°Ç¸ç³Ô¹Ï

Skip to main content

Gwneud cais am daliad ymlaen llaw neu daliad caledi Credyd Cynhwysol

Printable version

1. Trosolwg

Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ariannol wedi’i dalu i chi cyn eich taliad Credyd Cynhwysol nesaf os:

  • rydych yn aros am eich taliad cyntaf
  • mae eich taliadau wedi’u stopio neu eu lleihau
  • mae gennych gost untro annisgwyl
  • rydych angen help gyda threuliau swyddi
  • mae eich amgylchiadau wedi newid

Mae beth y gallwch ddefnyddio’r taliad amdano yn dibynnu ar ba fath rydych yn gymwys amdano.

Fel arfer, byddwch yn ei dalu’n ôl yn awtomatig trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol rheolaidd.

2. Cael taliad ymlaen llaw ar eich taliad cyntaf

Os ydych angen help i dalu eich biliau neu dalu costau eraill cyn i chi gael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf, gallwch wneud cais i gael taliad ymlaen llaw.

Mae’r swm y gallwch ei gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Y mwyaf y gallwch ei gael yw swm eich taliad amcangyfrifedig cyntaf.

Sut i wneud cais

Byddwch angen:

  • egluro pam rydych angen taliad ymlaen llaw
  • dilysu eich hunaniaeth (byddwch yn gwneud hyn pan fyddwch yn gwneud cais ar-lein neu dros y ffôn gydag anogwr gwaith)
  • darparu manylion cyfrif banc ar gyfer y taliad ymlaen llaw (siaradwch â chyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith os na allwch agor cyfrif)
  • egluro am unrhyw arian neu gynilion sydd gennych

I wneud cais, gallwch:

  • ddiweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Fel arfer byddwch yn cael gwybod yr un diwrnod os gallwch gael taliad ymlaen llaw.

Os ydych angen help

Ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol os ydych angen help i wneud cais am daliad ymlaen llaw.

Talu’n ôl eich taliad ymlaen llaw

Fel arfer, mae’n rhaid i chi dalu’r taliad ymlaen llaw o fewn 24 mis. Fel arfer, rydych yn dechrau ei dalu’n ôl allan o’ch taliad cyntaf.

Enghraifft

Eich taliad cyntaf amcangyfrifedig yw £344 ac rydych yn cael £344 fel taliad ymlaen llaw.

Rydych chi’n talu’ch taliad ymlaen llaw yn ôl dros 24 mis, sef £14.33 y mis. Byddwch yn cael £329.67 ar eich dyddiad talu cyntaf - dyma’ch taliad cyntaf llai y darn rydych yn ei ad-dalu (£344 minws £14.33).

Os ydych yn cael trafferth ad-dalu taliad ymlaen llaw

Os na allwch fforddio eich ad-daliadau taliad ymlaen llaw, gallwch ofyn i’ch ad-daliadau gael eu gohirio am 3 mis. I ofyn am hyn, gallwch:

  • ddiweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ad-dalu os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach

Os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach, bydd angen i chi dalu eich taliad ymlaen llaw yn ôl.

Os ydych yn symud i fudd-dal arall, bydd y didyniadau fel arfer yn parhau o’ch taliadau.

Os byddwch yn symud oddi ar fudd-daliadau, byddwch yn cael llythyr gan Rheoli Dyled DWP yn esbonio sut i ad-dalu a rheoli arian sy’n ddyledus gennych. Gallwch ad-dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych yn llawn neu sefydlu ad-daliadau misol.

Os ydych am drafod eich ad-daliadau, gallwch ffonio Rheoli Dyled y DWP.

3. Os yw'ch taliadau wedi cael eu stopio neu eu lleihau

Gellir stopio neu leihau eich taliadau Credyd Cynhwysol os ydych yn cael sancsiwn neu gosb twyll.

Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ariannol i’ch helpu chi (neu blentyn neu berson ifanc rydych yn gofalu amdanynt) i fforddio:

Gelwir y cymorth yn ‘daliad caledi adferadwy’. Bydd angen i chi dalu hyn yn ôl trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol.

Cymhwyster

Rhaid i chi:

  • fod wedi lleihau eich costau sydd ddim yn hanfodol
  • fod wedi edrych ar ffyrdd eraill o gael cymorth
  • gallu profi eich bod angen y gefnogaeth

Os ydych mewn cwpl, mae’n rhaid i’r ddau ohonoch gytuno i gael taliad caledi.

Mae yna reolau ychwanegol os ydych wedi cael eich sancsiynu.

Os ydych chi wedi cael eich sancsiynu

Mae’n rhaid i chi fod wedi cael eich sancsiynu ar 100% (neu 50% neu fwy ar gyfer cwpl) o’ch lwfans safonol am unrhyw gyfnod o amser.

Rhaid i chi (a’ch partner os oes gennych un) hefyd fod wedi cwblhau:

  • eich gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn y 7 diwrnod cyn gwneud cais
  • unrhyw weithgareddau a roddwyd i chi i ddod â’ch sancsiwn i ben (a elwir weithiau’n ‘amod cydymffurfio’)

Pryd y gallwch chi wneud cais

Gallwch ond gwneud cais ar ôl i chi gael taliad Credyd Cynhwysol is neu fethu taliad oherwydd sancsiwn neu gosb.

Bydd angen i chi ailymgeisio bob tro y byddwch yn cael taliad is neu’n methu taliad. Bydd angen i chi hefyd ddangos eich bod yn dal i fod yn gymwys.

Sut i wneud cais

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd angen i chi ddangos:

  • beth rydych wedi’i wneud i ddod o hyd i fathau eraill o gymorth
  • pa incwm neu gynilion eraill y gallai fod gennych i helpu i dalu eich costau
  • beth rydych wedi’i wneud i leihau eich costau sydd ddim yn hanfodol
  • pa gostau byw rydych yn methu eu fforddio

I wneud cais, gallwch:

  • ofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ddiweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Pryd y byddwch yn cael eich taliad

Os derbynnir eich cais, mae taliadau caledi fel arfer yn cael eu talu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc ar yr un diwrnod.

Ad-dalu taliadau caledi

Bydd angen i chi dalu taliad caledi yn ôl ar ôl i’ch sancsiwn neu gosb twyll ddod i ben.

Bydd eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau’n awtomatig hyd at 15% o’ch lwfans safonol nes i chi ad-dalu’r taliad caledi.

Gallwch edrych i weld faint sy’n ddyledus gennych a gweld pryd y bydd yn cael ei dalu’n ôl.

Ad-dalu os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach

Os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach, byddwch yn cael llythyr gan Rheoli Dyled DWP yn esbonio sut i ad-dalu a rheoli arian sy’n ddyledus gennych.

Os ydych yn cael trafferth ad-dalu taliad caledi

Os na allwch fforddio eich didyniadau taliadau caledi, gallwch ffonio Rheoli Dyled y DWP i drafod eich opsiynau.

4. Cael taliad ymlaen llaw am gostau annisgwyl

Os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol ac angen help i dalu am gost untro, efallai y byddwch yn gallu cael taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw.

Beth allwch chi ddefnyddio Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw ar ei gyfer

Gallwch ddefnyddio’r taliad hwn i dalu cost untro ar gyfer pethau fel:

  • dodrefn
  • eitemau cartref fel popty, peiriant golchi neu sugnwr llwch
  • eitemau hanfodol i’ch teulu fel cymhorthion symudedd neu gynhyrchion diogelwch plant
  • teledu, mewn rhai amgylchiadau
  • dillad neu esgidiau
  • atgyweiriadau neu ddiogelwch ar gyfer eich cartref
  • treuliau angladd
  • blaendal rhent (tenantiaeth) neu gostau symud, os ydych yn symud tÅ·

Gallwch hefyd wirio gyda’ch cyngor lleol os gallwch gael help i dalu blaendal ar gyfer tai.

Beth na allwch ddefnyddio Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw ar gyfer

Ni allwch ddefnyddio Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw ar gyfer:

  • costau parhaus fel bwyd
  • biliau’r cartref fel nwy neu drydan
  • rhent
  • talu dyledion

Beth allwch chi ei gael

Bydd yr hyn a gewch yn dibynnu ar faint rydych ei angen. Y swm lleiaf y gallwch ei fenthyg yw £100. Gallwch gael hyd at:

  • £348 os ydych yn sengl
  • £464 os ydych yn rhan o gwpl
  • £812 os oes gennych blant

Cymhwysedd

I gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw, byddwch angen naill ai:

  • wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Pensiwn am 6 mis neu fwy
  • angen yr arian i’ch helpu chi i ddechrau swydd newydd neu aros yn y gwaith

Ni fyddwch yn gymwys os naill ai:

  • rydych wedi ennill mwy na £2,600 (£3,600 gyda’ch gilydd i gyplau) yn ystod y 6 mis diwethaf
  • nad ydych wedi talu unrhyw fenthyciadau Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw blaenorol (gallwch ond cael un ar y tro)

Sut i wneud cais

I wneud cais, gallwch wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • diweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Talu’n ôl eich taliad ymlaen llaw

Byddwch yn talu’n ôl eich taliad ymlaen llaw trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol. Byddwch fel arfer yn ei dalu’n ôl dros 24 mis, gan ddechrau o’ch taliad Credyd Cynhwysol nesaf.

Enghraifft

Rydych yn cael taliad ymlaen llaw o £240. Rydych yn talu hyn yn ôl dros 24 mis, felly mae £10 yn cael ei dynnu oddi ar eich taliad bob mis.

Os ydych yn cael trafferth ad-dalu taliad ymlaen llaw

Os na allwch fforddio eich ad-daliadau taliad ymlaen llaw, gallwch ofyn i’ch ad-daliadau cael eu gohirio am hyd at 6 mis. I wneud hyn, gallwch:

  • ddiweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ad-dalu os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach

Os nad ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol mwyach, bydd angen i chi dalu eich taliad ymlaen llaw yn ôl.

Os ydych yn symud i fudd-dal arall, bydd y didyniadau fel arfer yn parhau o’ch taliadau.

Os ydych yn symud oddi ar fudd-daliadau, byddwch yn cael llythyr gan Rheoli Dyled DWP yn esbonio sut i ad-dalu a rheoli arian sy’n ddyledus gennych. Os ydych am drafod eich ad-daliadau, gallwch ffonio Rheoli Dyled y DWP.

5. Help gyda threuliau swyddi

Os ydych yn gwneud cais am swydd neu’n dechrau swydd, gallwch gael cymorth i dalu am dreuliau fel:

Nid oes angen i chi dalu hyn yn ôl fel arfer.

Sut i wneud cais

I wneud cais, gallwch:

  • ddiweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith

Bydd angen i chi ddangos eich bod:

  • angen yr arian i gael neu ddechrau swydd
  • yn methu fforddio talu amdano eich hun

Os na allwch gael help gan eich cyswllt Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am daliad ymlaen llaw am gostau annisgwyl.

6. Cael taliad ymlaen llaw os yw eich amgylchiadau wedi newid

Os yw’ch amgylchiadau wedi newid ac mae hyn yn golygu y byddwch yn gymwys i gael mwy o arian, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gallu cael taliad ymlaen llaw os:

  • rydych yn cael plentyn
  • mae eich rhent yn mynd i fyny
  • rydych wedi colli swydd neu mae eich cyflog wedi mynd lawr

Pryd allwch chi wneud cais

Gallwch wneud cais cyn gynted ag y byddwch wedi rhoi gwybod am y newid.

Ni allwch wneud cais ar ôl i chi dderbyn taliad uwch oherwydd eich newid mewn amgylchiadau.

Sut i wneud cais

I wneud cais, gallwch wneud unrhyw un o’r canlynol:

  • diweddaru eich dyddlyfr yn eich cyfrif Credyd Cynhwysol
  • gofyn i gyswllt Credyd Cynhwysol yn eich canolfan gwaith leol neu’ch anogwr gwaith
  • ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
(os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur - darganfyddwch sut i
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Talu yn ôl eich taliad ymlaen llaw

Byddwch yn talu’ch taliad ymlaen llaw yn ôl trwy eich taliadau Credyd Cynhwysol. Byddwch fel arfer yn ei dalu’n ôl dros 6 mis, gan ddechrau o’ch taliad Credyd Cynhwysol nesaf.

Os ydych yn cael trafferth ad-dalu taliad ymlaen llaw

Os na allwch fforddio eich ad-daliadau taliad ymlaen llaw, gallwch ofyn i’ch ad-daliadau gael eu gohirio am un mis. I ofyn am hyn, gallwch: