonol heb anhawster.
Mae’r cod gwisg yn berthnasol i bob ymwelydd.
Ni ddylech wisgo’r mathau canlynol o ddillad:
- topiau byr/wedi’u torri sy’n dangos croen y bol
- topiau â gwddf isel neu grysau agored sy’n dangos rhigol y bronnau neu frest noeth
- unrhyw ddillad nad yw’n gorchuddio croen y cluniau
- unrhyw fath o ddillad y gellir gweld drwyddynt
- unrhyw ddillad sy’n cynnwys rhwygiadau
- crysau timau chwaraeon
- penwisg gan gynnwys unrhyw ddillad gyda hwd (ac eithrio at ddibenion crefyddol)
- dillad sy’n cynnwys deunydd tramgwyddus
- siorts neu drowsus combat/cargo
- trowsus gyda phocedi ychwanegol a/neu sipiau, gan gynnwys trowsus tracsiwt
- sliperi, esgidiau agored sy’n dangos bysedd y traed, fflip fflops, sliders, sandalau, Crocs na sodlau uchel sy’n uwch na 4 modfedd
- esgidiau â blaen esgid amddiffynnol
- dillad y brand Hoodrich
Yn ogystal â’r uchod, ni chaniateir yr eitemau canlynol yn y sefydliad:
- unrhyw ddillad sydd â byclau mawr, cadwyni a/neu lawer o sipiau
- beltiau â byclau mawr (gweler y canllaw gweledol)
- hetiau
- sgarffiau
- menig
- hancesi poced (mae hancesi papur ar gael yn y Neuadd Ymweliadau)
- oriawr
- gormod o emwaith neu dyllau gemwaith na ellir eu dangos yn hawdd i staff chwilio
- siacedi neu gotiau ‘puffer’/ychwanegol
Fel eithriad, mae gan blant 10 oed ac iau ganiatâd i wisgo dillad â hwd a/neu ddillad â phadin.
Ymweld gyda babi
Ni chaniateir pramiau/teclynnau cario babis yn y sefydliad.
Mae pramiau ar gael cyn i chi fynd i mewn i’r neuadd ymweliadau. Gofynnwch i aelod o staff os oes angen un arnoch.
Gallwch ddod â’r ategolion canlynol i fabis:
- un dymi
- un bib
- un flanced/siôl fach
- un botel y gellir gweld trwyddi (a ddylai gynnwys llaeth yn unig)
Mae clytiau a weips ar gael yn yr ystafell aros, os bydd eu hangen arnoch.
Ymwelwyr â thagiau electronig
Ni chaniateir i unrhyw ymwelydd ddod i mewn i’r sefydliad gan wisgo tag electronig oni bai bod ganddo awdurdod ysgrifenedig gan y llywodraethwr.
Ni fydd caniatâd llafar yn cael ei roi yn union cyn yr ymweliad.
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Woodhill
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â charcharor yn ystod ei amser yn Woodhill.
Galwadau ffôn
Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd y gallant eu defnyddio ar adegau penodol:
- 6am a 8am
- 9am a 1pm
- 2pm a 11pm
Nid yw’r ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd carcharorion bob amser yn gorfod eich ffonio chi. Rhaid iddyn nhw brynu credydau ffôn i wneud hyn.
Gallan nhw ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r rhestr hon ar ôl iddyn nhw gyrraedd, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallan nhw ffonio.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio .
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
Galwadau fideo diogel
I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- ³¢²¹·É°ù±ô·É²â³Ù³ó´Ç’r
- Creu cyfrif
- Cofrestru pob ymwelydd
- Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Dim ond carcharorion all ofyn am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.
Byddwch yn cael hysbysiad os yw carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.
Darllenwch fwy am sut mae’r ap Prison Video yn gweithio
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Woodhall drwy ddefnyddio’r .
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu llythyr ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen. Os nad ydych chi’n gwybod rhif y carcharor, cysylltwch â Woodhill.
Bydd pob llythyr drwy’r post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.
Radio Cenedlaethol y Carchardai - Sioe i Deulu a Ffrindiau Ddewis y Caneuon
Mae Radio Cenedlaethol y Carchardai yn darlledu i holl gelloedd y carchardai ledled Cymru a Lloegr, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gall teulu a ffrindiau gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid yn y carchardai trwy anfon ceisiadau am ganeuon, negeseuon ysgrifenedig neu recordiadau llais. Yna bydd y rhain yn cael eu darllen allan ar y radio neu’n cael eu chwarae yn ystod y sioe wythnosol.
Gallwch anfon neges, a chlywed y sioe, yn
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Bellach, allwch chi ddim anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai gallwch - er enghraifft:
- os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
- os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.
Rhoddion a pharseli
Nid yw’n bosibl anfon eitemau nac eiddo at garcharorion. Yn lle hynny, gallwch anfon arian at garcharorion y gallant ei ddefnyddio i brynu eitemau drwy system gatalog.
Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.
I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau addysg a llyfrgell y carchar, Atodiad A.
Bywyd yn Woodhill
Mae Woodhill wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion sydd wedi’u cael yn euog o droseddau difrifol wneud defnydd cadarnhaol o ddedfrydau hir.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob unigolyn yn Woodhill hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, .
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd carcharorion yn cyrraedd Woodhill am y tro cyntaf, byddan nhw’n gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.
Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i siarad â rhywun i weld sut maen nhw’n teimlo ac i holi am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw ar y pryd.
Cynefino
Bydd pob carcharor sy’n cyrraedd Woodhill yn cael sesiwn gynefino sy’n para 5 diwrnod. Byddan nhw’n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.
Llety
Mae tua 800 o garcharorion yn Woodhill mewn cymysgedd o gelloedd unigol a rhai a rennir. Mae gan bob cell ffôn ar gyfer gwneud galwadau.
Addysg a gwaith
Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu sydd wedi’u cynllunio o amgylch eu nodau cyflogaeth. Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Saesneg
- mathemateg
- peintio ac addurno
- sgiliau lluosog
- arlwyo
- technoleg cerdd
Mae gwaith ar gael yn y carchar, ynghyd â’r cyfle i astudio ac ennill cymwysterau proffesiynol. Mae’r meysydd yn cynnwys:
- gweithdy contract
- golchi dillad
- rheoli gwastraff
- criw garddio
- gardd farchnad
- cegin
Gall carcharorion hefyd ymgymryd â rolau mentora i helpu eraill gyda’u dysgu.
Rhyddhau dros dro
Gall carcharorion fod yn gymwys i gael eu rhyddhau ar drwydded dros dro. Gellir defnyddio hyn i gael profiad gwaith yn y gymuned leol a pharatoi ar gyfer cael eu rhyddhau. Gall carcharorion wneud cais am hyn yn y carchar.
Cefnogaeth i deulu a ffrindiau
Gwybodaeth am linellau cymorth a chyngor i deulu a ffrindiau.
Mae tîm PACT yn darparu amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau carcharorion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar .
Gallwch hefyd gael help gan dîm caplaniaeth Woodhill pan fydd angen i chi gael sgwrs anodd neu roi newyddion drwg i garcharor. Cysylltwch â Woodhill a gofyn i gael siarad â’r gaplaniaeth.
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 01908 722 000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.
| Categori cyswllt | Rhif ffôn | Gwybodaeth ychwanegol |
|---|---|---|
| Dim brys | 01908 722 152 | Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion. |
| Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff | 0800 917 6877 (peiriant ateb 24 awr) |
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. |
| Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion | 0808 808 2003 | Gall y ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol. |
| Cyswllt Digroeso gan Garcharor | 0300 060 6699 | Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r , anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn. |
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Woodhill.
Adroddiadau arolygu
Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Woodhill mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.
Cysylltu â Woodhill
Llywodraethwr: Damian Evans
Ffôn: 01908 722 000
Cyfeiriad
HMP/YOI Woodhill
Tattenhoe Street
Milton Keynes
Buckinghamshire
MK4 4DA
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. .
Updates to this page
-
Updated official visits information.
-
Official video visit times updated.
-
How to book official visits section updated.
-
Governor updated to Damian Evans.
-
Social visiting times updated.
-
Dress code updated to prohibit Hoodrich brand clothing.
-
Entering Woodhill section updated including dress code and visiting with babies sections.
-
Social visiting time changes from 15 May 2025.
-
Added link to the National Prison Radio (NPR) request show for family and friends, under the 'Keep in touch with someone' section.
-
Added link to online booking and added friends and family visiting time slots.
-
Secure video calls update.
-
Updated visiting information
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Visits temporarily suspended
-
Added link to information about testing for physical contact at visits.
-
New visiting times and booking information added.
-
Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.
-
Visits update
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new local restriction tiers.
-
Updated visiting information in line with new national restrictions in England.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visiting times and visiting procedure changes in line with coronavirus restrictions.
-
Added confirmation of secure video calls made available at this prison.
-
First published.